Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

- YSl AfEll Y 13EIRDD

- ICHWITH ATGO'

I PYTIAU CYMREIQ.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I PYTIAU CYMREIQ. Y AlAE gan Mr. a Mrs. Raikes, Trei-i erfyd, Sir Frycheiniog, chwech o feibion yn y Fyddin,-— pedwar o'r chwech wedi ennill bathodyn y D.S.O., ac un arall wedi cael ei grybwyll am ei ddewrder. Dyna dad a mam balch o'u tylwyth. Y mae Gwarcheidwaid Conwy wedi gwran- do'r feirniadaeth a basiwyd arnynt parth gadael i blant y cartrefi gael eu magu mewn anwybodaeth o'r iaith Gymraeg, canys y maent wedi trefnu pethau amgenach o hyn ymlaen. Colled fawri wiith y Y.M.C.A. achrefydd a dirwest, a phob mudiad da yng Nghaernarfon, fydd ymadawiad Mr. Isaac Edwards, prif swyddog Adran Prisio Tir dros Fon ac Arfon. Y mae'n dychwelyd i Ferthyr Tydfil i ail gychwyn busnes prisio ac arwerthu fel oedd ganddo yno cyn dod i'r Gogledd yn 1911. Y mae'r Henadur J. R. Pritchard, Caer- narfon, wedi cael Ilu o anrhegion gan blant ac athrawon ysgc lion y dref, ar achlysur ei briodas. Da clywed fod y Parch. Rhys J. Huws, Glanaman, yn gwella o'i waeledd diweddar ond drwg clywed cwyno i iechyd y Parch. Talfor Phillips, Lian k'festini-)g. Lladdwyd J. James Parry, Llanrug, yn Chwarel Dinorwig ddydd lau diweddaf. Y mae E. T. Pitman, a ddiangodd o'i gell yng ngharchar Caergybi, yr wythnos ddi- weddaf, heb ei ddal hyd yma. Yn Ystradgynlais, ger Ahertawe, gwelai mam ei mab yn gafael mewn gwn. Gwaedd- odd arno i'w roi ar lawr yn ei ol; ond gan greduei fod yn wag, tynnodd y llanc y trig- ger, aeth yrergyd yn syth i wyneb y fam, a bu farw ymhen chwarter awr. Y mae'r Sapper Evan B. Roberts, 66 Poole Street, Caernarfon, wedi marw o'i glwyfau yn Ffrainc. Gwyr o Gaergybi a mannau eraill Mon oedd dwylo'r Ilong Connemara agollodd eu bywyd- au oddiami yn yr ystoiin yr wythnos ddi weddaf, a mawr yw'r tristwch a rhifedi'r- amddifaid hiraethus. Cyfarfu Cymdeithas Ysgolion Sir Cymru yn yr Amwythig ddydd Sadwrn diweddaf, lie y traddodai Mr. E. T. John, A.S., anerchiad ar Ddatblygiad a Threfníadaeth Ddyfodol Addysg Gymru. Mr. J. H. Burton, The Fryars, sydd wedi ei ethol yn faer Biwmar s. Ddydd Sadwrn, bu farw Mr. Wm. Evans, cabinet maker, Bangor, yn saith a thrigain oed. Yr oedd yn flaenor yn Eglwys M.C. Twrgwyn, ac agododdygan yno amhanner canmlynedd. Gwr cymeradwy tros ben, ac wedi cael ei anrhegu ddwywaith gan yr eglwys ag anerchiad euredig. Yn y Bala, ddydd Gwener, erlynidMr. Wm. Owen, gwesty'r White Lion, gan Mr. Simon Lb yd Jones, ystad Plas yn Dre, am dresmasu ar Gaer Dei. Yr oedd y dref yn ferw o ddiddordeb yn yr achos, canys pwnc o ryddid llwybr cyhoeddus ydoedd. Wedi gwrando'r tystion, argyhoeddwyd y Bamwr Wiri. Evans fod gan y bobl hawl, ac a ddedfrydodd yn ffafr y diffynydd, Mr. Wm. Owtn. Pie hecrach nag Abersoch ? A bu dwylo bad bywyd y lie hwnnw wrthi ar lanr au Lleyn am bedair awr ar ddeg ddydd Mercher diwedd- af yn cynorthwyo'r llongau oedd wedi eu dal yn yr ystorm enbyd a chwythai dros Fau Aberteifi. Dymchwelwyd y bywydfad droe- on; ond yn ei ol b^b tro, gan fod yn foddion i arbed ami un o ddyfrllyd fedd. Corff Catherine G mid, Crown Street, Caer- narfon, oedd y corff a gafwyd yn y mor ger Aberffraw, Mon, yr wythnos ddi weddaf. Y mae mab Mrs. Leexxing, Gwern y Myn- ydd, ger yr Wyddgrug, wedi cael ei ladd yn y rhyfel, a hynny ymhen y flwyddyn union i'r diwrnod y lladdwyd mab arall iddi drwy ddamwain ynglyn a'r Fyddin. Y mae mab arall wedi ei glwyfo pedwerydd gyda'r Fyddin a merch yn nurse yng Nghaer. Y mae Mr. John Humphreys wedi cael ei benodi'n gofrestrydd llysoedd Porthmadog a Ffestiniog, yi-L Ile'r diweddar Mr. Thos. Jones (Cynhaearn ). Mewn llys yng Nghoesoswallt, dedfiydwyd fod y Preifat James H. Jones (28) R.W.F. oedd a'i gartref yn East Colt, Llandudno, wedi cyfiawni hunanladdiad mewn flit o wallgof- rwydd, a hynny, yn ol fel y bernid oddiwrth y dystiolaeth, oblegid gwaeledd ei iechyd a methu cael caniatad i fynd i'r rhyfel. Bu'r Ddirprwyaeth ar Addysg Golegol Cymru'n gwrando rhagcr o dystion Tach. 2 a 3 yn swyddfau'r Bwrdd Addysg yn Llun- dain sef parth Coleg Bangor. Cynrychiolid Cyngor y Coleg gan Argl. Kenyon, Syr H. Reichel, Mr.T. Rowland Hughes, y Proff.J.E. Lloyd, Mr. Wm. George, Mr. G. A. Hum- phreys a Miss M. F. Rathbone. A chyn- rychiolid Senedd y Coleg gan y Proffeswyr Gibson, J. Morris Jones, Orton, a Phillips.

BARA BRITH. I

Advertising