Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Drwodd aThro 1

Advertising

o LoUt y Stabal.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

o LoUt y Stabal. XXII I MISTAR GOLYGYDD,—Fedra i'n y myw adal pwnc yearn ma, na fedra'n wir. Does gin i ddim ond gobeithio nad yda chi ddim yn diflasu arn.) fo, syr. Rydw i'n pwysleisio chi, am eich bod chi'n gyfrifol am ddarllan fy llythyra i, beth bynnag neitf pobol erill a nhw. Ond poidiweh chi na neb arall a meddwl ma wedi gwirioni efo Mari'r forwyn ma- rydw i clnnith-er y gallwn i wirioni efo pe:h gwirionach o lawar iawn na hynnu, fel casa. Ond ma arna i eisio i bawb ddallt mod i, wrth sgwennu ar y pwnc p reaennol, sef earn, yn cyrbio nheimlad a nychymig a chom >n sens. Rydw i ar hyd y ifordd wedi bod yn rhybuddio pobol ifanc i arfar rheswm wrth garu, ac mi fydda'n beth gwrthun gyn- ddeiris i nii, wrth i cynghori nhw, i fod heb sens fy hun. Mi faswn fel y dyn hwnnw oedd yn gwerthu peth i dyfu gwallt, a'i ben o'i hun mor foel a nob drws. Na, syr, rydw i'n ceisio bod yn gall, ac rydw i'n sicir mod i o ddifr,, o ddifri, wyddoch, ond nid yn bradd, ne'n felangolic, fel tasa. Ydw, gerbron nef- oedd a daear, rydw i mor ddifrifol wrth ddal y bengal ma ag y buom i rioed wrth ddal 0 vvpan y Cymun, yn fy awydd i geisio atal meibion a merchaid ifanc i drychyd ar garwr- iaeth fel sbort Ond, fel y deudis i droeon o'r blaen, does gin i gynnyg ar y rhai sy'n meddwl fod crefydd yn grieud pobol yn annaturiol—yn gneud dim ond pympio ochneidia o'i clonna nhw, a thynnu bleinds duon dros i gwneba nhw, fel tasa pob llawenydd oedd gynnyn nhw wedi marw. Does dim sens na chrefydd miawn path fel hyn. Fuo neb mwy difrifol na Jac J6s, ond roedd o'r dynmwya llawen a naturiol welis i rioed. Mi fum i'n synnu lawar gwaith wr'h ddwad o'r capal ar noson waith, a meddwl am y canu lleddf oedd yn y ewarfod gweddi no'r sciat, a'r canu lion oedd yn y dafarn ar oehor y fiordd. Wei, rwan, rydw i am fynd mor agos ag y medra i i'r bobol ifanc ac fe ddylwn lwyddo no lew drwy ddeud fy marn fel hyn,—ma gwell, fel rheol, i bobol briodi'n weddol ifanc, yn hytrach nag oedi hyd nes bont yn dechra heneiddio. Dyna sy'n naturiol, beth bynnag. Y rhan fwya o bobol welis i'n aros heb briodi nes mynd ar i hen sodla," ma rhwbath yn annaturiol ynyn nhw, ac yn ddigri gida hynnu. Miawn geiria erill, ma golwg wirion arnyn nhw. Ma nhw'n ceisio gneud gwanwyn o hydref, fel tasa. Ma amball i hen lane yn priodi am resyma hunanol gynddeiris. Mi glywis i lien glumach felly'n deud i fod o'n meddwl priodi am fod amo fo ofn mynd yn unig yn i henaint, a bod heb neb i dendio arno fo: Gida golwg ar ddyn felly, faswn i'n gweld dim bai ar ferchaid y wlad am i ddal o, i roi -o miawn sach, a'i ddowcio fo miawn pwll chwiad, nes basa fo wedi socio trwyddo, a chwedyn i daflu o ar ben clawdd drain i s yeliu. Ddyla neb briodi ond o gariad. Mi ddeuds ma priodi'n weddol ifanc sy'n naturiol. Eto, rhaid cysidro amryw bethau cyn priodi hefyd. Faswn i ddim yn leicic clywad fod bechgyn a genethod ifanc, ar ol darllen fy llythyri'n y BRYTHON, yn rhedag i'r capeli a'r eglwysi'n gypla ar ol cypla, i briodi, am yr unig reswm fod hynnu'n naturiol. Mae hi o bwys mawr fod yr hyn sy naturiol yn cael i ddwyn i gydgordio ag amgylchiada. Ma priodi'n cynnwyft eyfrifoldeb mawr iawn. Anghofio hyn sy'n achos o lawar siom a methiant miawn bywyd priodasol. Ma'r neb sy'n plygu tan iau prio das yn plygu'r un pryd dan iaich o gyfrifoldeb nas gwyddant mor drwm fydd ei bwysau. Un o'r petha mwya torcalonua fydda i'n i weld fydd pobol ifanc wedi. mynd tan bwys y byd heb ddarpar dim ar gyfer hynnu. Enw eyffredin iawn ffordd yma ar rai fydd wedi gwneud smod i briodi ydi darpar ftv a darpar wraig." Dar- par," ai e ?' Faint o ddarpar, tybod ? Ofnaf nadoes fawrfwyo ddarpargan rai, ar gyfer yr ystad bwysig, na gofalu am stegion priodas, siwt newydd, a rhw chydig o'r peth ma nhw'n i alw'n hynim<vn." Rydw i or farn y dyla pobol sy'n priodidclurpar ar gyfar pr.iodi-o leia miawn cael eartref wedi i ddodrefnu'n weddol gysitrus, a bod gynnyn nhw dipm o geiniog wrth gefn ar gyfer anffodion a galwad- au neilltuol. Mi welis i gypla ifanc droeon yn dechra bywheb fawr ddim tucefn iddyn nhw. Mi welis rai'n dodrefnu i ty ar rw system fen- thyg, ac weithia'r cwbwl yn cael i cymyd oddarnyn nhw'n ddidrugaredd, am i bod nhw yn methu talu'n rheolaidd. Ma'r rhai sy'n dechra'i bywyd priodasol fel hyn yn debig i tasa chi'n meddwl am rhwun yn mynd i ddysgu nofio ar gefn crocodeil. Does dim dowt nad un o'r syniada mwya twyllodms ydi i bobol ifanc geisio syfaenu i hamgylchiada ar fenthyg. Mi ddyla fod miawn dyn ifanc ddigon o gariad at annibyniaeth ddynol fel ag i beidio gosod cysur i gartre cyntaf, yn anad dim, ar beth mor simsan a benthyg. Mi welis i, er y ngofid, rai priodasa'n troi'n fethiant truenus trw anystyriaeth o'r fath. Un o'r golygfeyddmwya prudd welis i, hyd yr ardal yma, fu gwragedd ifanc, a hynnu mhen dhydig amsar, yn gwywo tan gledi bywyd. Mi welis y dydd o'r blaen un felly. Roedd hi flwyddyn yn 01, pan miawn gwasanaeth, yn rholen iach a siriol; ond erbyn hyn yn eiddil digalon, gwael i gwisg, a'i babi bach fel drychiolaeth. Wrth drychyd ar y bychan diniwed a llwyd, ym mreichia'i fam welw, mi ges ddrych o un wedi ei amgylchu a gwen- did." Beth bynnag sy'n naturiol, nid felly hyn. Rhaid cydweithio a natur i gynnal cartre a theulu fel y rhaid i dyfu ffrwythau garddneydargae. Tasa rhai pobol ifanc yn treulio llai o'u hamsar i'r peth ma nhw'n alw'n garu," a mwy i bartoi y petha angenrheidiol ar gyfer gneud errtro'n daclus a bywyd yn gysurus, mi fasant yn well allan wedi priodi. Ma rhai'n meddwl ma'r paratoad at briodi ydi cwarfod i gilydd i rhw godio gwirion, noson ar ol noson. Mi gynghorwn i bob morwyn i aros yn i lie 6ni all i darpar wr hi ddangos fod gynno fo. fodd i ddodrefnu cartre iddi hi, ac i gychwyn bywyd priodasol yn weddol ddibryder. Da chi, genod annwl, peidiwch rhoi gormod o bris ar y bechgyn sy'n prowla ar ych hoi chi o hyd o hyd. Fyddwch chi na. nhwtha byth yri barod i brio das drwy neud dim ond siarad a breuddwydio am y peth. Ac ma gin i air i ddeud wrth gymdeithas a gwladwriaeth yn y fan yma. Dydw i ddim yn credu fod pobol ifanc y wlad ma'n cael y rhan a ddylent tuag at neud priodi'n gynnar yn weddol ddibryder, er iddyn nhw neud i gora at gynhilo a darbod ar gyfer hynnu. Ma hyn yn wir am weision ffarmwrs yn enw- dig. Ma'r rhai sy'n meddwl am gyfrifoldeb bywyd priodasol dan y telera preaennol yn ofni'r fentar, ac yn naturiol iawn. Ond er yn ofni priodi, ma nhw'n rnentro caru faint y j fynnir. Ac mi fentra inna ddeud fod y telera j byw sy'n peri i bobol ifanc ofni priodi'n gynnar yn arwain i lawer o'r anfoesoldeb sy'n ein gwlad, ac yn dwyn gwarth ar lawer o gymeriadau. Pan oeddwn i'n meddwl am y matar hwn, mi alwodd y cyfaill hirben y bum i'n sdn amdano fo o'r bla.on i fiawn, ac mi ddeudodd hanes rw Ffleminiaid o bysgotwyr, ac ma un arfar yn i plith nhw oedd rhoi eweh pysgota i bob par ifanc ar i priodas, er mwyn iddyn nhw gael cyfle i ddechre byw. Nobl o beth fasa cael rhwbath tebyg i helpu pob par ifane cyfyng eu hamgylchiadau, i gychwyn ar y bywyd priodasol. Fel y deudis i, ma o blaid priodi'n gynnar. Mae oodi'n hir yn tueddu i arwain i anlladrwydd. Ac am hymnl rydw i'n crodu'n reit stowt y dylai cym- deithas drefnu'n fwy ffafriol nag y mae hi'n gneud ar hyn o bryd yn ffafr priodasau gweddol ifanc. Dyna mam i, yn blwmp ac yn blaen, a barnod pobol erill fel y mynno nhw. Cyn cau'r llythyr yma i fynu, rhaid ixúi warnio ffarmwrs y wlad ma rhag drychyd ar y matar o "garu fel ybuo iihw'n glietid yn rhy hir—-yn beth i wincio arno fo, ac heb fawr o ofal am y temtasiynau oeddan nhw'n i gosod yn ffordd i inrynion. Mi fuo ystafelloedd cwsg mrjmion miawn rhai flermydd, a'r rhycldid aganiateidi fechgyn ytnweld a nhw'n hwyr y nos, yn wradwydd i wlad Gristnogol, do'n wir. Dydw i ddim yn leicio ma vylu -ar y wedd yma i'r mater, ac rydw i'n credu fod cryn ddiwygiad, hyd yr ydw i'n gweld, y ffordd yma, Ond rhaid imi derfynu bellach, ac mi wnaf hynnu fel y gwnes i o'r blaen,—-Weision a mrynion ffermydd Cymru, gwyliwch rhag drychyd ar garwriaeth fel sbort Ma'ch cyirieriad chi yn y glorian, ac fe wylai angylion wrth weld hwnnw'n destun cellwair. HEN WAS.

BLEINDS-US.

Advertising