Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Clep y Clawdd' sef Clawdd…
Clep y Clawdd sef Clawdd Of fa; [GAN YR HUTYN.] ANFARWOLFR BRYTHON.Rhaid i iixieicli llongyfarch, Mr. Gol., aryranfarwol- deb diweddar a osodwyd arnoeh chwi a Mr. Hugh Evanr. ac ar eich papur clodwiw. Aethoch i fewn i sylw gwled yn annisgwyl iadwy ac mewn modd rhyfedd, ond daethoch allan yn anrhydeddus. Llongyfarchiadau y Clawdd o ben bwy gilydd i chwi eich dau Mae'r BRYTHON drwy'r peth wedi mynd yn hyabya led y byd i gyd. Dyma'r adfertLment rhagorafa gafodd erioed. Daliwch i" nithio'r gau a nythu'r gwir." Neb o'i Phlaid.—Rhaid setlo'r ddiod. Dyiua ddedfryd uniam pawb y dyddiau hyn. Nid oes dau gwestiwn ar y pwynt hwn. Dyma fasanch nad oes neb yn awr o'i ph:aid. Rhyfedd iawn. Yr unig gwestiwn yw, Sut oreu, ei diddymu neu ei rhwyxro ? Di- ddymerhi," nedd Hawer; Na, rhwyxner hi gyntaf," medd eraill, trwy lywodraeth genedl- aethol. Mae'r Clawdd ynbarodi'rnaillneu'r Hall ac i'r ddau y naill ar ol y llall. Ceir byd gwell ar y Clawdd gwedi hynny. Y Llwyd o TV ynedd eto.—Sef yw hwnnw, fel y gy1' holl ddarllenwyr Y BRYTHON, y Gwir Anrhydeddup Lloyd George. Y mae galw mawr ar Siors. Ni ellir gwneud heb- ddo. Rhaid ei gael yma, rhaid ei gael acw. Rhaid ei gael ym mhob man. Gelwir yn awr amo i fod yn Weinidog Ymborth. Y mae eisoes wedi achub y wlad mewn mwy nag un y.Htyr,sef yn gyntaf mewn ysytrariannol trwy ddarpar y silver bullets mewn ffordd effeithiol iawn. Refyd achubodd y-wlad mewn ystyr gyfarpariaechol trwy baratoi dig 'n o arlwy rhyfel. Yn awr gotynnir iddo y drydedd waith wared y wlad mewn ystyr luniaethol— trwy arlwyo digon o ymb rth ar gyfer y b' bl a'rmilwyr. Y peth nosaf fydd t'rth Lloyd George ac arno ei y gweddlir "Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol." Nid oes hafal iddo m?wn byd. y Great- God Gttn, "-Dyina de.,4tuii erthygl ddiddorol A.G.G. wythnoa yn ol yn y Daily News. Cyhoeddir hi yn bamffledyn ceiniog nid, mi gredaf, ar gyfrif yr yagrif, oblegid common place yw'r iaith a'r arddull,-nid yw i fyny & safon A.G.G o lawer, ond cyhoeddirhi ar gyfrif ei newydd-deb a'r insight a rydd i wneuthuriad y Gwn Awgryrpwn destun arall i A.G.G. yn ei briod-ddull ei hun, sef yw h-nno, The Great Gun GEORGE.—Beth yw ei feddwl am Lloyd George yn awr, tybed* ? Bara Indian Oorn.Mae'r rhyfel hwn yn dwyn llawer o bethau i ben. Sut y cymodir & hwn tybed ? sei bara Indian Corn. Beth ddaw o'r ffowls os yw'r bobl yn mynd i ym- borthi ar eu bwyd ? Cwynir yn arw oher wydd prinde" wyau. Ant yn llai os na chant yr Indian Corn. A ddisgwylir i rywun ddod. wy yn eu lie ? Fe gewch chwi weld.y gwna Lloyd George iddynt ddodwy rywffordd neu'i gilydd. Ni fethodd ef gyda dim hyd yma. Symud y G'.i/MtmM t'c Clawdd.-Dyina ganon arall yn dyfod i'r Clawdd, Canon Cymreig yw o Lanrwst. Da iawn yw fod y gynnau yn Gymry. Pa angen sydd i gael foreign goods panymaeeu cyftal a'ugwell gennyai gartref ? Beth fydd y canlyniad-o gael yr holl ganons hyn at y Clawdd nis gwn. Hwyrach mai dlogelach fyddwn rhag rhuthr y Sacsoniaid arnom o'r ochr arall i GIawdd Offa. Os oes eisiau gynnau mawrion yn rhywle,ar y Clawdd mae eu hangen. Mangre yw hon sy'n dyfeisio annuwioldeb, Sul Dirwest.—Sul rhyfedd yw hwn Sul i'r euog gadw draw, ac i'r dieuog ddyfod dan ddwm y gennad am y dydd. Cadwyd ef yn bur fiyddlon er hynny ar y Clawdd. He wdd iawn yw i wr dieith r greu cynnwrf mewn lie a dweyd pethau dolurua yn ddifeddwl ac an- fwriadol. Nid yr un bregeth a wna'r tro ymhob man, na'ruu dull a ennillbawb. Mae'r rhyfel wedi pregethu yn effeithiolach na neb ar y cwestiwn hwn, ac nid oes angen dim yn awr ond cyd-ddealltwriaeth beth i'w wneud a'r Fasnach famol. Sul y Bibell a'r Ysmygu raid gael wedi setlo'r mater yma. Mae yma symud eisoes yn y gwersyll i'r cyfeiriad yna. Fe fydd bechgyn y ffosydd hefyd wedi hen laru ar y sigarets erbyn y dont yn eu holau. Ei eni ar y Clawdd a'i farw'n yr Amerig- 0lyw'r Clawdd farw o'r Dr. J. P. Jones, Genedigol oedd o Bentre Brython, ger Gwrec. sam. Bu'n genhadwr llwyddiannus yn Neheudir India am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn awdurdod ar y Cenadaethau Crist. nogol, ac ysgrifennodd lawer o'u hanes. Bu'n broffeswr hefyd yn Kennedy Institute, Hartford, am rai blynyddoedd. Yr oedd yn ■frr o bersonoliaeth urddasol, gref, ac o allu- oedd disglair. Mae llawer o'i berthynasau gyda. ni ar y Clawdd. Eta fyth l-Digwydgodd damwain alarus yng nglofa Plas Power, ddydd Mercher. Collodd un gwr ei fywyd, sef Jonathan Lloyd (27), Coed Poeth, ac anafwyd dau eraill yn o dost, Y mae Mr. Goodwin, un o'r ddau, wedi cael niweidiau trymion iawn, ond deil i fynj- hyd yn hyn yn o foddhaol. Creodd y peth deimlad dwfn o brudd-der yn yr holl ard 1. Un o'r peth u mwynf eu bwrn ar y Clawdd yw'r damweiniau mynych hyn, a deuant yn awr yn amlach o lawer na'r amser a fu. Mae pethau fel pe baent yn gwaethygu yn hytrach na gwella. Beth ellir ei wneud i'w hosgoi.? Cyngherddau'r Rhos.-Y mae cysylltu enw'r Rhos a chyngerdd yn sicrhau ei lwydd- iant. Caed ychwaneg nag un yr wythnos o'r blaen-un yn y Pafiliwn, dan nawdd y Primitive Methodists—y lle'n orlawn, a'r rhaglen yn gampus. Tri o gorau yr United, y Ladies' a'r Mae Voice. Mawr y canmol sy ar eu eanu. Miss Doris Carter (Australian soprano), Mr. John Roberts a Mr. Klenton Shepherd, oedd y prif unawdwyr. Enillas- ant glod nid bychan. Yr oedd llwyddiant y cyngerdd i'w briodoli, i raddau helaeth, i Mr. George Jones, yr arweinydd, a'i eneth dalentog Cissie, y gyfeiles. Ni bu gwell cyngerdd yn y Rhos ers rhawg. Cyngerdd y Milwyr.-Mae'l' holl filwyr yn gynnes iawn ym mynwes pobl y Rhos, a llu aneirif yw'r parseli a anfonir i'w lonni yn y ffosydd. Caed cyngerdd i hyrwyddo hyn yr wythnos ddiweddaf. pryd y llywJddwyd yn ddeheig gan y Parch. J. Howell, a chawsom araith frwd ganddo. Yr oedd yno gystadleu- aethau hapus hefyd. Llwyddiant oedd, a da ei flas a'i arfaeth. Dadl ar y Ddiod yn y Rhos.—Dadl y Lits. oeddhon, sef cydrhwng Cymdeithas Lenyddol y Rhos (C.M.) a Gwrecsam (C.M.). Testun, Pa un ai diddymu y Fasnach ynteu ei Chen edlaetholi oedd oreu ?—Cadeiriodd y Parch. jR, g, Morris, M.A. 1 Ac wedi swper, y byrddau wedi eu gorlwytho gan y Rhosiaid, gwaliodd. wyd hwynt gan y cadeirydd i ddadl yng Ngwrecsam y tro nesaf, a chant gyfleustra felly i dalu'n ol eu mawr garedigrwydd mewn evffelyb wledd. Gwna'r cyfarfodydd llen- yddol hyn waith rhagorol iawn, a gloewant dalentau disglair yn y naill le a'r llall. Dowch yn ol, John Wesle I-Mae llygad yr Eglwys Wladol ar blant John Wesle ers tro. Cododd Esgob Llundain ei fya amynt y Sul diweddaf, gan ddweyd wrthynt, "Dowch yn eich hoi." Ni fuasent byth wedi ymadael, medd ef, pe bai'r Eglwys wedi cyflawni ei gwaith yn briodol. Digon gwir. Ac nid oedd yn llai gwir pan ddywedwyd yr un peth ganwaith gan Ymneilltuwyr, ond fe'u herlid- iwyd hwy am ei ddweyd. Beth fydd ateb John Wesle i wahoddiad yr Esgob ? Tebyg i hyn, migredaf Na, John Smith/ddown ni ddim, yn ein holau, ond y mae pob croeso i chwi ddyfod ar ein holau ni. Yr ydym ni wedi mynd yn rhy bell ymlaen i droi'n ol. There is no retreat under the banner of the Cross. Myrtd ar Dan wrth roi'r Mwg allan.- Dywedir nad oes fawr o dan yn y Cyfundeb Methodistaidd, ac ar y Clawdd yma yr wyth. nos ddiweddaf dywedir iddynt wneud cynnyg ar roi'r mwg allan hefyd, trwy roddi stop ar y smocio. Er nad oes llawer o dan yn y Cyf- undeb, dywedir mai efe yw'r mygwr mwyaf o'r holl gyfundebau. Yr oedd rhai o'i bregethwyrmwyaf hefyd ymygwyrmWJraf yn yr holl wlad, a hwyrach ei bod felly eto. Ond yn Sasiwn Cona's Ci gwnaed ymdrech i fygu'r mwg. Beth ddaw o hyn, anodd dweyd, ond nid oes fawr wedi dyfod eto. Os llwyddir, fe gyfyd urddas y Cyfundeb nid bychan. Lladron ac Ysbeihvyr y Olawdd.-Mae pob math ohonom ar y Clawdd yma,-tlawd a chyfoethog, mawr a bach, Rhyddfrydwyr a Thoriaid, Eglwyswyr ae Ymneilltuwyr, medd- won a lladron. Cwynir y dyddiau hyn fod ysbeilwyr yn cynhyddu yn eu rhif a'u rhodres. Ysbeilir y buarth o'i ffowls a'r meysydd o'u defaid, a .rhaid dal y gweilch a'u cosbi'n drwm. Cynnyg un ustus £ 5 i'r neb a fydd yn foddion i sicrhau yr euog ddyn neu ddynion. Mangre ysbail fu y Clawdd yn y dyddiau gynt; ond wedi ei hir ysgubo o'r tir gwelir ef eto yn ail-ddychwel.yd Tranc arno Lladron Masnaeh.-Mae llu o'r rhain yn y wlad y dyddiau hyn. Codant brisiau pethau vn ddiachos. Manteisiant ar y rhyfel. A oes ustus arall a gynnyg bum punt eto am ddal y rhai hynny ? Gofynnir crogbris am bethau gan ami fasnachwr. Lladrad yw lladradpa le bynnag y bo. Mae dwyn comin oddiar y ddafad gymaint lladrad a dwyn dafad oddiar y comin. Abon yn troi yn ei ol.-Dywedir fod Abou wedi difgyn yn ei ol ar y Clawdd,—un o feoh- gyn y Clawdd yw, ac y mae'r Clawdd yn falch ohono. Try ei gefn ar y Mersey, lie y bu am ysbaid. Deallaf mai ei briod a'i hudodd yno-rhyfedd dylanwad morwynig ar fardd. Yn awr daw yn ol—rhyfedd dylanwad bardd ar ei gar. Mae llu o eisteddfodau cyson ar y Clawdd, a bydd Abon yn gaffaeliad mawr iddynt. Croeso'r Clawdd iddo. Dyn Dall, ond nid Pregethwr Datt.—Mae'r Parch. D. Griffiths, Caplan y Deillion, sydd hefyd yn ddall ei hun, wedi dyfod i fyw ar y Clawdd yn awr bacligen o'r Clawdd yw yntau, sef o Ros y medre. Cynnal Mr. Griffiths gyfarfodydd ami yn yr ardal hwylus a doniol dros ben yw. Dengys nad yw'r deillion mor ddall ag y tybir. Y bobl sydd yn gweled, neu o'r hyn lleiaf sydd gan- ddynt lygaid i weled, sydd ddall medd efe. Maent mor ddall fel y credant fod plant pob dall yn ddeillion hefyd, fel petae pysg ydyw plant pob pysgotwr, neu ungoes yw plant pob tad felly. Dywedodd bethau digrif a chaed hwyl fawr ymhob cyfarfod, a chasgliadau da at yr achos. Te i Lonni'r Bugail.-Mae eglwysi M.C. Seisnig Holt yn gwneud a allant i ddangos eu serch at y bugail newydd, a'i wneud yn gar- trefol yn eu plith. Y dydd o'r blaen, arlwy- asant wledd o de a bara brith, a chaed cyng- erdd godidog wedyn. A'r bugail, y Parch. D. J. Owen, B.A., i ddangos ei lawenydd a'i emygedd ohonynt, a ganodd ddwy unawd felys, nes swyno pawb. Gall ef nid yn unig bregethu yr Efengyl, ond ei chanu hefyd. Siaradwrmawroedd y cyn-fugail, ond cantwr mawr yw ei diweddaf, ac athro mawroedd ei bugail cyntaf, sef y diweddar Ebenezer Powell. G-ftr o'r Sowth oedd y bugail cyntaf a'r wraig o'r Gogledd gwr o'r Gogledd oedd ei hail weinidog, a'i wraig o'r De. Owr o'r Deeto yw'r bugail presennol, ond o ble, hyd yn hyn, y daw ei briod, ni w-yr neb. Ond nid oes raid iddo fynd ymhell fel ei fiaenoriaid, oblegid y mae digonedd o enetliod diail, ac amryddawn ar y spot. Rhyngddo ef a hynny, ac a hwy. 11 Mis yn y Ffos—Yr uchod oedd testun darlith ddiddorol y Lifft. Nigel O. Parry, Acrfair, yn y Trinity Hall. Un o fechgyn glew, gwrol, a sgleiniog Mr. Wm. Parry'r ysgolfeistr yw Nigel. Collodd ei frawd- syrthiodd ar faes y gwaed, a chlwyfwyd yntau'n dost. Ni anghoflr y ddarlith gan neb oedd yno. Yroeddmorfywa disgrifiadol Dangosodd i'rgynulleidfa fanylion y trenches, a rhoddodd hanes un o'r ymgyrch ffyrnicaf a fu yno, -yn yr hon yr oedd y Lifftenant ei hun yn arwain el gatrawd. Enillasant ganmol- iaeth uchel General Haig. Bu Nigel yno er ei analluogi gan German shell. Hei Iwc iddo yn awr i lwyr wella. Bendith arno Darlun o'r Glew.-Dadorchuddiwyd darlun da o'r milwr syrthiedig, Gwilym Williams, Brymbo, ar barwydydd y Co-Operative Soc., y dydd o'r blaen. Daeth nifer dda ynghyd, a dywedwyd pethau gwych am y dewrddyn ffyddlon. Dadorchuddiwyd gan Mr. Mere- dith Williams, a siaradodd yn dyner a theim- ladwy iawn. Darllenwyd llythyr hefyd oddi wrth y swyddog o'r maes, yn tystiolaethu i ragoroldeb Gwilym fel milwr. Bydd y llun yn ysbrydiaeth i fechgyn y lie. Grudd Wleb y Clawdd.-Nid grudd sych, ond gwlyb yw'r rudd o hyd. Onid oes filwr ar ol milwr o amgylch y Clawdd yn disgyn o hyd ? Mae eu haneR yn britho'r papurau. Dywedir y geiriau uchaf amdanynt oil; hynod yw eu clod gan y swyddogion. Nid oes ganllath ar y Clawdd yn unlle heb fod rhywun oddiyno wedi syrthio, a hwyrach cyn diwedd y miri gwaedlyd na fydd llathen o'r Clawdd heb garreg goffa arni. Awgrymaf godi adgofbyst ar hyd y Clawdd i bob milwr, fel y gwel yr oesau a ddel Lest we forget. Cenawes Feddw a'i Baban Bach,-Rhy feddw oedd i sefyll, syrthiodd a'r baban yn ei breichiau. Rhyfeddna ddigwyddoddgwaeth i'r tlws bach. Cymerwyd y bychan oddiarni, a'ed ag ef i'r Iwnion. Yn awr, pwy a'i meddwodd ? Beth am hwnnw ? A ddaw ef o flaen ei well ? Daw, daw, os nad yma, gwelir ef yn yr uchel-lys, yn y Farn Darlit/ti,au'r -Clawdd. Southsea (Seion, y Parch. Caenog Jones (W.), ar Y Pererinion. Rhos (W.), Crefydd Browning, gan y Parch. J. Powell Griffiths, B.A. (B.). Gwersyllt (A.), Y Deillion, gan y Parch. D., Griffiths (B.), caplan y Deillion. Croesffordd (M.C.), Rhamanty Clawdd, gan y Parch. Ward Williams, Gwrecsam. Gwrecsam (Seion, M.C.), Cymric'r Bymthegfed Ganrif, gan Mr. Gwilym P. Jones, M.A. Brymbo (B.) Llyfrau Hanes y Beibl, gan y Parch. T. Gardde Davies, B.A. (B.); (W.), Llwyrymwrthodiad, gan y Parch. J. Kelly a J. Roger Jones, B.A. Aerfair (M. C.), Mis yn y FfoB, gan Lifft. Nigel 0. Pany, Ein Genedl ym Manceinion. Dyddladur Rhag. 8-Drlith Mr. E T John Rhag. 9-Cyngercid y Gobeithluoedd ym Mons Side Ion. 19—Darlith Mr. J C Davies, -Rhuthyn Chwet. 2 -Darlith yr Athro Miall Edwards Ebrill 21-OYmanfa y Gobeithluoedd I Cenhadon y Sul Nesaf. I Y METHODISTIAID CALFINAIDD Moss SIDE-10.30 a 6, J E Hughes, Felinheli PENDLETON—10.30 a 6. Robert Williams HEYWOOD ST.-10.30 a 6, VICTORIA PARK-10.30 a 6, FAUN WORTH—10.30 a 6, Griffith Jones, Lerpwl LEIGH—10.30 a 6, WARRINGTON—10.30 a 6, Ohwaer Evans EARLESTOWN—10.45 a 5.30, ASHTON-UNDER-LYNE—10.45 a 6,30, EGLWYS UNDEBOL ECCLES—11 a 6.30, YR ANNIBYNWYR CHORLTON ROAD-10. 30 a 6.15 Albert Jones, Bootle Booin ST-10.30, J Morris, 6.15, M Llewelyn QUEEN'S ROAD—10.30 a 6.15, J Williams, Lerpwl LD. DUNCAN STREET—10.30 M Llewelyn, 6.15, J Morris HOLLINWOOD—10.30 a 6.15, R Williams, Crswe Y WESLEAID. DEWI SANT-I0.30,J. Felix, 6, J D Owen HOREB-10 30, 6 J Felix SEION—10.30, J D Owen. 6, J E Williams BEULAH-2.30, a 3.30, J M Williams CALFARIA—10.30? J E Wiliiams, 6, J S Williams WEASTE-10.80, J M Williams, 6, J T Ellis Y BEDYDDWYR- UP. MEDLOOK ST.—10.30, J. H. Hughes, 6, LONGSIGHT-10.30 6.30, J H Hughes ROBIN'S LANE, SUTTON—10.30 a 5.30, UN O'R RHAI BYCHAIN.Alae pob eglwys genhadol fechan yn sicr o sylw a chy- hoeddusrwydd os yw'n llawn o frwdfrydedd a sel. Un o'r rheiny yw eglwys y Bedyddwyr yn Stockport Road, cangen o eglwys Medlock Street, tan fugeiliaeth y Parch. J. Fl. Hughes. Mae ar hyn o bryd yn hynod lwyddiannus, a chynulleidfaoedd rhagorol bob Sul, ac amryw o wrthgilwyr wedi dychwelyd. Un noson, cynhaliwyd yno gyfarfod amrywiol difyr. Wele rai o bethau'r rhaglen. Dechreuwyd trwy ganu ton gynulleidfaol, a gweddi; hynny mor anghyffredin mewn cyfarfod fel hyn ag yw bendith o flaen bwyd i lawer. Mr. R. Jones (Harlech) oedd y cadeirydd, a rhoddodd anerchiad. Pedwarawd, Gwyr Har- lech adroddiad gan Miss Nellie Jones unawd, The Sailor's Grave, Pritchard; pedwarawd, John Rogers a'i barti; unawd, Mr. Rushton Myfi sy'n magu'r baban, Miss Megan Jones unawd gan Mi-s Cenis Rob- erts deuawd, Hear the wild wind blow, Pritchard a Rushton pedwarawd, Difyrrwch Arglwyddes Owen; -Liiiawd, Request, W. Prit- chard; unawd, Greyfort Tom, Mrs. R. Jones adroddiad gan Myfanwy Jones unawd. The Floral Dance, Rushton unawd gan Cenis Roberts deuawd, Over the Hawthorn Hedge, Mrs. a Miss Jones. Anerchiad ar y diwedd gan y Parch. J. H. Hughes. CWYMPODD UN.Trist iawn oedd derbyn y genadwri fod y Pte. W. H. Williams wedi ei ladd yn Ffrainc. Efe'n fab Mr. Samuel Williams, 43 Nelson Street, C,-on-M. Yr oedd tua 36 oed, yn ddyn dwylath o daldra, yn gryf o gorff, a gwrol ei ymddangosiad, yn dra dynumol o gyfeillgar a charedig. Bu'n drafaeliwr i Chaloner's a thrachefn i Morris & Jones, ond yn gwasanaethu masnachwyr eraill cyn ymuno a'r Fyddin, ar ddechreu'r rhyfel. Cafo dd ei glwyfo yn y Dardanels, ond wedi ei adferiad, anfonwyd ef i Ffrainc. Bu'n aelod o Moss Side, wedi hynny yn Ardwick a Victoria Park, lie mae ei dad ai phump o'r teulu yn aelodau ffyddlon. Mae tri brawd eto yn y Fyddin,—un, sef Frank, yn Sergeant, ac Annie y chwabr yn nyrs yn Ffrainc. Yr oedd W. H. yn y 1st East Lancashire Regi- ment, a dyma ran o lythyr a dderbyniodd ei dad oddiwrth y swyddog a ofalai am y platoon He was not with us long before I fished him out as a quiet, reliable, man, and he fully justified my trust in him When we were holding a very tricky part of the line, which called for steady nerves and great powers of endurance, Williams was a power of strength to me in a very weak platoon B Coy. wish to convey their sympathy to his relatives in their loss. He was killed instantaneously by a shell, and suffered no pain. He was decently buried behind the front line." Un o Gymry Lloegr oedd ef, ond ei Gymraeg yn goeth. Chwith amdano GWELLA I FYND YN OL.-Bii,Janies Williams cyn-ysgnfennydd Undeb Ysgolion Sul y'M.C., am saith wythilos yn y firing lin yn Ffrainc. Y mae'n awr yn Ysbyty Birch Hill, Rochdale Aeth trwy weithred law- fecldygol yn ysbyty Salford. Dioddefa can. noedd o'n i-ailwyr yr un aiiechyd (hernia) ond gradclol wellhant yn 11 wyr. CYMRY YM MHOBMAN,—Rhoddodd Corfforaeth Mancemion a Salford hysbysiad am ferched i ofalu am y trams a dyma'rmodd y dywedwyd yn Manchester: Wanted Women Tram Guards; ac yn Salford Wanted Female Conductors. Yr un gwaith sydd i'r naill fel y llall, Mae o leiaf un Gymraes ■ wedi dal ar y eyfle. Canodd y beirdd i'r Gymraes ymhob cylch o wasanaeth, ond neb eto I i'r Gymraes ar y tram. Wele bill i aros ei well:— Dyma hi mewn gwisg swyddogol, Gwrid yr henwlad ar ei boch, Gwena'n nghanol cyfrifoldeb, Pan yn esmwyth seinio'i chloch. Nid anghofiodd gan yr aelwyd Ddysgodd gynt wrth lin ei mam Dyna'r pam map'n hapus hymio Emyn heddyw ar y tram. We]e'r geiniog iddi'n barod, Hynny'n unig yw ei chais, Ac os gofyn mewn awdurdod Mae lledneisrwydd yn ei llais. 'Rwy'n ddibryder ar fy siwrne, Yn y cerbyd ni chaf gam, Sicrwydd cryf fy niogelwch Yw'r Gymraes sydd ar y tram,
Advertising
Telephone, Rpyal 1157. Established 1864 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South' Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made 205 Established 1884. 'PhoneI11401Booll« WOOSNAM ROBERTS. F.A.I., Bootle Estate Office, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY ROAD, BOOTLB (0 doors frort4 Bedford Road) Telegrams WoosNAm. BOOTLE, I Telephoat No. 7909. J. LEWIS JONES, BSTATL AQBNf & VALUBR, 60 Victoria St., Liverpool. Properties cardully managed. Rseta psi •oaally ooilected. Porchases and Sales s» gotSated. Mortgages arranged aad lassEassi eSeefcsd. THOMAS JONES, AQBKTS VALURRS. IEVNSTMSNT t."II..JU!Hi3. 61 Eord Street, Liverpool Telephone No. -1868 Bank. Properties Bought aad Sold. arranged. Valuattonsmads. Beats c-lle^tee Tm. SI 7 AxvziiaD. lovAELiszxD, -13. Stephen Roberts & Soi. ESTATE AGENTS A TALVEBS. 137 Everton Road, Liverpool Psoporiles carefully managad. R&kIs ps; lonally Collected. Purchases aad B&.U segotiated. Mortg-agei arrangsd aed Iq aurancee aSeoted. Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool Taai Bijrx 4821, 0. JONES WilliAMS. F.A.IIJ ESTATE AGENT & VALUBSe 17 Boundary Place, Moss St. Liverpool. Est. 1889. < Telephone :1S67 Royal Telepho,26 8586 Ba nk JONES filiUGHES, IIS UllOFFlaE, 13 Whitechapelf Liverpooi FREEHOLD LAND FOR BALB. Advances Made- 11 11 ■ '^gaHsaBaaaaaaa R. E. HUGHES, Bstate Agent, Surveyor & Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head. Has Houses to Let and for Sale in various parti of the Town and out distriots. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made k BuUdem. Bstates laid out. Ronto'CoUeoUd, M< Property carefully managed. LADIES BLANCH4RD PILLS Are unrivalled for all At* norlT«lM (ot all Irrcgalaritfta, tbey ipMdi i. afford rtlitf and atvar (all to attrrlatt an lufllrmØlL Tboy laperaadt PasByroyal, Pil Ooebla, Bitter AWIt, &( BLANCH ARD'S art the best of all Pili for WemeB.I sold tn boxo., 1111, by Boon* Branahes, Braaahaa. and all Ohemliti, or post iraa, sama priaa, frolb LESLIE PKARTYN, Lte, Chemists.34 DaUtaa tllle. PAINLESS DENTISTRY. J. P. LAMPLOUGH'S (Son of the late J. Lamplough, for many years In the Dental Profession at Mold and Holywell). Dental Surgery, 235 EDGE LANE, LIVERPOOL. Hours-10 am. to 8-30 p.m. Consultation free. Tel. 245 Anfleld. Pence 4 Envelopes FOR [CHURCH] COLLECTIONS Good Quality. Correctly Numbered by Special Machine4 fl ugh Evans a Sons, Brytho v W. & J. VENMORE, Estate Agents Valuers, 200 SCOTLAND RD., Liverpool TELEPHONE No. 4216 Royal (2 ines). ALLAN Royal LINE To CAMILIDIL -,i- V ERPOOL, GLASGOW, LONDON tHAVBB TO CANADA, NEWFOUNDLAND A U.S.A. ALLAN'S, 19 James St., Liverpool; 14 Ooekspot St., S.W., and 103 Leadenhali St., London, M.C. J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, he. 6 Lord Street, Liverpool TSLSrUOBB ell MAWES HARTLEY" CO., Liverpool. 202LONDON ROAD. BALBS BY"'AUOTIOH BVBRY tfUISDAT AND FRIDAY AT ONB, IAXUKDAX NIGHTS AT SEVEN. FALUABLE HOUSEHOLD PUKNITUBB OF All DHSOBIPTIONB. MAQKIPIOBNT NEW AND IBOOND-HAND PIANONORTEB, LARGE VARIBIT OV BEDSTEADS. BEDDING, &o, BVIIRT NBOBSSITT FOR 110USBREEPINGO ATTEND TBESE SALES AND SAVE AT LBAIPR 19 PER CENT. A MAGNIFICENT SELECTION Or 1UPBBIOB PUBNITUBB IS ALWAYS KBP. IS ITOOK AND ANYTHING MAY BE PUBOHASXS 8Y PRIVATE TREATY. GOODS STORBD, On view 8.80 a.m. to 6.30 p.m.; Saturday 1 pirs Otophone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (BITHBR LARQB OR BMA OF ANY DBSOBIPTION INVITBD FOR THIS tALBS. BEST RESULT GUARANTBBD. If you want The most Comprehensive POLICIES an THE BEST TERMS write for particulars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. HeadiOfflca t aat. Mildreds House Poultry; ( LONDON. E.S. Branch Office" G141Exchanae fi'lde ILIVERFOOLD ¡AMBSlB, SCOTTI General:Manaler DIM TALU YMLAKN LLAW. ARIAN YN FENTHYG. {yn ddiataw bach), mewn symiau bach neu fawr (heb fod Hal na (10) AR ADDAWEB Y BENTHYCIWR III HUI IEFYDLWYD ERS 46 MLYNEDD, ao yn awr yn rhol £ 80,000 YN FENTHYG BOB BLWYDDYB Am daflen a thelsran ymofynner a George Payne a'i Feib., S Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lant, Liverpool, Dwy Action Song Cymreig D(j. Y MILWYR BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIN (The Little Nurses). Gan Pedr Alaw. TONIC SOLFFA, 2g. yr un. Drwy'r post, 21o. HEN NODIANT, Bch. yr un. Drwy'r post, 60. Cystal a'r goreu a gwell na llawer a gyhaeddir yn Saesneg. Cyhoeddedig yn Swyddfalr Brython," 356, 358 Stanley Rd., Liverpool. Bootle Auction Boomii 76 & 78 STANLEY RD., BOOTLE, W. H. Butterfield O Co. holds Weekly Sale at their Rooms every Friday Evening, 7 p.m. Furniture and Stocks of every kin tough for prompt sash. Telephone 1299 Bootle. Y mae PEIRIANNAU GWAU HOSAN NAU yn foddion hapusrwydd a bywoliaeth i filoedd o deuluoedd. Ceir y Day y Cloff, ao eraill ymysg ein cwsmeriaid. Rhestr ac hyfforddiant yn rhad. Sefydlwyd 1871- W. Griffiths, 30 Queen Street, Neath.