Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Tne. LIVE. R POOL ew S OLD POST OFFICE PLACt e 08" LARGEST SELECTION -LOWEST PRICES EVERY VARIETY OF Wslwas aRd Now Yeat Gifts. TELEPHONE 307S ROYAL.
0 Bant iBentan I
0 Bant iBentan I Dyn mawr y dydd.—Dyma'n gwlad mewn cythrwflgwleidyddol digyffelyb bore heddyw; s'n cydwladwr Mr. Lloyd George yw'r g wr amlyeaf a mwyaf ar dafod pawb yn y storm. Dyma'rCymro cyntaf—yn ystod ypum canrif .yn yst-od ypum canrif diweddaf—i fod mor uchel yng ngolwg Ewrop a'r holl fyd. Balchter ei Bentref.-Galwodd Cyngor Dos- barth Penmaenmawr gyfarfod cyhoeddus arbennig ynghyd ddydd Iau diweddaf, i gyflwyno oriawr ae anrhegion eraill i'r Preifat Hugh Jones, R.W.F., a enillodd y Bathodyn Milwrol am ei lewder ar faes y rhyfel. Ymysg y rhai a siaradodd ceid Lieut. Col. C. A. Darbishire, Lieut.-Col. A. G. Johnson, a Major Jenkins. Prynner hi ar bob eyfrif.-Dyiia farn Cym- deithas Ddirwestol Esgobaeth Llanelwy am y peth goreu i'w wneud A'r Fasnach Feddwol, ac a ddatganwyd mewn geiriau cryfion ddi- amwys yn ei chyfarfodydd blynyddol a gyn- haliwyd yn Connah's Quay. Siaradwyd o blaid ei chenedlaetholi gan Ddeon Llanelwy, Canon Davies (Gwrecsam) Esgob Llanelwy, ac Esgob Caer. Ennill tir y mae'r syniad hwn, nid yn unig am ei fod yn newydd, ond am fod gwýr goreu'r wlad wedi dod i deimlo y rhaid achub y eyfle digyffelyb hwn i gael ei phen dan ddwm y wlad. Ynghrog ar bren.-Caed o hyd i gorff milwr yng nghrog ar goeden mewn lie unig tuhwnt ar ff riddoedd Prepteign, sir Faeeyfed, nos Fercher ddiweddaf. A barnu oddiwrth ei gyflwr mall, rhaid ei fod yno era cryn ddeufis, druan, pwy bynnag ydoedd. Di8gyn fel afal aeddfed.—Ddydd Mercher diweddaf, bu farw un o wýrhynaf a pharchus- af Penmaenmawr, sef Mr. Wm. Jones, Tudno House. Yr oedd ef a'i briod wedi cydfyw ers trigain mlynedd dathlai'r ddau hynny y Sul cynt ond dyma'r ewlwm a ddaliodd cyhyd yn datod yn sydyn, ac yntau'r afal aeddfed yn disgyn, nid i'r ddaear i'w gleisio, ond i law ei Dad Nefol otdd yno'n barod i'w ddal, a'i ogod gyda phendefigion Ei bobl. 0 Langollen.-Gair yn cyrraedd yma ddydd Gwener fod Pte. J. H. Williams, Welsh Guards, wedi ei ladd yn y rhyfel. Efe'n balff talgryf yn un o heddgeidwaid Sir Ddinbych cyn ymune yn frodor o Fodfiari, ac yn wr sengl chwech ar hugain oed. Ddim ar y Sul.- Y mae Clwb Golff Llan- dudno wedi pendorfynu na byddo dim rhagor o chware ar y Sul are-ti linciau hwy nes ter- fync'r rhyfel. Na chwedyn. ch waith, gobeith- io, cany-s y mae'n friw i deimlad crefyddwyr y dref, ac yn her i farn mwysfrif y trigolion, Cwymp y Dewr,—Yr nedd John Llewelyn Roberts yn perthyn i'r Welsh Merionethshire. etc., Territorials cyn mynd i America chwe blynedd yn ol. Daeth drosodd i'r wlad hon ■ tua blwyddyn yn ol, ac ymunodd a'r Fyddin Brydeinig heb oedi gyda dewrion eraill ddaeth o'r America. Bu dan ddisgyblaeth bellach yn Litherland Camp, Liverpool, ac aeth drosodd i Ffraii c dri mis yn >1. Yn grefyddol, dyg- wyd ef i fyny yn y Capel Saesneg, Bl. Ffestin- iog. Gwelodd lawer ar y byd hwn mewn oes fer. Yr oedd yn wr ieuanc caredig, a ffyddlon iawn i'w gyfeillicn yrobob man. Goleu ar Owen Thoma8.-Mewn atebiad i gwestiwn Mr. Haydn Jones yn Nhy'r Cyffred- in ddydd Llun diweddaf, dywedodd Mr. Forster y byddai gan Ysgrifennydd y Rhyfel (sef Mr. Lloyd George) air i'w ddweyd ymhen yehydig ddyddiau ar adroddiad y Llys afu'n chwilio i achos syrrudiad y Cadfriciog Owen Thomas o Cinmel. Glewddyn Fflint.- Y mae'r Pte. Harold Bithell, Earle Street, Fflint,-a gafodd y Bathodyn Milwrol fis Awst diweddaf am ei lewder ar faes y gwaed-wedi ei ladd yn I Ffrainc. Efe'n fab Mr. W. E. Bithell, ac yn un o bel-droedwyr goreu'r Gogledd. Glewddyn Pen y Groes.-Y mae'r Parch. D Cynddelw Williams, B.A.—bugail eglwys M .C. Peni y groes, Sir Gaernarfon, cyn ei fynd i'r fel caplan-wedi cael ei gymeradwyo i dderbyn bathodyn y D.S.O. Y mae yn Ffrainc ers mwy na blwyddyn, ac enillodd ei fathodyn drwy feiddio ymlaen gyda'r fataliwn a dal ati i ymgeleddu'r clwyfedigion heb sy- mud, er fodbwledi'r Germaniaid yn chwyrliio'h gawod (gwmpas. B?-awdoliaeth Bangor.-Mr. G. C. Rees, A.S., oedd anerchydd Brawdoliaeth (Brotherhood) Bangor nos Sul ddiweddaf a dyma un neu ddau o betlyaii a ddywedodd 1—Y daliai'r rhyfel am yn hir 2—Y trechem ni yn y pen draw 3—Y byddai raid i ni gynhilo mewn bwyd a dillad, a byw heb foethau a theganau pechadurus o afraid. Yr Wyddfa Wen.-Pan gododd y Gogledd- wyr o'u gwelyau bore ddydd Llun diweddaf, yr oedd yr Wyddfa a'i phlant-sef ymynydd- oedd llai sy'n bowio achrwcwd iddi-dan eu haen o eira gwyn ac ambell feddyliwr dwys yn sibrwd siarad a fo'i hun fel hyn Mor wyn yr Wyddfa mor goch y Cyfan- dir O'r Nefoedd y daelh yr eira a'i wyn o'r un fan, ond yn Uwch i Fyny fyth, y daw'r hyn a ylch y Cyfandir. Ynfarw ar y traeth.-Caed corff Miss Esther Morgan-merch i deulu pur ucheldras—ar draeth St. Dogmaels, sir Benfro, nos Sul ddiweddaf. Yr oedd hi ar goll, druan, er Tachwedd y 4ydd. Merthyr a'i Chwrdd Heddweh.-Y mae yne. gwrdd ymhlaid heddwch i'w gynnal ym Mer- thyr Tydfil 'ddydd Sadwm nesaf. Dywedid ar y cyntaf y chwelid hwn fel y chwalwyd y cyfarfcd oedd i'w gynnal fis yn ol yng Nghaer- dydd; ond ar ol yst3 ried yrholl amgylchiadau, y mae'r Ysgrifennydd Cartrefo] wedi anfon at Mr. Stanton, A.S., yn ei gym ell i adael llonydd rrhyrwyddwyrgynnaleucyfarfod. Saboth a Shutter.-Y mae Prif Gwnstabl Manceinion yn ceisio'i oreu glas roddi Deddf Cau ar y Saboth mewn grym yn y dref honno, a hynny am fod agor ar y Sul yn mynd ar gynnydd cyflyrr yno, ac y bydd agor ar Ddydd Duw'n beth cyffredinol oni eir ati o ddifrif i'w wrthwynebu. Un rhwystr ar ffordd y cau cyffredinol ydyw'r Iddewon y dydd cynt (sef dydd Sadwrn) yw eu Sul hwy ac yna heliant yr hufen drannoeth a'r lleill ynghau. Ac y mae.yna beth wmb redd o snech-fasnachu ar y Sul ym man drefi Cymru, ac ambell un ohonynt yn bowio i'r Arglwydd a'i ddydd drwy adael dwy shutter ar y ffenestr. Dyna ddangos !Un o'r epistolau uchaf ei deymged a llawnaf ei ganmoliaetli a gafodd yr un gwleidydd erioed ydoedd hwnnw a anfon- wyd mewn pellebyr at Mr. Lloyd George oddi wrth Bwyllgor Trefniadol Toriaid y deymas, ae oedd ym mhapurau dydd Llun diweddaf. Y mae greddf y wlad yn dweyd wrthi na wiw iddi ollwng ei gafael ohono mai efe yw ei gwaredydd cryfaf a mwyaf effro yn nydd ei chyni mawr ac heb daflu'a amheuaeth Ueiaf ar wyr eraill y Cabinet, rhaid cydnabod fod buddugoliaeth a thynged y Cynghreiriaid yn hongian wrth ynni a gwroldeb a gwelediad y dyn bach mawr hwn, i raddau mwy nag yr hongiant wrth ynni a gwroldeb a gwelediad neb arf 11 heddyw. Dalied ei iechyd a'i gefn heb ysigo dan y fath bwn o gyfrifoldeb Helpw?i fwy a Blebrwn lai.-Y mae Mr. Asquith a'i gyd-weinidogion wedi gwneuthur gwrhydri yng nghanol cythrwfl mwyaf y byd ond er trymed eu llafur a'u pryder, mor. ddi- ddioleh yw'r Wasg Felen sy'n codi llwch i wyneb y vrlad ac yn poeri ei diystyrwch ar y Prif Weinidog a rhai o'i gludyddion arfau. Dyna beth prin yw diolchgarwch-ym myd gwleidyddiaeth, yn anad yr un bron. Mor rhad a dibris yw'r ymgom a glywir wrth ys- mygu mor gysurus a digyfrifoldeb a dibrofiad mewn cegin a pharlwr; ac mor anodd gwran- do ar ambell ledfegyn dwl yn cloriannu dynion anfesurol drymach a doethach nag ef ei hun. Ie, wir, helpwn fwy a blebrwn lai. Wrth hebrwng Shonet Puw.-Er uched a chased swrt y rhyfel, rhaid troi oddiwrtho am eiliad i glywed y newydd am Mrs. Janet Pugh, fierm Bwlch Carneddog, yn newid byd, ac yn cael ei chladdu yii Llangwm, Corwen, ddydd Sadwrn diweddaf. Yr oedd hi'n tynnu at un ar bymtheg a thrigain oed ac yn wraig hynod ar lawer cyfrif. Daeth i amlygrwydd mawr adeg Rhyfel y Degwm chwarter canrif yn ol, a hi oedd un o wrthwynebwyr cryfaf yr hualau eglwysig pan gymerwyd yn agos i ddeugainibalfau'r plismyn yng nghythrwfl Llangwm. Pa beth a wnaeth Sionet, feddyl- iech, fore'r frwydr fythgofiadwy honno ? Wei, dyma wnaeth Mynd o gwmpas ffenn- ydd y fro ar doriad y dydd, hel hynny o wyau drew oedd ar gael ym muarth a chlwydi ieir yr ardaloedd, a'u cludo mewn basged^ gael i'r gwrth-ddegymwyr eu pledru i safn yr ar- werthwr a'r atafaelwyr, nes oedd y gwyn a'r melvnwy'n ffosydd aatiryliw hyd eu dillad a'u hwynebau. Ac nid mewn dillad merch y gwelid Shonet, ond mewn dillad mab yn ei llodrau ffustian y troediai i ffeiriau'r fro, a hi a'i het gantal mawr a'i diwyg dyn oedd tynfa Ilygad pawb yn y blynyddoedd hynny. Yr oedd hi'n gyfeillgar iawn a'r diweddar Brifathro Michael Jones y Bala, yn un o'i ddisgyblion ffydfllonaf a dewraf. ac yn bur debyg iddo yng ngrym a chadernid eiliwyneb a'i hewyllys. Dedfryd Caernarfon.—Daeth tyrfa iawr, o bell ao agos, i'r cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ddydd Sadwm diweddaf o bifid pryiauu a chenedlaetholi'r Fasnach Feddwol. Mr. Ellis W. Davies, A.S., oedd trefnydd y cyfarfod Syr Thos. Whittaker, A.S., oedd y prif lefarydd Mr. J. E, Greaves (arglwydd-raglaw'r Sir) oedd yn y gadair; a'r Parch. Thos. Hughes (cyn-lywydd Cy- manfa'r Wesleaid) a'r Parch. E. B. Jones (Caergybi) a siaradodd heblaw Syr Thomas a Mr. Ellis Davies. Darllenwyd llythvrau pleidiol i'r peth oddiwrth Mr. Lloyd George, Mr. Ellis Griffith, A.S., y Parch. J. Williams (Brynsiencyn), yr Archiagon Lloyd Jones, Canon Lewis, ac eraill ac yr oedd araith Syr Thomas yn grynhoad cryf a galluog o'r hyn a allesid ei ddy^wedyd o blaid y prynnu a'r cenedlaetholi. Mor dda gennym fuasai med- ru ei chynnwys yma, ond nid oes mo'r lie. Pasiwyd penderfyniad ar y diwedd yn ffafr yr hyn y galwesid y cwrdd erddo er nad oedd y bleidlais yn hollol unfryd, yr oedd mor gryf a chyffredinol nes bod raid mai nid y bragwyr yn unig sydd yn credu yn y prynnu. MAE CAWS YN WELL NA 'MENYN —" Tybed ? ebe rhywun. Wel, ydyw, yn ol y cyfarfod lluosog o luniaethwyr a gynhal- iwyd yn Neuadd Dre Pwllheli ddydd Mercher cyn y diweddaf, a gwrid gwlad yn sgleinio mor dlws a rhuddgoch ar eu gruddiau, bob un. Yr oedd Mr. J. F. Blakeston, o'r Bwrdd Amaeth yn Llundain, yno'n brif siaradwr, ac a ddywedai, ymysg amryw byd o bethau eraill go newydd i ffermwyr Lleyn ac Eifionydd, ei fod bellach wedi cael ei brofi fod troi llefrith yn gaws yn hytrach nag yn ymenyn yn golygu cynhyrchu llawer mwy o fwyd i'r wlad ac nid yn unig hynny, ond y caent o dair i bum cemiog y galwyn fwy o bris am y llefrith. Cadamhawyd hyn gan Mr. Evans, prifathro Ysgol Amaethyddol Madryn, a chan Mr. Daniel Jones, llywydd y cyfarfod. Ond os am droi ati i wneud caws, gofaled ffermwyr Lleyn fod y cosyn yn un ysgafn a threuliadwy, nes fod Caws Lleyn yn dod mor enwog a'i frawd-gosyn o'r Deheudir, sef Caws Caerffili. HAINT DOLUR Y GWDDF.-Y mae hwn—sef diphtheria-yn rhemp o gyffredin eleni, ac yn codi o rhyw feicrobyn bach marw- ol sy'n gofyn holl fedr ac adnoddau'rmeddyg- ongoreu i'w drechu. Ymae'rpla'n drwm ym mhlwyfi Lleyn ac yn codi, fe debygir, o wall gofal am y drains a'u hysgarthion. 0 FARW'N FYW.~Yn ol y newyddion a ddaethai i law ers hydoedd bellach, credid fod y Pte. T. Roberts, R.W.F., Llangollen, wedi ei ladd nor bell yn ol a brwydr Mons ae yr oedd pob gobaith am gael ei weld byth mwy yn y cnawd wedi diffodd o galon ei briod a'i fab ond hawyr bach ddydd Mercher cyn y diweddaf, dyma'r dyn yn cerdded i'w d:f yn yLlan yn hollol iaoh a sionc ei garn. Clwyfwyd ef wyth mis yn ol, a daethai gair pendant ei fod wedi ei ladd am yr ail dro. Ord na ddo, yr wyf yn fyw i chwi," ebr y fo yn ei ffordd ei hun wrth ddisgyn i freichiau ei briod heddyw. Bu Roberts drwy Ryfel Affrica; y mae ei fab yn y Fyddin a'r dref yn glep ar ben pob drws wrth edrych ar y dyn a ddaeth o farw'n fyw. IE WIR, PRYNNWN HI.-Dywedweh chwi a fynnoch, cryfhau y mae'r gred yng Nghymru mai prynnu'r Fasnach mewn Diod- ydd Meddwol fyddai'r goreu, ac nid ofer- ymladd ac ofer-ddisgwyl am yr amhosibl ar ffurf Llwyr Waharddiad. Y mae'r mudiad o blaed ei chenedlaetholi yn ennill tir yn gyflym yn Deheudir, a chyfarfodydd mawrion a brwd yn cael eu cynnal draw ac yma dyna gyfar- fod mawr eithriadol wedi ei gynnal ym Mhaf- iliwnCaernarfon ac mae'r rhyfel wedi dwyn y Dafam a'i melltith i'r fath oleuni nes bod pobl oreu'r wlad yn teimlo y rhaid achub y cyfle ar unwaith, rhoi heibio man gweryla a chyndynrwydd opiniwnus, a chael y fath afael a llywodraeth ami nes medru eu cau a'u cyfyngu fel y gwelo'r wlad yn dda. Wrth gwrs, gwyn pob newydd ac y mae rhai pobl yn chwannog i'w ffafrio am fod y syniad yn un swynol; ond ein cred ýdyw y deil y peth bob ymchwiliad, ac mai trychineb anfaddeuol fyddai gadael i'r eyfle hwn i'w llindagu hi fynd heibio.
Gorea Cymro, yr on Oddiear…
Gorea Cymro, yr on Oddiear tr» ST. HELENS JUNCTION: Cyngerdd Blynyddol Llwyddiant mwy na'n disgwyhadau goreu fulf symudiad hwn eto eleni ynglyn ag eghvys y M.C. Cynhahwyd ef nos Sadwrn ddiweddaf yn ysgoidy eang y Wesleaid Seisnig yn Sutton Road. Ejch cyd= ddmesydd hynaws, caredig, Mr. T. J. Thomas—un c ffyddloniaid y flaenonaeth yn Chatham Street-oeddi y cadeirydd. Un o lu cyfeillion a chymwynaswyr y Genhadaeth Gartrefol yn y cylch hwn yw efe, a chafe dd ef a'l briod groeso gwladgar 1'n pIlth. Y canorion cyflogedig oedd Miss Myrtle Jones (Birken- head) a'i pharti, sef Miss Gwendoline Hughes., soprano; Mr. T. E. Williams, bass; Mr. Lloyd Moore, tenor. Yn adrodd, Miss Myfanwy Jones,, Birkenhead yn cyfeilio, Miss M. Davies, A.T.C.L.. member I.S.M., a Miss Dora Gledhill, St. HelenÐ Junction. Mor berja gwefreiddiol oedd eu selniau yn yr unawdau, deuawdau, triawdau a phedrodau, fel y buinni" dros amser "anghofio swn y rhyfel. Gofyn- nwyd iddynt" ddyblu eu can amryw weithiau. Ar gynhygiad y Parch. J. Peron Jones a Mr. Wttl. Hughes, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch unfryd i'r cadeirydd, Mr. Wm. Roberts (ysgrifennydd), Mr" Wm. Evans (trysorydd), ac aelodau eraill y pwyllgor 3i deilynga gymeradwyaeth uchel am eu llafur a'r llwyddiant ynghanol anawsterau'r amser presennoL Yr elw at ysgafnu'r ddyled ar adeiladau'r eglwys ymroddgar. Mae rhai o'r bechgyn wedi eu lladd yn y rhyfel, a rhif luosog eto ar y maes mewn amryw fannau, a gwyddom mai llawenydd i'w calonnau fydd clywed am ymdrechion eu rhieni a'u cyfeillion gartref gyda'r Achos goreu. ASHTON-IN-MAKERFIKLO. Gynhaliwyd eyfarfoc1 blynyddol cangen Undeb Dirwestol Merched Cymreig Lerpwl a'r cyffiniau, Rhagfyr 2, ar ffurf cyngerdd mawreddog yng nghapel Carmel (M.C.). Llywydd- wyd eleni gan y pregethwr a'r dirwestwr selog, Mr. R. R. Jones, a chafwyd y rhagien ndeiladol a ganlyn: Ton gyffredinol, Yn Dy waith y mae fy tnytvyd r unawd soprano, rT Hen Gerddor, Mrs. Mary Davies t adroddiad, r Milwr (Spinther), Mr. J. H. Jones unawd baritone, rr Ornest, Mr. Peter Roberts unawd contralto, For your dear sake, Miss Edith Davies; can ddisgrifiadol, The Bellman, Mr. Win- stanley unawd soprano, Hearts and Home, Miss Edith Roberts unawd contralto, rr hyn a garat fi Miss E. Davies can ddisgrifiadol, Don't forget the porter, Mr. Winstanley unawd soprano, Cartrcf» Miss E. Roberts unawd bartione, Bryniau aur ff ngwlad, Mr. Peter Roberts anerchiad y llywydd, ym afaelgar iawn can ddisgrifiadol, Hew to cure a bad husband, Mr. Winstanley; adroddiad, Tori Amod Priodas, Mr. J. H. Jones; Hen Wlad fy Nhadau, Diolchwyd i bawb gan y llywydd a Mrs. Mary Williams. Da gennym ddeall i'r cyngerdd droi allan yn llwyddiant mawr hyn i raddau pell i'w briodolS i'r ysgrifennydd weithgar, Mrs. Roberts. Yn sicr bu'r gangen yn ffodus iawn yn eu dewisiad, gan fod Mrs. Roberts yn gweithio a'i holl egni.—Q.H.J. WAIUUNGTON Cangen Cymdeitbas Ddirwestol y Merched.-Cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol a Social ynglyn a'r uchod, Tachwedd 20, a gwnaed ymdrech neilltuol gan yr eglwys er cael elw da at y Soldiers' Christmas Pudding Fund. Llywyddwyd gan Mrs. R. P. Jones. Agorwyd trwy ganu ton gynulleidfaol, a Mrs. R. P. Jones yn arwain mewn gweddi. Rhangan, Codwn y Faner Wen, Aelodau'r Gobeithlu can. Poor Child of the Drunkard, Mist* Nellie Thomas dadl, The Winning of Emily, Misses B. Parry Jones, Lizzie Jones, Bessie Thomas, a Nellie Griffiths; can, Mrs. W. T. Williams adroddiad,, My First Speech, Miss Lizzie Jones deuawd, r Lilt, Miss Nellie a Bessie Thomas; rhangan, Awn yn unfrydol, aelodau'r Gobeithlu. Terfynwyd trwy ganu Gweddi'r Hwyr. Yr oedd y rhodd:ou racwa ar'an a'r elw yn £ 2 5s. Cyfarfod rhagorol.-S.G. Y mae'r Llywodraeth wedi rhybuddio rhag defnyddio Powdrau Pobi niweidiol i iechyd Ac felly, sylwed em darllenwyr y cydnabyddir POWDR POBI BOBWICK fel yr uchaf ei safon am nerth a phurdeb. Dim ond y goreuon sydd ynddo, na dim geriach andwyol i'r eylia. Ysgowch bob pecyn mawr a rhad- fel tae.
Advertising
CCCCCCCCCCQCCCCCCCCOOCCCCC [3 c tlCfI!¡; @ c 0 MMEAMLBWEMtMBRMtM 1 Half-doz best Electr.pJated Q f 7 6 6 I Spoons given to each C ram I to O. j ?CX^efn a°Rtgh Q o BALL'S LUCKY ENGAGEMENT RINGS at prices to suit all O a Nr —————— o a BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, C CI Finger-Size Cards Post Free 33, London Road, LIVERPOOL. ÇI CClCCCCCCCCCCCCCCCCCCCCCCca ■■ ——«»■——— 11 ——— —— CYFEIRIAD NEWYDD (Change of Address) D. R. JONES (Alaw Madog), 25 Radstock Road, Liverpool. Dealer in PIANOS, ORGANS, and HARMONIUMS, MUSIC PUBLISHRR. &c. Catalogues Free on application. Terms Cash, or on easy payments to suit Customers* Orders by Post are promptly attended to. Tuning and Repairing 8 Speciality. Town and Country visited. Dwy gan Newydd yn barod, Pris Swllt yr un. Trwy'r Post, 111. Saf i fyny dros dy Wlad (Stand for thy Country), W. T. David. Sop. neu Tenor. Mab y Milwr (The Soldier's Son), D. E Williams, G.R.A.M. Contralto neu Bass. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Hefyd, y mae i hon eiriau eysegredig, Jerusalem Newydd (The New Jerusalem). For Bedsteads I and Bedding. W. WHITTLE SON S iOTTI LTD., 1116, 18 fi leo WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 000* Telephone 2131 Royal-
Clep y Clawdd sef Clawdd Offa.
ofn newid rhag i'w praidd syrthio mewn cariad a'r gwin newydd. Hwyrach mai'r peth nesaf fydd clywed fod yr actorAlecsander wedi bod ym mhulpud Sant Paul. Buddugoliaeth y Glo-wr.Clyw glowr y Clawdd gyda boddhad mawr am fuddugoliaeth y Deheuwyr. Y maent i gael codiad o bym- -theg y cant, yn ol eu cais, yn union, gan gymryd hamdden i fynd i mewn i fanylion pethau erbyn yr audit nesaf. Bechgyn am eu pwynt yw bechgyn y Sowth. Maent yn gryfhad mawr i'w brodyr gwannach yn y Gogledd. Ar ol y rhyfel hwn fe gyfyd y glowyr yn uchel yng nghyfrif y wlad. Gwelir yn awr na ellir gwneud hebddynt, ac fe gyfyd pob un ohonynt yn ei bris. Rhaid eu dysgu gyntaf sut i ddefnyddio eu cyflogau i bwrpas byw. Y Tribunlys.-Dywedir ar y Clawdd mai'r syndod mwyaf i fechgyn y ffosydd yn'Ffrainc yw'rtribunlys. Ni wyddant beth i'w wneud a hwn. Pan geir hamdden cydrhwng yr ymladdfeydd, dadleu'r tribunals, a darllen eu hanes, y byddis. Mae comments y beehgyn yn ddiddorol iawn, fel y dywedir, ac yn true to nature i'r blewyn. Y Tanc ar y maes a'r Tribyn gartref yw'r syndod mwyaf heddyw. Yr Arch Ffoadur.—Dygwyd ffoadur milwr- ol o flaen llys Gwrecsam ddydd Mawrth di- weddaf perfchynai i'r R.W.F. yng Nghinmel Pare. Dywedai y byddai'n ffoi bob tro y j byddai angen mynd allan arno, ac'mai'r ffordd honno oedd yr hawddaf, os nad yr unig ffordd, i gael leave yn awr. Cedwir llygad arno yn y dyfodol. Caled ar y Dafarn.-Mae nefoedd a daear yn erbyn y dafarn y dyddiau hyn mae tan Duwadynameudifa. Cydioddtan dyn yn y Volts yng Ngwreesam yr wythnos o'r blaen, a daeth tan o'r nefoedd, o fellt a tharan ar draws a thrwy dafamdy yn y Bwlch Gwyn yr wythnos ddiweddaf. Gwyrthiol fu i'r teulu ddianc. Gwibiodd y mellt drwy'r simneu, gan hyrddio popeth o'u ffordd, drifflith-dra- I fflith. Ni welwyd y fath alanas erioed, ond achubwyd preswylwyr y ty, sef hen wreigan I a'i dwy ferch, yn wyrthiol. Eglur yw mai yn erbyn y ty yr oedd y storm, nid yn erbyn y j trigolion. Dyma wers i ddirwestwyr lawer, ¡ sef arbed y bobl a dymchwel y ty, sef ty I I ? -?, 11 "Sellus' irarocicl y pexn gynro nia oyenan yn ardal dawel Bwlch Gwyn. 'Steddfod Shotton.-Poth newydd yn hanes y lie newydd hwn yw Eisteddfodau. Rhyw Saeson diddawn a di-len a drigai gynt yn yr ardal hon, ond yn ddiweddar arllwyswyd cafnaid o Gymry brwdfrydig i'w plith nes lefeinio'r cwbl; ac nid cynt y daeth y Cymro na ddaeth y capelau Cymraeg a'r Eistedd- fodau i'w ganlyn. Yn awr, nidoes fawr fisheb ei eisteddfod. Fis yn ol caed un yn y Queen's Ferry eto yr wythnos ddiweddaf yn Shotton. Gwneir gwaith rhagorol drwy'r rhain. Tynnir Uu o Gymry at ei gilydd, a gwelir amgen chwaeth Cymro i Sais. Daliwch ati, Shotoniaid. Y Pwdin Plum.-Daw hwn gydag argoelion y Nadolig bob blwyddyn. A da'i weld. Yn ei agwedd allanol tebyg yw i Elhnyn a'i helmet yn gorchuddio ei gorun ond oddi- fewn nid Elhnyn yw. Dywedir ddanfon tros bum cant ohonynt i'r R.W.F. i'r wrth-fibs gan foneddwr o'r Sir, sef Sir Ddinbych. Bydd yn angenrheidiol rhoddi labels arnynt i'w gwa- haniaethu oddiwrth y shells, rhag i rai o'r bechgyn ddyfod i brofedigaeth. Fe fydd y b;.cWh !F7 yn bwdinedig iawn o hyn hyd ddi- wedd y flwyddyn. Cwestiwn, A yw plwm pwdin yn help i ymladd ? Y mgyrch Ddirwestol.—Mae DyffrynMaelor. yn ymbaratoi am ymgyrch ddirwestol fawr Disgwylir y Canon Mastennan a Mr. Lief Jones, A.S., i annerch, heblaw'r Barwnig Herbert Roberts a'r amryddawn E. T. John. Yn awr yw'r adeg i draflyncu y Fasnach i ddifaneoll. Mae ei thranc wrth y drws. Deellir y ceir dau gyfarfod mawr: un yng Ngwrecsam a'r Hall yn y Rhos, wrth gwrs. Eisieti Nyrsus Gartref.-Gwneir gwaith tra rhagorol gan y Nyrsus sydd gartref, fel y rhai oddicartref, y dyddiau hyn. Mawr ganmolir Nurse Lewis, Gwersyllt, am ei gwaith. Cred y pwyllgor y bydd yn rhaid cael un nyrs arall yn ychwanegol ati i gyflawni'r holl waith. Mae cynnydd mawr yn y lie hwn, ymhob ystyr. Nid oes brinder arian ychwaith. Mae'r ysgrifennydd Griffiths yn egriiol dros ben, a rhoddwyd iddo bumpunt yn ei law fel offrwm diolch am ei lafur. Cildwrn reit dder- byniol erbyn y Nadolig. Cyfarfod Mawr y (,q f Gyfarfod Mawry n.-iNiae pobl y Cefn yn drwm ar gefn y ddiod. Gwahoddasant Mr. Wilson, ysgrifennydd diflino yr Alliance, i'w hanner h, a chaed cyfarfod brwdfrydig nas I anghofir yn fuan. Siaradwr penigamp yw Mr. Wilson, nid yn ami y olywir ei well. Dywed <dd ffeithiau geir won am anfadrwydd I v ddiod gadarn yn ystod y rhyfel presennol. Dylid eael gan y, gwr hwn fynd dr.)s yr holl wlad, i argyhoeddi pob copa o wallgofrwydd I yfed. Colli'n Hadroddwr.-Bwrn deall syrthio J o Peleg Lloyd Parry, gynt o'r Lodge, yn j Ffrainc. Yr oedd Peleg yn adroddwr glow 1 pan yn y wlad yma, ac yn byw ar y Clawdd yma gyda'i ewythr wr pur, Mr. John Morgan. Aeth Peleg drosodd i New Zealand dipyn o amser yn ol, a chaed colled yma ar ei ol. oblegid fiafrddyn a defnyddiol oedd. Garw yn awr o'i syrthio, ac yntau ar do riad y rhyfel wedi ymrestru ymhlith yr Anzacs. Mae hiraeth dwfn ar y Clawdd ar ei ol ymhlith Ilu mawr o'i garedigion annwyl. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. a Mrs. Morgan, y Lodge, Brym. bo. Tywyllwch a Goleuni y Rhos.-Mae tywyll. wch y Rhos wedi taflu goleuni rhyfedd ar amryw bethau'n ddiweddar. Ar y dech reu yr oedd gonnod o oleuni, a gorfu cosbi pobl y capel. Wedi hynny, fe ddaeth tywyllwch ar bethau, a dywedwyd llawer mewn dallineb. Drachefn ie ddaeth gwawr o rywle, a gosod- wyd. pethau a phersonau yn eu lie yn y llys yr wythnos ddiweddaf. Mae'r tywyllwch dieithriol hwn yn peri helbulon lawer. Bryd y codir y blinds ? Medals Rif y Gwlith.-Disgynna Medals ar fechgyn y Clawdd am eu gwrolwaith yn y ffosydd, fel cawodydd trymion o wlaw Cym- reig. Dewrion bawb, ac ni fydd mynwes yn fuan heb fathodyn neu riban. Nid yw Cymry yn ol yn un lie. Mae pawb yn gweld eu rhagoriaeth ond Saeson cibddall. ac y mae'r Sais yn dech reu agor ei enau'n awr mewn syndod, a'i lygaid gan edmygedd. Darlithwyr y Clawdd.-Yr Wyddgrug Pedair Crefydd Fawr y Byd, gan y Parch. A. Shipman Rhos y medre Alcohol, gan y Parch. E. K. Jones, Cefn. Llanrhaeadr: Y Beibl a'r Rhyfel, gan y Parch. Ward Williams, Gwrecsam. Brymbo Cydivybod a'r Wladwriaeth, gan y Parch. Talwm Jones. Johnstown Kilsby Jones, gan y Parch, Thomas Jones, ?Rhostyllen. Llangollen Eglwysi Cadeiriol Cymreig, gan y Parch. ? D. T. James, M.A. Rhos (A.) Ochr ?oH Bywyd, gan y Parch. T. Idwal Jones., Gwyliau'r Clawdd.-Brymbo (A.) y Parch T. E. Thomas a'r Parch. W. Daniel. Bwlch Gwyn (A.); y Parchn. H. W. Parry a George Jones, Rhos. Llangollen (E.L.) y Parch. D. Edward Davies, Brymbo. ,()-