Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

YSUFELL Y BEl ROD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSUFELL Y BEl ROD r tphynhin <e<y<M ft |dab I v = i I <h? :-P8Daoø; UT PMMet Re?M??cot Jesu, Lover of my Soul.-Aml gynnyg a wnaed, o bryd i bryd, i gyfieithu'r emyn adnabyddus hwn o eiddo Charles Wesley. Prin y credwn fod emyn mewn unrhyw iaith ynmeddu terfynmwy nertholna'r emynhwn ac heb yr ymchwydd ysbrydol hwnnw mewn cyfieithiad, wel-nid cyfieithiad mohono. Modd bynnag, dyma gyfieithiad rhagorol ymhob modd, a diolch yn fawr i Tecwyn alluog amdano. CVMBBADWY.—Beirdd y Brython, Y Milwr Clwyfedig, Er Goffa am R.H.J., Llinellau o Gydymdeimlad, etc.— CWYMP Y BALCH I ER holl drwst a ffrwst a ffrostio-gwr balch, I Gwyro'i ben raid iddo Drwy ei drig y daw ryw dro Law drwyadl i'w darawo.-PED-ROG. ENGLYN I GWEU AD mewn diwyg'awen—yw y byr I Fesur bach diamgen; Cariadus dlws Ceridwen, v A hyawdl aer yr Awdl hen. Lerpwi BARLWYDON CRIST YN NODDFA A NERTH I [Emyn Charles Wesley, Jesu, lotyer of my soul]. lesu, Cyfaill f'enaid i, Gad im ffoi i'th fynwes gref, Tra fo'r dyfroedd hyn yn lli, A'r ystoim yn rhwygo'r nef Cudd fi, Geidwad, nes y daw Terfyn y tymhestloedd maith Dwg fi'n iach i'r hafan draw, Derbyn fi ar ben y daith Noddfa arall nid oes un, Wrthyt glyn fy enaid gwan Paid a'm gadael, bydd Dy Hun Imi'n gysur ac yn rhan Ti yw Gwrthrych mawr fy ffydd, Ti yw 'nghymorth, neb ond Ti; Cudd fy mhen di-ysgod, cudd 0 dan nawdd Dy adain Di. Ti, fy Iesu, yw'm holl raid, Mwy na'm rhaid wyt Ti'n ddi-ball; Bydd i'r llesg a'r gwan yn blaid, Gwellha'r elaf, arweinia'r dall: Cyfiawn. santaidd ydwyt Ti, Minnau'n llawn o bechod cas Llawn o dwvll a bai wyf fi, Tithau'h Dduw pob Gwir a Gras. Llawnder gras sydd ynot Ti, Gras i guddio 'mhechod oil Yr iachusol firydiau'n lli Fo'n fy mhuro yn ddi-goll: Ffynnon bywyd ydwyt Ti, Rho Dy Hunan imi'n awr, Tardd o fewn fy nghalon i, Tardd i dragwyddoldeb mawr. OyJ. D. TECWYN EVANS LLINELLAU 6 GYDYMDEIMLAD I a Mr. a Mrs. Wilfrid. Jones, Bryn meirion, Qwrecsam, ar farwolaeth eu mab Wilfrid yn Ffrainc. Dimos ei wlad, wir fad, o'i fodd—ei einioes Yn gynnar offrymodd I ddwyn rhyddid i ddyn, rhoddodd O'i ras ei werthfawrocaf rodd. Fe aeth o'i boen i hoen a hedd-y byd Llawn o bob gorfoledd Gwenu mae uwch digonedd Y wlad, a'i thragwyddol wledd. Ow'r alaeth ni ddaw er wylo—yn ol I'n daear ni eto Ei fryd sydd ar nefol fro, Dianaf ydyw yno. Am anwyliaid mwy na wylwch,—iach ynt, Drachefn chwi a'u gwelwch Mewn hedd dibaid, uwch llaid a llwch, A niwloedd yr hen anialwch. Gwrecsam CADWNFA Er Coffa am y diweddar Second-Lieut. R. H. Jones, Princes Road, a fufarw o'i glwyfau yn Ffrainc, Medi 29ain, 1916. ANGYLION, nid ing welaf—o'th gwmpas, Try'th gwympo'n gyfalaf Er ennill yr awr wynnaf I daenu hedd a dwyn haf. 0 dy lafur daw dylifol-daemi Am deyrnas heddychol; A thra y Nef ni thry'n ol Hen waeau mor annuwiol.—J.R.M. Y MILWR CLWYFEDIG I Ar law un gonest ceir olion gwanu Clywaf ei ochain tra mae'n clafychu Ei ynni gollodd, ond ni ddaw gallu Etyl ei wyneb rhag tawel wenu Dros ei wlad llif cariad cu-yr ysig, A'i fendigedig fwynhad yw gwaedu Birkenhead R. LLOYD JONES Er Cof am Lance-Corp. W. E. Jones, 19 Bow- ydd Street, Blaenau Ffestiniog. Is ei loes wyla ei wen—gu Walia, Ar ol Gwilym lawen Y denol aeth o dan len, A'r cwmwl guddia'r cymen. Da, garedig wr ydoedd,—hyd ei oes Di-dwrf yn ei gylchoedd Un dewr i gwrdd blinderoedd, Rodiai'n wych dros Brydain oedd. Cainc oreu y concwerwr—feddai ef, Ddi-ofn ymosodwr; Yn ddwys o'i flaen, ddisyfl wr, Gwelwai miniog Almaenwr. Os bedd mewn rhyw echrys bant-fu ei ran Daw i fri a moliafot; 0 dan urdd i weld y nant Ymerawdwyr mawr rodiant. I'r annwyl filwyr yno-llonydd geir, Lie na ddaw gwaedd cyffro, A'i hyf rym ni ddaw o'r fro Unrhyw Gaiser i'w gwysio. | Yn ei waed aeth i anrhydedd—y nef, Lie mae'n wyn mewn puredd;, Mae'n *r ifanc mewn rhyfedd Wlad uwchlaw bwled a chledd. I lym yuni Almaeniaid-ni rodd feordd, Trodd eu ffwrn yn danbaid O'r holl eirf a drodd i'r llaid Rhaid yw rhestru dur Awstriaid. O'i freiniol henfro huhed,—i'w urddas Gwneir cerddi afrifed Hyd ami waun ei glod ymled, Heb alaeth cledd na bwled. Marw'n ei barch o Gymru'n bell,—a wnai Ond daw'n ol o'i hunell, Y Duw Gwyn i fywyd gwell A'i hadgyfyd o'i gafell. l Birkenhead R. LLOYD JONES I

Cylchgrawn Danes y M.C-

Advertising

fin Canedl ym Manceinion.…

Advertising