Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

IAtgof a Hiraeth

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Atgof a Hiraeth am Hoelion Wyth Lerpwl ddeugain mlynedd yn ol. UN o eiriau mawr y byd crefyddol y dydd- iau hyn ydyw undeb. Gair tlws, a rhyfedd nil. fuasai ei cllysui wedi tynnu mwy o sylwy gorffennol ato. Mae'n amhvg ei fod wedi denu llygad a chalon Y Brython. [ A gawn ni gynnyg dau reswm am hynny ? Y naill ydyw, fod y Golygydd wedi ei ffoli ganddo, a'r Hall fod dinas Y Brython wedi arfer ei achlosu ers degau o flynyddoedd. Yr hyn a'n cymhellodd i ysgrifennu oedd gyfarfod ohonom y dydd o'r blaen, yn Llandudno, a, hen gyfaill imi 0 Lerpwi yna, sy'n aelod ffyddlawn yn eglwys Prince's Road. Ni chawn ei enwi, gan na ofynnwyd ei ganiatad. Wedi rhedeg yn fras dros ddi- gwyddiadau'r amser gynt gofynasom iddo 8ut, yr ydych yn hoffi eieh bug ail ?" 0, grandmeddai." he is a good preacher and the best Pastor in the Principality." (Mae ein cyfaill yn Gymro gweddol, ond pan dwymno ei waod llithra i'r iaith fain.) Gwyddwn ei fod yn bregethwr da, medd- wn, bum yn ei wrando ddegau o weithiau Mae genych ainryw bregethwyr da onid oes ?" "0 oes," ebai, "ardderchog. Dyna Mr. Tecwyn Evans, mae o'n bregethwr first class, mae'n treat i chwi ei wrando." Chwarddais yn galonnog, ac rneddwn; Ydyw, yr ydwyf wedi gwrando llawer arno yntau byddaf yn achub pob cyfleusdra i'w glywed." "But what made you laugh ?" ebai. Synnu yr ooddwn eich bod yn gallu neidio'r clawdd mor sionc." "Clawdd indeed, we have no cloddiau in Liverpool." Os ca'i bregethwr da-dirn ods pa enwad fyddo."Gaily darllen- ydd wenu wrth ddarllen yr uchod; ond yr ydym ni yn ddigonhen igofio amser pan na allasai'r sant goreu son am bregethwr o enwad arall heb naill ai diolch nad oedd yn perthyn i'w enwad ef, gan mor wael y pregethai, neu ynteu resynnu na buasai'n dyfod drosodd i'r un ochr i'r clawdd ag yr oedd ef wedi arfer byw. Hen Fethodist aelog oedd 'nhad, ac ond i chwi ei gymryd ar ei air, nid oedd na chul na rhagfarnllyd. Ond byddai ambell sylw o'i eiddo yn ei fradychu, megis—" Pregethwr neilltuol o dda ydi Mr. Evans (eieh Hybarch Ddr. Owen Evans chwi), Methodus ddylai Mr. Evans fod. Mae o'n pregethu fel Methodus, ac yn ysgrifennu fel Methodus hefyd. Mae 0'11 rhy dda o'r hanner i'r Sentars." Ni feiddiasem ysgrifennu yr uchod pe buasai gennych ddosbarthwr i'r Brython yn y "Wlad sydd well i fyw." Ond nid ydyw eieh Brython yn deilwng o'r wlad dda honno, er cystal ydyw. Erbyn i chwi feddwl, Mr. Gol., ni raid synnu o gwbl fod ein henwad ni a'ch henwad chwi yn gallu cyfathrachu a'i gilydd. A ellwch chwi, Syr, nodi unrhyw ddinas neu dref y bu dau o'n cewri ni ag iddynt frawd. bob un, oedd gewri yn eich henwad chwi, yn gweinidogactliu ynddi ar yr U11 pryd ? DYlla i chwi buzzle, Syr Ac er fod yn Lerpwl gewri lawer y dyddiau hynny, ni phetruswn gyhoeddi fod y pedwar yn gewri ymysg y cewri. Dear me, y fath gewri oedd ym mulpudau'r dref y dyddiau hynny—rhyw ddeugain mlynedd yn ol. (Yr oedd y Parch. Henry Rees wedi myned i'r nefoedd ychydig cyn hynny). Cawsom y fraint o'u gwrando am rhyw saith mlynedd. A gawn ni enwi rhai o honynt, Mr. Gol. ? Ac 08 yn dderbYlllol; bydd genym air bach i'w ddwoyd am rai o honynt eto Y Parchn. Henry Rees, Dr. W. Rees, Dr. O. Thomas, a Dr. John Thomas, J. Evans (Eglwysbach), Dr. J. Hughes, a Roberts North End (felly y byddem ni'r nogia yn ei 'nabod); Dr. H. Jones, G. Ellis M.A., Nicholson, Evans Evert-on Villa; O. Owens,- D. Williams, R. Lumloy, P. Jones, Birkenhead 0. Jones, B.A., Jenkins, etc. A oes yna cystal staff yn bresennol ? Gwyddom fod yna rai goleu- adau mawrion. Clywsom hwy. Ac wrth ddarllen afhbell i bortread yn Y Brython, byddwn yn diolch i Dduw fod yn ein pulpud- au eto ddynion o' i anfoniad Ef Ei Hun. Mae rhyw ysfa enwi wedi ein meddiannu. A gawn ni enwi rhai o'r gynnau mawr fyddai yn eich gwasanaethu o Gymru yn y dyddiau hynny ? Na Sjlued pobl dda Lerpwi yn amgen amdanynfc. eu hunain nag y dyj' synio. Ni fuont orioed yn hunan-gynhal- iol, ac nid oes argoel eu bod wedi dysgu'r wers eto, nac yn ceisio'i dysgu rhaid iddynt gael dyfod yma i lxufennu'n pulpud- au ni. id ydymJYll gwarafun iddYllt eyd ag y cawn ninnau yr un rhyddid i fenthyca oddiarnynt hwythau. Wele rai o'r cewri, os na fydd i hiraeth omedd i ni eu henwi :Y Parchn. T. Levi (nid Mr. Lifei, fel y cyhoeddid ef gan Mr. Pritchard, yn Chatham Street. Yr oedd Mr. Left a Thrysorfa y Plant yn gymaint o eiriau teuluaidd i ni ag oedd 'nhad a mam.) Dr. Herber Evans (gwelwch ein bod am ddilyn esiampl ein cyfaill); Dr. Rees chwi (nid Hiraothog), a Dr. Rees ni D. C. Dav- ies, M.A., Dr. Harries Jones; O. Evans (sef oich Dr. Owen Evans chwi—ond sydd yn rhedog drosodd dros glawdd enwad, yn ormod o ddyn Duw i ini'liyw enwad ei hawlio Joseph Thomas. Dr. Saunders, S. R. a J. R., Dr. Cynyddylan Jones (heb y Dr. ar y pryd) W. Jones, y syrthiasoch mewn cariad ag ef, ac y bu raid ei gael yna) Willian43, Bethesda; Ap Fychan, Penry Evans, Miles, E. Mathews, Dr. Edwards, D. Davies, D. Roberts, J. Williams (ddeu- gain mlynedd yn 01, cofier), Evan Jones, Evan Phillips, J. Foulkes Jones, W. Jones, W. James, J. Ogwen Jones, Daniel Row. lands, Francis Jones, Stephens a Chranog- wen, etc. Nifer yw'r uchod o'r llawer a wrandawsom yn ystod y saith mlynedd y buom yn aros yna. Pwy oedd y goreu ? A pha bethau oedd neilltuolion pob un ? Gormod tasg i clipyn o leygwr; ond na ryfedded y darllenydd os bydd i nisyrthio i'r amryfusedd o goisio mesur a phwyso yn y dyfodol agos. Sicrhawn ef, fpdd bynnag, y bydd i'r cwbl a enwyd bwyso hyd y llawr. Ar hyn o bryd, atebwn y cwestiwn yng ngeiriau Hlraothog-wrth foli cLlan- sannan yn ei Adgofion M ebyd-" Ac 'roedd, meddid, ragoriaethau yn perthynu i'r naill a'r Hall." Rhyw drotian yn ol a I)Iaen, a:r dde ac aswy, y bydclwn. Mr. Gol. Nid efelyehu ei bach Daniel Owen, ond digwyddwn ni a'r ci bach fod o'r un teip. Modd bynnag, dechreuwn yn y deelire-Li Y waith gyntaf i ni fod yn Lerpwi oedd y Sulgwyn cyntaf wedi marw'r anfarwol Henry Rees. Cawsom y fraint o weled a chlywed amryw o'r cewri am y waith gyntaf -ein cewri ni. Un o'r cyfarfodydd rhyfeddaf y buom ynddo erioed oedd y Seiat Fawr ynglýn a'r Sasiwn honno. Nid rhai egwan mewn ffydd oodd yr hen dadau, na pharod ych- waith i dramgwyddo'r Ysbryd Glan trwy ddwyn i mewn ffurfiau a defodau i gymryd Ei le.ond dynion llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glan; ond yn y Seiat honno, gallasai dyn anianol feddwl fod oes Methodistiaeth wedi ei dirwyn i ben ym marwolaeth yr annwyl Mr. Rees, gan mor ddwys oedd y teimladau wedi ei golli. Nid oedd wyneb sych yn y gynulleidfa fawr. Buom yii ceisi. dyfalu pa sawl angel oedd yno, yn costrelu'r dagrau: Gall angel, heb un. trosol, Symudo lloor y nen, Ymaflyd yn ei chongl, A'i thaflu dros ei ben Gall chwyddo'n fwy na clxawrfil, Er hyn, angelion pur All ddawnsio wrth y dengmil Ar flaen y nodwydd ddur." Yn olii yr uchod, gall angel wneuthur pethau anhygoel—ond nid a. chostrelu dag. rau y mae a wnelo'r pennill. Yn y Seiat dan sylw y gwelsom ac y clywsom y di- weddar Barch. Joseph Thomas am y waith gyntaf. Mae llawer o s6n y dyddiau hyn am godi cofgolofnau i ddynion mawr; os bydd dyn yn deilwng o gofgolofn gad- awer iddo ei chael; ac os teimlwch chwith. au ar eich calon godi cofgolofn i Henry Rees yn Liverpool yna, 'does gen i ddim gwrth- wynebiad i hynny; ond dymunwn i bawb ohonom godi cofgolofn iddo yn ein bywyd-byw fel y bu Henry Rees fyw." Gwnawn, yn ngbymorth gras, oedd iaith calon pob un ohonom ar y pryd. A fu'r cwbl ohonom yn ffyddlawn i'w hadduned, ni wyddom, ond y mae Un yn gwybod. I 0 HIRAETHUS. o

IIfSTAFELL Y BURDD

0 LANNAU TAF.

[No title]

Advertising