Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

GOSTEG. 1

DTODIADUR.I

Cyhoeddwyr y Cymod I

Advertising

Family Notices

Advertising

Heddyw 'r Bore I

[No title]

; FFETAN Y GOL.

Advertising

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Parhad o tud. 5. CYMDEITHAS LLEN A CHERDD CHATHAM STREET. —Nos Fawrth, y 9fed, anerchwyd gan un o'r aelodau, Dr. H. R. Jones. Traethodd y meddyg dysgedig gyda medr ac eglurder mawr ar Ddarbodaeth mezon bwydydd. Bu siarad brwd a holi trwm gan frodyr a chwiorydd wedi'r anerchiad ond llwyddodd y Dr. i gael y goreu—ar y pryd, beth bynnag-ar ei holl feirniaid. Diolchwyd o'r galon iddo gan Mri. R. E. Jones, T. Lloyd Jones, H. Hughes, a'r cadeirydd-y Parch. R. R. Hughes, B.A.-R.E.R. I Nos Saboth ddiweddaf, darllenodd Mr. Owen Hughes, ysgrifennydd eglwys Webster Road, lythyr oddiwrth y Parch. Daniel Davies, Pentre, Cwm Rhondda, yn diolch am yr anrhydedd o'i alw'n weinidog, a'i fod, ar ol ystyriaeth bwyllog, yn datgan ei gydsyniad a chais yr eglwys i'ddod i'w bugeilio ac os Duw a'i myn, y bwriada ddechreu ar ei waith y Saboth cyntaf yn Ebrill. Clywir gair uchel i Mi. Davies o bob cyfeiriad, fel pregethwr rhagorol a gweinidog ymroddgar, a disgwylir am fendith Duw ar ei weinidogaeth yn y cylch, ac ar ei lafur yn y rhan bwysig hon o'r winllan. RAKE LANE, NEW BRIC.HTON.-Cynhaliodd yr eglwys hon ei chyngerdd blynyddol Ionawr 10, Mr. Wm. Thomas, Treflyn, yn y gadair yr elw at drysor- fa cysuron y milwyr Cymreig y Parch. T. J. Row- lands, M.A.,B.D., a Mr. Aneuirn A. Rees, yn diolch i'r cadeirydd a Mr. W. O. Roberts (uchel siryf Meirion) am eu rhoddion hael ac i'r talentau am eu gwas- anaeth, a'r rhaglen flasus fel y canlyn :—Ar y piano, Miss Mattie Lloyd; can, Nant y Mynydd, Miss Alwen Jones-Edwards; encor. Adroddiad, Mrs. Gracie Clark. Can, The Desert, Mr. Charles Leeds encor, Until you came. Cainc ar y delyn, Ljwyn Onn, Miss Alwena Roberts; encor. Can, Y Golomen Wen, Miss Alwcn Jones-Edwatds, encor, Deuawd ar y piano, Qui Vive, Misses Alwena a Shoned Roberts encor. Can, Corporal John Bartholemy, Mr. Chas. Leeds encor. Adroddiad, Mrs. Gracie Clark; encor. Can, Miss Alwen Jones-Edwards; encor. Cainc ar y delyn eto, Men of Harlech, Miss Alwena Roberts. Can, The Token, Mr. Chas. Leeds. Hen Wlad fy Nbadau. Cyfeilydd, Miss Mattie Lloyd. Bobl! bu agos i ni anghofio dweyd fod yno ddeugain o R.W.F.'s yno, o wersyll Warren Drive. Amryw Gymry yn eu mysg, a'r deugain yno ar wahoddiad yr eglwys. Cawsant groeso calon, a dychwelent wrth eu bodd am yr arlwy a'r cyngerdd. CYMDEITHAS LENYDDOI. DOUGLAS ROAD.-Nos Weiier ddiweddaf, daeth cynhulliad lluosog ynghyd i wrando ar y Parch. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., yn darlithio ar 0 Fabilon i Fethlehem, ac ni siomwyd neb Yr oedd y traddodiad yn hynod o hapus, ac yn rhod-d goleuni pur glir ar un o ddyrys-bynciau'r Ysgrythyr sef y cyfnod rhwng y ddau Destament. Amlwg fod ein gweinidog hen wedi rhoddi astudiaeth fanwl i'w bwnc. Diolchwyd iddo gan Mr. R. W. Roberts a Mr. J. J. Parry, ac i Mr. Wm. Pritchard am gadeirio mor ddeheig gan Mri. W. H. Williams ac O. Hughes. WATERLOO.—Nos Wener ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod i groesawu'r aelodau newydd a ddaeth i'r eglwys yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, ac o bob croeso, croseo Cymro." Ymddiriedwyd y trefniadau .i bwyllgor y Gymdeithas Lenyddol. Cynhulliad da'n bresennol a chyfarfod diddorol, o fdan lywyddiaeth y Parch. W. Henry. Paratowyd te gan y chwiorydd a ganlyn Mrs. Henry, Mrs. E. Thomas, Mrs. J. P. Thomas, Miss M. E. Roberts, Miss J. Thomas a Miss M. E. Jones. Caed amryw ganeuon ac adroddiadau Cwsg ty mhlentyn 2 Bugail yr Halod, yn swynol iawn gan Miss M. Owen The Heavenly Song gan Miss O. Lloyd Up from Somerset yn feistrolgar gan Mr. Wm. Parry, sydd mor adnabyddus yn y dref a'r cylchfel arweinydd y gan yn yr eglwys, ac ysgrif- ennydd Cymanfa Ganu flynyddol y M C r Plentyn a'r Gulithyn gan Mr W. J. Hughes deuawd, Plant y Cedyrn, gan Mr W. J. Hughes a'r Corp W. O. Hughes (R W F ); adroddiadau hefyd gan Miss M N Hughes, y Pte. Tom Parry (R W F ) efe ar ei oreu, yn enwedig felly yn ei bwyth miniog i'r ysfa am rywbeth newydd Can wyd amryw benhilhon gan y Corp Hughes (RWF) yn ei ddull dihsfal Cyfeiliwyd gan Mrs J P Thomas, a gwnaed sylwadau buddiol wrth estyn deheulaw i'r aelodau newydd, gan y llywydd a Mr John Lloyd Edrychid at y cwrdd gyda llawcr o hyfrydwch, a theimlwn yn sicr fod yr amcan mewn golwg wedi ei gyrraedd Diolchwyd i'r eglwys am drefnu'r cyfarfod gan Mri D R. Hughes a R. Roberts. TEML GWALIA, EDGE LANE.—Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd Social, pryd y mwynhaodd tua 60 gwpaned o de blasus. Cymerwyd rhan mewn canu ac adrodd gan y Br. Ieuan Jones o Edge Lane, a Mr. D. Charles Davies o Webster Road, a'r Chwiorydd M. Thomas, Eluned Jones, a Jenny Jones o Edge Lane, hefyd Miss Gwen Williams o Liscard. Croesawyd y Parch. D. Jones ar ei ddych- weliad o'i waeledd. Cafwyd gair ganddo, a diolchodd y Br. Henry Davies ac Ernest Hughes i'r chwiorydd am y danteithion, ac i Miss Gwen Williams a Mr. D. Charles Davies am ddod i'n gwasanaethu mor rhagorol. Cyfeiliwyd gan Miss Eluned Roberts a'r Chwaer Doris Halton Morris. Llywyddwydgany P.D. y Br. J. 'M. Evans. Dibennwyd noson lawen trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.—Cymraes. NoswEiTHrAU BREISION BETHLEitEm.-Mae Cym- deithas Lenyddol Bethlehem, Douglas Road, wedi bod yn ffodus iawn am ddarlithwyr enwog. Nos Wener ddiweddaf, cymerodd y gweinidog, y Parch. G. Wynne Griffith, B.A. B.D., nifer dda ohonom am daith ddiddorol dros ben o Babilon i Fethlehem. I Hon oedd ei ail ddarlith i'r Gymdeithas. Yr ydym yn edrych ymlaen eto at nos Wener, y 26ain o'r mis yma, at ddarlith y Parch. D. D. Williams ar Williams Pantycelyn a chyn y byddwn wedi colli bla s y ddarlith. honno, bydd Gol. Y BRYTHON yntau a'i Gadair Wicblyd yma, a mawr ein hawdd ni nas clyw- sant hi i gael golwg ar yr hen gadair druan, a sut wich sy ganddi.-Gresyn ei Colli Dyna deimlad pawb o'r Ysgol Sul a'r eglwys pan yn canu ffarwel a Mr. Hugh Jones, trysorydd yr Ysgol am bron chwarter canrif, ac yr wyf yn sicr na chafodd trysorydd yr Undeb Ysgolion enoed ei ffyddlonach. Llawer gwaith y gofynnai i'r cynrychiolwyr, Pa bryd y mae eisiau talu'r arian ? Bu'n aelod o'r eglwys am 52 o flyn- yddoedd, a magodd a meithrinodd feibion a merched na raid iddo byth gywilyddio o'u plegid: Mr. R. Roberts, gynt o Walton Breck Road, ydyw un o'i ferched,-—hwy wedi symud i fyw, ac ymaelodi yn eglwys Waterloo. Sicr y bydd llygad craff y Parch. Wm. Henry arnynt ar unwaith ac er fod taid yn tynnu at ei bedwar ugain, ni bydd yntau chwaith yn rhy hen, mae ef yn hen gynefin A'r iau.-r Ddrii rmwelwr Un tro, yn lied ddiweddar, yr oedd ar gyfarfod athrawon yr Ysgol Sul eisiau y:aiwe]wyr i alw heibio esgeuluswyr; a dyma'r ddau hogyn yma, Mri. Hugh Jones ac Owen Jones, Venmore Street, yn gwaeddi Wele ni, anfonwch ni Felly fu ac wrth symio i fyny oed y ddau lana hyn, cawn. eu bod yn 170 rhyngddynt. Nid oes gennym nintiai., eto ond dymuno pob rhwyddineb i fy hen gyfaill diddan yn ei le newydd ac os teimla hiraeth bron a'i iethu, wel, picied am dro i Fethlehem.