Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

GOSTEG. 1

DTODIADUR.I

Cyhoeddwyr y Cymod I

Advertising

Family Notices

Advertising

Heddyw 'r Bore I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Heddyw 'r Bore I zq vote dyad Ilercber. | Dyfodol y Chwarelwyr. J Bel Cynhadleddi Gaernarfon. MEGIS y dywedasom o'r b aen bythefnos yn ol, y m a ym mryd Mr. Neville Chamberlain, cyfarwyddwr y Gwasanaeth Cenedlaethol, alwr;, chwarelwyr allan 0 gloddfau'r Gogledd,—yn Nantlle, Llanaelhaearn, Bethesda, aFfestiniog—a'u taenu led y wlad-sef y rhannau mwyaf amaethyddol a Chymreig ohoni- i drin y tir a chynhyddu cnwd y ddaear a phorthiant dyn ac anifail cyn i ddrudaniaeth rhyfel dioi'n newyn a chlem. A'r newydd diweddaraf ydyw,'fod cynhadledd yn debygo gael ei galw'n fuan yng N ghaernarfon, neu rywle a femir yn fwyaf cyfleus, i drafod y pwnc, sef cydrhwng cynrychiolwyr swyddfa ac adran jVIr. Chamberlain, a chynrychiol- wyr ,y-gweithwyr a pherchenogion y chsvarelau CAST ELL INEDD [CAFODD HI!—Yr oedd tair o drefi'r Deheudir yn sythu am Eisteddfod Genedlaethol, 19 1 8,-Porth Cawl, y Barri, a Chastell Nedd, a'r olaf a'i cafodd, gan fod llythyr wedi eu cyrraedd oddiwrth Syr Vinsent Evans mai dyna ddyfamiad Cymdeithas yr Eisteddfod a'r Orsedd. Y mae'r pwyllgor wedi ei ff urfio Maer y lle'n gadeir- ydd, Mr. Philip Thomas (yt ysgolfeistr) yn ysgrif- ennydd, a'r edafedd a'r gweill yn dechreu clician i gael sawdl dda, canys oni bo honno wedi ei gwe.u'n iawn, hosan anesmwyth fydd hi. Codwch eich calormati, lewion y Barri, y chwi caiff hi'r tro wedyn a gobeithio y bydd i dan yr Eisteddfod ddeifio llawer ar y crach-Seisnigwch sydd werfi tyfu'n chwyn dros lawer o Gastell Nedd, er gwaethaf y pwyllgor pybyr sydd wedi cael yr Wyl yno. r DDAU HUWS.—Y mae'dau 0 wyr cryfion Caernarfon wedi cwympo i'r bedd, sef (1) Mr. Edward Hughes, yr ironmonger, a fu farw ddydd Llun di- weddaf, yn ddwy a phedwar ugain oed. Brodor o'r Pentre. Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd; wedi agor busnes yng Nghaemarfon er 1859; wedi llwyddo'n y byd, a dod yn Gynghorydd Trefol, yna'n Henadur ac Ynad Heddwch a maer y dref, ac yn un o golofnau eglwys Saesneg y Wesleaid. Rhyddfrydwr rhonc, a chrefyddwr siriol, sicr o'r Peth Mawr, na dim cwyn- fan yn agos ato. (2) Mr. Thos. Hughes y bancer. Bu ef farw ddydd Sul diweddaf, yn ddeg a thrigain oed wedi bod hanner can mlynedd yn bancydda yn Lerpwl a Chaemarfon. Yr oedd yn un o flaenoriaid eglwys Moriah yn ddihareb am ei onestrwydd mewn busnes a phob ymwneud; yn un o ynadon y sir yn aelod o Fwrdd y Porthladd ac yn eiddgar dros gysuro a chlydu'r milwyr ymhob ffordd. Nid oedd yn briod, a chleddir heddyw (ddydd Iau) yn Llan- ddeiniolen. Dyma ddwy dderwen gadarn a brigog wedi cwympo yn yr hen dref a fagodd ami ibren praff yn ei thro. POBL BWCLE 'AM IBALU.-Nid "palu celwydd," a feddyliwn, ond paluV tir lawer sy'n nordd honno'n dwyn dim ond drain, bonion eithin, a chrawcwellt. Y mae comins a.wcle'n hysbys o be'l, sef am mai ar y clwt hwnnw y bu ami i gyn- hadledda ffrwgwd ar bwnc y tir ac yny blaen. Ac y mae brodorion Bwcle'n cnwog ers talm am sythu eu gwrychyn dros eu hawliau. Sut bynnag, y mae'n dda clywed fod Cyngor y lie a'u bryd ar drawsnewid: yr hen gomins drwy drefnu i'w osod ollan yn glytiau, pawb i balu a thrin ei ddarn, a thyfu tatws a brtsych, .maip a moron, a phob rhyw lysyn iach a maethlon, yn hytrach na'i fod yn ddiffeithwch fel cynt. Bu Mr. F. L1. Jones (clerc y Cyngor) yn seiadu a Mr. Davies-Cooke (argl'wydd raaenor Ewlo), ac y mae hwnnw'n bur ffafriol i'r peth. MOR OER A'R ELRA.—Dywed y papurau heddyw'r bore fod trwch deunaw miodfedd 0 eira ar Farinau Brycheiniog a dolydd Myrddin ddydd Llun diweddaf, ac fod llawer dafad ac oen: yn eithaf mud dan ei luwchion ym niro Eryri yn y Gogledd. Meddwl am y rheini a'i golled y mae'r ffermwr a'u pioedd, ond meddwl am- /ei gariad gyndyn y mae ei fugail, ac yn mwmian cwpled Alun wrtho'i hun dan cdryell nr y cae Mae'i mynwes mor wynned a'r eira.- Mae'i chalon mor oered, mi wiria'

[No title]

; FFETAN Y GOL.

Advertising

[No title]