Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

GOSTEG. 1

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

GOSTEG. 1 r Daitb i'r De.—Methwyd cael amser i nyddu'r chweched Hith am y daith i'r De. Daw hanes yr cedfa gyda Chymrodorion Merthyr ddydd Jau nesaf. Pitbau Patagonia.—Nid yw'r Drafod—wy thnosolyn Cymry'r Chubut neu Patagonia—fawr o faint; ond y mac ynddo ami i damaid blasus, yn enwedig pan ddaw Q mor bell. Dyrna dri rhifyn arall i law, a'n llygaid yn disgyn ar y rhain (i) Paragraff yn son am y dysteb genedlaethol i Pedrog, ac yn dywedyd gair da am ei wasanaeth i'w wtad a'i oes. Diau nad oes gwmwd o Gymry mwy cefnog yn y byd na Chymry Patagonia ac felly cadwch eich enw da am haelioni drwy benodi rhyw frawd neu chwaer i dderbyn cyfraniadau ati, a ffordd- olwch yma.Fe wyr pawb ohonoch am Pedrog, megis y gftyr yntau am bob perchen awen a fu yn y Wladfa. (2) Gweld fod cwmni ohonoch yn actio Aelwyd Angharad, cystal bron a Macwyaid E. R. Jones, Aber Caseg, Bethesda Fawr yn Arfon. (3) Pwy ydyw'r Ellis Thurtell yma sy'n sgrifennu ei gyfres llithoedd yii Saesneg i'r Drafod ar Is German Philosophy responsible for German Militarism f Nid ymfflamychu na siarad dan ei ddwylo y mae; end yn ftr cyfarwydd, ac yn ddigon cryf i gludo batCh ei bwnc heb wegian a bustachu. (4) Byddaf yn gweld ysgrifau ar iaith ac athron- iaeth ymhob rhifyn bron gan Mr. Arthur Hughes, B.A., sef mab Gwyneth Vaughan anfarwol, ond a I chwarddais nes oedd y cut yma'n siglo pan welais enw vsgolhaig mor gain wrth odre'r deunaw cyngor a Iy ar .Ega??orfOM Fwy?o Cya'MM 7?t? ?— i-Dylai'r nid gyntaf fod yn hawdd ei gweld ac yn faethlon. z-Cadwer digon 0 rut, cregyn a golosg o jlaen y cywion. 3-Mae dwr croyw yn angenrheid- iol yn wastad. 4-Grawn sych wedi ei friwio yw'r peth goreu am y dyddiau cyntaf. 5-Mae bran yn bwysig. 6-Mae eisiau digono ludw yn eu cyrraedd. 7-Bwyder yn amlac yn brin am y pythefnos gyntaf, 8-Gocheler bwydydd gwlybion neu iaith. 9-Cadwer y cywion yn brysur ac yn rvewy^i nog. 10-Mae eisiau peth cig er Pw cy wion brifio'n dda. n-Mae eisiau peth bwyd ir arnynt. 12- Rhodder bwyd rhatach fel y bydd y cywion yn mynd yn hyn. 13-Bwyder yn gynnar ac yn hwyr beunydd. 14-Gorfoder y cywion i gymryd digon o ymarferiad corfforol. 15-Bydder yn berffaith 3an yn y mater o fwyd. 16-Bwyder i gadw'r cywion yn prifio'n barhaus. 17-Gocheler gwneud y cywion yn fwythus ac anwesog. Cadwer hwy'n galed. 18-Mae eisiau meddwl a gofal parhaus wrth fwydo cywion icuainc.-A.H. Y mae ieir ac wyau yn bethau cyffredin ac wrth y miliynau gennych chwi ffermwyr cefnog Patagonia a diolchwch eich bod yn cael pethau mor amheuthun end peidied yr A.H. athrylithgar a chodi blys mor greulon arnom ni yma na welsom iiar nac wy.er pan ddechreuodd y rhyfel bron. ,¡fill fH (5) Prun o ohebyddion y Drafod biau'r gair ysgyfeintwst am (p )ncumonia P pniwmonia," fel y bydd Cymry'r wlad yn ei seinio, wrth roi'r p a'r cwbl i fewn. Rhaid i chwi gael gair llyfnach ac ystwyth- ach, na'r ysgyfeinttvst heglog, onite ni chwech chwi byth mo'r oes brysur, fursenaidd hon, i'w arfer. I (6) Gwelaf fod y tafarnau a'u gwirod poethion yn eich poeni chwithau, a bod gennych Undeb Dirwestol i ymaflyd codwm a'r ddraig genglog hon. Y ffordd fyrrat a sicraf i'w threchu ydyw ynidrechu cael eich decbys i bwyso ar bwll ei gwynt yn y Senedd, fel yr ydym ni ar fin gwneud ym Mhrydain yma, yn lie gwastraffu'ch nerth yn ofer ar ei phen arall. Rhaid i'w chynffon a'i hesgyll iacio pan bwysir ar ei gwynt. IIMam yr Anfoes.—Meddyliwch am fragwyr y wlad hon yn medru bod mor feiddgar a digrefydd i adfer- teisio eu Christmas Ales: Special Brew hyd eu ffenestri y Nadolig yma, mewn llythrennau breision dau neu dri lliw, ac yn cydio gwyl ac enw mor ddwyfol wrth ddiod mor ddieflig. Eu masnach sy'n lladd eu teim- ladrwydd moesol, ac yn eu gyrru i gyflwr y gair difrifol hwnnw-un o rai difrifolaf yr holl Feibl- sydd yn Ephesiaid iv 19 :— Y rhai, wedi diddarbodi, a ymroisant i drythyll- wch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant." A dyma hi yn Saesneg, er mwyn i chwi weld pen draw'r drwg a ddechreuir yn y dafarn :— Who, being past all feeling, have given them- selves over unto lasciviousness, to work all 't' uncleanness with greediness." A geir diddarbodi yn yr ystyr dwfn hwn yn rhywle arall, heblaw yn yr Ephesiaid ? Fe fuasai David Charles Davies yn medru tynnu tair pregeth o air mor awgrymiadol,a hynny heb grwydro ber oddiwrtho i no pethau dieithr na wnelent ddim a'i destun. Ac y mae gen i flys braidd troi ati i geisio Ilurgunio pregeth fach fy hull amo. Ie, wrth ddod tua'r swyddfa bore heddyw, gwelais beth a welir yn gyffredin lawn yn Lerpwl yma,—dyn yn pistyllu dwr o beipen i olchi talcen tafarn, ei ffenestri a'i rhiniog; ond golched a olcho, ni ylch bythmo fudreddi'r anfoes, cymysg a gwaed a thrueni'r diniwed, a red mor ofnadwy ohoni. Cymra Bangor, Pa.—" I mi, ymhell o'm gwlad, y mae'r BRYTHON fe potel o ffisig i glaf," ebe'r Parch. J. T. Williams wrth ei archebu am flwyddyn arall o Fangor, Pennsylvania. Diolch i chwi am y North American a'i lith gampus ar r. Lloyd George. Y mae hi'n werth ei chyfieithu pari fyddo He ac amser i hynny. Goddefer tamaid ohoni heb ei gyfieithu It is a lpan that a nation in peril wants, not a I stuffed heraldic coat nor a suave heir of uni- versity and country-house tradition. It does not matter in the feast that Lloyd Geofge was the son of a poor schoolmaster; that he was hardened by honesty and educated by a giim struggle for existence, nor that he strode up to honour over the ruins of immemorial privilege He has been chosen because his countrymen believe that with body and mind and soul he will work to win this war The truth is that for many months events have unerringly pointed to the little Welsh attorney as the one man possessing the driving force needed to organise the vast but scattered energies of the Empire for the single task of winning the war. yrrwch ambell bwt o fyd a helynt Cymry'r Gor- ttewin weithiau, da chwi, y. T.W. I Byd Morgan Rhys.-Y mae amryw o chebyddion r Drych yn treulio colofn a mwy i geisio amddiffyn athrawiaeth cmyn Morgan Rhys, Beth sydd i mi yn y byd, etc. ond yn gwbl ofer, canys dyma'r pwynt: y gall ei hathrawiaeth fod yn brofiad cywir ddigon i un yma ac un acw, ond nid byth yn brofiad cynulleidfa gyfan fel y ledir yr emyn i'w ganu ganddi bob Sul Gwyl a Gwaith bron. Dylai pawb obonom fod yn ddigon gofalusimeddyl-, gar i edrych a ydyw'n canu'i deimiad a'i argy- lioeddiad ei hun, ac nid ymollwng mewn afiaith corfi achynheddfau iganu pethau tuallan i gylch ei profiad a'n credo. Dyma sy'n digwydd gydag emy Morgan Rhys, canys mor fynych y gwelwch ia lanciau iach a chryfion, heb yr un pigyn dan bron, yn beichio Beth sydd i mi yn y byd Ond gorthrymder mawr 0 hyd ac un arall, a chanddo'i filoedd o bunnau wrth ei gefn yn y banc, yn tucban mor gelwyddog yn erbyn y Llywodraeth Ddwyfol a'i castellodd a'r fath diriondeb a hawddfyd. Yn debyg y bydd y don Aberystwyth yn Llawlyfr Cymanfa Ganu Genedlaethol Eisteddfod 1917 ond nid wedi ei chydio wrth y geiriau uchod ac nid rhyfedd i un gwalch awgrymu, pc buasai Rhag- luniaeth mor groendeneu ag awdurdodau r ddaear, y buasai hi wedi codi cyfraith athrod ar hen emynydd cu Llanfynydd am ei henllibio a thorri ei Defencejjj the Realm Act Hi. Cyfrol Hirfryn.—Hon—sef Swyn Cynghanedd Englynion a Dyriau—wedi cyrraedd, a chaifl rhywun cyfarwydd ddweyd ei farn amdani gyda hyn. Tro Sal.-Nid yw'r rhyfel na'r hin yn mennu dim ar feddwl yr lien Was ac er cymaint cyrn ceibio a charthu sydd ar ei fysedd, deil i sgrifennu mor doreithiog ag erioed, canys dyma ddwy lith yn cyrr- aedd yma heddyw o'i Lofft S'abal, a'r gyntaf yn trin y pwnc hwnnw sydd wedi peri cymaint loes a chain er pan ddaeth rhaid a gorfod milwrol i rym sef gwaith meibion flenhydd, oedd wedi dewis galwedigaeth arall, yn dychwelyd o'r trefi ac yn troi'n sydyri at waith flarm v In eu hen gartref ac yn gorfodi'r gwas i fynd i'r Fyddin yn eu lie. Y mae'r tro sal yn cacl ei ddinoethi a'i drin yn deg a deheig odiaeth. Fe wetwch y Chweched l,lith ar Hugain at tudal..4 T

DTODIADUR.I

Cyhoeddwyr y Cymod I

Advertising

Family Notices

Advertising

Heddyw 'r Bore I

[No title]

; FFETAN Y GOL.

Advertising

[No title]