Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

rem 1-W. E. Gladstone. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

rem 1- W. E. Gladstone. I YNG nghanol cynhyrfiadau dychrynllyd y Rhyfel, nid doeth yw anghofio pethau a pher- sonau petrhynol i ddyddiau heddweh. Y dydd o'r blaen, dadlennai Arglwydd Rosebery gofeb o'r diweddar William Ewart Gladstone, a thraddododd anerchiad hyawdl ar yr ach- lysur-un o'r pethau ygall ypendefig nodedig hwnnw ei wneuthur oreu o bob peth, ac yn ddiguro. A. chredaf fod yn werth inni oil ymlonyddu i sylwi ar ffurf y diweddar Grand Old Man yn codi unwaith yn rhagor o ddis- tawrwydd y gorffennol draw, ac yn rhoi tro heibio inni trwy ganol yr Armagedon. Yn wir, mae gwir angen am olwg ar ei gyffelyb, ac fe ddylai'r amgylchiadau y mae'n gwlad a'r byd ynddynt oleuo'n danbeidiach nag erioed ar ei werth. Eddyf pawb ei fawredd mewn athrylith a gwybodaeth, a'i safle aruchel fel gwladweinydd. Mae ei elynion politicaidd, ar bob Haw, yn barod i gydnabod hynny. Ond nid dyna'i fawredd unig na phennaf, eithr yr oedd hwnnw'n gynwysedig yn ei gyd- wybodolrwydd a'i dduwiolfrydedd. Ceid llawer o'i bleidwyr cyfiredinol mewn gwleid- yddiaeth—Rhyddfrydwyr, ac yn enwedig Ymneilltuwyr—nad oeddynt fodlon arno ar faterion cymdeithasol ac eglwysig. Ond nid oedd neb a feddai o gwbl barch i foes a chref- ydd a allai lai nag edmygu'r dyn a ollyngodd gydwybod a gweddi i buro a llywodraethu ei weithrediadau politicaidd. Yr oedd ei gof- iannydd galluog, er yn Agnostic ei hun, yn rhwydd gydnabod gwerth yr hwn a ddeuai i Dy'r Cyffredin o "gyfrinach yr Hollalluog —fel y mae'n deg dywedyd hefyd fod Mr. Gladstone, yn gystal a phawb arall, yn cyd- nabod gonestrwydd ac ysbryd dyngar Mr. John Morley. Ac un o'r pethau mwyaf tarawiadol a phrydferth yng Nghofiant Mr. Gladstone yw'r teimlad parchedig a amlygai Mr. Morley wrth gyfeirio at ei agwedd a'i ddefosiwn crefyddol. Ond yr hyn a bwysleisia werth cymeriad gwleidyddol o fath Mr. Gladstone yn fwy na dim o'r blaen yw'r rhyfel sy'n taranu megis dros ddistawrwydd ei feddrod ef. Diffyg dynion o'i gydwybodol- rwydd, ei ysbryd,a'i ffydd ddiragrith ef, yw'r achos o'r barbareidd-dra sy'n gwarthruddo'r enw o wareiddiad a'r broffes o fod yn Gristnogol. Heddyw, mae crefydd, gan tai brenhinoedd a llywiawdwyr, wedi ei throi'n bolisi, ac fe sonnir am Dduw fel petai'n ddim ond Cadfridog prynadwy, ac i'w foli pan arweinio'i gynghreiriaid i lwydd. Mae yn Germani gyftawnder o athrylith, dysg, medr yng nghelfyddyd o bob math, ac i drefnu a gweithio rhyfel—rhyfel barbaraidd ei ddull yn gystal a'i ysbryd-yn anad dim ond mewn ystyr foosol ac ysbrydol, mae hi, o ran ei harweinwyr, yn dlawd, yn noeth, ac yn ddall. Mae'r hyn a ogoneddai gymeriad a bywyd Gladstone yn ddiffygiol ynddi hi. Cododd y rhyfel y lien oddiar Filitariaeth Prwsia, a daeth i'r goJwg ddiefligrwydd wedi ymwisgo mewn polis'i o ddychryn annynol, gwaeth nag un Pharo, a chreulonach na Herod. Ac ni fu ar wledydd Ewrop yn gyffredinol fwy o angen Gladstoniaid na heddyw. Unig obaith y gwahanol deyrnas- oedd am y dyfodol fydd i utgorn atgyfodiad alw i fyny y dynion dyngar a duwiolfrydig a fu ynddynt. gynt i ymsymud yn nerthoedd byw trwyddynt, neu fod eu cyffelyb yn cerdded i'w He. Nid addas nob i fod yn arweinydd cenedl oni fo'n ofni ac yn tewi ym mhresenoldeb yr Hwn a lefarodd wrtho allan o fflam y Berth.

Trem ll-Trychineb Llujidain.

I Trem II-Cyffro Cvffredinol

Advertising