Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CREFVDD CYMRU,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CREFVDD CYMRU, Ddoe, Heddyw, ac Yfory. Wrth glywed darlith y Proff. Miall Edwards. YR oedd y ddarlith ar y testyn uchod gan y Proff. D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu, yn anrhydedd i'r darlithydd ac i'r Gymdeith- as GenecUaethol Gymreig. Anrhydeddodd y Proffeswr y Gymdeithas wrth draddodi iddi'r fath ddarlith benigamp, ac anrhyd- edd >dd hithau'r Proffeswr wrth roi iddo'r fath wrandawiad astud a deallgar. Ni chlywais ddim ond canmol ar y ddarlith ac nid pobl yw aelodau'rGymdeithas Genedl- aethol Gymreig i ganmol darlith neb, er iddo fod vn wr o safle ac enw, oni bo'n haeddu clod. Dywedai cyfaill wrthyf, a fwynhaodd y ddarlith yn fawr, ond oedd yn gwegian dan y baich a rowd arno, Onid oedd ganddo gowlaid?" Syaiad tebyg hefyd dedd yn ffugr y Parch. D. Adams, B.A., a ddywedodd i'r darlithydd ddwyn ei wrandawyr dros gyfandiroedd. Gwir iawn. A chipiodd hwynt i gribau'r mynyddoedd a'r bryniau modd y gwelent yn glir y rhandiroedd o amgylch, ac nid eu llusgo'u boenus drwy'r coedwigoedd, y dryslwyni a'r siglennvdd. a hwythau'n gofyn yn brudd o'r clechreu. Pryd y daw y diwedd ? Cyfunid ya hapus yn y darlithydd y diwinydd a'r athronydd, yr hanesydd a'r proSwyd a dywedai'n achlysurol ymadrodd arabus oedd yn vsgafnhau'r baicli o fedclwl, ac yn seibiant i'r gwrandawyr. Yr oedd ei ddeifoiiad neu ei eglurhad o grefydd ar y cychwyn yn rhagorol a dangosodd, mewn dull olir, ei bod yn un o hanfodion cenedl, ac na ellir cenedl a Fateroliaeth, a wna ddynion yn fath ar ronynnau anymlynol, ac nid yn organiaeth fyw, ysbrydol. Pwys- leisiai na olygai unrhyw ffurf arbennig ar grefydd, eithr crefydd yn eihanfodion arhosol a digyfnewid. Teimlwn, fodd bynnag, i'r darlithydd, ymhellach ymlaen, newid ychydig ar ei dir, a'i fod yn cymryd crefydd yn ei ffurfiau u wch ac uchaf, ac yn cau allan ohoni yr hyn a berth yn i'w ffurfiau isaf,— dyweder, er enghraifft, Dotemiaeth. Teim- wn hyn pan ymdriniai a'r haeriad fod y Cymry'n genedl grefyddol. t Onid yw crefydd yn egwyddor yn y natur ddynol ? Os ydyw, y mae pob cenedl yn gfefyddol. Y cwestiwn yn awr ydyw, nid a yw Cymry yn genedl grefydd>1, ondaydyw'n fwy crefy'ddol na rhyw genedl arall, a beth yw nodweddion ei chrefydd ? Hwyrach imi gansyniad y darlithydd yn y peth hwn ond dyna a redai drwy fy meddwl ar y pryd. Un peth yw definiad y Cristion, fel Cristion, o grefydd, peth arall yw derfiniad y gwydd- Emydd. fel gwyddmydd, o honi. A chvmryd y safonau uwch o grefydd yr oedd meddwl y darlithydd yn gwbl glir a'i sylwadau'n bwrpasol. Didd >rol ac addysgiadol oedd y gipdrem o'r gwahanol gyfn. >da,u yn hanes crefydd Cymru, ac yr oedd ei ddarlith ef mewn dilyniae+.h hapus i ddarlith ddysgedig Dr. Mary Williams ar Hen Baradwys y Celt. Yr oedd ganddo ef ryw saith o lam-gerrig dr,)s ryd hanes. Llamodd yn hocw o'r cyin"d.1u T..te!naidd a Dsrwyddd i gyfnod yr E :lwys Geltaidd, oddiyno i gyfnod yr Eglwys Babyddol yng Nghymru, ocldiyno i gyfnod y Diwygiad Protestanaidd, oddiyno i gyfnod y Piwritaniaid a chyfodiad Anghyd- ffurfiaeth, ac oddiyno i gyfnod y Diwygiad Methodistaidd. Daeth yn awr at nod y rhan gyntaf o'i ddarlith, sef crefydd Cymru yn y gorffenjaol, ac at ei chalon hefyd. Yn wyneb golud y ddarlith, efallai mai da fuasai iddo aros yn y fan yma. a gwneuthur darlith arall o'r gweddill toreithiog. Yr oedd ymdriniaeth y darlithydd a chrefydd fel egwydd>r fewnol a mynegiad I allanol, fel profiad a sefydliad, fel ysbryd a I chorff. yn glir a meistrolgar. Cariai argy- hoeddiad i bob calon pan brofai nad yw crefydd yn gyfyngedig i'r deall, na'r teimlad. na'r ewyllys yn unig, end y meddianna'r holl ddyn ac mai crefydd berffaith yw cyd- bwysedd perffaith rhwng y deall, y teimlad a'r ewyllys. Neutral yw y rheswm pur, yn barnu pethau'n oer ac amhleidiol, heb ddwyn dyn i gyfathrach a Duw na neb arall, yr hyn yw hanfod crefydd A dall a direol yw teimlad heb ddeall. Rhaid ieuo'r ddau'n gymharus mewn gwir grefydd; a dylai'r ewyllys gael ei llywodraethu ganddynt hwy, a mynegi ei hun mewn bywyd uniawn. Ffurf ymarferol ar grefydd uchel yw moesau uchel. Ceisiaf roi sylwedd y ddarlith o gof bregus, nid ei hymadroddion yn llyth- rennol. Dangosai'r darlithydd mai un o beryglon y Cymry oedd ymollwng i deimladau afreolus yn eu crefydd, fel y gwelir yn am- seroedd o ddiwygiad crefyddol. Yr oedd y darlithydd yn hynod deg yn ei ymdriniaeth drwy ei ddarlith. Yr oedd agos mor amhleidiol a rheswm ei hun. Cynesur. ai'n ami a ddywedai drwy ychwanegu ei fod yn darlunio gogwydd pethau, ac nid ffurf a chwrs penodol a digamsyniol eu rhediad. A phan yn nodi beiau a cham- syniadau, megis dull rabinaidd y tadau o gadw'r Saboth, gofalai ytmgadw rhag eu condemnio'n ddiarbed. Gwelai enaid daioni hyd yn oed yn y drwg. Er nad hyn yw'r ffordd i ddarlithydd gael hwyl, dyma'r ffordd idd) ennill meddwl, calon ac ewyllys y doeth. Dug ei ymdriniaeth a'i feiraiadaeth argy- hoeddiad. Yr oedd sylwadau'r darlithydd ar gyflwr presennol crefydd yng Nghymru a'i rhagolygon yn y dyfodol yn gymedrol a chyrhaeddgar. Optimist iach ydyw, yn gweld yn glir y drygau, a'r diffyaion, a'1'1 peryglon, eto y mae'n hyderus am cidyfodo crefydd ein gwlad. Ni allaf, heb drethu gofod Y Brython yn afresymol, sylwi ar amryw bwyntia^u y earwn aros gyda hwynt. Ond carwn alw sylw'r darlith'ydd at rai pethau, a gwn y bydd ef yn ddiolchgar imi am hynny, er, o bosibl, na chydwgl a mi. Onid oedd Vav. assor Powell, er enghraifft, yn un o'r pregeth- wyr mwyaf dylanwadol a fagodd Cymru erioed ? Os nad oedd, y mae ei hanes yn gamarweiniol. I mi efe yw un o brif arwyr Cymru. Credaf fod dylanwad Vavasor Powell a'i gyfoedion yn fwy ar Gymru nag yr awgrymai'r darlithydd. Credaf hefyd na wneir perffaith chwareu teg a gwaith a dylanwad Anghydffurfiaeth yng Nghymru eyn cyfodiad Methodistiaeth. Er gwaethaf yr erlidigaethau a wnai'n anodd i Anghyd- ffurfiaeth fyw, a dylanwad niweidiol yr ymraniadau Ariaidd acUndodaidd a, phethau eraill, yr oedd hi'n allu mawr, yn Neheudir Cymru'n arbennig. Beth sy'n c'yfrif mai'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr oedd y ddau enwad Anghydffurfiol cryfaf o ddigon yn Neheudir Cymru (ac ydynt eto o ran hynny) er gwaethaf dylifiad y Methodistiaid o'r Gogledd a Sir Aberteifi i'r ardaloedd gweith- faol, a dylifiad y Saeson o Loegr ? Nï ddylid ceisio bychanu dylanwad Methodistiaet h yng Nghymru. Ond a wneir cyfiawnder a dylanwad Anghydffu rfiaeth yng Nghymru cyn cyfodiad Methodistiaeth ? Nid hanes- ydd mohonof, ond ceisiaf dynrra casgliadau oddiwrth ffeithiau diymwad. Cyfeiriodd y darlithydd at sylw a wnaeth y gwr rhsgorol William Williams, gweinidog i'r Bedyddwyr yn Aberteifi ac Ustus Heddwch yn Sir Aberteifi a Phenfro, sef fod dirywiad ym mhregethu Cymru wedi cyfodiad Methodist- iaeth. Anodd credu y gwnai gwr fel efe'r fath sylw heb sail ddigonol. Yr oedd ef yn uwch na'r cyffredin mewn diwylliant, a darlunir ef fel pregethwr ymarferol a I phrnfiadol, yn hytrach nag athrawiaethol. Onid yw'n hawdd credu i ddynion anwybodus a chyffredin eu galluoedd fynd yn bregeth- wyr yng ngwrea Diwygiad a phrinder pregethwyr cymhwysacli i'r gwaith ? Ni ddylid barnu pregethwyr yDiwygiad Method- istaidd yng ngoleuni ei ragorolion. Soniai Christmas Evans am "yr hoelion wyth," sy'n awgrymu tin tacks. Onid oes duedd naturiol i farnu'r gorffennol wrth ei oren a'i ddelfrydu'n anghymesur ? Pan gyfeiriai'r darli+hydd at y lie mawr a roddid i'r bregeth yn addoliad yr Anghydffurfwyr, a'r esgeul. ustod gormodol o'r hyn a elwir yn rhannau defosiynol, cyfeiriai at ddiffyg adeimlir. yn gyffiredinol, ond anodd ei gywiro. Ond ar gyfer hyn fe ddylid gosod eu cyrddau gweddi, a phe gwneid hynny, fe welid nad esgeulus- ant amcan defosiynol addoliad cyhoeddus. Yr oeddwn o galon yn cydfynd a chondernn- iad y d-arlithydcl o ffieidd-tira sectyddiaeth yn y bywyd cyhoeddus, a'i ddymuniad am fwy o undeb ysbryd rhwng yr Enwadau. Ar yr un pryd, yr wyf yn gredwr dwfn mewn sel enwadol, ac yn gwbl argyhoeddedig fod dyled Cymru'n anhraethol i'r sel hon. Gwn am ei beiau a'i phechodau, ond gwell gennyf hi, er ei holl ddiffygion, na'r rhywbeth cytnysgryw anneffiniol y ceisir ei wthio ar ein gwlad heddyw. Glyned y Cymry wrth eu sel enwadol hyd oni ddelont i gy d yn porthyn i'r un enwad a mi. Onid oes berygl, wrth bwysleisio hoffter y Cymry o deimladau yn yr addoliad, i anwybyddu eu hoffter o'r hyn sy'n apelio at y deall ? Gwelais sylw'n ddiweddsfe, croes i'r syniad cyffredin am- danynt, intellectual yw prif nodwedd y Gwyddelod. Y mae'r deallol yn un o nodweddion arbennig y Gymry. Y maent fel cenedl ymhell ar y blaen i'r Saeson fel meddylwyr ac athronwyr. Gresyn na baent, yn ol dymuniad y Prog. Miall Edwards, yn ffurfio ysgol feddyliol iddynt eu hunain. Ond rbaid terfynu cyn gorffen. Mr. Golygydd, y chwi sy'n gyfrifol am y truth hwn. Os daw imi berygl rhedaf y tu- cefn i'r Gadair Wichlyd. Diolch a diolch i'r Proff. Miall Edwards am ei ddarlith alluog, iach, a bendithiol. I D.P. I

IFfetan y Gol._I

Clep y Clawdd

Advertising