Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

•Or GOSTEG.I

DYDDIADUR, -, I

Cyhoeddwyr y Cymod 1

Heddyw'r Bore,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Heddyw'r Bore set bore dydd Mercher. TOCYN C WRW. Mewri trafodaeth yng Nghyngor Dinesig Lerpwl ddydd Gwener diweddaf, ar ystadegau sobrwydd a meddw- dod y trigolion, dywedodd Mr. Henry Peet fod y fath anhawster yn Germani i gael bara a chig nes bod yr awdurdodau yn cyhoeddi tocynau. A chan fod y cwrw a'r diodydd yma'n cael eu hyfed mor helaeth yn y tai, a'r bobl yn meddwi mor enbyd ar eu haelwydydd gartref am fod y tafarnau'n cael eu cau am gyd o oriau, oni fyddai'n well inni gyhoeddi tocynnau cwrw-beer tickets ? Ac felly gyfyngu ar y swm a geid i'w gario i dy neb ? ANDREW ANGEL.—Yr oedd y Mr. Andrew Angel, M.A.,B.Sc., a gollodd ei fywyd yn y ffrwydriad mawr yn Llundain, yn Gymro -sef yn fab Mr. a Mrs. Thos. Angel, Penally, Sir Benfro, a chanddo frawd, Mr. L. V. Angel, yn fferyllydd yn Lerpwl. Efe oedd prif fferyllydd y ffatri ryfel, a chollodd ei fywyd drwy aros yno i geisio achub eraill rhag y tan. Yr oedd yn ddeugain oed, ac yn ddyn disglair iawn ei alluoedd a'i yrfa addysg. GOREU RHODD: UN HEB EI DIS- GWYL.—Ac un Jelly gafodd Mr. W. T. Davies, prif athro Ysgolion Cyngor Talgarth, Sir Benfro, canys pan aeth at ei ddesc y bore o'r blaen, dyna lle'r oedd pecyn a'i enwef arno ac ynddo anrheg oddiwrth athrawon amacwy- aid yr ysgolion ar ddydd ei ben blwydd- pedair a thrigain oed, ac wedi cwblhau pedair blynedd a deugain o'i swydd fel pennaeth yr ysgol. Y mae ei facwyaid ym mhedwar ban byd, ond nid o gyrraedd y cof cu amdano ef a'r hen ysgol a'r hen ardal. Ac y mae eu profiad wedi ei gynnwys yn hen Bennill y Deuoedd a genir gan blant yn yr ysgolion dyddiol, ac sy'n dibennu fel hyn Dwy wialen a dau wely," sef dwy wialen—disgyblaeth a dyletswydd- ochr gas bywyd; a dau wely, sef gorffwys a diddanweh—ochr felys bywyd. Prun o'r ddwy sydd yn y mwyafrif yn eich bywyd chwi ? Ni raid i chwi ddim ateb ar goedd, —dim ond yn ddistaw bach rhyngoch a'r Nef. 11 BLE MA FE YN SAESNEG.—Y mae Ble ma fe-drama Gymraeg dafodiaith Morgannwg Mr. D. T. Davies—wedi cael ei throi i'r iaith fain, a chael ei chwarae yn y Court Theatre, Llundain, wedi troi'n llwydd- iant mawr, a chael clap a chymeradwyaoth pobl sy'n gwybod y gwahaniaeth rhwng erthyl amrwd ag un iawn a gwerth yr enw. Ond gyrrwch gopi yma, gael inni welct sut Inn sydd ar Gymraeg Shonis ffrwydrol Morgan- nwg wedi ei hystumio i'r Saesneg. MORFYDD GERBRON.-Darlithiai Miss Morfydd Owen, Mus.Bac., R.A.M., gerbron Cymrodorion Pont y pridd, y nos o'r blaen, ar Ganeuon Gwerin, ac amryw ganorion per eu llais yno'n canu pob un a grybwyllid. Ac yr oedd un gan a'genid—sef un o ganeuon gwerin Hungari—yn debyg i'w ryfeddu i'n Ar hyd y nôsni yng Nghymru. Yn wir, y mae'n anodd dweyd pwy biau'r gwreiddiol o ddim byd y y dyddiau beirniadol hyn. Duw'n unig sy'n wreiddiol yn y pen draw. Morfydd Owen yw yr eneth ieuanc o Lanelli y dywedai Dr. Mary Davies yn Eisteddfod Aberystwyth mai hi oedd un o gyfansoddwyr cerddorol mwyaf addawol Cymru. Y hi a roes gerddoriaeth am England, sef y cywydd teryngarwch a wnaeth Mr. W. H. Jones, B.A. (Elidir Sais) ar ddechreu'r rhyfel. YN EISIAU: AGORYDD YR YS- GR YTH YRA U.-Y mae rhai o'r papurau'n awgrymu mai Cymro fydd dilynydd Dr. Camp- bell Morgan yn Llundain. Wel, y mae gen- nym dri neu bedwar sy'n ilawn cystal pregethwyr ag yntau, ond fod y byd ddim yn gwybod, am eu bod yn pregethu yn Gymraeg ac nid yn Saesneg ond pwnc arall a oes gennym nihafal iddofel agorwryrYsgrythyrau mewn dosbarth darllen. Un o'r broddegau mwyaf swynol i ni yn y Testament Newvdd yw honno a ddywedir am Grist pan gyda'r ddau ddisgybl yn Emaus—" Onid oedd ein calon yn llosgi ynom tra'r ydoedd ef yn ym- ddiddan & ni ar y ffordd, a thra'r ydoedd ef yn agoryd i ni yr Ysgrythyrau ? Y mae'r hyn a geir o adnod, wrth ei hagor yn iawn ac yn llydan, yn anhraethol well na'r brigau rhydd- ion a di-wraidd a helir o'i chwmpas gan yr arwynebol a'r anghynefin a'i wir werth. EDWARD EVANS NIGERIA.-Y mae y Parch. Edward Evans, B.A., brodor o Wyddelwem sy'n genhadwr yng Ngogledd Nigeria ers wyth mlynedd, adref yn y wlad hon, ac wrthi'n treulio'i saib a'i "orffwys drwy ymroddi a'i holl egni gyda Mudiad Ym- osodol y M.C. yn y Deheudir. Bu raid iddo yntau, fel ami i genhadwr o'i flaen, greu geir. iau wrth gyfieithu'r Ysgrythyrau i iaith y brodorion y llafuriai yn eu mysg. Clywsom ef ei hun yn dweyd nad oedd gan y Nigeriaid ddim mo'r fath beth a bara, canys er y tyfent £ d, ni fyddent yn ei bebi a'i grasu'n dorth. dim ond ei falu a'i wneud yn fath ar uwd, Hwnnw oedd eu bwyd beunyddiol ac felly, er mwyn iddynt gael syniad cywir am Grist fel cynhaliwr, bu raid iddo yntau gyfieithu Myfi yw bara'r bywyd yn loan yn lilyfi yw uwd y bywyd." COFIADUR LLANDRJNDOD.-Y mae pawb a aiff i Landrindod yn adnabod Mr. Edward Jenkins, gwr y Gwalia, ac yn gwybod fod ganddo gofion aneirif am yr hwn ac arall a welodd yn ystod ei oes o bedwar ugain mlynedd. Ac y mae'n ail i Ddaniel Owen yr Wyddgrug am ddywedyo stori, sut bynnag am ei sgrifennu. Bu'r diweddar Lewis Jones (Rhuddenfab), Rhuthin, yno'n yfed qi dwr am ysbaid, ac a gyhoeddodd rai pethau a p-lywodd ac a. deimlodd wrth wrando Pobl y Pwmp. SYNIAD DA VID SAMUEL.—Lienor I diddorol ei bin ydyw Mr. David Samuel, M.A., prifathro Ysgol y Sir, Aberystwyth a chan- ddo syniad go newydd i ni'r Cyrnry mewn ysgrif ar Y Pregethwr a'r (hvrandawr yn r

Advertising

[No title]

Advertising

DAU TU"R AFON.