Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

•Or GOSTEG.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

•Or GOSTEG. I Anghajfael.—Yr oedd llith Metthyr—sei yng nghyfres y Wib i'r De-wedi ei chvsodi gogyfer a'r rhifyn hwn ond digwyddodd ajaghaffael gyda'r Hun oedd i fod ynddi, a bu raid gohirio'r cwbl hyd y rhifyn nesaf. Gair wedyn am Aberjionddu a Chasnewydd, ac fe gly'r gyfres, oni ddiango'r merlyn o'i ystabl fel y gwnaeth lawer tro o'r blaen. Boweniaid Treorci.-Y mae Myfyr ltefin, LlaneIli-sef brawd Ben Bowen y bardd— wedi dechreu golygu Seren yr Ysgol Sul, mis- olyn at wasanaeth plant Bedyddwyr Cymra ac y mae'r rhifyn cyntaf yn argoeliti dda. Eisiau mwy a mwy o apostolion plant sydd yng NghNqnru, eisiau bardd a fedr cam; i blant, pregethwr a fedr bregethu i blant— gwaith anos lawer na phregethu i rai mewn oed eisiau athrawon a fedr y ffordd at feddwl plant ac eisiau golygwyr a fedr arlwyo llenyddiaeth blasus i blant. Cofiant Ben wedi ei werthu'n llwyr, mwy a mwy o ofyn amdano, a Blagur A wen--sef ei farddon- iaeth fore—hithau'n gyfrol sy'n mynd yn gyflym, er rhyfel a phurdan fyglyd y byd. Annwyl gan y wlad yw pob smic am Fowen- iaid Treorei. DAFYDD AM BYTH!-Daw seithfed llith ar hugain yr HenWas o'rLlofft Stabal yr wythnos nesaf ti gorfoleddu y mae yn honno am fod Mr. Lloyd George wedi ei godi'n Brif Weinidog Prydain Fawr, a geilw ar holl weision ffermydd y wlad i godi eu pennau o'r ffosydd a gwaeddi i gyd gyda'i gilydd DAFYDD AM BYTH DAFYDD AM BYTH GWLAD r GWTNT.—Estynnodd un o ddarllen- wyr Y BRYTHON hwn i mi, allan o ysgrif Dr., Cyn. ddylan Jones yn r Cymro, Rhagfyr 27 :— Caniataer i mi fynegu fy argyhoeddiad fod y cynulleidfaoedd Cymreig yn yr Unol Daleithiau "yn fwy intelligent na chynulleidfaoedd y wlad 4; hon. Gwn y meddylia craill yn amgen, ond 4i dyna fy argyhoeddiad i ar ol chwe mis o bregethu dyddiol yn eu plith. Pa fodd y mae cyfrif am y ffaith hon, os ffaith hefyd, nis gwn. Efallai fod gwlad newydd, amgylchoedd newydd, ac unig- rwydd mawr y ffermydd, ac felly yn treulio mwy o amser i ddarllen a myfyrio,—hwyrach fod hynyna wedi deffroi eu meddyliau. Fodd bynnag, dyna fy argyhoeddiad i, ac ategir ef gan ansawdd a chymeriad y newyddiadur sydd yn cylchredeg yn eu mysg. Pa newyddiadur yng Nghymru a ddeil ei gystadlu a'r Drych CI Americahaidd ? Pery hwnnw drwy'r blynydd- oedd i drafod pynciau uchel a dyrys mewn U llenyddiaeth a diwinyddiaeth, a hynny'n fynych mewn modd gorchestol a meistrolgar." Rhad arno canys er fod gennym berthynasau a chyfeillion lawer yn y Gorllewin, baldordd anghred- adwy yw dywedyd fod eu cynulleidfaoedd yn fwy -deallus na rhai'r Hen Wlad. Gwelsom ddynion eithaf call a sym] eu hysbryd pan yma, yn chwyddo a cholli eu pennau wedi mynd dros y dwr. Rhaid fod rhyw wyntowgrwydd yn awyr yGorllewin,canys y mae ei bobl yn cerdded yn fwy codog,'yn siarad yn fwy bostfawr, ac yn sgrifennu'n fwy gwyntog a thrystiog nag y gwneir yma. Mr. bach digon plaen oedd y dyn pan yma ond ymhen rhyw bythefnos neu lai wedi teimlo Cyfandir mawr a llydan yr America dan ei draed. dyna yntau'n lledu'n gyf- atebol, ac yn tyfu'n Broff. hyn ac yn Broff. arall, ac oni eilw ambell pork merchant ei hun yn Professor of Baconry yny Taleithiau ? Pob parch i'n cefndryd am eu haml rinweddau ond byddai'n well gennym c'r hanner bregethu i wrandawyr deallus, dirodres ac achlust yr Hen Wlad. Y mae'r Dr. yn gofyn Pa newyddiadur yng Nghymru a ddeil ei gystadlu a'r Drych ? Wel, ni wyddom ni am yr un ohonynt a ddeil ei gystadlu ag ef am wyntowgrwydd oraclaidd I wrth son am bethau ymhell tuhwnt i'w wybodaeth ac os oedd y Dr. o ddifrif wrth sgrifennu'r frawddeg, druan o'i farn os nad oedd, druan ohono i gyd, Cadw'r tan i loggi.-Derbyiiied Eifion Wyu< Porthmadog, ein diolch ni a'r bechgyn led y byd am ei gyfieithiad campus a ganlyn o Till I the boys come home :— NES DAW'R LLANCIAU'N OL. I GALWYD hwy o gwm a llechwedd Galwyd hwy o fwth a llys A phan dyrrai'r wlad ei dawrion, Parod oeddynt ar y wys Ha adeweh i lif eich digrau Wneuthur eu caledi'n fwy Ac er bod eich bron ar dorri, Cenwch er eu llonni hwy :—• Cadwn dan i Josgi Yn yr hen gartrefi Os yw'r llanciau mwyu ymhell, Hwy-ddont yn ol Haul sydd yn tywynnu Uwch y cwnwl trymddu Trown y cwmwl du o chwith Nes daw'r llanciau'n ol. Daeth erfyniad dros y moroedd, Deuwch, cynorthwywch ni Jjinnau roisom wfr a meibion, Er mwyn cadw'n gair a'n bri Byth ni phlyg yr un Prydeiniwr 0 dan iau'r un estron hyf Byth ni saif yn Uwfr o'r neilltu Pan fo'r gwan dan droed y cryf. Cadwn dan i losgi Yn yr hen gartrefi Os yw'r llanciau mwyn ymhell, Hwy ddont yn ol Haul sydd yn tywynnu Uwch y cwmwl trymddu Trown y cwmwl du o chwith Nes daw'r llanciau'n ol.

DYDDIADUR, -, I

Cyhoeddwyr y Cymod 1

Heddyw'r Bore,

Advertising

[No title]

Advertising

DAU TU"R AFON.