Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

0 Lofft y Stabal.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Lofft y Stabal. XXVII. MISTAR GOLYGYDD,—Wyddoch chi beth, syr, ma'r gweision ffermydd ffordd yma'n lluchio'i hetia i'r awyr, o lawenydd fod Lloyd George yn Brifwnidog. Ac yn wir i chi, rydw i'n uno a. nhw yn y sbri—y sbri yma eofi vch. Diaist i wel, pan glwis i gynta, mi lIen ,vyd fi a rhw deimlad hyfryd oedd yn y ngyrru i i ddawnsio heb yn wbod imi. Yn wir, mi deimlwn fod yr hen Lofft yma'n dawnsio hefyd. Llawer gwaith y deudodd Jac Jos i fod o'n sicir y byddai Lloyd George yn Brifwnidog, ac y basa fo'n leicio byw i weld yr amser hwnnw. Chafodd o ddim byw miawn enawd. Ydi o'n gwbod, yn y Byd Gwyn lie mae o, am y peth wn i ddim i sicrwydd, er mod i'n tueddu i gredu i fod o ond does gin i ddim tuedd i ddadlu'r pwnc a neb ar hyn o bryd. tyiawn ryw ystyr, mi fasa'n well gin i weld y Cymro bydenwog yn mynd i'w swydd dan amgylcliiada mwy tawel na hyn. Dydi hi ddim yn beth newydd o gwbwl iddo fo fod ynghanol helyntion blinion. Mi lwyddodd i fynd iddyn nhw'n fuan wedi iddo fo fynd i'r Senedd, ae nid yn unig i fod miawn stormydd, ond i codi nhw i hun. A pha ddkvijiiw fu'n y byd yrioed nad oedd o'n medru "codi cythreuliaid," fel tasa ? Dydi dyn ddim yn ddiwigiwr os nad ydi o'n diwigio ac os bydd o'n diwigio ma'n ymddangos i'r tipin sens sy gin i y rhaid iddo wrthwynebu a newid rhwbetha sy o'i gwmpas o. A dydi pobol ddim yn fodl.on i newid fawr ar betha ae ma hyn yn dangos yn lied amlwg, dybia i,fod dynion yn gyffredinol yn Doris greddfol. Yn ol fel mae pobol wedi ymladd yn erbyn pob cyfnewid- iaOOu miawn amgylchiadau, arferion, a syniadau, mi deimla dyn ma'r gan y gallsan nhw daflu i. clona iddi fasa, Megis yr oedd yn y dechra y mae yr awr hon, ac y bydd vn wastad, yn oesoesoedd. Amen." Rw un ne ddau o broffwydi a diwigwyr fydd yn neidio allan megis o'r ogo, i ganol Ffair y Byd, ac yn gneud cyffro ofnadwy ymysg y bobol. Ac mi neidiodd Lloyd George allan o ryw ogo o ddinodedd tua godra'r Wyddfa, aeth i Senedd Lloegar, ac mi nath gynnwrf gyn- ddeiris yno'n union deg. Roedd yr hen ddwylo'n methu gwbod yn glir be i feddwl ohono fo—rhai'n meddwl nad oedd dim ond sWn gynno fo, na ddalia hwnnw ddim yn hir, ac nad oedd dim ond eisio troi trwyn arno, a chwerthin am i ben o. Fu'r syniad hwnnw ddim byw yn hir. Mi ddoth hyd noed Siambarlen i deimlo fod y Dafydd ifanc o Gymro'n debig i'r Dafydd ifanc o Hebrewr gynt-yn ddigon dewr i ymosod yn effeith- iol ar gawr. A mwy na hynnu, syr, roedd y Dafydd Gymro'n gallu eyfarfo (I A'i Oleiath, ag ymladd ag o ag arfau fel i rai o i hun- mynd o hyd braich a chledda iddo fo, a rhoi iddo drawiad am drawiad, archoll am archoll -a mwy.! A'r ffaith ydi fod Lloyd George wedi mynd i'r peth ma nhw'n i alw'n Gabinet am fod y Llywodraeth yn gweld fod yn rhaid rhoi lie i hwn, beth bynnag. A meddyliwch am i hanes o o hynnu mlaen Taid annwl, ma o'n darllan.fel arwrgerdd, chwadal y beirdd. Os gorchestion arwrol sy eisio i neud arwr- gerdd, mi deimla dyn y basa dim ond canu hanes llythrennol Lloyd George yn ddigon i I neud un. Ma hanes am Samson yn codi pyrth y ddinas ar i sgwydda, ac yn mynd a nhw i ffwrdd. Nid rw ch wara gwirion felly efo'i nerth nath y Samson o Gricieth, ond mi osododd i sgwydda dan bob swydd f yr aeth o iddi hi, ac mi gododd i safon hi'n uweh nag yrioed o'r blaen, ac roedd o'n torehi i lewis i neud gwaith oedd wedi'i sgluso gin bawb arall fu o'i flaen o. Cato ni, mi nath gyfnewidiadau yn y wlad yma Tasa chi ddim ond yn meddwl am y pen- I siwn i hen bobol, yr insiwrin etc. Wel, fol roeddwn i'n deud, diwiriwr ydi o, a chin wired ag iddo fynd ymiaen e fo'r gwaith o | ddiwigio mi gafodd i hun yng nghanol rowiau diderfyn, a mwy nag unwath bron colli i fywyd. Ond waeth i chi un gair mwy na chant, fedra -neb gadw'r Cymro dewr yma i lawr. Fasa waeth gaby allan fyddin o I sowldiwrs i geisio stopio corwynt. Efo'r duwciaid y buo fo'n feiddgar ofnadwy. Mi gwelis i o'n cau i ddau ddwrn yng ngwymad I y duwc—hynnu ydi, wrth son amdano fo miawn araeth leesiwn. Roedd hynnu'n beth newydd i ni ffordd yma, achos fydda ni byth yn son am ddyn felly ond fel "tduwc annwl. Beth bynnag, yn deud roeddwn i fod Lloyd George wedi bod drwy'i fywyd yn y Senedd miawn terfysgoedd diriwl byth a hefyd, a hynnu am i fod o'n mynnu diwigio'r hen wlad ryfedd yma. Ond fu fo rioed miawn row mor ddychrynllyd a'r un sy'n Ewrop ers mis Awst 1914-y fo na neb arall ehwaith. A be fasa wedi dwad o'r wlad yma yn yr helynt dwaetha onibae am Lloyd George ? Mi ddigwyddodd gwyrth, yn reit siwr i chi. Dyma'r dyn yr oedd Toriaid, a phobol fawr y wlad yn gyffredinol, yn melltithio'i enw fo, ac yn barod i saethu o,—ma hwnnw'n eilun gynnyn nhw heiddiw, ac mi fasan yn gneud Duwc Annwl ohono fo fory nesa. Dyma n'n dwad yn ol at y pwyn(' eto.- Mae Lloyd George yn Brifwnidog y wlad hon. Ffaith ydi ffaith. a fedar yr holl fyd byth miawn amsar na thragwyddoldab, bygwni, ddiddymu'r ffaith fod Lloyd George wedi i neud yn Brifwnidog yn Senedd Lloigar. Wel, beth am hynnu ? Yn teimlo rydw i fod Lloyd George, wrth godi i dop y Senedd, wedi gneud hynnu mor nerthol nes tynnu gwerin Cymru i gid i ryw osgo codi ar i ol o. Dyna un gwerth sy miawn i ddynion niawr ac enwog godi o wledydd, sef gneud i'r bobol o'i cwmpas nhw drychyd i fynu hefyd, a theimlo bod i heneidia nhw'n dechra, magu esgyll, fel tasa. Mi glwis i rai'n deud, flynyddoedd yn ol, pan naed Tom Ellis yn Chwip, ma nid y fo oedd y Cymro cynta i fod miawn swydd yn y Llywodraeth—fod amriw wedi bodein hynnu, o dro i dro. O'r gora ond mi nath Tom Ellis a Lloyd George rw gamp na nath neb o'i blaen nhw. Pob parch i Osborne Morgan ac Arglwydd Tredegar dynion rhagorol oeddan nhw, a da y gwaith naethon nhw. Ond, wedi'r cwbwl, doedd y rheini ddim yn perthyn i'r un dosbarth a Tom a Dafydd. ae roedd i ffordd nhw i'r Llywodraeth yn fyrrach a rhwyddach. Y peth gogoneddus yn Tom Ellis oedd iddo fo fedru swabio, fel tasa, chwip ffarmwr cyffredin am Chwip y Llywodraeth yn y Senedd, ac agor llwybyr o yffiyl Llofft y Stabal i ymyl y Cyfrin Gyngor. Nid o'r fan yma y cychwynnodd Osborne a Thredegar, ond o ddosbarth oedd yn byw yn Ilawar iawn gosach i'r Senedd, ac yn llawar iawn pellach o'r hen Lofft yma. A Lloyd George Diaist inna hefyd, mae o wedi gneud hi, tuhwnt i bawb a phob peth Ac rydw i'n dal i ddeud, yn reit stowt, y dylai pob sowl o werin y deyrna,s hon, ac yn enwedig gwerin Cymru, luchio'r het ora sy gynnyn nhw i'r awyr, a gweiddi nes bo'r Wyddfa, a Chadar Idris, a Phlimlimon, a Banna Brycheiniog, a'r wlad i gid yn dis- pedain, "Dafydd am byth Fedra i'n y myw beidio meddwl am dano fo ond fel un ohonom ni, y bobol gyffredin, a'i gartra cynta fo tan unto a Llofft y Stabal. Ac un bluan yn igap o ydi bod o'i hun yn cydna- bod hynnu, a'i fod o wedi dal pob llwyddiant gafodd o heb altro dim yn i naturioldeb. Rydw i, yn y nydd, wedi gweld rhai dynion yn meddwi ar chydig bach o ddyrchafiad, —dim ond i codi nhw i sedd ar y Cyngor Plwy ne'r Cyngor Sir. Yn boeth y bo'r tacla penwan, ebra fi. Druan ohonyn nhw yn ymyl Lloyd George Mae o wedi profi fod yn bosib i fachgian cyffredin i amgylch iada ddringo cin uched a bod yn Brifwnidog Lloigar. Mi fuo'r Toriaid gynt yn edlito iddo ma rhw gyfreithiwr bach o Gymro o'r wlad oedd Ond yn dangos i gwiriondab i hun yr oeddan nhw wrth neud Ilyiinu, fel y ma nhw'n barod i gydnabod heiddiw. Ond mi glywis y dwrnod o'r blaen fod y Germaniaid yn edliw hynnu iddo fo rwan. Wel, yr hyn sy'n destun i ffyliaid i ddylorni o, dyna sy'n gneud i mi-a phob dyn call arall-roi mwya o glod iddo fo. Dydi edliw peth feI hyn ddim ond dangos yn gliriach yr anawstera oedd ar ffordd Lloyd George, i'w swydd. Mi nath y giwed a edliwient beth felly i gora'n i erbyn o, am i bod nhw,,4 anfodlon i'r werin godi i awdurdod yn y tir. Ond mi fethwyd i gadw fo'n ol. Fel tasa chi'n meddwl am eryr yn codi o'i nyth, ac yn ymsaethu trwy gwmwl i wymad haul, "felly y sgynnodd Lloyd George trwy ganol gwrthwynebiada i ddisgleirdab safle'r Prifwyii,dog. Ac fel gwerinwr a gwas ffarm, rydw i'n falch fod un ohonon ni wedi codi i'r entrych fel hyn, ac agor llwybyr, na fedar neb i gau o eto, i f o c hv, fechgyn y gwaelodion fynd i fynu ar i ol o, —os bydd y gallu a'r plwc ynyn nhwtha. Ond mae gin Lloyd George job ofnadwy ar i law y tro yma, oes yn sicir i chi. Wel, rhowch- bob help iddo fo, ebra fi. Mae'n amlwg i fod o am blygu i holl nerthoedd i un peth ar hyn o bryd, se f i ddal y Caisar. Rhwydd. hynt iddo fo. Mae rhai'n dechra dyfalu beth wna fo ar ol y rhyfel, ac yn awgrymn y gall o droi'n Dori. Cauwch ych penna, da chi, a pheidiwcn a siarad lol. Mae'r Cymro anfarwol o Gricieth wedi gneud digon yn y gorffennol i beri i mi gredu nad eiff o byth yn wrthnebwr i'r gweithiwrs gael i hawlia teg, Ac yn wir i chi, rydw i'n dychmyoju gweld yr hen Lofft Stabal ma'n cael i diwigio cin bo hir bellac h. I HEN WAS, I

! SOL. HICOTtTREF.