Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
|o 1 <* "■ 1 RED Inf| J LETTE L DRY I jd ==: l9Tr == I 1 monoAy I monDA)' m )! FeBRUARy J ? m .t2 R eAZ, SA e S<?? Q? ftye *1 j jjj j,1???0lH?&6?L? 6(b? « J 9TO t9 SOLD 6T LIVERPOOL [ l°j o (j L £ |
Iffetan y Gol.
Iffetan y Gol. Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetati mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- Nithio'r UAU A Nythu'b GWIR. Praffwydoliaeth y Mynach am I gwymp yr Anghrist. gymt,-Wele gopi o brofbrydoliaoth y Mynach Johannes, a ysgrifennwyd ganddo mewn Lladin yn y fl. 1600. Cyfieithwyd hi'n gynnar iawn i'r Ffrangeg. Ni wn a gy- hoeddwyd hi yn y wlad hon, ond yr wyf yn dra sicr na chyhoeddwyd mohoni o gwbl yn Gymraeg. Cymerwyd gofal gyda'r cyf- ieithu ac os oes bai, dichon mae rhy lyth- rennol ydyw. Cefais yr ysgrif yn fuan wedi dechreu y rhyfel, ond ni thybiais yn burion ei hanfon i'r wasg ond wrth weled tobyg- olrwydd cyflawni llawer adran, ystyriaf y bydd yn ddiddorol i'w darllen petae ddim ond o chwilfrydedd. Cynhwysa'r ysgrif yn y Ffrangeg yr eglurhad a ganlyn :— Cynrychiolir Ffrainc yn ffigyrol gan y. Ceil- iog Prydain gan y LJewpard Rwsia gan yr Eryr gwyn jGermani ac Awstria gan yr Eryr du a'r Eryr Arall. Manceinion. H. E. ROBERTS. 1. Tybiwyd yr adnabuwyd ef lawer gwaith, oherwydd maeholl leiddiaid yr Oen yn ymdebygu i'w gilydd, a phob drwg. weithredwr yn rhagredegydd i'r Drwgweith. redwr mawr. 2. Byddy gwir Anghrist yn un o deyrn ei gyfnod, yn fab Luther; efe a erfyn ar Dduw, gan alw ei hun Fi gannad. 3. Tywysog y celwydd a dwng i'r Ys- grythyr, a dywed am dano'i hun mai braich yr Hollalluog yw, yn cosbi y rhai llygredig. 4. Ni fydd ganddo ond un fraich, ond bydd ei aneirif fyddinoedd megis llengoedd ufiernoV a'u harwyddair fydd Duw gyda ni. 5. Gweithreda am amser trwy dwyll a theyrn-fradwriaeth, lledaena ei ysbiwyr tros yr holl ddaear, ao efe a fydd/ feist r cyfrin- achau y rhai sydd mewn gallu. 6. Caiff ddiwinyddion i'w wasanaethu, i sicrhau a phrofi ei genhadaeth nefol. 7. Cynysgaeddir ef ag achos i godi'r gorchudd trwy ryfel. Nid rhyfel yn erbyn teym Ffrengig fydd ond arall a adnabydd- i* yn hawdd yn y flaith yr aiff y rhyfel yn un gyffredinol mewn dwy wythnos. 8. Geilw dan arfau yr holl Gristnogion, m'p holl Fohametaniaid, ac hyd yn oed bobloedd o beUter maith. Ffurfir byddin- oedd o bedwar ban y byd. 9. Agorir meddyliau dynion gan ang ylion, ao yn y drydedd wythnos o ryfel deellir mai hwn yw'r Anghrist, a daw dynion yn gaeth- weision oni fethrir i lawr y gorchfygwr hwn. 10. Adnabyddir yr Anghrist wrth amryw nodau, efe a lofruddia offeiriaid, myneich, gwragedd, a phlant. Ni ddengys drugaredd, efe a a ymla'en gyda fflamdorch megis yr anwariaid, gan honni enw y Crist. 11. Ei eiriau gau a fyd gyffelyb i eiddo y Cristionogion, ond ei weithredoedd a fydd fel gweithredoedd Nero a'r poenydwyr Rhufeinig. Bydd ganddo'r eryr yn arwydd- nod, ac hefyd gan ei gydweithredwr, y teyrn anfad arall. I 12. Hwnnw a fydd Gristion, ac a fydd farw dan felltith y Pab Benedictus, a etholir yn nechreu teymasiad yr Anghrist. 13. Ni fydd mwyach offeiriaid a myneich yng nghyffes a maddeuant yr ymladdwyr, oherwydd am y tro cyntaf erioed brwydra offeiriaid a myneich ymhlith dinaswyr ereill ao hefyd oherwydd melltith y Pab Benedic- tus ar yr Anghrist, a chyhoeddir fod yr hwn a ryfela yn ei erbyn mewn cyflwr o ras, ac os byddant feirw, hwy a ant megis ymerthyron ar union i'r nefoedd. 14. Bydd i esgymundod gan y Pab wrth hysbysu beri syndod mawr, ac achosa farw- olaeth y teym sydd mewn cyngrair a'r Anghrist. 18. Mewn trefn i orchfygu'r 'Anghrist, ritsia Uadd mwy e "tr sag a fa erieeA ya ninas Rhufain. Rhaid wrth ymdrech pob -gwlad, am na all y ceiliog, y llewpard, a'r eryr gwyn ddim gorchfygu yr eryr du yn eu nerth eu hunain oni chant eu cynorthwyo a gweddiau'r hil ddynol. 16. Ni fu dynoliaeth o'r blaen yn y fath gyni, oblegid byddai buddugoliaeth yr Anghrist yn fuddugoliaeth i'r diafol, yn yr hwn y mae wedi ymgorffori. 17. Mynegwyd yn flaenorol mai mewn ugain canrif ar ol yr Ymgnawdoliad yn y byd y byddai y Bwystfil yn ymgnawdoli, gan fygwth y ddaear a llawer o ddrygioni, megis y dug yr Ymgnawdoliad Dwyfol raSuSau. 18. Oddeutu y fl. 2000 yr ymddengys yr Anghrist, bydd rhifedi ei fyddinoedd y tu-, hwnt i amgyffred neb, a bydd Cristnogion ymhlith ei luoedd; ac hefyd bydd ymhlith amddiffynwyr yr Oen Fahometaniaid a llwythau anwar. 19. Am y tro cyntaf bydd y Lampau'n gwbl gcch; ac ni fydd unman yn y byd Cristnogol heb ei gochni; a dylifa gwaed ym mhedair elfen natur ar unwaith. 20. Ymdeifl yr Eryr du ei hun ar y Ceiliog, yr hwn a gyll lawer o'i blu ond efe a dery yn nerthol a'i ysbardynau, a buan y difodid ef onibai am gynhorthwy y llewpard a'i ewinedd. 21. Yr Eryr du, a ddaw o dir Luther, a ddychryn y Ceiliog mewn man arall ac efe a oresgyn hanner gwlad y Ceilicg. 22. Yr Eryr gwyn, a ddaw o'r gogledd, a ddychryn yr Eryr du a'r Eryr arall ac a gyflawn oresgyn dir yr Anghrist o un pen i'r Hall. 23. Gorfodir yr Eryr du i adael yr Eryr gwyn i ymladd y Ceiliog, a'r Ceiliog a ym- lid yr Eryr du i dir yr Anghrist gan gynorth wyo'r Eryr gwyn. 24. Ni fydd y brwydrau a ymladdwyd yn ddim o'u cymharu a'r rhai a ymleddir yn nhir Luther. Oherwydd yr un pryd tywallta y Saith Angel dan o'u llosgfeydd ar dir yr Annuw, yrhyna olyga y bydd yr Oen yn trefnu difodiad hil yr Anghrist. 25. Pan wdl y Bwystfil ei fod yn colli aiff yn llidiog ac am fisoedd rhaid i big yr Eryr, ac ewinedd y Llewpard, ac ysbardynau y Ceiliog ei boeni. 26. Croesir afonydd ar rydiau o gyrff, y rhai mewn mannau a newidia gwrs ydyfroedd. Ni chleddir cyrff neb ond yr uchafiaid, a'r swyddogion blaenaf, a'rtywysogion oblegid y gelanedd a achosir gan arfau tan, a ych- wanegir gan garneddau y rhai a drengant trwy haint a newyn. 27. Erfynia'r Anghrist amryw weithiau am Heddwch ond y Saith Angel a flaenora y tri Anifail, a ddywedodd na fydd buddug- oliaeth ond ar y telerau y bydd yr Anghrist yn cael ei fathru fel gwellt y llawrdyrnu. 28. Ni all y tri Anifail sy'n ymddiriedol- wyr cyfiawnder yr Oen atal yr ymladd tra saif dim ond un milwr ar 'du'r Anghrist. Yr aclios fod dedfryd yr Oen mor anliyblyg ydyw fod yr Anghrist yn honni ei fod yn Gristion, ac yn gweithredu yn enw Crist; am hynny oni threnga, collir fErwyth y Prynedigaeth, ac ymgryfha pyrth Uffern yn erbyn y Gwaredwr. 30. Gwelir mai nid ymgyrch ddynol a fydd yn erbyn yr Anghrist a'i arfau. Y tri Anifail, amddiffynwyr yr Oen a ddinystriant fyddin olaf yr Anghrist, a daw maes y rhyfel yn allor aberth mwy na'r ddinas fwyaf, a chyfnewidir ei fiurf gan y cyrff ymchwydd- edig. 31. Cyll yr Anghrist ei goron, a bydd farw, yn unig, ac yn wallgof ei Ymherodraeth a rennir i ddwy ar hugain o Daleithiau, ond ni chaifi yr un ohonynt balas brenhinol, na byddin, na llongau. 32. Yr Eryr gwyn, trwy orchymyn Mich- ael, a ymlid yr Hannergylch o Ewrop lIe na erys ond Cristnogion yn unig. Efe a fedd- ianna Gonstantinopl. 33. Yna y dechreua cyfnod o Heddwch a Llwyddiant i'n holl Gyfundrefn ac ni bydd Rhyfel mwy. Llywodraethir pob cenedl yn ol eu hewyllys, a byddant byw mewn cyf- iawnder. 34. Ni bydd Lutheriaid na Sismaticiaid mwyach. Yr Oen a deymasa, a dechreuir Uawenydd y ddynolryw. Gwyn fyd y rhai a, ddione oddiwrth beryglon ycyfno dofnadwy, ac a brofant ei ffrwy,th sef teyrnasiad yr I Ysbryd Tragwyddol. Ni chyrhaeddir sanc- teiddhad y ddynoliaeth ond yn unig trwy orchfygu'r Anghrist.  ;sr ?. u s.?.? ?a-.  M aat??BE?..————  ;¿. œ Ochijam Gymru^ariGrasdiPiAffrica- I SYR,Yehy(lig amser yn ol, a mi yn y Swyddfa Filwrol, yr awyrgylch fel pe'n arogli o filitariaeth, yr hin yn boeth, y Negroaid oddiallan yn creu swn ansoniarus wrth weithio, ac ambell Hindw neu Arab yn cerdded heibio yn ei ddull distaw ei hun, daeth rhywun i mewn yn dwyn ar ei gefn ffet- an lwythog, ac yn ebrwydd anghofiais innau bawb a-phopeth oddieithr y gwr hwn a'r hyn oedd ganddo. Nid myfi yn unig oedd wedi sylwi arno, oblegid cyn pen ychydig iawn yr oedd y son wedi mynd ar led fod yna lythyrau wedi dyfod i fyny, ac wele y naill ar ol y llall yn chwilio esgus i ddyfod am dro ;i'r swyddfa er cael cyfle i ofyn i tf-r y ffetan-" A wyt wedi dod ar draws fy enw i yn rhywle ?" Yna deuai golwg foddhaus ar yr wynob fel un yn gweled ymyl arian y cwmwl tywyll yn dod i'r golwg am dro pan glywid yr ateb-" Oes, y mae yma rai i ti." Chwychwi sy'n ysgrifennu ambell lythyr i'r milwyr mewn gwahanol feysydd rhyfel, gresyn na ddeuai i'ch rhan i gael gweled yr olwg yna yn llewychu'r wyneb am un ennyd fach. Yr oedd cyfaill caredig wedi cofio am danaf innau ac wedi anfon imi gopi o'r Brython..Brysiais i rwygo'r papur oedd wedi ei rwymo oddeutu iddo, agorais y rhifyn, ac edrychais yn reddfol am yr head- line sydd i'w chael ymhob papur ymron yn y dyddiau yma yn rhoi ar ddeall i'r darllenydd fod tipyn o hanes y Rhyfel ar y tudalen. "Dacw ef," meddwn i, gan weled llyth- rennau breision- ar draws yr wyneb- ddalen. Ail-edrychais, rhwbiais fy llygaid. ac agorais hwynt led y pen. oblegid nid oedd yno air am yr hen Ryfel, eithr mewn Cym- raeg glan, gloew darllenais Hanes Eistedd- fod Aberystwyth," a bu ymron imi dorri cysegredig ddistawrwydd swyctdfa filwrol trwy weiddi allan—" Oes y byd i'r iaith Gymraeg!" Cefais ras i ddal heb wneyd felly, a da Wynny, oblegid y mae gan swyddfa, filwrol ddull hynod effeithiol o roi atalfa, ar dueddiadau byrbwyll fel yna ond pan ddaeth cyfle ciliais i fy mhabell wrt-Ji y mftr ac yno anghofiais am y Negroaid, yr Indiaid a'r Rhyfel yn Bn englynion y beirdd. araith Lloyd George, a su y dorf enfawr a ddaeth ynghyd yn Aberystwyth i ganu lien donau annwyl Cymru. Yr oeddwn wedi gwneyd cynnyg at gyfansoddi pennill neu ddau gan geisio rhoi allan rhai o deimladau llanc o Gymro," ymhell o'i fro ac ar ol derbyn y rhifyn hwn o'r Brython brysiais i'vv gorffen Awen Fwyn, os draw yng Nghymni Mae dy gartref di. A yw'n rhyfyg gofyn iti Groesi trothwy'th dy 1-- Gadael cartref glan gynghanedd. Gwlad,yr hen eisteddfod ryfedd, Ac i'newydd fyd Lie mae llanc o Gymro'n gorwedd Dan y palmwydd clyd ? Porffor ydyw haul yr Affrig Heno'n mynd i lawr, Hyfryd ydyw'r peraroglau Dan y coedydd mawr Minnau'n ddistaw yn hiraethu Am gael bod yn swn y Teifi Ar ei ffordd i'r mdr Rhai o adar mwynaf Cymru Unant yn y c6r, 0 mor brydferth ydyw'r tonnau'n Torri ar y traeth, Glas y m6r a hud y dwyrain Geisia'm dal yn gaeth Ond mi welaf mewn breuddwydion Dreflan wen yng Ngheredigion Yn y dyffryn cu Troediaf gyda fy ngliyfeillion Ei heolydd hi. Ti, 0 F6r, a'th don aflonydd, Bang iawn wyt ti. Tyr ar draethau gwlad fy mreuddwyd, Er fy mod yng nghartref swynion, Palmwydd clyd ac adar tlysion, Gwlad o gyfoeth eudd- Holl drysorau goreu'm calon Ddaw o Gymru rydd. Yr eiddoch yn gywir, v w (Pte.) R. IDWAL M. JONES. Army Ordnance Corps. British East African Expeditionary Force, 30. 11. 16. TystebfPedrog. I SYR,—Caniatewch inni air neu ddau yng nglýn a'r uchod. Y mae y mudiad hwn wedi bodgerbron y wladbellach am rai wythnosau, ac wedi cael cefnogaeth bur gyffredinol. Y mae eisoes £360 wedi eu haddo. Gwyddol-n fod llawer o gyfeillion yn bwriadu cyfrannu ond yn oedi anfon, ac fod amryw gyfeillion wrth y gwaith yn casglu. Bwriedir cau y drysorfa y dydd cyntaf o Fawrth, ac felly dymunwn i bawb a fwriada gyfrannu wneud hynny ar unwaith. Bydd yn dda gan liaws cyfeillion y Prif-fardd ddeall ei fod yn gwella'n rhagorol, ac wedi ail ymaflyd yn ei waith.—Yr eiddoch yn gywir, O. L. ROBERTS.> R. VAUGHAN JONES. Ysgrifenyddion. i
Advertising
BARGAINS.-Underwoods, Remingtons. JL) Yosts, Smith-Premier, Barlocks, Em pires, Olivers,Blieks, RoyarStandards, from jl3 new condition, See the REX JB23 worth for 12 guineas.—LONGMORE, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Coronf Portable Typewriter. ° Bootle Auction Itoome; 76 & 78 STANLEY RD.. BOOTLE, W. H. Butterfield <8! Cc, holds Weekly Sale at their Rooms every Friday Evening, 7 p.m. Furniture and Stocks of every kin for prompt eash. j Talapticma 1290 Booilo.
Clep y Clawdd |
Clep y Clawdd | t, I sef Clawdd Orfa, I [Gan YR HUTYN ] Yr Archolledig.—Arllwysir yr archolledig ar faes y gwaed i'r gwahanol drefydd o wythnos i wythnos, fel mai ysbyty rhyfel mewn gwirionedd yw pob tref o unrhyw faint trwy Brydain i gyd. Nid yw Cymru yn ol yn ei rhan yn hyn, na'r Clawdd o un rhyw ran ohoni. Yr wythnos ddiweddaf, daeth tros gant o filwyr clwyfedig iWrecsam, a gwneir pob darpariaeth angenrheidiol ar eu cyfer. Ni fu erioed gymaint o ddieithr- iaid yn y dref ag yn awr. Mae'r Baracs a'r ysbytai yn tynnu pobl o bob ewr. Rhedeg am Fywyd.-Nid yn anfynych y gwelir haid o ricriwts yn rhedeg nerth eu carnau trwy'r dref,-sef tref Gwraig Sam, gan ei heglu hi tua'r orsaf, ac oddiyno am gartref. Holir yn ami gan yr anwybodus beth sy'n bod. Yr esboniad yw, mai bech- gyn newydd eu galw i fyny ydynt ac wedi bod dan fawd y meddygon. Da ganddynt wynebu tua, chartref gyntaf y medrant. Tynnant gryn lawer o sylw pobl y dref. Buchfrechu Moch.—Cwynir yn arw gan amaethwyr Y Clawdd oherwydd buchfrechu moch gan y Llywodraeth a hynny'n troi allan yn niweidiol ac angeuol iddynt, Cyfyd y Gadareniaid eu llais yn groch yn erbyn y golled. Disgynnodd colled echryd- us i ran un amaethwr, a hwnnw'n Ynad Heddwch gyda hynny. Galw am Dai.—Cwynir nad oes digon o dai ar Y Clawdd yma. Gofynnir am ganoedd yn ychwaneg. Daw'r galw pan y mae adeiladwyr yn brinion a'r deunydd yn ache ei bris.—Arwydd yw hyn, hwyrach, y bydd llawer mwy o adeiladu ar ol y rhyfel na ehyn hynny. Daw felly amsergwell, ond yr angen mwyaf sydd am well math o dai- rhai symlach a mwy defnyddiol. Nid yw hanner y tai sydd yn awr o fawr ddeunydd, os dim, i'r gweithwyr sy'n lletyja ynddynt. Os adeiladu tai adeilader rhai pwrpasol. Daw lies o hynny. Galw am Foch.-Dawr mochyn yn ei ol os a'r eeffyl aUan. Y cyngormwyaf cyffreclin i drigolion Y Clawdd y dyddiau hyn yw; Cedwch foeh." Bydd eu hang en or ennill y rhyfel. Wedi ricriwtio y dynion, rhaid yn awr ricriwtio'r moch. Caed Arglwydd Derby i wneud y blaenaf, rhaid cael Arglwydd Gadara at yr olaf. Pwy yw ? Dylifo i metcn.—Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio daeth cymaint arall i fewn. i'r byd hwn ar draeth Y Clawdd yma ag a aeth allan ohono i'r byd arall. Ganwyd dau am bob un a fu farw. Ryfedd felly fod angen ychwaneg o dai ac o foch—bydd eisiau yehwaneg o wartheg hefyd, a llefrith a ffug-dethi (tits). t?Amer,ig%yn y Miri.Troir llygad eto y dyddiau hyn i'r Amerig. Buwyd yn dis- gwyl ynfeiddgar wrthi ers trc i wneud ei rhan yn ddewr a dynol yn yr ymgyreh liw» dros y gwan yn ei waed, ond yn ofer y bu pob disgwyliad. Gwell ganddi oedd aros yn "uiwtral." I Ond y math yma, o neutrality fydd ei gwarthrudd. Gwelir y bydd raid i'r Amerig ddod allan yn awr, neu golli ei lie a'i pharch ymhlith y teyrnasoedd am byth. Bydd hanes y rhyfel mawr hwn, pan ysgrifennir ef, yn llewychu'n anffafriol ar y cyfandir amhleidgar ac anwrol hwn. Y Prif yn Arfon.—Diwrnod mawr yn nhref Caernarfon ac yn Arfon drwyddi a Chymru i gyd o ran hynny, oedd dydd, Sadwrn. Y Prif Weinidog, a hwnnw'n Gymro, am y tro cyntaf yn rhoi annerch fel y Prif i'w gydwladwyr. Mae'r Clawdd yn glep i gyd ar gyfrif y peth. Disgwylir mae araith uniaith fydd drwyddi, sef yn hen iaith y Brython. Faint i ftvyta.-Ryfedd fod rhaid dweyd wrth ddynion pa faint neu pa cyn lleied i'w fwyta. Ond felly* y rhaid y dyddiau hyn. 'Does ddadl amdani nad ydys yn bwyta llawer gormod er ein lies. Dylid gwneud rheol nad oes i fod fwy na thri phryd yn y dydd yn awr. Hefyd dywed y Llywodraeth nad oes neb i gael mwy na phedwar pwys o fara y pen yn wythnosol. A pha angen y sydd am gigoedd? Byddis yn well hebddynt, Y cigfwytawyr yW'r yfwyr mwyaf, meddir. Hwyrach y dysg y rhyfel hwn ni sut a pha faint i'w fwyta. Dywedwch wrth y Kaiser beth ar y gloch yw. —Cyn dychwelyd yn ol i wynebu'r Ellmyn megis y bu am fisoedd lawer, cymerodd eigydweithwyryng ngwaith dur Brymbo gyfle i roddi anrheg o oriawr i'r Pte. Ernest Jones, Highfield, Broughton. Gwr ieuanc a ennill serch pawb a ddaw i gyffyrddiad ag ef yw Ernest, ac yn fachgen crefyddol hefyd i'r earn, ac o deulu cyffelyb. Dymunwyd yn dda iddo gan ei gydweithwyr a gollyng- wyd ef, gan hiraethu am ei ddychweliad diogel. Cymru uchel ei moes.-Rhoed gair uchel i foes Cymry'r Gogledd gan yr Ynad Atkin ym Mrawdlys yr Wyddgrug ddydd Sadwrn diweddaf. Nid yw Cymru yn ddidrosedd fel y mae'r gwaethaf, ond rhagora mewn moesau ar unrhyw wlad arall bron. A hyn yw tystiolaeth pob brawdlys a Barnwr diragfam, boed Sais boed Wyddel. Eto i gyd, pardduir Cymru gan wehilion brwnt o flwyddyn i flwyddyn. Daw Cymru eto'n lanach fyth, yn neilltuol felly wedi cloi drws y dafarn. Troseddau Milwyr.—Gwelir fod nifer tros- eddau y'milwyr clychweledig yn cynhyddu'n gyflym. Beth yw y rheswm am hyn ? Beth a fedrir ei wneud i'w atal ? Gwelir oddiwrth hyn ddylanwad andwyol rhyfel ar foesau y i beehgyn ofnir fod amser garw o'n blaen pan a'r rhyfel heibio. Yn Eisiau-Dwy fil o Wei,)tidogion. Geilw y Y.M.C.A.am ddwy fil o weinidogion yr Efengyl i'w chynorthwyo. Gwna y Gymdeithas hon waith da dros ben. Can- molir hi gan y milwyr oil. Ar yr un pryd camsyniad yw anfon allan weinidogion efengyl ag y mae cymaint o'u hangn.garref ar hyn o bryd; Fe wna y gweinidogion hyn fwy lawer o les gwiripneddol ymhlith eu praidd. Gellir cael ereill na allant ymladd i wneud y gwaith hwn. Mae -rweinido-uon yn amharu eu waith eartref mewn ffordd anadferadwy drwy ei adael ar hyn o bryd. Gartref y mae gwneud gwaith-cofier hynny. Y Rhos o ddifrif.-Mae y gwaith dirwestol wedi ei ail gychwyn o ddifrif yn y Rhos y flwyddyn newydd hon, ymhlith y plant a'r bobl. Mae'r Bands of Hope mewn llawn gwaith, ynghyda Chymdeitbas y Merched. Penderfynner cael do ar ddrws y dafarn ac os oes mwy o angen am hyn mewn lleoedd na'i giJydd yRhos a Gwrecsam yw'r mannau hynny. Y Nietzche Ba,rnol.-Bu'r Athro J. Young Ifans, M.A., B.D., yn awr o'r Bala, ar Y Clawdd yr wythnos ddiweddaf yn darlithio ar Athroniaeth yr Hen Nic. Q-çVf llygad- graff a thyn ei fawd yw'r Athro. Adnebydd ef yr Ellmyniaid hyn yn ddiwyro, a neb gwell nag efe. Caed hwyl 'rwy'n siwr! -0-
Basgedaid o'r Wlad.
Basgedaid o'r Wlad. 0']] HFN SIB, SEF SIR PON.- Fiermwr nn marchnad Llangefni y dydd o'r blaen yn gomedd gwerthu sachaid o datws dan ddau swllt ar hugain. Y fach grocbris a gwrthuni Mewn adeg y dangobir y fath aberth gan rai dangosir hunan" ofnadwy gan eraill. Beth bynnag gwrthodwyd eu prynnu. Nos Sadwrn, a hi dywylied a'r fagddu, aeth agerlestro'r enw Pansy (o Lerpwl am Lundain] ar y graig yn bull bay. Yn y tywyllwch, carngymerodd oleu Pwynt, Lynas am 'oleu'r Skerries. Galwyd bad y bywyd allan, ac achubwyd y cwbl o'r dwylo-tri ar ddeg. Profiadchwerwgafoddy Pte. E. H. Roberts, R.W.F., mab y Rhingyll Roberts, swyddfa'r Cwnstabl, Beaumaris, oedd ar yr Ivernia, a suddwydgan ygelyn. Achubwyd ei fywyd ef ac eraiU oedd ami, ond collasant bopeth ond bywyd. Ar ddydd Hun a dydd Mawrth, dathlodd eglwys Horeb (B.), Llanddeusant, ganmlwydd yr achos, a chaed ewrdd rhagorol a phregethau gwych, gan y Proff. Evans a'r Parchn. T. Shankland, Ban- gor, a T. Frimstone, Colwyn. Y berth yn dal i losgi yno, er pob eyfnewidiad. Gtvr da a brawd rhagorol a phregethwr wrth fodd ei enwad yw'r Parc.h W. Mostyn Jones (B.), Rhos y bol, a gafodd alwad daer o Ros- hirwain, Lleyn, yn ddiweddar. Ond oinwn nad yw am newid ei Ros ym M6n am y Rhos yn Arfon. Dro yn ol, cafodd alwad o Lanlai Caereinion, ond gomeddodd fudo'r pryd hwnnw. Dyna hen fam na chlywsom am ei rhagorach oedd Mrs. Grace Hughes, Bryn Gofal, Llangristiolus, a fu farw nos Sadwrn. Gadawyd hi'n weddw gyda thyaid o blant. Yn ei gofal amdanynt, arddangosodd arwr- iaeth ddiangof, a liafuriodd yn gaied iawn. Meddylier amdani, yn ddeuddeg a thrigain oed, yn cychwyn o'i thý bump ar gloch y bore am farchnad Llangefni, dan ei baich trwm, drwy wynt a rhew ac eira, a hynny pan oedd baich trymach oddifewn iddi—yn gwasgu bywyd all&T,y cansar. Ardderchog fam -Dan amgylehiadau nodedig o hapus af addawol y dechry'r Parch. G. Mon Hughes, ar ei weinidogaeth ym Maldwyn draw. Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Maengwynedd Fe'i hordeinir yn gynnar yn y flwyddyn new- ydd. Ryw wyth mlynedd yn ol, aeth i Birkenhead i weithio fel saer, o ardal Llan- fechell. Adwaenem ef yn dda, fel bachgen llathr ac adroddwr gwych. Efe'n fab ieu- engaf Mr. a Mrs. John Hughes, Meadow View. Ymaolododd yn eglwys y cyfaill sy mor boblogaidd ar lannau'r Mersey, y Parch. G. J. Williams, Birkenhead. Codwyd ef ihregethu yno, ac ar ol bod am gwrs o addysg yn Ysgol Ramadeg Caergybi, hen Goleg Caerfyrddin, a Manchester, derbyniodd alwad o Lanrhaeadr. Cafwyd oedfa ragorol ym Maengwynedd nos lau, pan bregethai ei weinidog, y Parch. G. J. Williams. Efe hefyd a bregethai'r siars i'r gweinidog ieuanc yn Llanrhaeadr a'r.hwyr deehreuwyd yr qedfa gan y Parch. G. J. Williams, a phregethwyd siars i'r eglwys gan y Parch. Well Jones, Croesoswallt. Llywydd- wyd y cwrdd ordeinio gan hen weinidog yr eglwys, y Parch. R. Deiniol Jones. Holwyd y cwestiynau gan y Parch. T. Wynne Will- iams, Pen y bont fawr, ao atebwyd hwy'n gynhwysfawr. Wedyn cafwyd gair croesawol cynncsgan y Parchn. H. G. Roberts (M.C.) ac E. Tegla Davies (W.). Ar ran eglwys Vittoria Street, cyflwynodd ei weinidog oddeutu deu- gain o gyfrolau prisfawr iddo. A dyna borfa fras, ar ddechreu ei weinidogaeth. Cadwodd bapur ei aelodaeth yno i'r diwedd. Cafwyd cyrcldau wrth fodd pawb. Creclwn fod rhag- olygon disglair i'r bugail newydd, a boed iddo hirddycld teg. Anghofiasom grybwyll i'r Parch. J. H. Richards, Llangollen, bregethu yno.—Llygad Agored. O R HEN SIR-SVI F SIR; FON.- Ymdaenodd fcraw a /thristyd mawr dros Rosneigr a'r cylch bore dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, pan dorrodd y rhew ar lyn Llanfaelog, ac yr aeth dau frawd bach o dano. Digwyddodd hyn nos Lun, ac yn fore trannoeth aeth llawer o wyf i'r lie, ac ar ol cryn ymchwil, deuwyd o hyd i'r ddau gorff oer a rhewedig, yn ymyl ei gilydd. Yr hynaf, John, ar lianner sefyll, ac yn ddwy ar bymtheg oed a'i frawd, Dennis, tua deg oed. Aed a'r ddau gorff i breswyl eu hewythr, Mr Owen, Rhosmount, ac (pddiyno ddydd Sadwrn hebryngwyd y ddau i gyd-huno dan y dywarchen. Meib- ion oeddynt i Mr. a Mrs. John Davies, Rhosneigr,-y tad gyda'r fyddin yng Nghroes- oswallt, a newydd fod a dref. A'r fam meddir. gan gymaint ei dychryn, yn ffaelu credu na ddeuant yn ol. Dangoswyd cydymdeimlad dwfn iawn a'r teulu gan yr holl fro, a bydd y cymorth a estynnwyd iddynt yn gryn help dan faich o drallod mor drwm. Sirioldeb a ddaeth i drigfod y Parch. E. A. Pickering a'i deulu, pan gawsant eu mab, dewr Mr. Cecil Pickering yn ol am wythnos o faes y gyflafan yn Ffrainc, ar ol bod yn swn y gynnau mawr am ddeunaw mis. Bu yng nghanol tAn ofnadwy y Somme, ——Brawychwyd Llannercli y Medd pan glywyd fod y gr da a hoenus Mr. J. A. Parry, fferyllydd, wedi marw, mor frawychus o sydyn. Tarwyd ef yn wael gan y pneu- monia, a daeth y diwedc, o fewn ychydig ddyddiau, ac efe yng nghanol ei north, ei ddefnyddioldeb, a'i gynlluniau, gan adael gweddwa chwech amddifad ar ei ol. Efe'n un c ddynion mwyaf byw y dreflan a'r sir, a'i ysbryd yn oddaith droes foes a Dirwest a phob mudiad cyhoeddus i lesoli ei wlad. Yn wr diwylliedig ei feddwl, yn siaradwr cryf,, yn Fethodist cadarn, ond j n ddigon rangfryd i weld daioni dros y ffin a'r clawdd T n ysgrifennydd a phatrwm oddiacon, ac 11 un o ddynion duwiolaf yr hen sir. Dydd Sadwrn cafodd angladd tywysog pryd y daeth torf fawr i'w arwyl yn hen fyn- went y Llan a lIuo weinidogion rhy luosog i'w henwi, a blaenion yr ynys. Arweiniwyd gan ei weinidog hoff a galarus, y Parch O. Thornas-Llygad Agored.