Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

W GOSTEG. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

W GOSTEG. I Yr un yw'r Babaeth o hyd.—DymafMr. Henry Fowler yn gyrru copi yma bore heddyw o'r llythyr protest cryf ddiamwys a anfonodd y Protestant Alliance at y Prif Weinidog yn erbyn cynllwynion y Babaeth i hau hadau'i heresiau briglwyd a,c ofer- goelus ym meddyliau'r milwyr Prydeinig a Phrostestanaidd sy'n cydymladd a'r milwyr Ffrengig yn erbyn y gelyn. A chyda llythyr Mr. Fowler, dyma ysgrif a, ymddangosodd yn The Universe (papur Papistaidd) Rhag. 1, 1916, yn dangos fod y Catholic, Truth Society yn gwasgar ei phamffledi wrth y miloedd ymysg milwyr y Fyddin Brydeinig ar y Cyfandir; ac yn cymell y Pab a'i benaethiaid cardinalaidd i benodi dyn o bwrpas at yr amcan hwn. Cydnabu Mr. Lloyd George lythyr Mr. Fowler, a dywed y caiff ei sylw. Dylai'r Llywodraeth wahardd i'r un cyfundeb, uniongred na chamgred, hau ei opiniynau a chodi cnec rhwng Protestant a Phabydd a ninnau ynghanol ymrafael am beth sy n ganmil pwysicach na'i hudlewyn athraw- iaethol ac eglwysig hwy. Ysgrif Jesiwitaidd i'r cam yw ysgrif yr Universe, ac yn eglur ddahgos mai'r un yw'r Babaeth o hyd o ran ei sarffeiddiwch. .,? d d v beirdd Siopwr yn y Cae Tatws !—Bydd y beirdd yn dyfynnu'r Ilinell honno byth ahefyd— "Cloi syrmwyr mewn clysineb." Wel, y mae'r Hen Was dihysbydd yn cloi doethineb mewn doniolwch tuhwnt o gartrefol yn yr wytnfed llith ar hugain o'i waith sydd wedi cyrraedd yma o'r Llofft Stabal. Eng- hraifit neu ddwy sy ganddo o bobl ddi- brofiad y trefi a enfyn y Llywodraeth i gymryd lle'r gweision ffermydd a gipiwyd i'r Fyddin. A chwerthinllyd i'r eithaf yw ei bortread o'r siopwr eiddil a gwantan, llwyd ei wedd a dandfaidd ei wisg,yn gafael mewn rhaw blannu tatws ac yn rhynnu a rhincian ei ddannedd a'i ddwylo'n yswigod cyn pen dim. Fe ddaw ei lith ddydd lau nesaf. John Aelod Jones.-Bydd yn dda iawn gan ein darllenwyr glywed fod John Aelod Jones, eu hen ddiddanydd blasus yn Y Brython,ar dir y byw,a bod yma lith newydd gyiTaedd oddiwrtho ar Gynhebrwng Sian Tomos, ac ynddi air tlws iawn am y Sian ei hun, ond nid mor dlwg- am Rolant ei gwr, nac am Ifan Ifans y saer, nac am y seigio glwth na'r clebran a'r galar gwneud a gosod sy'n mwsogli o gwmpas cynhebrwng, fel popeth hen arall. Llifo trosodd.—Gymaint fu'r galw ar ein gofod cyfyng yr wythnos hon nes y bu raid oedi'r rhain i gyd hyd y rhifyn tiesaf :—Cynhebrwng Sian Tomos, gan John Aelod Jones Wrth wrando Lloyd George yng Ngbaemarfon, gan Ddewi Meirion, ynghyda'r pytiau Ileol a ganlyn :—Cyngerdd Trinity Road (A) y diweddar Mr Wm Lewis Prescot; Ashton-m- Makerfield; y diweddar Mr Thos Jones, Newman Street; y diweddar Mr W F Lloyd, Lambeth Road Guild Webster Road; a Chymdeithas Lenyddol Bethlehem

DYOBlADUa I

Gyh^eddwyr v Cymod I

Advertising

DAU TU'R AFON.