Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
i rl^*mys^g, fiSt S>«S?% SK' • SS ?. < ??????????- «1'- T .|f *w> III I 11 TifpVICTORY OF VALUE .• IS REPRESENTED BY IS REPRESENTED BY M|h PIONEER SALE PRICES. oi the %ct that manufacturing costs arc rising tremendously, wc w& *ln Smplu Mamjm&j? £ sazat$z of FURNISF of A 1, fK 1N,DS, tly p ure ha se cl at oici ?? A Typical Bargain < |f|, DO NOT MISS THIS CHANCE ■ £ & £ £ *?■  '? ? ?? wish to furnish throughout, to re- V ??? ?""sh a siag!e room, or even to acquire a ?!M? single article. The retail prices of this Sale |/jiV$|L¥M *¥* •' m are less than wholesale prices of next week, and further steady increases are tertain. THE SALE ENDS ??? ? Saturday, Feb. 24?- Pt Carpets made and laid and Linoleums laid free. jfcj J&- $> OF INCOME" T?. ? !.uxunous Grandfat-iipr l.'a V >5% applicable to ? goods selected during the Sale, Alpholstered  ij&^ZwS é'1Oodsdelivered free byourewn Vanswithm ?? 19 6 50 miles, Carriage paid on goods va!ue ?2 Huge Selection of DownP??sat ?? 3? ? ?'P?rds to any Railway Station. 40%to50%?T?d?s P?c? -?? '?? nONEER?S?$TU!:E5 j JbL 9?-tg Dow -4TREET. L
0 Lofft y Stabal.
0 Lofft y Stabal. XXVIII MISTAR GOLYGYDD.-Raid imi ddim deud wrtho chi fod y Rhyfel Mawr yn para i wthio'i ddylanwad yn fwy nerthol o hyd i'r byd rydw i'n byw yno fo. Erbyn hyn, mae swn rhw gyfreithia newydd o Lundan yn dwad dros y ffermydd ma, nes y bydda i'n teimlo ma cryn gamp fydd hi i neb ddianc rhag cael i brofi hyd yr eitha. Yn wir, mi freuddwydis i'r noson o'r blaen fod rhw swyddogion, efo dillad mor amal a gloewon i botyma fel y gallsa rhwun feddwl fod y tlwriaid wedi bod yn torri'r nef serennog wrthyllath i gneud nhw. Doeddwn i'n dallt fawr dim oeddan nhw'n i ddeud, ond yn unig i bod nhw'n holi f'oed i. Mi ddeudis yr oed yn Saesneg. Ysgwyd i penna gwir- ion neuthon nhw. O'r diwadd, mi feddylis i bod nhw'n sylwi ar y nannedd i, ac yn casglu oddwrthyn nhw mod i'n iengach nag yr oeddwn i wedi deud. Ar hyn, mi dynnis fy nwy res dannedd o ngheg, ac mi rhois nhw ar yr hen gist yma. Diaist i wel, mi ddeffris ar hynnu, ac mi ddiflannodd y bobol ddiarth i ddiddymdra Ond ymhle ma'r meibion a'r merchaid oedd i ddwad i weithio ar y ffermydd ? Falla'ch bod chi'n cofio imi gyfeirio atyn nhw dro byd yn ol. Welis i neb ohonyn nhw'n yr ardal yma hyd yn hyn. Ma'n debig ma'n cael i trenio ma nhw tua Lerpwl j yna, a threfi mawr erill. Ma rhai yn meddwl fod pobol y dre'n gwbod ac yn medru pob peth. Gida phob dyledus barch ichi, rydw i'n gwrthod fotio dros hynnu, beth bynnag. Dydw i ddim yn deud nad oes yna bobol yn gwbod mwy na ni ar lyfrau, ond ma digon o synnwyr miawn pen sy tan do Llofft Stabal i drechu'r pen sy tan do coleg pryf- ysgol pan ddaw ,hi'n fatar o berfformio ar gae llafur. Wyddoch chi beth, syr, mi fas- wn i'n leicio gweld dyn o'r coleg, efo'i gap fflat a'i own, a'i deitla sglaig, yn dwad i gystadleuaeth a ni, weision ffermydd, miawn redig, hau, medi, plannu tatws a rwdins, certio, ac hyd noed cysgu'n dawel miawn Llofft Stabal baswn, cin wired a bod y bensal yma'n fy Haw dde i Un peth ydi i ddyn dynnu ffarm drwy'i feddwl, peth arall ydi iddo fo'i thynnu hi drwy i ddwylo, i chario hi ar i gefn, a bod allan efo hi ymhob tywydd. Hynnu ydi, fel y byddai Jac J6s yn arfer deud, Un peth ydi gwbod, a pheth arall ydi gneud." Waeth yn y byd faint a wyr dyn drwy lyfr am ffarmio, rhaid i mi i weld o'n troi i lyfr yn dir llafur cin y bydd i mi byth i alw fo'n ffarmwr, nac hyd noed yn gydradd a gwas ffarm sy'n dallt ac yn gneud i waith. Ond ma'n bur debig mod i wrth s6n am bobol y clegau yn saethu mhell oddwrth y .td, ac ma nid o'i plith nhw y dasfonir y pregethwyr cynorthwyol" i'r ffermydd ma-os na ddanfonir rw nifer i'n dysgu ni sut i neud. Mi ddeudis y marn dro'n ol gida golwg ar y syniad o fod unrw ferch yn dwad i ddysgu Mari'r forwyn ma sut i neud j i gwaith hi ac ma gin i syniad tebig am y ) neb a ddoi i ddysgu mistar a'i weision sut i neud y gwaith allan. Eto, cofiwch chi, os bydd i'r Llywodraeth—yn enwedig efo Lloyd George yn Hwsmon,—anfon rhywun i rwbath ynglyn a ni, mi fydda i, beth bynnag yn ddigon loial i blygu i'r drefn-fel yr ydw i wedi arfar plygu i ddwyn beichiau ar hyd f'oes. Eto, syr, rydw i'n gobeithio ma nid gwir y stori sy hyd y fan ma fod y dynion sy'n helpu'r ffarmwrs i gynnwys y rhai nad ydyn nhw ddim yn abal i neud dim arall. Yn wir, mi ellid meddwl y ceir yn eu mysg yr afiach a'r anafusion, a rhai y tybir y bydd i waith ar y tir fod yn fath o sanatorial iddyn nhw. Dyna fel ma rhai pobol yn siarad ond ma gin i fwy o feddwl na hynnu o benna'r bobol sy'n trefnu materion o'r fath yn Llun- dan. Brensiach annwl! Os ydi'r dynion sydd i helpu'r ffarmwr i fod o rhw werth, rhaid iddyn nhw fod yn iach a chry cin dechra ar i gwaith, beth bynnag am fod yn iachach a chryfach wedyn. Mi welis i beth go ddigri'n ddiweddar. Falla y dylwn i neud ymddiheurad hefyd am ddeud peth," a minna'n meddwl am ddyn. Ond nid y dyn ydw i'n i alw'n beth digri," eithr yr hyn oedd o'i gwmpas o— y ffram oedd amdano fo, fel tasa. Wel, mi ddath i ffarm yn ymyl ma, ac roedd o'n berthynas pell i'r teulu. Mi ddeudir i fod o'n rhw ddiengyd rhag mynd i'r fyddin, ac yn disgwyj y basa iddo fo fynd i weithio ar ffarm yn ddigon o help i'r amcan. Miawn siop ddillad roedd o wedi bod, yn un o drefi mawr Lloigar. Gwaetha'r modd, mi ddoth yrrta ar ddechra'r geua, ac i ganol sgrympia oerion. Wel, welis i'r fath olwg ar neb yrioed yn ceisio gneud tipin o waith ff arm naddo, fel rwy'n fyw'n y fan ma. Roedd yn biti gin i drosto fo, achos roeddwn i'n gweithio'n y cae nesa ato fo, ac yn picio drosodd ar y slei i gael sgwrs a nghymdogion fel tasa. Amser codi tatws oedd hi. Wrth gwrs, roedd o'n cael pob cyfarwyddid a help, o achos i berthynas a'r mistar. Ond roedd y gwahaniaeth mor fawr rhwng y cae a'r siop, y fforch a'r siswn, trin brethyn ar y cowntar a chodi tatws o rych! Doedd gynno fo ddim amcan sut i afael miawn fforch, na sut i gosod hi'n y ddaear. Ond, chwara teg iddo fo, diamau y medra fo ddysgu hynnu cin hir. Y peth gwaetha oedd i ryndod a'i annwyd o. Roedd i wymad o'n bob lliw ar unwaith a pheth go ddiarth i gae tatws oedd gweld dyn yn sychu i drwyn a hancas bocad, ac yn sychu i ddwylo oddwrth bridd y ddaear-yn ddiarwybod, o achos arfar siop, ma'n debig. Rhw feddwl roeddwn i fod y dyn yn.raethun glir a chael i hun allan o ffram siopwr i ffram gwas ffarm. Byddai'n sefyll, yn gwthio'i ddwylo i waelod i bocedi, ac yn dyblu i hun i geisio'i cnesu nhw. Mi ddaw'n well fel y gnewch chi arfar a'r gwaith," ebra'r hwsmon wrtho fo—ynghlyw'r mistar, wrth gwrs. Yn well," ebra fynta, gobeithio daw hi, ne mi fydd ma gorff ar un o'r caea ma; achos ma hi'n oer gyddeiriog Doedd hyn ddim ond naturiol chwaith. Dyma ddyn wedi arfar byw tan dô, ac yn gneud gwaith ysgafn, a'r ffenestri oedd yn gollwng gola i fiawn yn cau y ddrycin allan. Mor wahanol allan ar y cae tatws Peth go ddigri fasa gweld stof y siop ar y cae. Na, dim cysgod yma, ond y dyn druan wedi i osod ar lecyn agtjted-dim t6 uwch i ben, na dim uwch na chlawdd pridd o'i gwmpas, y I rhewynt yn curo arno, a'r sgrympia cenllysg yn i beltio fo. Wrth lwc, roedd tipin o ddigrifwch yno fo hefyd, achos mi ddeudodd o dan gawod o genllysg, Gwarchod pawb, fasa waeth gin i fod o dan haels y Germans nag o dan betha fel hyn Rwan, syr, y gwaith hawdda o bob gwaith ffarm ydi codi tatws ond doedd y dyn yma fawr o beth at y job honno.—am leni, beth bynnag,-ac roedd y tywydd oer yn i bar- lysu o. Ond fel yr eiff y tymora'n mlaen, mi fydd gwaith mwy anodd o'i flaen o-rhy anodd iddo fo, heb lawer o ymarferiad, pa dywydd bynnag fo hi. Faint fydd gwerth dyn fel hwn ar ffarm ? Mi fydd rhyw betha y gall o'i gneud rhw'n weddol, ond nid heb lawer o drafferth i rywun i ddysgu o. Syr, rydw i'n sefyll dros chwara teg i'r ffarmwr a'i weision. Sonnir am lafurio tiroedd wast a pharciau porfa ne segur. Ardderchog, ebra finnau. Ond cin y gellir gneud hynnu eleni, rhaid fydd wrth bobol yn dallt y gwaith-digon o rai felly fel ag i allu defnyddio rhai anghyfarwydd heb golli gormod o amser efo nhw. Cofiwch nad ydw i, druan dwI, ddim ond yn deud y marn am y straeon ydw i'n glywad hyd y wlad ma am yr hyn fwriedir i neud efo ni. Mi fuom i'n disgwyl gweld y merchaid y sonnis i amdanyn nhw'n dwad yn finteioedd i'r wlad ma, ond dydyn nhw ddim wedi cyrraedd yma, beth bynnag. Mi obeithiaf, s danfonirdynion aton ni, y byddan nhw'n dallt i gwaith Ma pawb yn gorfod cydna- bod fod angen i'r wlad hon dyfu hynnu o ddeunydd bwyd ag sy bosib. Ma cimin o gynhaliaeth y wlad yn cael i suddo'n y m6r fel y rhaid wrth y cwbl a ellir i godi o'r ddaear. Ond fedrwch chi ddim cael gore'r tir heb roi'r gore iddo fo. Ellwch chi ddim swyno cnydau o'r pridd rhaid. gneud gwaith gonest, a chydymffurfio a deddfa Natur, ne mi gewch ych siomi. Rhaid trin y tir yn iawn, gwrteithio'n iawn, hau a phlannu'n iawn, a phob peth yn i amser, ne chewcb chi mo'r cnydau a ddisgwylir. Rwan, syr, wedi ifcmi ddeud y marn drwy'r BRYTSON, rydw i'n disgwyl y bydd y Llyw- odraeth, yn gweld i ffordd yn hollol glir gida golwg ar bwy a ddanfonir i ffermydd y wlad ma, ac yn enwedig pa fath ddyn ddaw i aros efo mi—os daw un o gwbwl—yn Llofft y Stabal. HEN WAS. I
IAdolygiad.I
I Adolygiad. I CAN A MOLIANT: Llyfr Tonau ac Ernynau. Casglwyd a threfnwyd gan H. Haydn Jones. Llian 3/ net. Chwarter rhwym 4/6 net. Gwrecsam Hughes ai Fab, Argraffwyr a Chyhoeddwyr. 1916. YN anad dim, Llyfr Tonau ydyw'r gwaith newydd h wn, a da gan hynny oedd i gerddor gwych fel Mr. R. Roberts, Y Dyffryn. ei adolygu'n gyntaf yn eic-h colofnau. Y mae Mr. Roberts yn lienor da yn gystal ag yn gerddor—cyfuniad hapus nas ceir bob dydd; ond gan mai adolygu'r tonau 'n unig a wnaeth ef, cydsyniaf a chais y Golygydd i ddywedyd gair am yr emynau. Caniataer imi ddatgan fy Uawenydd digymysg am fod Mr. Haydn Jones wedi ymgymryd a gorchwyl mor bwysig a chysegredig, a chyn belled ag yr a r rhan gerddorol ohono, cydnabyddir ar bob Haw ei gymwysterau arbennig i'w gyfiawnni fedrus ac effeithiol. Y mao'r rhan fwyaf o lawer o'r emynau hefyd a geir yma, im bryd i, yn rhagorol. Nid oes eisiau colli amser i'w canmol gan mor adna- byddus ydynt. Ond ceir yma rai emynau newyddion, gan feirdd sy'n fyw heddyw, y dylid galw sylw atynt ar gyfrif eu rhagor- laeth arbennig. Yn eu mysg, ac yn amlwg felly, y mae emyn 520, Nesha at fy enaid, Waredwr y tlawd," a 187, Drwy ddyffryn tywyll adfyd gan y Parch R. H. Watkin, Dmorwig. Y mae naws addolgar ddwys ar y ddau emyn cyfoethog hyn, a bydd yn syn gennyf os na bydd iddynt "afael." Gellir dywedyd yr un peth yn union am 564, "0 Arglwydd grasol trugarha" gan y Prifardd Job, emyn newydd i mI, fel ei gyfieithiad campus yn 578. (Y mae 535, O heda, efengyl dragwyddol gan Job yn adnabyddus i gylch eang, ac yn ddiameu 'n un or emynau goreu). Y mae amryw o omynau Cernyw, Einon Wyn, Gwili, Ben Davies ac eTaill o feirdd y dydd, wrth gWTS, yn haeddu'r ganmoliaeth uchaf. Ceir Hower iawn o emynau Dyfed yn y llyfr hwn, ac er fod amryw ohonynt ymysg ei oreuon. tueddu at fod yn rhy farddonol, yn ol fy nheimlad i felly, y mae'r Archdderwydd talentog I mewn rhai o'i emynau. Bron na ddywed- wn petai Dyfed yn salach bardd, y byddai'n well emynydd hyd yn'oed ag ydyw,at ei gilydd felly. Emyn newydd i mi yw 283, "Garedig Ysbryd Duw," gan Gwynfryn, ac un hapus ac effeithiol ydyw. Nid oes eisiau s6n am emynau Elfed bellach,-y mae'r rhan fwyaf ohollyn,t hwy'n drysorau cenedlaethol. Ond os caf ddywedyd yr hyn a, deimla llawer heblaw fi, gormod o ol "gwneud" sydd ar lawer o'r emynau diweddar, gormod o ol ymdrech, a rhy fach o naws ysbrydol, o eneiniad, ac o naturioldeb, pethau sy'n anhepgor i wir emyn. Cy- merer hwn, er enghraifft. gan Gwylfa, a barned y darllenydd :— LLANW GRAS. Dy feddwl Di am danaf, 0 fy Nuw, A Tn didol i farw ac i fyw Ni phrisiaf ddim am fara y byd a'i si,— Fy nhynged im' a ddaw o'th feddwl Di. Cael byw yn nes at fewnol dan y Gwir, Mwynhau ei vvres ali IewyTchiadau clir, Gan ddal fy hun yng ngwawr yffiam heb ofn, 0 Fal-rv Dyn, hyn yw fy ngweddi ddofn. Rhy ami y bu fy mywyd wedi ei gloi, A nerthoedd lu o'm hamgylch yn crynhoi 0 Dduw rho.flas ar agor yn ddigoll, I lanw gras feddiannu 'mywyd oil. "Emyn 6. (Myii bi'au'r italics) Nid ydys yn beirniadu dim o syjiiadau'r eniyn,-ymaentpibriod- ol yn ddiau, a'r mynegiad yn goeth wrth gwrs ond beth am y ewbl fel emyn onid yw rn rhy stiff? Ni wn pwy sy'Tt gyfrifol am y casgliad hwn o emynau,—o ran dim a wn i, Mr. Haydn Jones ei hun sy'n gyfrifol am yr emynau a'r tonau. Pwy bynnag ydyw, y mae yntau, fe Golygydd neu Olygwyr pob Llyfr Emynau Cymraeg bron, wedi goUwng rhai asynod gwyllt i mewn. Meddylier am gyhoeddi peth fel hyn yn yr oes oleu hon :— Fy enaid can, fy enaid can, I'th Brynwr glan, a dos i'r bedd "( !).—19. Gorchymyn i enaid fynfl i'r bedd Symol iawn, a dywedyd y Ileiaf, yw 252 trwyddo, er mai Pantycelyn ei hun yw'r awdur,Ile y sonnir am enaid llmth ddwywaith Yn curo f'enaid llaith Nes byddo dan y dwr" «ÎA'r olwg hon, trwy gwrs fy nhaith, Ddod f'enaid llaith i fynd yn lion Y mae digon o emynau gwell na hwn gan Williams, ein prif emynydd, ac emynydd y rhaid dywedyd amdano a fedr fod cyn saled a neb weithiau. A dyma ichwi enghraifft deg o rigwm, osbiiunilerioed,- Rho nertli i'm henaid gwan 0 Dduw, i wneud ei ran Mewn anial maith,—. A byw'r bendithion hyn I'r Gwr fu ar y bryn, A bwyta o'r manna gwyn Ar hyd y daith. "—285 Digrif tu hwnt i bopeth yw disgwyl i gynull- eidfa o wyr a gwragedd ganu Hillen feJ hon Gadi 1m gerdded, fel yn fachgen "( !) Os am ei chadw i mewn o gwbl, dylid ei cliyfleu fel hyn,— Gad im' gerdded fel yn f eneth I facligenf —y merched i ganu'r gair eneth," a'r meib- ion i ganu'r "baehgen Braidd yn siom- edig wyf mewn rhai o emynau'r Parch. R. R. Morris, Blaenau Ffestiniog. Nid yw Disgwyliwn ymhellach ymlaen," 543, yn deilwng o urddas emyn, a ydyw¡? Ni ellir edmygu ei waith yn galw'r Gwaredwr yn Febyn y preseb (529) ac yn Febyn Mair" (403). Pa beth a debygir am bennill fel hwn ?- Gallwn nesu'n agos, agos, Gyda rhodd at Febyn Mair Pwy na eharai weld ei Gsidwad Haddyw rmurn cadachau aur ? Flynydd )edd yn ol clywodd eyfaill im bregethwr yn Sir Fon yn gwaeddi ar ucha'i lais mewn h wyl fawr, wedi cyrraedd at ryw bwynt, neilltuol yn ei bI'egeth, Bobol I cojleidiwch Fabi JMctn Nid wyf yn sic r prnIl ai "Babi Ma-ri" y pregethwr hwnnw ynteu Mebyn Mair y Parch R. R. Morris yw'r goreu gennyf. Beth am hwn hefyd fel emyn ? "Nithorrwydynawyryddaear Erioed gynganeddion mor ber Tarewir cyweirnod mor uchel Gan luoedd y wlad uwch y s6r, "—529 Nid wyf yn deall y ddwy linell olaf,-o,' nad Ni tharewir yw r ystyr (eymharer Ni thorrwyd "). Doniol iawn yw s6n am dorri cynganeddion mewn emyn,— a'r angylion sy'n euog o wneuthur hynny yn yr emyn InVIl. A dyma emyn arall (568) ar "iLawenydd Seion lie y sonnir am ei thyrrau pell (its far-off heaps I). (Wrth gwrs am ei thyrau pell y meddylir, y mae'n ddiau). Pennill olaf yr emyn hwn yw,- Pabell y Jehofa Erys gyda ni, Gwelsom honno'n agor Draw ar Galfari Caned ei phreswylwyr Ar y lUnyn lion Prynwr meibon dyn ion Bia'r babell hon." Y mae r ferf plan yn ddigon "diffygiol" fel y mae, heb wneuthur cam a hi fel y gwneir ddwywaith yn yr emyn hwn,-bia yn lie biau A beth am y lUnyn uchod ? Da fyddai crogi r peiinill wrth y Uinyn hwn, a mynd ag ef, yn lion hefyd, la'i osod ar un o r tyrrau pella'n bosibl, a'i adael yno,— yn lle'i gyhoeddi mewn llyfr. Dyma gwpled o gyfieithiad gan Geufronydd (574),- Rhois flwyddaii drosot ti Ro'ist ti un drosof Fi "? Nid da geiriau wedi eu liitaleiddio mewn em- yn, ae nid yw flioyddaiumdha^i&vdd^VLV ond nid son am: iaitli y cwpled yw fy amoan yn awr, ond gofyn onid oes rywbeth yn sti.ff ynddo yntau ? Nid wyf am ddyfynnu chwaneg, ac nid oes imi'n wir unrhyw flas mewn dyfynnu cy- maint o r cyfryw bethau ag a wneuthum. Ond methaf ddeall pah am y myn y neb sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r emynau hyn roddi'r rhain i mewn,— Rhyw anial erchyll yw y byd, A maglau ei bleserau i gyd "7 (ai gwir hyn, mewn difrif ?) "Beth sydd imi yn y byd Ond gorthrymder mawr o hyd 7--474 (un arall tebyg,—er gwaetha'i bleidwyr yn y Drycli Americanaidd) A'r gwaed yn dorthau ar ei ben. A bar o ddur trwy'i dirion draed,"—62 (llinellau na fedraf gondemnio mwy ar eu cigyddiaeth nag a wneuthum eisoes). Sonmr yn 39 am bechadwr yn brefu Fodd bynnag, dymunaf eto ddywedyd a phwyslais ac a hyfrydwch fod mwyafrif mawr emynau'r easgliad hwn yn dra rhagorol. Pa beth a ddaeth tros ben y Golygydd pan ollyngodd gynifer o erthylod i menvitli Y mae mwy o ofal nar eyffredin we,di ei arfer ynglyn a'r awduron. Ond ceir rhai emynau heb enw o gwbl odditanynt,-heb Anad. na dim. Nid Cyfieithiadau, fel y dywedir yma, yw'r rhan fwyaf o'r emynau gan Charles Wesley sydd yn y llyfr, ond Efelychiadau, a'r rheiny lawer ohonynt yn rhai digon llac. Nid Ann Griffiths biau emyn 7,y penuill cyntaf yn unig sy'n eiddo iddi hi. Rhaid gadael yr hyn sydd i'w ddywedyd am G ymraeg y llyfr hyd yr wythnos nesaf. D. TECWYN EVANS.
Advertising
EVERY WOMAN JHOIFU? send:3 stamps tc: om 33 page Illustrated Boo. containing valuable icformatioa how all Irregularities tnd Suppressions may be entirely avoided or removed iy simple rceans. Recommended by eminent Physicam, ,t tbe only Sale. Sure and Genuine Remedy. Never ..it Thousands ol Testimonials. Established 186:1. M, PAUL BLANCHARD 01 -7-ot liane. t'<htanL<Be.")f<BON PILOTS' CONCERT, PHILHARMONIC HALL. Mr. KINGSTON JONES was responsible for some of the BEST FEATURES of the entei-ta inin en t.- Courier. XMAS CONCERT, CEFN MAWR, 1917-The recitals both Welsh and English, by Prof. Kingston-Jones, were the feature of the evening He is a born entertainer He was enthusiastically recalled after each itcm.-Cefn Cb-onzcle. KINGSTON-JONES Gold Medallist. Professor of Elocution Concert s -1 n ter ta in e r-A d jud icit tor Entertainments given by self for whole evening (2^ hours) in Welsh or English. Wele Raglen y Noson Gymraeg:— Yr adroddiad enwog a hyfforddiadol (fYmweliad Ned Ffowe a Llund ain (yn para tri chwarter awr); hefyd Ned Ffowc a'r Godi Elaenoriaid." "!Steddfod Fawr Llangollen." "Crist yn gostegu'r Dymestl." Y Milwr." a'r character adroddiad enwog, "Modryb Modlan.' Danf.onwch am Farny Wasg a Geirda amryfal Eglwysi ac enghraifft o'i Raglen. Y Rhaglen Saqsnag yr wythnos nesaf. PUPILS TAKEN TERMS MODERATE. 27 Clifton Road East, Tuebrook, LIVERPOOL. Û9 w. 116HES.0- & l.T.S c 4 rooinvdd lp Cam yof Mfhmpai U.O. ,dÿ Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arhidwr, Purotoir Ymqeiswyr at Bystyegrifrnv vxoehai Celeo 11 SGlffa, Men Nodiant a Solfm, 10 KIMGSI.EY,TROAD LERFW J. HALTON MORRIS, Popular Welsh Tenor,. For terms, apply 7 GRAMPIAN ROAD, Fairfield, LIVERPOOL