Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Trem l-Arian Banthyg.

Advertising

IIrem 11-Glociaul n Gwrthdaro.

Trem lll-Gloc Mawr Rhagluniaeth.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trem lll-Gloc Mawr Rhag- luniaeth. Nid yw'r gwrthdarawiad a ddisgwyliai rhai rhwng America a Germani, hyd yn hyn, wedi dod i bwynt terfynol. Maen Eilmyn wedi cychwyn o ddifrif ar weini- dogaeth ddibris eu suddlongau, ac y. gwneuthur difrod ar longau masnach Gwir na fu nifer y rhai a suddwyd yn ddi- weddar gymaint ag ar gychwyn yr ymgyrck. diweddaf hwn. Dywed y Germaniaid mai'r rheswm am y lleihad ydyw lleihad yn nifer y llongau sy'n mynd allan o'n porthladd- oedd. Ac ni wiw i ni wadu fod peth gwir yn yr hyn a ddywedant. Hysbys fod rhai perchenogion llongau, am ryw hyd, wedi oadw rhai o'u llestri'n ol. Nid yw hynny'n golygu, o anghenrheidrwydd, eu bod yn bwriadu parhau i'w cadw'n ol. Gall mai un rheswm am hyn yw'r angen am gyfadd- asu'r llongau masnach yn well ar gyfer y peryglon sy'n eu bygwth. Beth bynnag, hawdd iawn credu fod yr awdurdodan uchaf ar y mater yn cyfrif y gangen hon a ymgyrch y gelyn yn bur ddifrifol, ac y gall beri dirwasgiad mawr ar gynhaliaeth pobl- ogaeth yr Ynys hon. Er yr holl wahaniaeth a all fod rhwng llywyddion gwahanol swyddfeydd y Llywodraeth bresennol, nid ymddengys fod yr un ohonynt nad yw'n cydnabod y perygl hwn fel un difrifoL Mae prisiau ymborth a rheidiau cyffredin cysur yn uchel iawn, ac yn rhy uchel i lawer allu cyrraedd fawr ohonynt. Mae hi eisoes yn ddifrifol ar y prin ei dSn a'i fwyd. Ond, i ddychwel at y pwynt cy- chwynnol, mawr yw'r disgwyl beth a wna Germani nesaf i ddiystyru America, a pheth a wna America wedyn i amddiffyn ei hawliau a'i nanrhydedd. Polisi brys yw eiddo Germani o'r cychwyn, a thrwyddo hi lwyddodd i gyrraedd hyd i bwynt neilltuol droeon, ond, hyd yn hyn, hi fethodd gyrr- aedd yr un o'i hamcanion eithaf. Ym- ddengys ei bod unwaith eto "ar frys mawr i dagu Lloegr yn ei thrafnidiacth, cyn y gall America fod yn barod i symud fawr. Gall, wedi'r cyfan, Olai methiant fydd y rhuthr anwar hwn hefyd. Mae'r argyfwng terfynol yn sicr o fod yn nesu, a thynged y gwrthluoedd ar gael ei phender- fynu. 1 bob argyfwng mawr, daw'r adeg pan ddywed Rhagluniaeth, daeth yr awr," a thery ei hawriais Hi'r awr honno nes bo'i swn yn diasbedain dros yr holl fyd.

Advertising