Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Ein Canedl ym Mancetnion'j

AM LYFR. I

CAERLLEON GAWR. I

I ffetan-y GoL I

AR GIP.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AR GIP. Syr Owen mewn cadair cyngerdd.- Y mae Syr Owen Thomas (Cinmel gynt) wedi addo llywyddu mewn cyngerdd Gwyl Ddewi ym Mhafiliwn y Piar, Llandudno diau yr aiff cannoedd lawer tuag yno i weld y gwron a drechodd bob drwg heb gael ei faeddu ganddo ddim. Ail fachu'r angor.—Cyst o £ 200 i E300 i ail.angori'r Clio, sef yr hyfforddlong a dorrodd yn rhydd ar y Menai y dydd o'r blaen. Ysqwyd yr arian o goes yr hen hosan.- Mewn arwerthiant yn Nhalsarnau, sir Feirion- ydd, ddydd Sadwrn diweddaf, heliwyd dau gant o bunnau i gist y Groes Goch. Gwerth- wyd ac ail werthwyd cyw iar nes cael pum punt a chweugain amdano, a faint feddyliech Óhwi a gaed am ddwsin o wyau ? £ 2/4/- Oes, y mae digon o arian yn y wlad ond procio tipyn ami ac ysgwyd ambell hosan hir ei choes a thrawsglymog iawn ei genau. Da fo.—Llanc a faged mewn tloty oedd John Pritchard a enillodd y Groes Filwrol am ei ddewrder yn y rhyfel, ac a laddwyd yn fuan wedi ei chael, cyn bod yri ugain oed. Peidiwch byth a mingamu'n ddiystyrllyd ar neb a fegir mewn tloty. Andwyo Ffestiniog.—Y mae Cyngor Ffes- tiniog wedi anfon penderfyniad cryf i'r Prif Weinidog a Chyfarwyddwr y Gwasanaeth Cenedlaethol (Mr. Chamberlain) yn erbyn y bwriad i gau'r chwareli a gwasgar y gweith- wyr ar led y ffermydd. Andwyo ardal gyfan fyddai hynny a byddai'n amhosibl ail agor ami i chwarel unwaith y caeid hi. Goreu gwerthwr un doniol.— £ 555 oedd y swm a gaed drwy arwerthiant amaethyddol ymhlaid y Groes Goch yn Rhuthin yr wythnos ddiweddaf, heb isbn am yr hwyl a'r ysmaldod a gafwyd rhwng yr arwerthwr a thwrw'i forthwyl. Trechu'r Trafl.-Y mae M.R.Beard,Fflint, yng ngharchar yn aros ei brawf am ddianc o gatrawd y Welsh Gaurds. Bu'r heddwas Ghesters yn chwilio amdano am ddyddiau neidiodd Beard oddiar y platfform i'r:ff ordd haearn, gan dynnu'r heddwas i'w ganlyn Bu'n godymu a bustachu hir rhwng y ddau ond yr Heddwas Chesters a orfu, gan fedru rhoi'r gefyn am arddyrnau'r milwr ffo, a'i dywys yn llaes ei wep i'r carchar tywyll du. Dyna blant da !-Pasiodd Gwarcheidwaid Bangor a Beaumaris bleidlais o ddiolchgar- weh i swyddogion y Tloty am aberthu drwy fodloni, a hynny'n wirfoddol ac ohonynt eu hunian, i fyw ar lai o fwyd na tchynt, cyd ag y pery clem a drudaniaeth y rhyfel. Peidiwch a'i phrynu.-Mewn cyfarfod o bwyllgor gweithiol Cynghrair- EgJwysi Rhydd- ion Cymru, a gynhaliwyd yn 'r Amwythig ddydd Gwener diweddaf, pasiwyd pender- fyniad cryf yn erbyn i'r Llywodraeth brynu'r Fasnach Feddwol, gan ddal mai'r unig ffordd i ymwneud a'r drwg diffaith hwn ydyw Ilwyr wahardd gwneud na gwerthu'r dafn Heiaf o'r ddiod ddieflig. ftî;f/ S?'? 6?e?/i..T. J. Wheldon.— £ 3,400 oedd sw'rn' yr eiddo a adawodd y diweddar Barch. T. J. Wheldon, B.A., ar ei ol; ond fe adawodd enw da am annibyniaeth barn ac amddifadrwydd oddiwrth bob llwfrdra,|a/bery n Hawer hwy heb rydu nag y gwna?y?3,400. Nid oedd cyfeillgarwch ynangau i onestrwydd ynddo ef megis y mae mor fynych^tufewn i'r.Eglwys cystal a thuallan. \I1;"i.: f i Trioedd Gwilym Davies.-Y mae"meddwl y Parch. Gwilym Davies, gweinidog pybyr a gwlatgar y Bedyddwyr yn /Abergafenni, yn rhedeg i fold Trioedd,megis" y^rhedai meddwl yr hen Gymry gynt; a dyma un o'i Drioedd allan o'i ysgrif yn Y Geninen ar A ydyw Cymru ar y goriwaered ? :-Tri pheth sj-'n t paganeiddio Deheudir Cymru: "y cinema, y dafarn a'r babell gwffio. "K,; A byddai gan y diweddar Tom Ellis ei drioedd hefyd, canys ebr y J'o Tri barni, a melltith gweith- wyr Cymru Baco Amlwch, alcohol, a .disodli'r"then!;frethyn cartref iach a durol drwy?ymollwng?i wisgo?sAo?y? anhraethol salach os mwy sgleiniog. ? ?.-f 1 Job wrth fynd i'r De.—Dyma ddau 'o ddeg penn ill y Parch. J. T. Job yn Y Goleuad diweddaf wrthlffarwelio ag Eryri a mynd i fa geilio" eglwys Abergwaen, sir) Beofro,;— L,Ffai.,wel i; wlad ±Sryri A'i; huebel dyrau hi |- I'm bron' mae' briw,'fynyddoedd gwiw, 0 ganu'n iach i chwi. Ce's noddfa yn eich cysgod f Tra'n arail praidd y Ne' Ond daeth yr awr i mado 'nawr a, gwyllt ystlysau Arfon fawr Am dawel dir y De Yn iach i, dir. Eryri, | Wei, bendith ar yr henfro, 5 'Rwy'n mynd i Benfro bell" At braidd yr lor sy wrth y m6r Yn ceisio'r Wlad sydd well. Ffarwel i'm holl gyfeillion Drwy'r broydd heirddion hyn Ffarwel i Goetmor dirion— P Ac 0 mae'r dagrau'n Hyu Wrth ganu'n iach i'r beddrod bach Lie gorwedd Beti Wyn. Pethau a sudd yn ddwfn iawn i galon bardd yw mynyddoedd a). cheunentydd a phan fo ar Job eisiau cip ar fynyddoedd Arfon, dim ond troi i'w santeiddiolaf ei hun,a bydd- ant vno ond dan do o niwl hiraeth. ant yno ond. dan do o niwl hiraetli.

Advertising

DAU TU"R AFON.

Advertising