Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
c- j OWING TO THE GREAT SUCCESS OF OUR SHORT TERM STOCKTAKING SALE and in response to the numerous requests of our patrons, we arc compelled and have decided to extend, during next week, the exceptional opportunities afforded by such sale This SALE must positively end MARCH 3RD. LIVERPOOL'S FOREMOST CASH HOUSE, where one may FURNISH OUT OF INCOME IF DESIRED Telephone 5220 Royal f Lino. rLE e' 4 I OR Telegrams Sideboards Liverpool- 9 to 19 Bold Street, Liverpool. I
Gwib i ganol y Shonis a Chymrodorion…
Gwib i ganol y Shonis a Chymrodorion y De I. LLITH 7 I 1—Y Gweddiwr yn mynd ar ol ei weddi. CYN mynd ati i nyddu gweddilHhanes yr ymweliad & Merthyr, goddefer imi ddatgan y gofid a'r syndod a gefais pan ddaeth cerdyn yma'r dydd o'r blaen oddiwrth Hyfreitlion yn dweyd fod Samuel Potts—un o'r pedwar gweddiwr gafaelgar a glywswn yng Nghwm- afon-wedi ei ladd yn y gwaith alcan. Ni welswn ac ni chlywswn mohono erioed cyn y nos Lun hwnnw, ond anturiaf gredu'n bur ddibetrus ei fod bellachTyn yrfunfan a'i weddi wlithog, ac y gellir gosod llinell Islwyn am un tebyg iddo-" Lle'r aethai'i weddi, y gweddiwr aeth,"—ar garreg fedd Samuel Potts hefyd. Pob parch i anerchiadau grymusaf dyn, ond credaf, gyda'r Parch. Wm. Davies, Aberdar, mai yn ei weddi y mai dyn ar ei oreu, a bod mwy o fiwsig i glustiau'r Nef yng ngreddfau a deisyfiadau gweddiwr taer a gwylaidd nag sydd yn yr harangues hyotla'u dawn a choetha'u fiurf. "• Y mae hwnyna'n wirionedd amlwg ac ar yr wyneb," meddwch. Ydyw, mi wn ond y mae digon o eisiau ei gofio serch hynny, Gweddiwr gwan a diafael fum i bob amser, a dyna'r pam fy mod yn eiddigeddu wrth ymbiliwr mor daer a diragrith a Samuel Potts, ac a roiswn fy holl gynheddfau gweiniaid yn gyfnewid am ei fiydd ef. Nid am fy mod yn coegio crefydd yr wy'n sdn am weddi Samuel Potts, ond am y rheswm syml fod fy nghalon yn mynnu dweyd y buasai'n well gennyf fod yr un fath ag o na bod yr un fath a'r galluocaf a'r enwocaf yn y wlad os heb ei ddefosiwn a'i afael ysbrydol ef. And Satan trembles when he sees The weakest saint upon his knees ebe Cowper yn ei Olney Hymns; ac mi ddaliaf fi fod ei ddwy glun duon yn clecian o gryndod ac ofn pan weddiai Samuel Potts a'i dri chydymaith yngNghwmafon y nos Lun hwnnw. Go brin y buasai'r un golygydd lygad-barcud yn gollwng ei weddi i'w Ffetan o ran godidowgrwydd ei hymadrodd a chywirdeb ei gramadeg ond "Hands o?' ebe'r Nef, a'i llygad yn fflam arnaf Fi y gweddiai?r gweithiwr cyrniog, ac nid ar dy sych-ramadeg di; ae os mai'r Fasged fuasai ei Ile pe'i hanfonesid hi i'th bitw papur J di, gwybydd fod Golygydd Mawr ac Anfeidr- 01 y Calonnau wedi codi Samuel Potts a'i weddi i'w fynwes 0." Nid pethau gwlatgar a chenedlaethol yn unig a ganodd Ceiriog, canys clywch ei ddau bennill i'r weddi daer :— 0 weddi daer gwyn fyd y fron A fedro dy anadlu, Yng nghalon edifeirwch gwir Y cuddiodd Duw dy allu. Yr isel lwch yw'th gartref di, Ac mewn sachllan gwisgi, Gwyn fyd y llais crynedig gwan Djrwallto'i hun i woddi. 0 weddi daer ni chaeodd nos Erioed ar fro euogrwydd Nas gellir, wrth dy lusem di, Gyfeirio at yr Arglwydd. Dyddheir y nos gan wyneb Duw, Y truan wel oleuni '<If41 -iI>'X II Fe ganodd llawer un cyn hyn Am iachawdwriaeth gweddi. Mi gredaf mai wedi clywed l'hywunrtebyg i Samuel Potts yr oedd yr Archdderwydd Dyfed pan englynodd fel hyn Fr Gweddiwr Ei lawn galon i'w gwaelod—o'i fonwes Ddaw i fyny'n gawod !ld'lt, I A cha beichiau ei bechod-trwy daerni Yn awr eu dodi tucefn i'r Duwdod Gobeithio'n wir fod fy rhai innau yno, Dyfed annwyl! canys fe ddwedodd un o hen bregethwyr Cymru nad oedd Duw hyd yn oed ddim yn gweld tu ol i'w gefn. Ond pob parch i Ceiriog a Dyfed a phob bardd Cymraeg arall, ni threchodd neb ohonynt mo Tennyson ar ganmol gweddi, canys Battering the gates of Heaven with storms of prayer. ebe fo yn ei St. Simon Stylites. Tybed na fuasai crynhoi'r bwledi hyn ar geurydd Germani'n terfynu'r rhyfel yng nghynt nag y mae'n Howitzers ni yn debyg o wneud ? Dichon y clywsoch sylw'r gwalch eoer; lyd hwnnw a ddywedodd beth tebyg i hyn ar ol clywed y diweddar Ddr. Parker, Llundain, yn gweddio'n gyhoeddus It was a case offone deity addressing "another Deity as if the Latter were a little inferior to the former." Chwi en go ryfedd i neidio o gorun neb, ond rhaid bod rhywbeth yn null ac agwedd y Dr. i'w pheri, canys nid y fo oedd yr unig un a glywyd cyn hyn yn dictatio i'r Anfeidrol. 2— Gwybeta o gwmpas. Sut bynnag, nid wyf fi am ofyn maddeu- ant neb ohonoch am ymdroi cyhyd o gwm- pas gweddi Samuel Potts, canys rwy'n eithaf sicr na wnaiff o ddim drwg i chwi na'r Brython eich cadw am rhyw bum munud fel hyn ym mhersawr gweddiwr on Cwm- afon cyn i chwi fynd i'ch gwely ac i minnau aros' ar fy nhraed y nos i nyddu gweddill hanes f'ymweliad a Merthyr Tydfil. Gwrando'r ymgom lenyddol-gerddorol 4yr oeddem wrth ddibennu Llith 6 bythefnos yp ol, sef o flaen tanllwyth siriol Mr. a Mrs. John Lewis yn y Foelallt, Cromwell Street. Nos Fercher, Tach. 28, 1916, ydoedd honno a dyma dreulio bore drannoeth hyd hariner dydd i wybeta ol a blaen drwy'r dro, heb raglen osodedig na dim, ond a 'mhen yn y gwynt i weld beth a ddigwyddai. 'Doedd hi ddim yn glawio o drugaredd, ond yr oedd yr heolydd yn Ilaith iawn eu llaca, a hwnnw'n glynu mor dyn yn 'sgidiau dyn nes bod raid imi faeddu llawer ar riniog glan y Foelallt pan ddychwelais, ond ni thafododd Mrs. Lewis ddim arnaf. Un go sal ydyw hi ar y gwaith hwnnw. Ond y mae gan Ferthyr bethau glanach i'w cynnyg ichwi os bo gennych lygad i'w gweld a'u gwerthfawrogi. Deuwn at rai ohonynt cyn cloi'r llith. Ond serch ne d oedd hi'n bwrw glaw, yr oedd hi'n niwliog ddigon, a rhyw surbychni prudd yn cuchio atoch oddiar y bryniau sy'n amgylchu'r dre. Ond ni fum i ddim yn hir cyn gwybod mai ymddygiad Pwyllgor Addysg Merthyr at y Gymraeg wrth benodi athrawon ysgol °edd y rheswni fod yr hen fynyddoecid yn sbio mor brudd, canys yn ol a glywais ac a weiais wedyn yn Y Darian ymgreiniodd Y Cymry gwan eu cluniau i'r estroniaid cry1 eu tafod a'u mympwy, nes gosod athrawon uniaith ac estronol eu gwynt lie y dylasai fod rhai Cymreig eu calon ac yn medru'r ddwy. Pa ryfedd felly, fod yr hen fynyddoedd yn eu du wrth sbio i lawr a gweld Merthyru'r hen iaith a siaradwyd wrth eu godre ers cyd o ganrifoedd ? Gelwais heibio swyddfa'r Tyst, ond nid oedd yjjGolygydd yno, na neb o'r staff- Gresyn, canys yroedd arnaf awydd gweld rhai ohonynt a chymharu'n profiadau. Chwiliais yn hir iawn cyn gweld siop lyfrau Gymraeg, ac mewn llofft gefn yr oedd pob un o lyfrau Cymraeg honno, er bod y rhai Saesneg yn ffenestr y ffrynt, ac yn sgleinio'n bob lliw, yn enwedig y rhai mwyaf merfedd a fflim fflam ohonynt. 13-Ym Mhulpud I Pontmorlais, Gwelais Soar, capel yr Annibynwyr, lie byddai'r diweddar Barch. John Thomas, mwyn ei wyneb, a'i bregeth. Ond yr oedd yr addoldy ynghau, ac ni chafwyd ei weld oddifewn. Bron gyferbyn, dyma weld enw David Jones ar siop ddillad, a phwy oedd hwnnw ondyr ymgomiwr diddan agwrddaswn yn y Foelallt y noson cynt. Y mae ei siop y"drws nesaf i gapel M.C. Pontmorlais— eglwys y mae efe'n flaenor ynddi, ac yn gwestiwn prun ai yn y siop ynteu yn y capel y treulia fwyaf o'i amser, ac yn medru addoli hyd yn oed wrth gadw cyfrifon y seti a'r casgliad at y weinidogaeth. Un o'r pethau mwyaf diddorol a welais ers talm oedd Llyfr Bedydd Pontmorlais, ac ynddo law (signature) rhai mor gu ac enwog a Wm. Havard, John Evans Llwyn- ffortun, Morgan Howells ac Evan Harries Clywais fy hen gyfaill—y diweddar Thomas Jones, Sun Street, Birkenhead,—yn dis- 'grifio Evan Harries nes cyfodi blys arnaf i fod yn ddigon hen i'w glywed, gan mor feiddgar ei ddychymyg oedd o, ac mor ddibris o'i goler a'i giw pi," nac yn malio ffeuen am y gwastadeiddiwch gwisg sy mor bwysig gan Mr. Pin mewn Papur. Esgynnais i'r pulpud, a buan y camfum mor gampus ei godiad ydoedd. Addoldy helaeth, ac ynddo le i bymtheg neu ddeu- naw cant wrando'n hwylus a'r gwr a'i gwnaeth yn gwybod sut i gael y llawr a'r llofft i fod yn ymyl y pulpud heb bwyso ar wynt y pregethwr. Dyma'r ysfa'n cripio drosof, a finnau'n ceisio bod yn Evan Harries am rhyw bum munud, ac yn gweld y deunaw cant yn plygu fel brwyn dan apeliadau'r hen efengylydd ff raeth a didderbynwyneb hwnnw. Buasai'n eithaf peth gennyf gael dal ati a gorffen fel y gorffennai ef; ond dod i lawr fu raid, ac wrth gyd-gerdded a David Jones, fe'i clywais yn bras fynd dros helyntion yr eglwys o'r cychwyn. Un o'r pethau a'm gogleisiodd fwyaf oedd yr hanes a ddwedai am yr ymraniad a barodd un o bregethau Henry Rees yn yr eglwys. Yng nghwrs ei bregeth, sylwodd y difein angyl- aidd hwnnw mai Nid prynu personau ddarfu'r lesu yn ei Wfywyd a'i farwolaeth, ond prynu bendith- ion i bersonau. Y fo'n gwarchod dyna gnec a helynt a barodd y sylw. Buwyd yn dyrnu'r pwnc— a'i gllydd, bron !—yn y seiadau a'r Ysgol Sul am hydodd, a phoethodd yn ffrae mor fil-n nes yr aeth Plaid y Personau allan, gryn hanner yr eglwys bron, i godi capel newydd, gan ymgroesi rhag cyfeillachu dim a Phlaid y Bendithion mwy na pha baent fagad a wahangleifion. Y mae'r graith a'r briw wedi hen gau a sychn bellach. 4-Yn Siambr I Thomas Stephens. Gadewais Dafydd Jones, er mor ddiddan y fo, ac anelais am siop y dyn mwyaf a roes Merthyr i'r byd—Thomas Stephens, awdur The Literature of the Kymry ac ymchwil iadau llenyddol eraill a'i gwnaeth yn enwog led Ewrop, heb gymorth coleg na dim ond ei athrylith ddisglair ei hun. Miss Davies, chwaer ei briod, sydd yno'n byw, ac yn dwyn y busnes fferylla ymlaen. Gwelais y ddesc lle'r arferai sgrifennu, ar dipyn o slant hyfryd fel un Anthropos yr oedd yno rai o'i gelfi a'i greiriau ond ei bapurau a'i lyfrau wedi eu cyflwyno yn eu crynswth i Lyfrgell Genedlaethol Aberystwyth. Dang- osodd Miss Davies gadair hen ffasiwn iawn ei ffurf imi, lle'r eisteddodd ei mamgu ynddi ddengwaith a mwy i ymddiddan a lolo Morgannwg, a eisteddai yn y gadair freichiau fawr oedd nesaf ati. A dyna ymgom ydoedd honno, mae'n ddiau. Ni welais i yr un gofgolofn i Thomas Stephens yn unman ym Merthyr fe ddylai fod un, ar bob cyfrif. A phe'i lun gennyf, fe'i dodaswn yma, gael i'w genedl heddyw weld wyneb y dyn y dylasai ei lafur a'i lyfrau fod yn llawer mwy hysbys iddi nag y maent. Gan gofio, Eisteddfodau Dirwestol Merthyr a gododd yr Hen Wyl o'r dafarn lie byddai gynt. Diolch i'r gwyr selog hynny dri chwarter canrif yn ol. 5-Pregethwr a Phasiffist. Gelwais i edrych am y Parch. J. Morgan Jones, M.A., bugail eglwys Saesneg fawr yr Hen Gorff, a phasiffist anhyblyg a meddyl- braff yn erbyn y rhyfel Ar ganol llunio pregeth yr ydoedd, a'r Beibl Hebraeg yn agored ar fwrdd y study. Erfyniais faddeu- ant am shywio meddyliau mor werth- fawr, ond gwyddwn na ehedent ymhell, ac y dychwelent i glwydo dan y gwallt lie nythent gynted ag y ciliwn i anllythrennog o ystafell mor ddyfnddysg. Os oedd y bregeth a luniai heddyw hanner cystal a honno a glywais ganddo yng Nghymanfa Sulgwyn Lerpwl lawer biwyddyntyn ol, hi wna'r tro. Dau wr a aeth i fyny i'r deml i weddio, un yn bublican a'r llall yn Pharisead," dyna destyn honno, a dyma rai pethau a ddwedodd Graddegu a refinio'v gwahaniaeth moesol sy rhyngom a'n gilydd y bydd dyn, ond reducio pobl i ddau- y byddai Mab y D. Cerddai tvrfa tua'r Demi y tro hwnnw gwnai, mi wn ond dim nd dau ddtn oedd yno, wedi'r owbl. yng ngolwg yr 161.1: publican gonest a Pharise 'a I rhagrithiol. Dau ddyn sydd yma'n fy ngwrando i heno,—publican gonest edifeir- iol a Pharisead balch, hunan-gyfiawn. Dau bregethwr ddaeth i Gymanfa'r Sul- gwyn yma i bregethu. Dau! Be chi'n son, ddyn Yn 'does yma ugain wedi dod, rhwng rhai'r De a'r Gogledd. Dichon fod ond dim ond dau sydd yma, serch hynny, sef y publican gonest ei fwriad a'i genadwri, a'r Pharisead afiach ei syched a'i hunan yn cuddio hynny o Grist oedd yn ei bregeth. Nid wyf yn cofio'r eiriau,—dim ond bras- rediad y bregeth, ac ynddi drwch o'r un gonestrwydd di-ofn ag a nodwedda'i draeth- iadau chwyrn heddyw yn erbyn y rhyfel, A oes acw broffwyd wedi ei adael o gwbl ar Lannau y Mersey acw ?" ebai wrthyf. Oes, un. beth bynnag," ebwn innau. Pwy yw hwnnw ?" ebe yntau. "Yr lesu," ebe finnau. Tybed ?" ebe yntau mewn pwyslais amheus. Dim tybed o gwbl am- dani." ebe finnau, gan ffarwelio am rhyw hyd ag un o'm hoff bregethwyr, a'i ollwng yn ol at ei Feibl Hebraeg. 'Doedd mo'r amser bellach, onite aethwn i weld Amgueddfa Cyfarthfa, ac i holi cy- maint allwn am Lady Charlotte Guest, Ysgoten a gyfieithodd y Mabinogion i Saesneg, a chyfieithiad a ledodd y drws i Mathew Arnold a Tennyson a Swinburne a llenorion eraill Lloegr ddeall a gwerth- fawrogi'n hen ramantau diguro. Gwedi cinio, a dwedyd Dawch a Diolch wrth Mrs. Lewis y Foelallt, aed am dren a'm cludodd at Gymrodorion Aberhonddu'r noson honno a dichon y'm gogleisir maes o law i ddywedyd gair neu ddau am yr hyn a welais ac a deimlais wrth sefyll gerbron y gwyr mawr ac enwog sy'n golofnau i'r i'r Gymdeithas honno. I Llygad y TV awr. {)- J.H.J.
I Can a Moliant.
I Can a Moliant. II. NID diffyg gwerthfawrogiad o waith da a gwerthfawr Mr. Haydn Jones a barodd imi sylwi ar rai emynau a llinellau sydd yn y Casgliad rhagorol uchod, nac a bair imi hedd- yw nodi rhai o'r mefiau ieithyddol sydd arno. Yn hytrach, adolygu'n ffyddlon a gonest, hyd y medraf fi, heb geisio digio neb na phlesio neb chwaith, yw fy unig amcan. Y mae'r llyfr newydd gwasanaethgar hwn yn amcanu'n deg at gywirdeb mewn iaith, ac y mae hynny'n beth pur ddieithr,ysywaeth, yn Ilenyddiaeth Cymru, yn enwedig mewn Casgliad o Emynau. Ond rhaid dywedyd, gyda phob edmygedd o'r gwaith fel cyfan- gorff, na chyrhaeddwyd yr amcan teil- wng hwnnw yn y Casgliad hwn chwaith. Y mae'n amlwg fod y Golygydd yn amcanu at yr Orgraff Ddiwygiedig dengys di- ddordeb y Rhagymadrodd hynny. Ond ceir cymeryd yn cymryd yn yr un Rhagymadrodd, a dengys hyn nad yw'r neb a'i hysgrifennodd wedi meistroli'r holl ddiwygiadau. Ceir perchennogion ddwy- waith (yn anghywir) ar dud. iv. a perch- enogion" (yn gywir) ar yr un ddalen. Anghywir yw Os y cyfoethogir (nid oes eisiau fy ar ol os ac o flaen berf) a gwell na Darfu i'w gynhorthwy ysgafnhau fyddai Ysgafnhaodd ei gynhorthwy." Yn emyn 1 ceir bore yn gywir, ond troes ynforeu erbyn 16 aeth yn bore yn ei ol yn 202, ond di- rywiodd yn arswydus erbyn 332, oblegid forau (!) ydyw yno. Ceir "awdurdod bur yn 237, ond gwrywaidd yw cenedl (gender) awdurdod." Y mae tywell nos 234 yn gwbl anghywir tywyll nos 489 yn unig sy'n iawn, gan nad oes ffurf fenywaidd i tywyll,"—heblaw tywyll." Y mae y fan b'ost Ti 234 yn anobeithiol o anghywir am y fan bych Di neu y fan 'rwyt Ti"; felly'n union y mae Pan y byddost 333, pan fyddost 341, ac fel y mynnost 368 am Pan fyddych ac fel y mynnych." Y mae mor ddyfned 16, a mor fyred 548, yn gyfeiliornus am mor ddwfn" a "mor fyr," neu "cyn ddyfned" a cyn fyrred." Aeth "cymorth" cywir 363 yn I gyrnhorth" yn 299. Nid yw "Cei ddogn a bair 135 yn ddim byd tebyg i iawn, yn lie a bery, "-dim. on d fod' yr odl yn galw am- dano, ac yr wyf yn synnu at y gwall. Y mae melys 130 a 203 wedi troi'n felus yn 241 ond aeth yn felysach erbyn 264, ac eto dirywiodd yn felusdra" yn 390. Melyt?," melysach," "melystra" sy'n gy- wir. Y mae annherfynol 211 mor gywir ag yw anheilwng 193 o anghywir. Rhy- fedd ac ofnadwy yw gynnau gwynion" (white guns yn lie white gowns) yn 219 a 576. Cyffelyb yw "dórrau'u bedd 189 a phe dywedid "corrau" am corau. Ceir "hyfrytach yn iawn yn 543, a hy- fryda' yn anuniawn yn 289. Troswyf sydd yn 63, ond cywirwyd ef yn 139 a 160. ac aeth yn drosof yn y rheiny Yn 273 ceir distryw yn gywir a dilyw yn anghywir (" diluw"): o u fer yn Lladin y daw'r y yn y ddeuair fel ei gilydd gan hynny, os cywir "diluw," yna distruw hefyd sy felly. Am y gair anodd wyneb y mae ei gyflwr yn dra chymysglyd y mae pob llun arno yma, fel ym mhobman bron. "Yng ngwyneb" sydd yn 71,—fel petai g yn y gair wedyn yn 171 ceir y wyneb yn lie yr wyneb;" ceir Wynebaf" yn gywir yn 307, ond peth rhyfedd na welid gan hynny fod "yng ngwyneb" yr emyn nesaf oil, 308, yn anghywir. Ond ar ol troi 'ngwyneb yn 380, troes yn ei ol i'w symlrwydd cynefin yn 238 a 572,-ceir yn wyneb o'r diwedd yn y ddau. Len- orion a beirdd Cymru pa bryd mewn difrif y dysgwch y wers fawr ddofn anodd gyfrin nad oes.q yn y gair WYNEB ? Da yw gweld dihangol yn 538 a dihangfa yn 427, ond dihangodd yr h angenrheidiol o 73, a cheir diangfa yno. Nid yw ardalau 67 am ardaloedd ronyn yn fwy cywir na brenhinau am brenhinoedd." Yn 101 a 109 ceir disglaer peth od felly na cheffid disglaerwen yn lie disgleirwen yn 234 ceir ef er hynny yn 273, yn gyson ddau ddisglaer annisglair yn 286 a 426. Ond daw'r ffurf gywir "disglair" i'w hetifeddiaeth yn 384. (Os yw disglaer yn gywir, yna "disglaeru" a ddylid ei ddywedyd, ac nid" disgIeirio.") Bastardd yw greigydd 9 am "graigiau," ac nid cywir yw trengw, 28 am trengi." Beth yw. "Nol darfod gwaith 5 ? Anghywir yw yn meirw 556, am na ellir lluosogi'r berfenw marw" mwy na'r un berfenw arall. Da fyddai tynnu un r o dorc-ay'r bedd a'i rhoddi yn y barau heiyrn yn 333. Y ffurf wneuthuredig gwlaw" a goir trwy'r llyfr yn llr ffurf iawn glaw." Dyma yn mhell 27 yn lie ymhell" 52 Ceir glynnaf" yn 478 yn lie glynaf," ennynodd 11 523 yn lie enynnodd" gwaned 37 am gwanned ddyfer- odd 285 'am ddiferodd." At y gwallau argraffu a ddodir ar ddechreu'r llyfr gellir chwanegu Diogel yw "61 am "Diogel ym.' Ymwrando â" sy'n gywir, nid ymwrando ar 388. Ceir uwchaf yn 388, ond ni welais uwchel yn unlle eto am uchel." Aeth "angylion" 158 yn angelion" syrthiedig erbyn 403 a 529. Hynafgwyr sy'n iawn ac nid "henafgwyr" 561 pwy eroied a glybu am "y mab henaf" yn y ddameg ? Rhyfedd yw troa 570 yn lie try." Am yr Acen druan, y mae rhyw bla wedi disgyn arni hi mewn Llyfrau Emynau diweddar. Ceir yn 7 clyd," teg," caf," haf," ag acen ar bob un lie nad oes ddim o'i heisiau. Yn 24 rhoddir acen hir uwchben rhad," ond gadewir hi allan o wlad, allan y dylai fod o'r ddau air. Ceir glod a fod yn 26 rhod a fod yn 52 drwg ac wg yn 32; ac yn lie a ceir ä" ( ) yn 509. Beth pe cyhoeddid llyfr Groeg a'r acen wedi ei cham-Ieoli hanner cymaint ag y gwneir yn Llyfrau Ernvnau Cymru ? Nid yw de ac Ef yn ail bennill 98 ddim yn odli; ac nid yw ymolchaf "nac "aflanaf" yn 504 ddim yn odli a Haleliwia." Teitl un o'r tonau yw Arosfa ynllo Arhosfa a dyma un arall, "Bankyfelin," -paham y defnyddir y gair Saesneg bank mewn enw Cymraeg ? Y mae Bank Villa yn iawn, ac felly y byddai Bancyfelin." Dylid dywedyd mai cyfieithiad truenus o Lead Kindly Light yw rhif 630 gan W. Cadwaladr Davies. Yn wir, prin y mae'n gyfieithiad o gwbl mewn rhai rhannau: er enghraifft, Hyd rydiau'r afon ddofn, heb ofni byth Ei hymchwydd hi. Pa gyfieithiad yw hwnyna o O'er moor and fen, o'er crag and torrent, till The night is gone "? Gwael iawn hefyd yw'r llinell olaf Hen deulu'r llawr a'r palmwydd yn eu llaw." Nid yw "blwyddi yn yr ail bennill ddim yn air o gwbl. Er beirniadu cymaint a hyn ar Gymraeg y llyfr hwn, rhaid dywedyd mai dyma'r Llyfr Emynau goreu ei Gymraeg yn yr iaith,— os nad yw'r Caniedydd Cynulleidfaol cysta ag ef (o ran iaith). Pa bryd y daw terfyn ar annibendod ac aflerwch llenyddol Gol- ygwyr Llyfrau Emynau Cymru? Er cymaint o ragoriaethau sydd yng Nghymraeg y gwaith hwn, rhagor ei gymheiriaid, gwelir fod eto le i ddiwygio. Petai'r iaith ynddo yn gyson a hi ei hun ni ellid cwyno cymaint. Na ddyweded neb mai manion dibwys yw'r pethau y galwyd sylw atynt. Onid yw cywirdeb yn bwysig ? Arwydd o ddiffyg diwylliant, ac nid o anwybodaeth yn unig, fyddai gwadu hynny. I ddiweddu, dymunaf ddywedyd o galon (er gwaetha'r meflau ieithyddo I a nodwyd, ac er gwaethaf rhyw nifer o emynau sfll ac annheilwng a aeth i mewn) fod Mr. Haydn Jones wedi cyflawni cymwynas genedlaethol wrth gyhoeddi'r llyfr hwn, trwy gyflwyno i'n sylw gynifer o emynau newyddion gwir- ioneddol wych,—heb sdn am y cyfraniad rhagorol a geir yma i ganiadaeth gysegredig ein gwlad, cangen y mae ef mor hyddysg ynddi ac yn gymaint o feistr arni. f D. TECWYN EVANS
Advertising
PILOTS' CONCERT, PHILHARMONIC HALL. Mr. KINGSTON JONES was responsible for some ot the BEST FEATURES of the entei-tainment.- Courser. XMAS CONCERT, CEFN MAWR, 1917.-The recitals both Welsh and English, by Prof. Kings ton-J ones, were the feature of the evening He is a born entertainer He was enthusiastically recalled after each item.-Cefn Cb-orzicle. KINGSTON-J ONES Gold Medallist, Professor of Elocution Concerts.. Entertainer-A djudicatcr Entertainments given by self for whole evening (2/a- hours) in Welsh or English. English Programme includes PART I-" Story of Enoch Arden (Tennysor.),full of drama, pathos and human interest; lastingii houro PART II includes dramatic & humorous, Recitals, and a selection of Recitations at the piano. Concert promoters may select any of the following for Part I in place of Enoch Irden- "Together" (John Otenham). "The Going of the White Swan" (Sip G. Parker) "A Golden Wedding" (Delectable Duchy) Send for Press Opinions and Testimonials from various Churches, and specimen Programme. Welsh Programme will appear next week PUPILS TAKEN TERMS MODERATE. 27 Clifton Road East, Tuebrook, LIVERPOOL. 0. W. HU(;HES,(J. L.T.S C Orwoinfpid p calls in# JF#Asvfl N.C. Priem Be*$ Arweinydd Cymanfaoedd Canu Beirniad, ac Arholwr. Parotoir Ymgeiswyr at Dystvagrifmu utoeka) Coleg ? Bolla. Hen Nodiant a Solffm, 70 K!NGSLEY:ROAD LERPVO J. HALTON MORRIS, Popular Welsh Tenor,. For terms, apply 7 GRAMPIAN ROAD, Fairfield, LIVERPOOL Athrofa Aberystwyth (UN O'R CoLBOAtT TM MHWFTSOOL CYMBU). Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREU A'R Tymor nesaf ar Ddydd Mercher, Hydref 3ydd, 1917. Paratoir yr efrydwyr ar gyfor Arholi&dau Prifysgol Cymru. Cynygir amryw o ysgoloriaethau (amryw o honynt yn gyfyngedigi Gymry) y flwyddyn hoa. Cymer yr arholiad le yn Aberystwyth ar y 18fed o fis Medi. 1917. Am fanylion pellacb, ymofyner & J. H. DAVIES, M A. Cofrutrydd