Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

mtr GosTEo. I ...., . ' ';"".…

OYODIAOUR.I

©yhoeddwyr y Cymod I

Advertising

[No title]

Advertising

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohiriwyd trafodaeth ar genedlaetholi'r 1 Fasnach Feddwol. Galwodd y trysorydd (Mr. Jones, Mayfields) sylw fod amryw eglwysi heb dalu y casgliad i mewn. Galw- odd Mr. Pritchard sylw fod y Parch. G. Wynn Griffith, B.A., B.D., yn mynd i Ffrainc ddydd Lun nesaf, mewn atebiad i gais y Y.M.C.A. Teimlai'r Parch. J. Owen yn falch ei fod yn myned, ac fod eraill yn bwriadu myned, a bod yr eglwysi yn barod j i wneycl yr aberth. Ategwyd gan y Parch. J. Hughes, M.A.—Llongyfarchodd y Llywydd Mr. O. H. Hughes (Peel Road) ar ei adferiad ar ol y ddamwain a ddigwyddodd iddo.— CaedAdroddiad Pwyllgor Lleol yGenhadaeth Gartrefol gan Mr. Robert Evans. WEBSTER ROAD.Chwef. 14, daeth Cor Plant Princes Road i roddi datganiad o Born in the East. Rhifai tua 30 ac ychydig gyfeillion mewn oed yn cynorthwyo. Yr adroddwyr wedi eu gwisgo yng ngwisgoedd y gwledydd a gynrychiolent-Annie Roberts ac Eilian Roberts,' Elsie Roberts a Leslie Roberts a Martha Brown a Sylvanus Jones yn adrodd sut y buasai arnynt pe wedi eu geni yn China, Japan neu'r India. Cawsom hefyd unawdau a deuawdau a chydganau gan y cor, dan arweiniad medrus Mr. Thom- as Jones. Mae i'r cor hwn beth newydd,— cadeirydd ieuanc o blith yr aelodau, sef Master Hywel Jones,ac arweinioddy gweith- rediadau yn ddeheig iawn. Da gennym ddeall fod galwadau eraill arnynt yn y ddinas, ac yn sicr mae gwledd yn eu haros yn y lleoedd hynny. Ynglyn a Changen y Chwiorydd o'r Gymdeithas Genhadol y cynhaliwyd y cyfarfod, a hyderwn fod elw sylweddol i'w gyflwyno at y cyllid. Meth- odd y Cadeirydd a bod yn bresennol, sef Mr. Robert Jones, Seacombe, ond gofalodd anfon rhodd anrhydeddus. Cymerodd Mr. John Jones, Mayfields-un o gefnogwyr pennaf y cenadaethau—ei le ar fyr rybudd. Diolchwyd gan Mri. Rd. Williams, G. Jen- kins a T. W. Thomas. Gweddiodd y Parch. R. J. Williams, a chanwyd Marchog lesu yn llwyddiannus" ac Ymgrymed pawb i lawr." Diolch i'r chwiorydd am drefnu noswaith mor ddiddorol ac adeiladol, a phob llwyddiant i'r Cor yn eu hymdrech i greu mwy o sel at y gwaith cenhadol.—T.J.G.

Advertising