Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
par* GOSTEG. I
par* GOSTEG. R. M. Thomas.—Diolch i un o blant Glari Llyn, Talsarnau, am ei gofion cynnes o ffosydd Ffrainc. Dyrwch wybod a fo'r Brython yn paUu a'ch cyrraedd yn eich trigle newydd. Yr ydych chwi yn dysgu Ystyr y gair aberth drwy waed a chelanedd a ninnau gartre'n bygwth ei ddysgu drwy glem a newyn. Buan y caffoch ddychwelyd 1'eh -eynefin o flaen Moel Scyfaraogoda'r j Fonllech. Ymae'r hen fynyddoedd yno'n > amryw am Fau Aberteifi o hyd, ac Ynys Gifftan fel stud ar frest y Traeth. Gair buan os galloch rliarii, yr ergydio enbyd. Evan Williams.—Buasai'n dda iawn gen- nym gyhoeddi'r bregeth, ond y mae hynny'n hollol amhosibl, yn yr arngylchiadau sydd ohoni ar hyn o bryd. Y mae'r gwr a'i traddododdyn un o'n cenhadon gonestaf, a bu portead ohono yn un o Lithoedd y Merlyn flynyddoedd yn ol, sef ar ol ei glywed yn traethu ar dre balchter atgaja'r ddaear a phe deuai i Lerpwl weithiau, fe aa n i'w wrando, a'i godi i golofn Yr Hoelion Wyth yn anad neb bron. Taldir ar dir y byw.- Y clyw y mae'Mons. Jaffrennou (Taldir)--sef y bardd a'r golygydd Llydewig—ar dir y byw, o drugaredd, er ei fod ym mhoetha'r rhyfel o'r cychwyn cyntaf. Cawsoin air oddiwrtho ddydd Sadwrn di- weddaf. Brigadier y fo gydag adran neill- tuol o'r Fyddin Ffrengig, ac yn dyhnu am gael dod i nes eyswllt a'r Fyddin Gymreig. Y mae o yn un o'r llenorion gwladgar a ddisgwylir i'r Gynhadledd Gyd-Geltaidd sydd i'w chynnal ynglynJug^Eisteddfod Birken- head fis Medi nesaf. Athroniaeth cadw illochyn-Creaclur pwysig iawn, os atgas ei arogl ydyw'r mochyn y misoedd hyn, ac ami i Sanitarian, a fu'n gwaeddi'n groch yn erbyn i neb gael cadw mochyn o fewn milltir i'w dy ef, yn ddigon anghyson i ddwrdio fod ei gig mor ddrud nac yntau'n cael cymaint ohono ag a ddymun ai. Un o'r anerchiadau etholiadol rhyfeddaf a welwyd ar bapur erioed ydoedd honno a wnaeth Daniel Owen, pan ymgeisiai am sedd ar Gyngor yr Wyddgrug. Yr oedd un paragraff go fawr ohoni'n cael ei neilltuo i draethu ar athroniaeth cadw mochyn ac ebe fo :— Ond cyngliorwn bob etholwr sydd yn perth- yn i'r dosbarth gweithiol, fel fy hunan, ofyn y cwestiwn hwn i bob ymgeisydd :— A wyt ti'n dyfal dal yn dyn mai iachus yw I cadw mochyn ? Ac ebe fo wedyn, yn is i lawr :— Mae nhorob dda, a ham, Yn nhop y ty'n gytun, A llwyth o datws yn yr hog Yn hendwr i bob dyn. Mwynlais a Chreglais.—Xlewn ymgom a gododd ar yr aelwyd yma'r nos o'r blaen am adar, soniodd un o'r cwmni am-ddarlith a glywsai beth amser yn ol, lie y dywedai'r darlithydd mai'r adar plaen eu gwisg oedd canorion goreu, gan enghreifftio'r fronfraith a'r aderyn du pig melyn a'r Eos Gefnllwyd, ac mae rhyw greglais o groglofft," chwedl Twm o'r Nant, oe4d gan y Paun a'r Aderyn Paradwys a'r Parrot a'r Cockatoo a'r Elaffiingo ac yn y blaen. Dyfynnodd sylw un o sylwedyddion naturiol craffaf Cymru ar y pwnc, ac wele fo :— Frodyr, gadewch inni yn y fan yma ddiolch i Dad y Trugareddau am ei gantorion. Ni fuasai Ynys Prydain hanner mor hawdd- gar pe'i hadar yn fudion. Mewn rhai gwledydd ni chlywir un hyfrydlais, er fod yno nifer afrifed ohonynt, a'u gwisgoedd yn anhraethol fwy gorwych a harddach na'n hadar ni, eto ni feddant na chwibanogl nac organ,—dim ond rhyw ysgrech annaearol ambeil waith fel ebwch mudan." Y mae can y fronfraith yn fwyn odiaeth a hi'n iach ac ifane ond dywedir fod ei chan wrth farw'n fwynach byth, a, chyn ddwysed a brefiad oen wrth gael ei ysgar oddiwrth y famog byth-i gyd-bori a hi mwy ond nid llawn cyn brudded ag ochenaid bardd pan gollo'r Gadair Genedlaethol. John Jone, Treffynnon.-Ie,-dyn teilwng o'i atgyfodi i olwg y genhedlaeth bresennol oedd yr hybarch John Jones, Treffynnon, petai dim ond am ei fedr fel datodwr cylym- aumwyaf dyrys diwinyddiaeth, a'i atebion ,cyrhaeddgar a chrafog i'r rhai a gyfrifid yn hereticiaid gwenwynig y pryd hwnnw, ond sydd wedi cael eu cyfriflyn blant y Goruchaf erbv" n heddyw. __Daw'r llythyr gynted y bo He. ') Peryglon Plant y wlad wrthgytaudir di-c.- Dyma bwnc y nawfed llith ar hugain a gyrhaeddodd yma o Lofft Stabal yr Hen Was ddoe, ac a ymddengys yn Y Brython nesaf. Y mae ynddi ami i gyngor a rhybudd gwerth- fawr, ambell stori syth ei hergyd, a rhyw ffordd wledig ddi-lol o ddweyd ei feddwl. Ys gwn i a symudodd Mart r forwyn o r wlad i'r dre, canys ni chlywsom mohono'n son dim gair amdani ers tro. Gobeithio ei bod hi'n ffyddlon iddo. j Lloyd George. ar gan.- Y mae Mr. R. Morgan, Pen y Groes, Llandebie, wedi canu. can ar Gwyl Ddewi Lloyd George at y cyntaf o Fawrth, ac fe wna'r tro i'w chanu mewn cyrddau gwlatgar a milwrol ar hyd y flwyddyn o ran hynny, canys rhai tebyg i hwn yw gweddill ei ddeuddeg pennill :— Efe yw Moses Prydain, A'i lais adseinia'r groch Fod llwybr gwaredigaeth Trwy ganol pob Mor Coch Mai tynged pob Phar-a-oh, A'i holl farchogion, yw Cael hedd heb un maen coffa Ym m6r digofaint Duw. Hwyl, a'i werth.-Gwir a ddwedwch fod Tlavrer o'n canu yn ganu i'r cnawd, ac o'n gorfoledd yn orfoledd has, heb gyfne wid dim ar ddyfnderau moesol yr enaid-dim ond chwa'n chwythu a chodi ewyn ar wyneb y don. Ond dylem,fel cenedl ac fel personau unigol, gofio geiriau Woodsworth The gods approve The depth, and not the tumult, of the soul. Ni fedrwch chwi na minnau newid natur nwydus y Cymro, ac ni fynnem; eithr da fyddai gweld mwy o ballast goleuni a gwybod- aeth i gadw'i long rhag mynd gyda'r gwynt. Y mae'n debyg mai sylwadau'r Parch. Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) ar Afiaith Oanu Cynulleidfaol y Cymry, yw'r peth goreu a chywiraf ar y pwnc. Ac o gariad ati y beirniadodd ef ei genedl,ac nid am ei fod yn cael hyfrydwch wrth fod yn od ac yn groes i'r lliaws.
Advertising
Can a ..tloliant.- Yr oedd adolygiad y Parch. Tecwyn Evans ar y gyfrol uchod yn foneddigaidd a hollol ddidramgwydd, er mor llwyr a didderbynwyneb a phe buasai eich IIythyr chwithau'n gyffelyb, cawsai ymddangos.
I -U X Dili <.-'
I U X Dili < I MAWRTH. 7-Te a Chvngerdd Eghvyc Dewi Sant. 7-Organ Recital yn Chatham Street. 9-1I-Cymanfa Wesleaid Lerpwl. Io-Noson Nantlle yn Crosshall Street 14-Cyfarfod Cystadleuol Princes Road 17-18—Cyfarfod Pregethu Great Mersey Sti .'et 17-18—Cyfarfod Pregethu Vittoria Street 14-2;Cyfarfod Pregethu Crosshall Street. 2S—Dn>ma Hirnos a Gwawr yn Webster Road j EBRILL to-Eisteddfod Gadeiriol Pontypool q-Undeb Gobeithluoedd yr Annibynwyr zS-zg--Cvf-,irfod Pregethu yn Park Road 28-29—Cyfarfod Pregcthu Clifton Road ———
Cyhieddwyr y Cymod y Sabotb…
Cyhieddwyr y Cymod y Sabotb nesat. Y METH0DT3TIAID OA.LFIN'AIDD PRIVCES ItOAD-10 a 6, W J Williams, Hanfair DAVID STREET—10.30 a 6, D P Williams PITFOTAREJTCE STREET—10 a 6, G R Jone. DOPGLAS ROAD—JO a 6, CHATHAM ST-10.30 a 6, R R. Hushes OROSSHALL ST—10.30 a 6, R J Williams AlqFIELD ROAD-IO.30 a 6, J. Owen NEWSHAM PARK—10 a 6, 0 Lloyd Jones BOOTLE-10 a 6, It Aethwy J-iies PARKFIELD-IO.30 a 6, H H Hughes SEACOWBE—10.45 a 6.30, W A Bassett QARSTON—10.30 a 6, J Daniel Evans ROCK FERRY-10.30 a 6, 0 T Owen WALTON-10.30 a 6, E. J Evans WATERLOO—10.30 a 6, W Henry PEEL ROAD—10.30 a 6, R W Roberts EDGE LANE-IO.30 a 6, D Jones WEBSTER ROAD-10.30 a 6, LAIRD STREET—10.30 a 6, W 0 Jones WOODCHURCH RD—10.30 a 6. T J Rowlands NEW BRIGHTON—10.30 a 6. T M Jones, Gronantj WEST AIRBY-ll a 6.30, W W Roberts, Bootle SOOTHPORT—10.30 a Q, R Davjes HUYTOJT QUARRY-IO,30 a 6, K Roberts, Earlostowa WHI8TON—10.30 a 6. Gordon Macionald ST. HKLESS— T Evans, Leiall ST. HELENS JUNCTION—J Peron Jones SKJ^LMER3DALE—10.30 a 0. WIGAN—2-30 a 6. Owen Jones ET.IESMERE PORT—10.30 a 6, ASHTOX-IX-JIAKERFIELD—10.30 a 6, Enoch Rogers UPPER WARWICK STREET-B.15, BANKHALL—6.15,— SMITH STREET—6. MIDDLESBROUGH—10.30 a 6.30, R. P. Jones SUNDERLAND—10.30 a 6, 5PEXNYM00R—10.30 a 5.30, EASINGTON—10.30 a 5.30, E P Roberts ELDOX—10.30 a 5.30, SUTTON OAK (UndeboJ)-10.30 a 5.3U YR ACHOSION SEISIO. OAKFIELD ROAD—10.30 « 6.30, J Lewis Jen k-inli EVERTON BROW—10.45 a 6.30, Oliver Williams CATHARI-N-B ST.-IL a 6.30, -R L Pow,,Ii 3FELLOW LAXE—11 a 6.30, W F Phillip? LISOAHD—10.45 a 6.30. Emlyn James BREEZE HITL-11 a 6.39, H. Ridehaigli Jones ORRELL, BOOTLE-ll a 6.30, HoweU Evatis WILLMER RD.-10.45 a 6.30; G H Ev;\u' YR A.V.VIBYM'WYR TABERXACL—10-45 a 6, O L RoOfW PARK RD-10.30, D Adams 6, J Hughes. Fitzelarence GROVE ST-10.30. John Hughes. 6. D Adams OLIFTON ROAD— 10.30, T Price Davies, 6 J J Roberts GT MERSEY ST— 10-45, J 0 Williams, 6. R Ll Williams, Penarth MARSH LANE—10.30, a 6, Gwel hysbysiad KENSINGTON—10.30 R Llovd Williams. 8, J OWilUams TRINITY ROAD—10.30 A T Evans, 6, W Roberts LisCA.RD-10.45. J J Roberts, 6.15, T Price Davies VTTTORLA ST—10.30, W Robert^. 6. A T Evans HEATHFIELD RD.—10.30, Ysgol. 2.30 D Artams BALMORAL ROAD—10.30 a 6, R G Thomas RARLESTOWN—10.30 a 5.30, Cyfarfod UlldeboJ PRESCOT—10.30 a O. 1 homas Hushes FHATTO HEATH—5.30, Isaac Owens SOUTHPORT-11 a 6.30, IiSHTON-IN-MAKERFIELD—10.30 a 5.30, H Williams GOLBORNE—10.30 a 5.30, WIGAN—2.30 a 6, Y WESLEAID OARVIRLD-10.30. J Roger Jon e-, 6 T Isfryn Haghea SPELLOW LANu-10.30, T I Hugher. 6, G Evans BOOTLE—10.30. W R Williams. 6, R W Jones EDGE HILL—10.30, Cyfarfod Gwsddl, 8. J R Jones KNOWSLEY RD-10.30 R W Jonas, 6, W R Williams MYNYDD SEION—10.30 R W Davies, 6. Edward Davies BIRKENHEAD—10.30, D Tecwyn Evans, 6, R W Davies WIDNES-10-30 a 6. John Evans « G VRSTON—2.30, D Tecwyn Evans, 6, A Owens E IRE MO NT—10.45 Ed lb avies, Ft. D ccwyn Evans ASHTON-IN-M'FIELD—10.30, E W Owen 6. J Lloyd EARLESTOWN—10.30. 5.30. E W Owen GOLBORNE-2 E W Owen. 5.30. SPRING VIEW-10-30, J Harrison LEIGH-10.30 a 5.45, Goodman Ellis "'t!. HELENS— 7 BEDYDDWYR. EVERTON VIL-10.30 a 6, D Powell EARLSFIELD ROAD-10.30 a 6. T. Michael BOUSFIELD STREET—10.30. J Davies. 6, M. Griffith EDGE LANE—10.30 a 6 H R Roberts BALLIOL ROAD-10.30 a 6, P Williams WOODLANDS—10.30, M Griffith, 6. J Davies S$EACOMBK—10.45 a 6,15. PALMERSTON DRIVE—10.30, L W. Lewis, 6, U. W. W yo ie EGLWYS RYDD Y CYMRY CANNING STREET—10.30, a 3, John Edwards HIGH PARK ST—10.30 6, R T Roberts BOOTLE—10.30 a 6. WO Jonpa BIRKENHEAD—10.30, D Davies, 6, DONALDSON ST-10.30, Cyfarfod Gweddi 6. D Davies. YR EGLWY3 SEFYDLEDIG DF-WI SANT—11 a 6 D E Hughes DEINIOL SAITT-11 a 6.30, Griffith Jones A.sA.pEr SANT—11 a 6, S. Jones-Parry WIXIFRED SA.NT-ll a 1).30. J. Hughes
Gair o Ffrainc.I
Gair o Ffrainc. I Padres, Tywyllwch Nos, a I Fff wydrennau. Y MAE gwahaniaeth rhwag caplan a chap- Ian ac ystyried mor ddieithr oedd y fyddin i'r gweinidog Ymneilltuol, syndod eu bod yn llwyddo cystal ag y maent. Y mae ambell i gaplan yn meddwl mwy am ei urddas per- sonol a phwys ei swydd nag am ei waith yn y ffosydd gy da'r dynioii. Methiant hollol fydd caplan felly. Qyll barch ei gyd- swyddogion ac ymddiried y milwr cyffredin. Y mae, ar y llaw arall, gaplaniaid llwydd- iannus; llawn gwaith ac ymroddiad; mor gartrefol yn y ffosydd ag yn y Messroom. Y maent yn brysar enaill arwyddion parch. Dyaa Weslead yn y De wedi cael y V.C dyna Major Peris Williams a Capten Cynddelw Williams, D.S.O.ac eraill. Nid yw y llythreanau, yn y cysylltiad yma, yn bethau i'w diystyru, oblegid ni ellir eu cael heb wynebu peryglon. Y mae y Padre diymhongar, gonest, ffyddlon ya sicr o barch ei gydswyddogion a'r dynion. Y mae y ffordd i galonnau dynion yr un o ran ei hanian yn y fyddin ag ydyw ym mywyd tawel Cymru. Yr ydym ni yn y fataliwn, hon wedi cael llawer cyfle, er pan ddeuthom i Ffrainc, i sylwi ar ffyrdd ac osgo y gwaha^l Badres a ddaw i'n plith. Gadewch i mi roi am- linelliad o gymeriad a theithi dau gaplan- Cymro tawel a Sais hwyliog, a'r ddau'n esamplau o'r Caplan sy'n llwyddo i ennill ymddiried y swyddog a'r milwr eyffredin. Daeth Padre newydd yma yn ddiweddar.Gwr o Niwbwrch, Sir Fon. Gwr o bwyll a synn- wyr. Y mae pawb obonom-swyddogion a dynion—yn ei hoffi'n fawr. Rhagorai'n fawr ar rai a fu yma. Er ei fod dros hanner cant oed, ac fel y rhan fwyaf o Gymry'r Ynys, yn araf ei barabl, y mae ei bwyll a:i hunanfeddiant ym mhob perygl, ei symlrwydd a'i barodrwydd i wneud pob peth a allo yn ei adeg, wedi ennill ein hymddiried llwyraf. Yn ein dadleuon, er nad yw'n cymryd rhan ond yn anaml, pan wna, y mae ei feirniad- aeth bob amser, a min arni ac y I mae'r ochr y gogwydda ef ati yn teimlo eu bod wedi cael llwyr fuddugolieth. Y dydd o'r blaen dywedwn wrtho y byddai'ndda gennyf pe gwelai ein gwein- idog gor-obeithiol pan gai ei leave. Gallaf ddychmygu mor fuan y chwalai ddych- mygioa a gwag obeithion y gwr addfwyn hwnnw am derfyn buan i'r rhyfel a llwyr fuddugoliaeth ar y Germaniaid. Y mae wedi bod yn yr ysbytai gyda'r clwyf- edigion. Gwyr rywbeth beth a gostia y big push. Clywch o vn siarad am Belgium. Gofynnais iddo ai nid da oedd ganddo fod yma pan feddyliai am fradychiad Belgium fechan, ddewr. "Belgium." atebai. "Na soniweh air byth wrthyf fi am Belgium. Pan ddaw terfyn i'r rhyfel, ni chlywch chwi air byth gen i dros Belgium." Y mae'n rhyfedd mor ychydig o gariad at Belgium a'i phobl a goleddir gan y milwyr sydd ymladd drosti. Ond er ei fod yn edrych ar bethau gyda chryn lawer o dristweh eto y mae'n llawn o hiwmor, ac yr ydym i gyd yn hoff ohono. Nid oes dim dwywaith nad padres fel y fo yn unig sydd yn gwneud Ues mewn lie fel hyn. Gwell i'r lleill fynd adref i gadw "Cyfarfodydd Pregethu poblogaidd." Pan gafodd ei.0 leave, daeth Sais rhyfedd ond clen iawn i gymryd ei le am ddeng niwriod. Cawson hwyl fawr gydag ef; creadigaetb. newydd oedd ef. Yr oeddem ar ginio pan ddaeth i'r Mess. 0 swydd Efrog y deilliaw a Phrimtiue Methodist ydyw gartref. Torrodd ar d aws ein siarad gyda gwên gefnog ar ei wyneb. "Wel, fechgyn," oedd ei air cyntaf. "Y maent wedi bod yn gyrru y whizzbangs a'r f'ol i a dydw i ddim yn eu hoffi nhw coeliwch fl. Ffrwydrennau trymion," meddai. "Arferwn gartref bregethu am farw a'r pwys o fod yn barod i hynny y gallai angau ein cyfarfod unrhyw foment. Ond yn awr, From sudden. death good Lord deliver us yw hi arna i. Pan dderfydd y rhyfel, phre- getha i air byth am farw" Chwarddem wrth ei ddull iach a'i chwerthin croew: chwerthin nid o gydymdeimlad, canys gwyddom ei brofiad yn eithaf Dywedai wrthym stori am ei fuddugol- iaeth ar y Colonel. Yroedd yr Hdqrs. wedi rhoddi iddo dug-out gwell na'r cyffredin. Daeth y Col. heibio Yr ydych yn bur gyfforddus yma." Ystafell dda ydyw hon. Gwnai Messroom braf. Ond yr wyf fl'n byw ynddi," ebai'r Padre. "An genrhaid milwrol; rhaid i chwi glirio allaur," meddai'r Col. Ond edrychwch ar ein henwau ar ydrws—Rev. J K-, &c. atebai'r Padre, "ac heblawhynnywnawn ni ddim symud mod- fedd o'r lie,"meddai a throdd ei wyneb llydan I gwrol a llawen ar y Col. Wel," meddai I yntau, "mi gawn weled lie mae eich awdurdod chwi?" "Ewch i fyny i'r Chateau a gofynnweh i'r General," ebe'r Padre. Nid oes angen dweyd na chlywodd y Padre air byth yn ychwaneg. Dyna i chwi gyferbyn- iad rhwng y Padre o Sir Fon, y gwr dwys, difrif, dylanwadol, a'r Padre o swydd Efrog, -cefnog, llawen a hunan-ymddiriedol. Y mae y naill mor llwyddiannus a'r Hall. Un o'r pethau mwyaf ofn-gynhyrfiol yma yw tywyllwch y nos. Gallaf yn hawdd gydymdeimlo a Job druan pan gwynai o'i* ddychryn yn nyfnder y tywyllwch yn y nos. Wrth gerdded ar hyd y ffyrdd yma neu y ffosydd meddienmr chwi er eich gwaethaf I gan ryw deimlad fod Y Drwg annelwig yn eich amgylchynu. Y mae un o'n swydd- ogion dewraf- un a enillodd y M.C.-yn ofni rhag cerdded ei hun yn y tywyllwch. Ni cheisia guddio'i ofnall.. Dychmyga fod pob boncyff neu wal ddrylliog yn cysgodi rhywun sy'n barod i roddi naid a'i drywanu. Y mae yma ddigon o bethau i'w hofni heb ddychmysru o gwbl. Y mae hi'n ddidru- garedd o oer yma. Dim glo na coke; ac felly rhaid inni ehwiiio'r wlad am goed i'w llosgi Y noswaith o'r blaen yr oedd angenrhaid arnaf i fynd mewn wagen am bellter. Yroedd y rhew yn disgyn yn gortynnau oddiwrth fy mwstash. A ydych chwi yna yn gallu sylweddoli y sefyllfa ar y ffrynt yma ? Awr yn ol, o fewn 200 Ilath i'r man lie rwy'n ysgrifennn, yr oedd y gelyn am anfon ffrwydrennau dros- odd. Lladdodd ffrwydren bedwar o ddynion ar un ergyd. Sobr o beth yn wir; ond peth digon eyffredin fan hyn. MICHAEL MORRIS. Meddyliwch am y bachgen glew o Ffes- tiniog, milwr cyffredinac orderly Liffoonan ydoedd. Safai aryrnyl y ffos, ac mewn eiliad lladdwyd ef gan belen. Bachgen hoffus dros ben. Yr oedd ganddo y Ilygaid tlysaf a wel. soch crioed-melydddu, ffyddlon, cariadloii. Ymunodd fx'r fataliwn yn ei ddyddiau cyntaf, ac am bedwar mis ar ddeg bu yn y ffrynt. G wnaeth enw iddo'i hun ym mrwydr ofnadwy Mametz. O'r diwedd caniatawyd leave idde fynd adref am ychydig, ond pan ar gyckwya o'r stesion galwyd ef yn ol. Daeth i'r ilos- ydd a lladdwyd ef y diwrnod nesaf. Yreedd ganddo yntau dad a mam gartref. Wrth feddwl am dano, fedrai i ddim peidio a Medd- wl fod ein ffordd ni o gloriannudynioll. yn ddiffygiol enbyd. 'Wn i ddim pa rinwedd mawr dynol oedd yn absennol ohono gost- yngeiddrwydd, glewder, ffyddlondeb, gon- estrwydd, amynedd—yr oeddynt i gyd y* f Michael Morris, a thipyn dros ben. Gwir nad oedd wedi dysgu triciau y disodhn ae ni fedraf ddychmygu am dano'n cymryd mantais ar ei gyd-ddynion: pan drengodd ef ehedodd ysbryd pur, coeth o'r lie uffeimol hwn i'r trigfannau nefol. Gwell dyn na Ilawer 1 gadfridog bostfawr. Ae eto ba farw heb fawr o sylw o ran neb, fel y gwna. miloedd eraill. Rhyfedd mor gyffredin yw'r rhinweddau mawr; hwyrach mai cyfrif ein bod yn meddwl mor fychan o bon- ynt Printed and Published by tll. Pro- prietors, Hugh ]Evans litndl Sons, 3gib.8 Stanley Koad^Liverpool, in the emsty of Lancaster, Tel 191 Boitii.;
Advertising
NOSON fxANTLLE Yn YSGOLDY OROSSHALL. STREET Nos Sadwrn, Mawrth io, am 6 30. Llywydd—Mr. J. H. JONBS, Gol. Y Brython. Oynhelir yr A I L CYFARFOD, Ceir gwasanaeth Miss Jennie Jones, M A. Roberts, Maggie Parry, Gwladys Wyn Jones. Jennie Williams,. Mri. Sam W. Jones, Ben Morris, Private Walter S. Jones, E' '1'. Hnghes, J. H. Griffiths, J. H. Jones, J R. Williarns, mewn cann, adrodd, a dadleuon, a cheir Cornet Solo gan William J. Jones. Traetbir hefyd yn fyr ar EDvrogion Fu v Dyffryn yn Feirdd a Llenorion, Pregethwyr a Gwyr Lleyg, Cerddorion a Chan- orion, gan Arfonog, T. I. Griffiths ac E Walter Williams. Cyfeilydd, Mr. J. J. Thomas, L.T.S.C., Fairfield. Mynediad i mewn gyda Rhaglen, 3c. Dowch fel o'r blaen yn llu mawr. Gwahoddiad eyenes a chroesawgar. R. J. GRIFFITH,, Ysg., Compton House. Eglwys Annibynnol Marsh Lane BOOTLE. Cyfarfod Mawr MAWRTH 3ydd a'r4ydd. Trefn y Moddion- Nos Sadwrn, am 7-30, Y Saboth, am 10-30 a 6, Pregethir gan y Parch. J. L. WILLIAMS, Aberystwyth. M.A., B.Sc. Sunday Afternoon, at 2-15, ENGLISH fcERVlCE, Preacher- Rev. S. R JENKINS, Seaforth. B.A., ST. DAVID'S (WELSH) CHURCH, Hampstead Road, Liverpool. The Annual ..Tea and Grand Concert.. Will be held in the Church Hall, On Wednesday, March 7, 1917 Artistes— Miss ETHEL AUSTIN, L'pool's Favourite Soprano Miss MYRTLE JONES, National Eisteddfod Prize Mr. GRIFF OWEN, L'pool's Welwh Tenor. [Contralto Mr. CHARLES LEEDS, The Popular Baritone Tea from 5-30 to 7-15 p.m. Concert at 7-45. Tickets (including Tax), 1 /3 & 2 National Fund for Welsh Troops REMEMBER THE FLAG DAY, March 3,1917, In Liverpool, Bootle, Seaforth, Waterloo, Birkenhead and Wallasey. Your support is earnest'y solicited Headquarters-32 NORTH JOHN STREET. CENTRAL HALL, RENSHAW STREET. 0 GRAND CONCERT a Will be given by the Pupils of Mr. T. ARMON JONES, R.A.M on Saturday Evening, April 7th, 1917. Mr. EVAN LEWIS Madame GLADYS WILLIAMS, Birkenhead (The well-known Weslh Tenor). (Adjudicator National Ei-fceddfod), Elocutionist. Mr. T. ARMON JONES, R.A.M., Bari'one. THE CENTRAL HALL CHOIR assisted by THE WALLASEY HARMONIC SOCIETY. At the Organ, Mr. J. W, WHALLEY. it the Piano, Miss NELLIE LEWIS. Doors open at 7, commence 7-30. Tickets, 2s., Is., 6d., and 3d. CHATHAM STREET CJ.-I.¿PEL. GRAND ORGAN RECITAL and CONCERT will be held at the above Chapel on Wednesday evening. 7th of March, 1917. ARTISTES Dr. CARADOC ROBERTS. Mus. Doc. (Oxon.), F.R.C.O., A.R.C.M., L.R.A.M., Miss ANNIE DAVIES, Penrhyndeudraeth, and Madame GLADYS WILLIAMS, of Birkenhead. Doors open at 7 p.m. Chair will be taken at 7-30. prompt by IT. C). ROBERTS, Esq. Ticketsl(including Tax), One Shilling. Proceeds in aid of the Poor. Cymanfa Wesleaid Cymreig Lerpwi a'r cylch, Nos Wener, Nos Sadwrn, a'r Sal. Mawrth 9: 10, a'r 11. Gwaanaethir gan y Parchn Owen Fvaus. Llanrwst; John Felix, Manchester W. O. Evans, Porthmadog; O. Madoc Roberts, Banajor Pliilip P.,ice. Coed Poetb; P. Gwynfryn Jones, Ftlint J. Maelor Hushes, Abergele Evan Roberts, Croesoswalit R. Yaughan Owen, Tregeiriog Lewis Edwards, Llangefni. Trefn v Pregethu. Nos Wener, Mawrth 9fed. am 7-SO'ar ploch- Oafcfierd, Parch D. Cwynfryn Jones Mynydd Seien. Parch. Philip Price Birkenhead, Parch. R. Vaughan Owen Trinity Road, Bootle, Parch. O. Madoc Roberts Egremorti, Parch, Owen Evans. Gwel Cyhoeddiadau'r Sul mewn colofn arall. Y Seiat Fawr ym Mynydd Seion, Nos Sadwrn, Mawrth 10, am 6-30 ar gloch. Llywydd, CHIEF-INSPECTOR WM. JONES. Mater—MARC i. 11-15. 1 Yr amser a gyflawnwyd," Parch. John Felix 2, Teyrnas Ddaw a nesaodd, Parch. Lewis Edwards; 3, Edifarhewcb, Parch. 0. Maelor Hughes I. Ore dwell yr Kfengryl," Parch. W. 0. Evans. Deehreuir gan,y Parch. R. V. Owen. Diweddir'Ran y Parkin. Ph. Price. _u_  THE WE H OUTLOOK Special St. David's Day Number. BEAUTIFULLY ILLUSTRATED. Contributions in Prose and Poetry by Leading Writers of the Principality The Illustrations include :-Frontispi(ce, Prif Weinidog Prydain Fawr (a very recent signed photograph). Robert Owen, the Socialist. Dewi Sant. Giraldus Cambrensis. T. Gwynn Jones. J. J. Williams. Eifio n Wyn. Dafydd ab Gwilym. Williams Pantycelyn. Taliesin before Maelgwn (adrawing). Price, 6d. net. 48 p.p. Obtainable of all Newsagents,, or from THE WELSH OUTLOOK rRESS9 CARDIFF.