Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Trein 1-Dewi S nt.

Trem II- f Daniel Rowlnn S,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trem II- f Daniel Rowlnn S, M A. Un o gedyrn Cymru oedd y diweddar Barch. Daniel Rowlands Cafodd gyfan- soddiad iach a gwydn. Edliw rhai i wvr cyhoedd yr oes hon eu heiddilwch rhagor y cewri gynt. Yn wir, gall fod peth sail i'r edliw. Ac nid rhyfedd hynny. 'Roedd bywyd y tadau yn wahanol i'n heiddo ni ac, ar y oyfan, yn fwy manteisiol i iechyd. Cymerent fwy o ymarferiadau coi'fforol mewn cerdded, a chaent trwy hynny chwaneg o awyr pur yn y fargen. Bwytaent yn fwy syml hefyd, gan feddwl mwy am faeth nag am flas Gresyn fod angen rhyfel in dysgu beth yw rheidiau pennaf vmborth Ond yr oedd Mr. Rowlands yn un o'r cewri iach, a chafodd oes patriarch. Un o'r nerthoedd tawel, ond effeithiol, ym mywyd Cymru fu efe GwrdiwylIiedig ydoedd, ond yn fwy o ysgrifennwr nag ymadroddwr. Gwnaeth lawer i oleuo ei genedl ar amrywiol bynciau bywyd. Dengys y Traethodydd, yn ystod tymor ei olygiaeth, mor eang oedd ei wybod- aeth, ac mor fedrua v triniai bob math ar gwestiynnau. Bu'n gvstal dirwestwr ag ydoedd y Daniel a fu ym Mabilon gynt. Cychwynnodd ei bererindod o ganol uo cyfnod yn hanes Cymru, a chyrhaeddodd ymhell i gyfnod newydd. Yr oedd yn ddysgedicach na'i gyfoedion yn y ganrif o'r bla.en, ao yn wr graddedig pan nad oedd y cyfrvw ond ychydig nifer ymysg yr Ymneilltuwyr Cymreig a phan ddaeth goleuni miwr y Deffroad ar addysg, ni fu angen iddo et wyro pen. Dyn galluog, ffyddion, a da dros ben fu'r Parch. Daniel Rowlands am ei oes faith, a bydd ei goffa'n uchel ar reStr gwasanaethwyr goreu'i genedl.

Tparn lil-Richard Lloyd.

Trem IV-Y " Flag Day."

Advertising