Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Tne. J t W OLD PLACe (0. CJJUROH Stfitcr) LARGEST SELECTION LOWEST PRICES TELEPHONE 3075 ROYAL
WRTH HEBRWNG i
WRTH HEBRWNG Yr Ynad EDWARD LLOYD. I PAN. fu farw Mr. Edward Lloyd, Y.H.,31 Falkner Square, ddydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, collodd Lerpwl un o'i Chymry mwyaf parchus a chu. Fe'i ganed ym MhenJy Bont Fawr,* sir Drefaldwvn, yn 18371; daeth yma mor bell yn ol a 1856, yn siopwr. Dechreuodd drosto'i hun yn 1860, a llwyddodd yn gyflym ond yn gadarn. Codwyd ef i'r fame ynadol yn 1895, a shyflawnodd ei waith'fel ynad gyda'r ymrodd- iad difwlch a'i nodweddai ym mhopeth yr ymgymerai ag o. Yr oedd yn flaenor yn 'Eglwys Annibynnol Grove Street era hanner can mlynedd, a bu'n drysorydd iddi ddeugain mlynedd. Llanwodd swyddi pwys- ig yn yr enwad yn gyffredinol ac ni chafodd y Gymdeithas Genedlaethol well na chy- sonach cefnogydd o'i thymor cyntaf hyd yn awr. Ddeufis yn ol y cleddid ei fab, Mr. T. Arthur Lloyd, a diau i'r loes honno ysigo ei gryfder. Mab iddo yw'r Proff. J. E. Lloyd, M.A., Coleg Bangor, sy mor hysbys led Cymru fel ei hanesydd disglair, Y ferch yn briod a Mr. W. R. Owen, goruchwyUwr adran Llundain o Ariandy y London City and Midland. Y mae cydyxndeimlad y ddinas a'r wlad a hwy ac S'rfweddw oed- rannus Mrs. Lloyd, sy mor hysbys am nerth ei chynheddfau corfforol a, meddyliol, ac sy'n goddef ei phrofedigaethau mor wrol er mor ymostyngar. Llawer ymgom a gaw- aom & Mr. Lloyd o dro i dro, a helaeth oedd «i gofion am Hiraethog- a chryfion pulpud Lerpwl yn y dyddiau gynt. Pa wrandawr mor gynnes ar bopeth y byddai'n Efengyl a phwy bynnag a fyddai'n gibog a beirniadol ei wedd, gweleeh ddigon o lygedyn eydvm- 'deimlad serchog yn ei lygad ef bob amser i'ch cadw rhag torri i lawr na digalonni. Diou nad'oedd aelwyd yn Lerpwl nac unman fwy trwyadl Cymreig a chrefyddol ei naws na 31 Falkner Square.% Boed rhagor o'i thebyg ymysg ein Cymry cefnog. Yn ei arwyl. ■ Cieddid ddydd Sadwrn diweddaf. Cy- ehwynnwyd y corff I y-l'y ty ganTy Parch. B. Davies, Mynydd Seion," ac ynjyr awr o oedfa a gafwyd wedyn yng nghapelI Grove Street,clywid y Funeral.Marchar yr organ gan Mr. Barker wrth i'r arch a'i gweddillion gael eu eludo hyd o flaen y Set Fawr. Canwyd Mor ddedwyydd yw y rhai trwy ffydd. ar d6n Abergele darllenodd y Parch. T. Price Davies 1 Cor. xv. 44-58; canwyd yn gyda'r lluoedd-(un o'i hoff enlynau, gwaith Watcyn Wyn) ar y d6n Headley gweddiodd y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A.; yna canwyd There is a land of pure Might, sef emyn Dr. Watts ar Beatitudo y Parch. D. Adams, B.A., a lywyddai'r cedfa a chaed tri anerchiad a'u rhediad fel y canlyn :— Dyn dau fyd. Wedi amlygu ei gydymdeimlad A'r weddw a'r teulu, ag Eglwys Grove Street a'i gweiriidog, sylwodd y Parch. O. L. Roberts na ddaeth i'r ddinas erioed Gymro a fu'n fwy ffyddlon i bethau da ei wlad a bu'n ffodus mewn cael priod mor 81ddgar ag yntau. Mewn Eisteddfod y y ireuliodd ddau ran o'u mis mel adeg eu priodi, a gwelwyd y ddau yn bresennol yn yr Wyl Genedlaethol yn ddifwlch am hanner ean mlynedd. Yr oedd yn wr trwyadl grefyddol, ond ynv grefyddwr siriol ni ddysgodd erioed dynnu wyneb hir, a chref- ydd hawddgar 8. heulog oedd ei grefydd ef. Yr oedd yn enwadwr selog,-selog iawn, ond heb grebychu na chulhau yn ei syniad am werth a rhagoriaeth ei frodyr mewn enwadau eraill. Ni chaed neb rhyddach a llai rhagfarnllyd. Masnachodd yn llwydd- iannus, heb adael i bethau eyhoeddus ei j ieste Tlo, na gadael i fasnach ychwaith ei andwyo na'i aychu at bethau Seion. Yr j Qedd ei aelwyd yn ddelfryd o undeb eriwadol, canys er bod ei briod yn addoli gvda,"r Wes- leaid ac yntau gyda.'r Annibynwyr, t,eyrnasai tangnefedd yno bob amser. Cawsai'r ddau y fraint fawr o fagu Hanesydd gloyw Cymru, a Duw'r rhieni a barha;>'n Dduw eu plant.a ) phlant eu plant. Grove, Street byth yr un fath-I I Sylwai'r Parch. S. R. Jenkins, B.A. (yn Saesneg) fod Mr. Lloyd yn enghraifft or math goreu ar flaenor eglwys a dinesydd da ae na wyddai am neb o Gymry Lerpwl a wnaethai well argraff ar feddwl Saeson y ddinas o'r Cymro yn ei deithi goreu a mwyaf anrhydeddus. Yr oedd yn ddyn dedwydd | am ei fod yn ddynTmol' iach, o feddwl mor ddiddig a di gwyn, a'r diddigrwydd hwnnw'n ffrydio allan ohono i bawb a gaffai ei gYUJ. deithas. Kisteddodd yn yr un set yn Grove Street am hanner canrif ac wrth ei golli, diau y;teimla ei weinidog, Mr. Adams yma, yn debyg i'r fel y teimlai'm tad innau (yf Parch. D.^M.^Jenkins) |pan|« gollwyd Benjamin Owens o Park Road. Nirfydd Grove Street byth yr un fath' ar ol colli Thomas Arthur Lloyd yn ei anterth a'i dad Edward Lloyd vn ei addfedrwydd. MTirn—gvTTun I ru l :.oj Parod o ran cyflwr, parod o ran profiad. Ar yr Hybarch Ddr. Owen Evans y galwyd nesaf, ac ebe to :—Yr oedd Mr.Lloyd a finnau o'r un fan yn sir Dretaldwyn; buom yn yr ysgol gyda'n gilydd,ryn cyd- chware 44ac yn cyd-ddysgu. 'Rwy'n cofio'i dad a'i fam yn dda; ei dad a finnau'n cael ein derbyn yn aelodau o'r un eglwys yr un adeg-y fo'n^ddeg a thrigain oed a finnau'n ddeg. Rwy'n claddu un o gyfeillion anwyl- af fy oes heddyw. Doedd o ddim yn ber- ffaith mwy na phawb arall yr oedd iddo'i welldidau ond fe'u^cuddid gan eiJJiaws rhagoriaethau. Dywedai'r gwyddonwyr fod y'a frychau ar yr haul, er na welid mohonynt, a hynny am fod tanbeidrwydd ei oleuni yn eu cuddio.; Ac felly y cuddid gwendidau a diffygion ein hannwyl frawd gan luosowg- rwydd a thanbeidrwydd ei rasusau. Pe ehwilieoh Lerpwl i gyd, ni cliaffech dded- wyddach aelwyd nag f oedd yn Falkner Square; ond y mae o mewn cartref gwell fyth heddyw. 'Does dim tywyllwch yn Nuw, er fod tywyllwch o'i gwmpas. Rhaid wrt-h-ddau barodrwydd.i beri per- ffaith dangneFedd ym mynwes dýn-parod- rwydd fcyflwrif' a']f pharodrwydd profiad. 'Dyw'r ddau ddim gan bob dyn er-iddo fod yn dduwiol, canys er fod ei-gyflwr yn iawn, y mae ei brofiad ofnus a phrydei-us mor anglyson a'r gyflwr. Nid felly Dr. Watt, canys mewn llythyr at Doddridge yr Esboniwr svlwaPei fod ynJTddigon llesg ei iechyd ers talm, ond inor ddedwydd ei brofiad, er hynny if gyd, nes na phetrusai ronyn^wrth^fynd i'w wely'rJnos,f prun ai yn y byd hwn yntau' yn yr Hwn a Ddaw y deffroai. Ac i yr oedd Edward Lloyd yn barod o ran ei gyflwr,-ac Ó ran ei brofiad hefyd. Wedi | i'r gynulleidfa ganu emyn YrTArglwydd feddwl amdanaf, ar don Old Darby, gweddiodd y Parch." H.: H. Hughes, B.A., B.D.,ra chododd y dyrfa ar ei mud-sefyll wrth i'r arch a'i gweddillion gael eu cludo o'r capel tua'r gladdfa yn swn trist-lethol y Dead March oddiar yr organ. Caed anerchiad byr yil Saesneg" ar lan y bedd y m inynwent Smithdown Road, gan y Prlfathro T. Rees, M.A., Bala Bangor, a gweddiodd y Parch. D. Adams. Crybwyllwyd yn oedfa Grove". Street- fod llythyrau wedi dod oddiwrth eglwys Chatham Street, Arglwydd Faer y ddinas, y Prif Athro Syrjj H. Reichel a'r' Proff. Phillips (Bangor), y Parchn. Dr. Hugh Jones (Ban- gor), H. M. Hughes, B.A., Caerdydd T.Shankland (Bangor), Wm. Roberts, (Trin- ity Road), Rhys J. Huwsj (Glanaman), W. ParriHuws (Dolgellau), T.|Hughes, (Felin- heli), T. Well Jones (Croesoswallt), J. Roger Jones (Spellow Lane), J.t, HughesJ- (Fitz- clarence St.),Mri. Stephen Owen (Yarmouth), W. E. Webster (Caernarfon), W. Denman,' J. E. Williams ac Elias Evans-tri; o'i gyd- ddiaconiaid yn Groye St.sy'n llesg pu hiechyd. Y rhain oedd y prif alarwyr :—Y Proff. J. E. Lloyd, M.A. (mab), Mr. W. R. Owen (mab-yng-nghyfraith), Mr. Jos. Lloyd, Lieut. T. Ridge a Mr.Edw4 Griffiths (neiod) yn cael eu dilyn gan ugeiniau o weinidogion a blaenoriad ac aelodau'r eglwysi o bob enwad, heblaw gwyr cyhoeddus y ddinas. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa nos" Sul yn Grove St., pryd y pregethwyd gan p Parch. David Adams, B.A., i gynulleidfa luosog oddiar Salmxci. 14-16. Traethodd ar y cyfiawn a'i wobr, Rhoddodd amlinell- iad cywir a manwl o fywyd Mr. Lloyd, gan ei godi fel esiampl ddiogel i bobl ieuanc ei ddilyn. Dangosodd fod llwyddiant mas- nachol a llwyddiant crefyddol wedi cyd- dyfu a chyd-redeg drwy ei fywyd. Can- wyd emynau pwrpasol a chafwyd y Marche Funebre a Dead March gan Mr. Barker, yr organydd. Darllenwyd llythyrau oddi- wrth Eglwys cylchynol yn datgan eydym deimlad a'r teulu a'r Eglwys a'r gweinidog yn eu colled fawr. Fel hyn yr englynodd Eifionydd ei wrog- aeth i Mr. Lloyd Gwr addfwyn, gwir ddefnyddiol,—a'i ddawn Yn nhy Dduw'n wastadol Mor wag fydd yma ar ol Y Trysorydd tra siriol.
I Heddyw'r Bore I
I Heddyw'r Bore I DAL DROS Y GEN H IN EN.—Y mae Golygydd y Church Times (Mawrth 2) jm adolygu llyfr Mr. A. E. Hughes, y argyf- reithiwr, ar Leek or Daffodil ?-ac yn cytuno a'i awdur mi'r Genhinen yw'r arwyddlun cenedlaethol iawn, ac nid y Daffodil (Cenin Bedr). Ofnir mai snobeiddiwch sydd wrth wraidd y mudiad yn erbyn y Genhinen a'r beilchion yn dadlu dros y Daffodil am ei. bod hi'n amgenach'ei lliw a'i harogl. Ond y mae'r crach foneddion hyn yn bur barod i gtudo yn eu cylla yr hyn y cywilyddiant ei gludo ar eu brormau. CYMREIGIO'R FAM EGLWYS.Ac yn yr un rhifyn o'r 'Church. Times, ceir ysgrif ragorol, gan wr galluog a dysgedig pwy bynnag ydyw, yn. dadlu'n gryf a goleued- ig dros gael yr Eglwys yng Nghymru yn wir genedlaethol. Pe buasai lie, caraswn ei I chyfieithu yn ei chrynswth, er mwyn profi bod rhai o fawrion y Fam yn gweld pethau mor gywir o safbwynt Cymru a'i gwerin ac nid o safbwynt" Caergaint ac ysweiniaid y palasau.Nid yw'n poeni nemor ddim am Ddad- waddoliad,lI)t' canys os methodd gwaddol gadw'r genedl o fewn yr Eglwys fe fetha ei chael yn ol hefyd. WG WLAN Y GEMILs—Dyma.'r hin yn oer athyllig eto, fel y bu'r mis o'r blaen. Y gaeaf caletaf a gawsom ers yr hawg, a'r gwynt yn ddigon main i fynd rhwng ami un a'i fywyd, canys edrychwch ar golofn marwolaethau'r papurau, a gwelwch ei bod cyhyd ddwywaith bob tro y daw'r heth a'r barrug a gwynt y dwyrain heibio. Oc; bycld y crac lleiaf yn dy babell, cant hwy hyd iddi, cuddiwch a guddioch arno. Ond gwelsom ambell famog ar faes yr wythnos ddiweddaf yn gorwedd dan gnoi ei chil eira o'i chwmpes, a dau oen yn nythu yn ei chesail ac yn edrych yn draethawd o dlysni a thynerwch y buasai'n wiw gan engyl droi oddiwrth y Gogoniant am ehnydli sbio arno. TRY FERWCH A RHWYDWCH. — Y mae Cyngor Llangollen wedi pasio pender- fyniad yn galw ar"y Llywodraeth i dynnu'n ol y gwaharddiad ar bysgota'r afonydd, gan adael y fSrydiau'n agored i bawb ddal hynny o bysgod a fedro. Y mae yno ddigon. o "frithylliaid i gadw llaweroedd yn y Dyfrdwy, a dyma'u mawr eisiau ar fyrdd- au r gweithwyr sydd ar ei glannau. Y DEWR DIWYBOD.-Peth prudd ddiddorol sy'n digwydd droeon yn ystod y rhyfel ydyw hyn milwr yn achub bywyd eyd-filwr clwyfedig o dan gawod dan y gelyn, ond yn marw ei hun cyn gwybod fod ei orchest wedi ennill iddo fathodyn y Llyw- odraeth yn gydnabyddiad o'i lewder. Dyna fel y bu hi gyda'r Sergt. Philip Woolford, mab Mr. a''Mrs."Alf. Woolford, Pen ylBont, Ffestiniog, a" laddwyd chwe mis yn^ oL yn Ffrainc, ac y galwyd ei weddw—Mrs." Edith Woolford, Pont y Cymer-ir Soldiers' Rest yn Mary Street, Caerdydd, ddydd Mercher, i dderbyn y Bath Milwrol (Military Medal) o law Commander y Garrison am ei wrol- deb aehubol. Ymunodd Phil, y funud y canodd. corn y gad yn Awst, 1914, heb aros iq betruso am ddim ond diogelwch ei wlad ae enw da Hen Gymru dangosodd ddeheurwydd cyflym gyda'i orchwylion newydd perthynai i'r Royal Engineers a bu ym mhoetha'r frwydr am ddwy flynedd bron. Clwyfwyd ef droeon, a, bu yn ysbytai Ffrainc rai misoedd; eithr ymwrolsi a hybai bob tro nes y daeth yr ergyd greulon a aeth a'i enaid glan a serchog oddiarnom. Mawr oedd rhif ei gydnabod yn y Gogledd a'r De, a'i hawddgarweh di- orchest yn tynnu pawb ato mor glos. Gad- awodd ei dranc graith ddofn yng nghialon ei dad a'i fam a'r teulu ond balm nobl i'r briw yw cofio'i farw mor ddewr a hunan- aberthol, gan ennill un groes wrth gario un arall. Y dewr diwybod, rneddwn uchod ond dichon y gwyr fwy na nyni i lawr yma. DA A DIFEFL.—Bu un o wyr goreu ac amlyeaf Gogledd Cymru farw ddydd Iau diweddaf, sef Mr. Mr. Issard Davies, Caer- narfon. Dyn chwech a thrigain oed brodor o Drefeglwys, Maldwyn M.A. a chiwrad yng Nghaernarfon ar y cyntaf; ond a ymddihatrodd o'i grys gwyn gan ymroi i wasanaethu'r sir a'r wlad drwy gadw chware teg i addysg. Gwnaethddiwrnod o waith ardderchog, ac fe'i cyfrifir iddo'n gyfiawn- der, er iddo roi fyny'r urddau eglwysig. Eglwyswr^a^Thori egwyddorol, ond teg a difroch at bawb, mewn Capel fel mewn Llan. Bydd ynT chwith" iawn"5 i'r" athrawon amdano, ac i'lawer heblaw hwy o ran hynny. I OLiVa YR ALANAS.Y mae'r Parch. W. Bayley Roberts, B.A., bugail eglwys M.C. Saesneg Hill Street, Rhos Llannerch Rugog, yn mynd i Ffrainc gyda'r Y.M.C.A. Dyna ddwYEtyw'r dine sydd ym mhregethu pob cennad sy'n dychwelyd o'r maes, a'r alanas wedi rhoddi rhywbeth iddynt na f?dr llond cwpwrdd o gyrff diwinyddol. WMAlWr^YMWfGAELWC^vT^ Yt oedd milwyr" Cymreig Alexandria, yr Aifft, wedi ffurfio cor meibion, dan arweiniad Lieut. W. T. Davies, at ddathlu" Gwyl Ddewi.w A phayi"ddoder"Cyinro i-gysgii wrth operatio arno mewn ysbyty, canu emyn y mae yn ei gwgc -„ IFOR HAEL CAER., YBI.~Fel y gwyddis yrfoedd Mr.R. J. Thomas," Garreg Lwyd, Caergybi, wedi cyfrannu ugain mil o bunnau at godiTysgol goffa (at ddysgu amaethydd- iaeth a phethau buddiol a chynhaliol eraill) am lewion Gogledd Cymru a to wedi cwympo yn y rhyfel. Cwrddodd pwyllgor gweith- iol y mudiad yn y Rhyl yr wythnos ddi- weddar, a chyhoeddwyd yno fod deng mil arall wedi eu haddo. Y mae'r peth i'w ddwyn gerbron y Cymry drwy'r byd, canys y mae esiampl rasol gwr y Garreg" Lwyd wedi tynnu erailli fod mor hael ag yntau yn ol eu moddion. ,-OYMREIGIO'R" TIMES.Hen elyn i Gymru a'r Celtiaid fu'r Time8, na byth yn blino taranu yn erbyn yr iaith Gymraeg a'r Eisteddfod a'n Hyrmieilltu- aeth cyn i Mr. Mathew Arnold roi taw ar ei glebar anwybodus a rhagfarnllyd a chael John Rhys a'i GadairGeltaidd ynRhydychen o bobman Dyna ddechreu buddugol- iaeth oedd honno Dyw'r Times sydd ohoni heddyw ddim i'w gymharu o ran grym ac urddas i Times yr adeg honno; ond y mae gobaith y daw'n well maes o law, canys y mae Mr. Aneurin M. Davies—mab y diweddar gerddor Meudwy Davies—wedi cael He ar y staff, a hwnnw'n lie go bwysig. Nid yw ond pedair ar hugain oed, ac i fyny a fo eb<; i gyfeillion yn Llanelli a'r De. SILOD Y SIGARETS.—Pe buasai o fewn cyrraedd, curaswn gefn Dr. Peter Price am godi cymdeithas yn y Rhos i geisio cael pen ar bla, a melltith mygu'r sigarets sy mor andwyol i gyrS a grym ewyllys y to sy'n codi. Y mae sipian coes cetyn yn ddigon niweidiol, ond sipian nicotin drwy bapur fferylledig y sigaret yn gan gwaeth. Y mae'n codi cnwd o silod ysig eu nerfau, mor lwyd-lipa'u gwedd, a'u gwddf a'u cylla'r un lliw atgas a phennau'u bysedd melynddu. Nid peth i ysmalio ag ef mo hwn, and pwnc o'r difrifwch mwyaf, ac y mae llawer iawn o rieni a phregethwyr a blaenoriaid ae athraw- on yn euog o roddi esiampl ddrwg i'r glas- lanciau sy'n ddigon hy arnynt i ofyn am I dhn ar eu tybecyn. Ac yn y papur heddyw, dyma weld y Llywodraeth mewn un lie yn caniatau i lodesi'r munition8 ysmygu'r j geriach andwyol i'w hiechyd a'u glendid a'u Uedneisrwydd. le, wir, hen Holog draws a phendwp yw'r natur ddynol,? na fedrai fyw ar bethau sy'n dda iddL  M???- TWAIN ?yM?!7.—Gwe]aom rhyw ohebydd yn Y Cyniro'n awgrymu mor dda fuasai cael rhywun i gyhoeddi cyfrol I o ffraethebion y Parch. Thos. Chas. Williams, ) M.A. Wel ie, cyfrol ddiddan iawn fuasai hefyd, ac yn gwneud yr un peth i genedl r y Cymry ag a wnaeth Charles Dickens i genedl y Saeson-he taught vt how to laugh megis y dwedodd Argl. Rosebery mor dwt am greawdydd anfarwol Sergeant Buz-Fuz. Y mae ar lawer o bobl dda ofn hiwmor am I eu bywyd, ac yn eu gamgymryd am ys- gafndra; ond hwy allant fod yn eitbaf tawel na fuasai'r Nefoedd byth yn gollwng i Dickens i Loegr na Daniel Owen a T.C.W. j i Gymru onibai fod yn rhaid eu cael hwy a'u I noptimistiaeth i ledu gorwel a siglo ais y ddwy genedl i'w cadw'n i3¡Ch a siriol. Diolch fod yr Hen Wlad yn codi ambell Fark Twain i'w chadw rhag mynd a'i phen i'w phlu. BOED FELLY, O'M RHAN I.-Dyma bapurau bore heddyw yn dweyd gyda llawenydd fod Count Zeppelin wedi marw. Wel, boed felly, Y mae un o'i fath yn hen ddigon a phwy a gollai ddeigryn byth am ddyfeisydd mor ddieflig. BROCHI WRTH BREGETH.—Yn ol y papur bore heddyw, sef bore dydd Mercher, digwyddodd peth pur gyffrous ac anhyfryd yng nghapel Wesleaid Seisnig Caer Gvbi bore dydd Sul diweddaf. Y Parch. F. B. Hankinson,pasiffist croew, oedd yn y pulpud • j a chan dwymo iddi a mynd i ganlyn ei ddawn, dywedodd bethau a dramgwyddodd ei wran- dawyr selog dros y rbyfel. Dyma un o'r fraw- doliaeth honno'n codi ac yn gwaeddi dros y capel; Rwy'n protestio yn erbyn eich honiadau, y rhai sy'n anghyson ag arferiad y cyfun- deb," a Kwrdd a'r protestiwr allan, gan sodlu'n dalog-a ffrom ei wedd. Dywpdodd y pre- gethwr fod yn ddrwg ganddo i'rbrawd fynd, allan; "Ond rhaid inni gofio," meddai, "bod ganddo fab yn y Fyddin." Aeth ymlaen wedyn a'i bregeth, gan ddal fod y rhyfel yn groes i ewyllys Duw. Yn lle'u lleddfu, dyma hyn yn brochi'r Ileill, a wele amryw-ac un o'r blaenoriaid yn eu '_H mysg-yn mynd allan, gan adael y pregethw yn flin a gwelw'i wedd gan fraw a hartrwyddr Methodd bregethu dim rhagor, a dyma ddibennu'n chwap heb ganu na gweddio.
Advertising
Prynir Dodrefn Outright. Distance no object. Salf by auction on owners, premises. GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctinneera, 27 Newington, Liverpool, 18 Rydal Bank & 106 Liscard Road Lleca r Tel. 646 Royal. _U- Coupon Rhad. Yswiriaetb (Faidier a'i hollti'n rhydd), jBYDDl'A.i GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Ltd St. Mildred's House," Poultry LONDON, E.C. dalts £100 (can punt) i gynryofeiolydd oyf-rnthio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddallwr y COU hwn, 08 y bo iddo fo neu hi gael au Iladd yn hotloL ao yn uniongyrchol drwy ddamwain o lawft.1 Deyrnas Gyfunol i drgn unryw Gwmni Reilfionid, Tranicar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddeditr a ° yn yr hwn y bo'r daliwr yn cael ei glmdo fel telthiwr tooyn a ohlud, yn ddexostyiigedig bob amser i'r ataodaa arbennig a ganlyn sydd rw ystyried fel rhan a ohyfran o'r oytundeb- (a) Fod y marw'n di g add a o fewn d?&c niwrnod ar hugain wadi'r im-win rhybudd ohoni'n oael ei roi i'r fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa ym Llundain (c) fod y cyfryw dystiolaeth res- ymol parth aohos y farwolaeth yn cael ei gyflwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn i (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- (4) fod y dd enw arferol, oyn i'r ddamwain ddigwydd, ar inc yn y lle darparedig gogyfer a hynny (ø) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nac us person parth mwy nag un coupon yn v namor hwn na r un yh..ddi.d arall; (?) na b<?rya- wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i berseaae tan ddeuddeg us thros-ddeg a thrigain miwydd oed, ao a ddeil yn ddilys am saitli niwriKNi 0 12 o'r glooh y dydd y'i oodir. Artcyddnod y Daliwr I riføil.¡; I Danysgrifwyr, Raid I dderhYDwyr cyson y papur bwz, ddim arwyddo'r Coupon os ca'r Gymdeft-has gwbl sicTwydd a phrawfwi fod yn cael 8\n1 anfon Iddynt yn ddifwlch. Dwy Action Song Cymreig Da. Y MILWYR BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIN (The Little Nurses). Gan Pedr Alaw. TONIC SOLFFA, 2g. yr un. Drwy'r post, 2113. HEN NODIANT, 6ch. yr un. Drwy'r post, 6c, Cystal a'r goreu a gwell 119 llawer agyhveifeEr yn Saesneg. Cyhoeddedig yn S-Wycldfallr «Brytlion," 356,358 Stanley Rd., Liverpool. O'R MWG I'R MYNYDD Llithoedd Gol y Brython Oddicartr 14 0 LUNIAU BNWOGIOW CYMBU. 1711 tudAl 2g, f Co o'r Swyddfa hon a ehn fcob Lly frwerthwyr a a aa a a a a a a a.a aa a a a a a a a a a a aa a J????Z??c????J????????? ? c d íleffl(W lS a 0 I 6?EAeOLOWE8B<t!6R!NeS I Half-doz best Electro-plated  n D ? from 7/6 ta 60/- | of a Ring. Q C BALL'S LUCKY ENGAGEMENT RINGS at prices to suit all Q 0 Y1"k, —————————————. < ..——- C 0 BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, Q □ Pingef-Size Cards Post Free 33, London Road, LIVERPOOL. □ □ o o o o o a a o o a o o o o □ o o o □ o o o o o □ "iBgg. ■■ of Address) CYFEIRIAD NEWYDD (Change of Address) D. R. JONES (Alaw Madog), 25 Radstock Road, Liverpool. Dealer in PIANOS, ORGANS, and HARMONIUMS, MUSIC PUBLISHER, &c. Catalogues Free on application. Terms Cash, or on easy payments to suit Customers, Orders by Post are promptly attended to. Tuning and Repairing a Speciality. Town and Country visited. Dwy gan Newydd yn barod, Pris Swllt yr un. Trwy'r Post, 1 /1. Saf ifyny dros dy Wlad (Stand for thy Country), W. T. David. Sop. neu Tenor. « Mab y Milwr (The Soldier's Son), D. E. Williams, C.R.A.M. Contralto neu Bass. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Hefyd, y mae i hon eiriau eysegredig, ierunien, Newydd (The New Jerusalem). For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD,, 6, 18 G 120 WHITECHAPEL, ¡, LIVERPOOL. II ø Jf Telephone 2137 Royal.