Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Caffaeliad Parkf ield. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Caffaeliad Parkf ield. I Bras bortread o I Dr. Motlwyn Hughes- I Y Parch. (e. y gwyddis, yw bugail dewisedig eglwys Parkfield, Birkenhead. Y mae i ddechreu ar ei waith yno'r wythnos gyntaf o Jbrillti ac wele ira. bortread o'i yrfa Pe'i ganed yu yr Hen Siop, Tan y Grisiau, Bl. Ffestiniog. Ei dad yn chwarelwr, ac yn ddihareb fiordd honno am gyfoeth ei laig a grym ei weddiau hwyliog. Y mae thai o'r hen frodorion yn aon hyd. heddyw am ei weddiau'i ddyn ifanc yn Niwygiad '59, -ail yn unig i weddiau Dafydd Rees, Chwibren Isaf—tad Wm. a Henry Rees. Y fo hefyd oedd gyda'r mwyaftianllyd yn Nhan y Grisiau adeg Diwygiad Evan Roberts yn 1904-5. Gwraig lednais, dawal oedd ei fam, a phruddglwyfus iawn ar adegau. Ac i'w dylanwad hi y mae'r Dr. yn fwyaf dyledus. Y mae o wehelyth enwog, a'r ddwy ftrwd-barddoj". a phre- ethu-wodi eronni ynddo, canys o du e dad y mae'n diagyn o hil seraffaidd-, Robert, Roberts, Clynnog, a Michael Roberta, Pwll. beli, ac felly o'r un tylwyth hefyd a'r Parchedigion Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia), awdur dwys-emynj Bydd gweld gofoniant Iesu, Wm. Jones (Trawsfynydd} a David Roberts y Rhiw a Mr. John Owen, Siryf Caerlleon. A thebyg mai o'i berth. ynas & Glasynys—y mwyaf subtle a'r mwyaf melodaidd o'n beirdd-yr etifeddodd y gyfriniaeth sy mor chwannog iddo. Dyma riaiau'i addysg :—O ysgol Bwrdd Tan y Grisiau i Yagol Ramadeg Clynnog; yna i Athrofa'r Bala, Prifyagol Bangor, ac wedyn Brifysgol Leipzig, Germani. Dechreuodd bregethu yn Eifionydd pan yn glere cyntaf i Mr. Lloyd George yn swyddfa gyfrsithiol Porthmadog. Cafodd bob help gan ei feistr—y Prif Weinidog erbyn hyn, I a deil cwlwm eu cyfeillgarwch heb ddatod na llacio dim. Atgofion am glercio Porth. madog yw testyn pennod gyntaf Llewyrch t; y Cwmu4, un o gyfrolau diweddaf y Dr. ;1 Hwdiwch damaid yn enghraifft o weddill y bennod Ibsus :— 'Rwy'n cofio'n dda am un tro digrif iawn a ddigwyddodd pan y gwnawn 'wyllyf rhy* hen frawd. Edrychai Mr. George trosti cyn i mi fynd a hi i'w harwyddo ac er ei syndod, beth a welai yn ei chanoJ ond fy englyn i Freuddwyd Aeth yr gidyll gwylJt pan ganfu'r diffyg; a rhaid fu imi fynd ati i ail ysgrifenun. Gall ei fod yn un go hir bum wrthi'n ddygn yn ysgrifennu am oriau-yn talu'r penyd am farddoni. Nid dyma'r tro olaf imi ddioddef oherwydd ymgyfathrachu a'i Awen. Wele'r onglyn Arweinydd un pan yn huno-i oltcg | Sylwedd, yna'n twyllo, | Yw Breuddwyd, heb roi iddo | Un dim ond ei weled o. I Bu'r digwydd yn achlyaur trannoeth i | Mr. George a minnau ddoethinebu llawer ar freuddwydion, a'u lie priod ym mywyd t dyn. Daethom i'r penderfyniad mai nid gweddus rhoi breuddwyd yn ewyllys neb | ond bardd. Ond, gan gofio, anfynych iawn y bydd gan fardd ddim i'w ewyllysio, oddieithr a ewyllysir ganddo yn ei gan. Awen yw ei unig etifeddiaeth ef, ac fe gymer honno i'w ganlyn hwnt i'r niwl. Arian ac aur nid oes ganddo aeni fedd ddim i'w adael ar ei ol ond —breudd- wydion. Ac ymhen blynyddoedd ar ol hyn, clywyd y Dr. yn dywedyd mai'r tri gelyn caletaf a'i eyfarfu i'w trechu ar lwybr bywyd oedd tlodi, cystudd, rhagfam-y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn, rhagfarn. Y mae'n berchen meddwl praff, athronyddol, a hwnnw wedi ei lefeinio a'i liwio gan ddychymyg byw'r awenydd. Y mae yn rhy annibynnol ei ysbryd i ymostwng i fod yn gludydd arfau i'r un Saul, ac yn rhy gyfoethog a gwreidd- iol ei adnoddau y rhaid iddo ddynwared neb. Y mae ei orwel yn eang, canys heblaw y tair blynedd a dreuliodd yn yr Almaen, gan deithio'r wlad honno gwr bwy gilydd, mae hefyd wedi crwydro drwy Ffrainc, & olland, Belgium, Hisbaen, yr Bidal, Port. ugal, y Swisdir, Afirig, Ynysoedd y Canary, Madeira, ac yn y blaen. Y mae'n fardd uchelryw, er nad yn un cystadleuol, to-order; a mawr y cip a fu ar ei bedair cyfrol olynol o Ganiadau gan ddarllenwyr coethaf a mwyaf meddylgar y wlad. Pan ddaeth y gyfrol gyntaf o'i Oaniadau allan yn y fl. 1894. anfonodd rhywun gopi i Daniel Owen, ac fel hyn y ffrydiodd awen oreawdydd craff Rhys Lews yn syth cyn codi o'r gadair Un nos Lun o'r mis yn Hades, Cyngor gaed o'r beirdd a fu Yn gwefreiddio pen a mynwes Cymrataaacamrywiu; Ialwyn ydoedd yn y gader, Gyda gwedd freuddwydiol brudd, Ac etateddai ar ei ddehau Ceiriog fwynaidd, welw rudd. At ei aawy 'roedd Mynyddog, A direidi lond ei groen Ac ya pwyao ar gefn y gadair 8'oedd Golyddan—fel mewn poen, Yn eu hymyl o'r tu cefen," GlanSrwd ddel ymwthio wnai, A Glasynys, a'i glô8 enwog, 0 wneuthuriad Trebor Mai! Yn uwch i fyny ar y llwyfan Gwelid torf o feirddion syn— Sbea Fafdd, Hiraethog, Emrys, Goronwy Owen, Dewi Wyn, Glan Geirionydd, a Chaledfryn, A Nieaader, wridog dew, Cawrdaf, Blackwel, a Glan Alun, A Thalhaiam hir ei flew. Trebor Mai gyfrifai'i fyaedd, Wrth wneud englyn pert a thlws, 1'1' enwoeaf o'r porthorion- lktyn-oadd yn tendio'r drws O'r naill ochor, wedi pwdu, Yr oedd bardd ar ben ei hun- Ni chymerai sylw o unpeth, Dafydd Ionawr oedd y dyn. Ar y Hawr o flaen y llwyfan Yr oedd tyrfa gymysg iawn, Rhai talentog a fu enwog, Eraill hynod fyr eu dawn,— Twm o'r Nant a'i frawd y Cwper, Wil Shon Saer, fel pe o'i bwyll, Robert Dafis. Bob y Nailer, weo a Die D'wyll Ar yr oriel fawr ardderchog, Lle'r oedd organ fAl ei sain, Pob eisteddle wedi ei gwisgo a chlustogau o sidan main, Yr oedd twr o wir brydyddion II Roisant Gymru gynt ar dan, Ac a ladratasant filwaith Swyn y nef i'w melys gan. ri!îA..iI1?: Pantycelyn oedd y peimaf, Ac Ann Griffiths ar y dde, Edmwrid Prys, Hugh Jones Maesglasau, Charles Caerfyddin, yn eu lie, Maes y Plwm a Roger Edwards, Morgan Rhys a Phedr Fardd, Morus Dafis, a llu eraill, Wnaent i fyny dyrfa hardd. /1', ¡q:; "tfif' :"t,¡í Yn y man cyfododd Islwyn Ar ei draed, ac ebe fe— Frodor awenyddol, 'steddwch, Bawb yn daclus yn ei le- Y rlieswm am eich galw yma Sydd yn achos digon câs. Ac mi geisiaf oreu gallaf Ei osod ger eich bron i ma's Bore ddoe derbyniodd Ceiriog Gwyn o Gymru, gwlad y gan, Fod yr awen, dduwies hawddgar, Wedi 'madael bron yn Ian Ond fod yno ddigon eto Dan enwau beirdd yn llenwi'r tir. Yn rhigymu awdlau sychion—" Ebe Ceiriog, Dyna'r gwir "Gofyn wna," chwanegai Islwyn, Pf Inni beidio bod mor fEo! ? f." A chadw'r Awen fwyn yn Hades [' Yn lle'i hanfon hi yn ol." Wedi hyn bu dadl wresog, Os anfOnid hi yn ol, Pwy gai'r fraint o gael yr Awon1 Pwy gofleidiai yn ei chol ? "i Yna Ceiriog a gynhygiodd, A chefnogodd pob yr UIlf Yrru'r Awen wen i Moelwyrt," Llefai'r cwmwi, Dyna'r dyn Dyma gyfrolau a sgrifednodd :—Ger- man Grammar, ar gyfer plant yr Ysgolion Canol; Cojiant a Phregethau Griffith Davies, Aberteifi; Yr Athro o Ddifrif, llawlyfr Addysg Grefyddol; Anfarwoldeb yr Enaid Llewyrch y Cwmwl, a'i ryddiaeth yn en- ghraifft o Gymraeg cryf, rhywiog, a chartref- ol ei briod-ddull. Fe'i nolir i ddarlithio lawn mor fynych ag i bregethu, a dyma rai o'i destynau gerbron y Cymrodorion, Dde a Gogledd :-Ceiriog, Islwyn, Browning, Goethe* Kant, Glasynys, Victor Hugo, Atgof a Gobaith, Vhwaeth, Y Darlun Diweddaf, Y Dychymyg, Breuddwyd y Bardd, etc. A dyma rai o'i liaws ysgrifau i'r cylchgronau a'r newyddiaduron :-Ar Undeb Eglwysig, Morgan Rhys, Evan Phillips, Ar y Traeth. j Pa foddj y tywyllodd yr Aur J (sef dwy ysgrif ar y rhyfel), Dameg y Fflam, etc. Ei lyfr ar Egwyddorion Addysg a rheolau hyfforddiant, ynghyda'i ysgrifau ar y pwnc ¡om Y Goleuad, a ddug y gelfyddyd gyntaf ■ sylw Cymru nes creu diddordeb yn y mater jwysig. Y mae amryw lawlyfrau gan awdur- on eraill bellach ar y maes, a'i un yntau wedi ei brynu gan Gyfundeb y M.C. Y mae'n eiddgar dros addysg yr Ysgol Sul, ac yn rlebyg o fod yn adfywiad i effeithiolrwydd ei haddysg a'i dylanwad ar Lannau yMersey; Er praffed ei aden ac uched ei hediad i fyd egwyddorion a diwinyddiaeth, nid oes neb agosach at y plant a'r ieuenctid, ac os ca'u gwen hwy, pin draen am wg neb arall. Y mae iddo ef a'i briod saith o blant, yn dwyn yr enwau tlws Gymreigaidd a ganlyn :—, Gwyndaf Meirion Emyr Alun, Aneurin, Goronwy, Moelwyn, Gwallter Meurig, a Rhiannon. Daw o Aberteifi wedi bugeilio'r eglwys yno am un mlynedd ar hugain, a bydd dyfodiad lienor a bardd, pregethwr a chenedl- aetholwr mor gryf, yn gaffaeliad i'r holl gylch, ddau tu i'r afon.

_O'R DE I

Advertising