Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HAVE Q ? you »*< m ..A ?? \?? h. ,C"Yv -I"r. ?? ? ,c I 1.7' -11'" 0 :¡- .) ",I"- ..J:'F /"ri \J '(; ???"?-"?.?-?=LT?? ? ?.????1? I ) JJ f\ I FREE VOLUME I DECORATIVE ART & FURNISHING I JUST previous to war 'we compiled, regardless of cost, a volume con- faininsc coloured plates and hundreds of illustrations, each article, being priced in plain figures at the, then current values, whilst all goods are, well known 1,0 have considerably increased in cost owing to fluctuations consequent upon the war. A single number oi l liis volume would to-day cost ts, 6d. t(O YOU may av« a copv sent to your residence, I ABSOLUTELY FREE AND POSTAGE PAID, bj calling or sendinii postcard to the PIONEER FURP|SHING STORES 9T VERP^OT,81'' I COMPLETE t%To RES 9 UVERP?OL PIONEERFURNISHING %) I • HOW TO FURNISH 1'0 r CASH OR OUT OF INCOME 'Phone 5220 Royal. MPHMF
0 Lofft y St abal.
0 Lofft y St abal. XXIX. Mistar GOLYGYDD,-Fel y gwyddoch chi'n dda, ma llawar o fechgyn a genethod ifanc y wlad yn dwad i drefi mawr Lloigar, ac yn enwedig i Lerpwl yna. Wei, ma gin y rheini hawl ar ofal a phryder poboI grefyddoi, ac fel rhai crefyddol y bydda i'n arfer meddwl am Gymry Lerpwl yn gyffredinol. Ac nid heb reswiu chwaith, achos ma hanes da i'r bobol hynnu ar hyd y blynyddoedd. Rydw i wedi arfer cael adroddiadau perthynol i amryw enwada a chymdeithasau Cymreig yn y dre fawr yna; ac mi fyddaf yn teimlo wrth i darllen nhw fel taswn i'n darllen Actau'r Ap>. stolion. O ran hynnu, mi fydda Jac Jôs yn deud wrtha i bod liaues pob ymdrechion daionus yn barMd o Lyfr yr Actau. Wn i ddim bedi'r achos, ond rydw i'n credu bod mwy o ysbryd haelioni ymysg pobol y trefl nag sy'n mysg ffarmwrs, a'i cyrnyd nhw drw- odd a thro. Falla'eh bod ohm gwbod mwy am ych gilydd, yn fwy hy ar ych gilydd, ac yn fwyeffeithiol i gyfranuu nag yr ydan ni'n y wlad ma. Dipyn yn swit y bydda i'n gweld casglwrs pan yn mynd at ffarmwrs ar y cyfan, ac yn barod i ddeud tanciw mawr os ca nhw tua hanner coron. Ma'n wir bod eith- riada miawn casglwrs a chyfranwrs hefyd. Ond y rhai y bydda i'n synnu atyn nhw fydd y bobol grefyddol fuo'n byw fel tlodion, ac yn deud wrth bawb at ar i gofyn ma tlodion oeddan nhw,a'r rheini wedyn yn marwac yn gadael miloedd o bunnau miawn wllys ar i hoi. Bydd pobol felly'n gneud imi gofio'r sylw nath rhw ffwlosoftvdd am gybydd, sef i fod o'n debig iawn i fochyn tew yn bychian yn i fywyd, ond yn leadigedig yn i farwolaeth. Wel, daliwcn chi mlaen yn ych haelioni a'ch holl waith da nglyn ag eglwysi'r dre na o bob enwad a sect; ac mi obeithiwn ninna wella. Ond, syr, ma crefydd yn fater o bwys mawr gin lawer o bobol yn y wlad ma, ac ma sefyllfa'r eglwysi Cymreig yn Lerpwl, Man- chester, Llundan, a lleoedd erill, yn destyn meddwl dwys i rywrai sy ffordd ,yma mi wn i hynnu. Pwy sy'n bidio botwm eorn am grefydd trefi Lloigar? mi ddych- mygaf glwad rw ysbryd yn gofyn. Rydw inna/n deud wrth yr ysbryd awnnw fod yma rieni duwiol, yn gystal apherthynasa a chyf- eillion erill o'r un cymeriad yn enwedig athrawon Ys ol Sul a blaenoriaid eglwysig- yn ocheneidio'n amal tua'r Nef wrth feddwl am fechgyn a genethod ifanc aeth o'r wlad i'r trefi. Falla'n bod ni'n y wlad dipin yn hen fias- iwn ac yn tueddu i gaetbiwo gormod ar bobol ifanc- Beth bynnag rydw i wedi clwad hynny'n bur amal y blynyddoedd dwaetha ma. Mi fydda i weithia'n rhw fusnesu efo ienctid o'r ardal ma pan fydda nhw'n dwad adra am dro, ac yn ceisio tynnu allan o honyn nhw sut y byddant yn treulio'i horia hamdden a'i Sabatha. Ac yn sicir i chi,mi fydda'n meddwl mod i feI rheol yn dallt i cyflwr nhw'n lied gywir wrth i dull a'i tOn yn llawn cystal ag wrth i geiria. Mi fydd gwymad ambell un yn gleuo i fynu gida imi ofyn y cwestiwn, ac mi awn ar fy llw na fedra dim ond cydwybod dda switsio gola felly mor barod a chlir i wymad neb. Mi fydd dyn yn teimlo bod y bachgian ne'r eno-th wedi dwad ag awyrgylch y Seiat a'r Sul i'w canlyn am i heneidia, fel tasa, a bod i crefydd yn nes iddyn nhw na'i dillad na'i croen, Ac ma'n dda gin i feddwl, beth bynnag all fod y rheswm am hynnu, na fydd y math yma o bobol ifanc yr ardal ma ddim yn fy sgoi i, ond yn hytrach yn dwad i siarad yn garedig a pharchus a mi-hen was ffarm syml. Ond mi wn i un peth ag y ma nhwtha yn i wbod-gwbod y mod i'n ffrind ac yn dymuno'r gora iddyn nhw. Ond rhaid imi ddeud, o'r ochor arall, led yna rai becbgyn yn dwad yn ol o'r trefl niawr, aQ yn hollol waharnol rr rbal y soaiais i amdanyn nhw, Leiciwn i diim gneud cam a neb, ond yn wir i chi, syr, mi fydda i'n ofoi am y bechgyn y byddwn fn gy ne fin a. nhw pan oeddan nhw adra, os byddant yn fy sgoi i pan ddont am dro i'r ardal ma. Wrth gwrs mi wyddan yn dda am y cwes- tiyna fydd gin i ar i cyfer nhw. Ac mi fedra ddeud am y dosbarth yma hefyd, mod i wedi dallt naw allan o bob deg ohonyn nhw. Pan fydd yn amhosibl iddynt ddianc heb I imi gael gair efo nhw, mi fydda'n dallt yn I, glir mor anesmwyth i meddwl nes cael cyfle i fynd. Pan fydda i'n holi am y Seiat a'r Saboth i rai—dim ondchydig, ma'n dda gin i feddwl—mi fydda'n gweld na fydd dim gole'n y gwymad, a'r cwestiwn yn cael clep ar ddrws y galon rhagddo fo'n y fan. Mi all mod i dipyn yn ddifaners yn holi pobol ifanc fel hyn, ond fedra i'n y myw beidio. Mi droth un bacbgian arna i flynyddoedd yn ol am imi holi am i grefydd o. Poedd o wedi bodyneamolilwyddiatitelo'iwiiitit,ac nii allseeh feddwl fod rhai o fanciau Lerpwl na bron byrstio gin yr arian oedd gynno fo ynyn nhw. ond pan fynnis i iddo fo am i grefydd. mi frochodd yn ofnadwy, ac mi ddeudodd. Meindia dy fusnes dy hun, Wil Mi yrrodd y geiriau fel dagar i nghalon i, ond rydw i'n cwbwl gredu fod y neb ry friw ichi am air caredig yn derbyn mwy o niwad na chi. Ddaru chi rioed feddwl ma'r rheswm fod rhai yn brathu calon i gynghorwr a sen ydi bod y cyngor wedi brifo i gydwybod euog o'i hun yn gynta ? Ond y warn i ydi- os caniatewch imi honni barn deilwng o'r enw ar y fath bwnc-ma cyfaill penna dsrn ydi'r un fedar drawo'i gydwybod enog o dryma. All neb wella cydwybod ddrwg heb i brifo hi. Ydi diwinyddion Lerpwl na'n daJ i brygethu argyboeddiad ac edifeirwch ? ¡ V dyn, ydyn, yn ddiama gin i, ac mi glywis rai ohonyn nhw wrthi hi'n lied ddiweddar, ac yn rymus iawn hefyd. I Beth bynuag, syr, ma ma rat rhieni ffordd yma'n meddwl llawer iawn am i plant sy'n y trefi mawr, ac yn meddwl am i crefydd a'i cymeriada nhw'n fwy na dim. Gwir fod ma rai rhieni n id ydyn nhw ddim, a deud y lleia, yn rhoi'r pwys priodol ar grefydd i plant, ond yn meddwl bron yn gwbwl am i llwydd- iant bydol phw. Dyma ichi engraifffc o ddau fath o rieni y gwn i amdanyn nhiv-ynglkn â. geneth bob un. Ar y ffordd i'r capel bore Sul yr oedd- wn i, pan glywn i swn rhywun yn trotian yn gyflym ar f'ol i, a gwraig i hwsmon o'r ardal ma oedd honno. Roedd hi bron wedi colli'i hanadl pan ddaliodd hi fi, ac roedd hi mor llawn o newydd da fel y methodd aros i ddeud gair o ragymadrodd, Wedi cael llythyr oddwrth Catrin ddoe, Wil," ebra hi. '• Sut ma hi'n dwad ymlaen yn Lerpwl? ebrwn inna. Sblendad! ebra hi. "Da iawn, ebrwn inna, ma'n gvsur i chi fel rhieni fod Catrin yn Uwyddiannus miawn lIe fel Lerpwl, a gobeithio ma para i lwyddo neiff hi." "Wel," ebra'r wraig, "ma hi'n llawer gwell allan na bod ffordd yma. Ma hi'n gweld ac yn dy"gu mwy, ac yn cael llawer iawn mwy o gyflog, wyddost." "Ma hi nrawn lie da, ddyliwn," ebrwn i. Bren- shiach annwl, ydi ebra hitha, ac ma'r teulu'n meddwl y byd ohoni hi hefyd." Mi dda.run i chymryd hi efo nhw i'r—mi ddoth rhw dagfa o besweh arni hi am ei!iad, ac ebrwn inna, "I'r capel?" Nage, nage," ebr a hi, "ond i weld pobol yn actio; acma Catrin yn deud nad oedd y rhai fiin actio Rhys Lew's yn y sgoldy acw'n ddim pats i'r rhai Welodd hi." Ydi hi'n leicio'i chapel, tybed ? ebrwn i. "Ddeudodd hi ddim am hynnu'r tro yma," ebra'r wraig, ond ma'n siwr i bod hi." A dyma'r stori'n gorffen wrth ddrws y capel. Ond roedd gin frr a gwraig arall o'r gym- dogaeth mak ferch yn yr un dre, a gwas ffarm oedd i thad hitha hefyd. 'Roedd dyn gen- edigol o'r ardal yma am dro, ac o Lerpwl, ac yn un o ffyddloniaid yr eglwys y mae o'n aelod ohoni hi, ac mi alwodd yng nghartre'r eneth. Gidag iddo fo eistedd i lawr, y cwestiwn a lffamiodd i wymad o o galon e mam oedd, Fyddwch chi'n gweld y ferch I ma weithia, deudwch ? 11,6 0, bydda, ebra fo, yn i gweld hi bob Sal y bydd hi allan, achos mi fydd yn dwad i nosbartb i n yr Ysgol Sul, ac ma hi'n ffyddlon ym mhob moddioB, isid yn unig y Sul, ond ar nos- weithia gwaith hefyd." "Mae hi, wir ?" gof- ynnai'r Cam. Ydi'n wir, oedd yr apad. Roedd hi'n adrodd darn o farddoniaeth yn y Gyfrinfa aew'r noson o'r blaen, a hi nillodd y wobor hefyd." Oedd hi'n wobor go lew, tybed ? gofynnai'r gwr, gan wincio ar yr ymwelydd. Na hidia faint y wobor, Dafydd, ebra'r wraig yn chwap, a'i chalou yn twnnu allan o'i llygada hi, y peth mawr ydi fod Mari bach yn para'n flyddlon i ddir- west a chrefydd, ac yn drychyd ar ol i chym- eriad mewn tre fawr fel Lerpwl, lie mae cimin o demtasiyna i bobol ifanc." Chi sy'n iawn, Mari Roberts," ebra'r dyn, ac ma'n dda gin i allu deud bod y ferch yu siampal i lawr oGymryifauc miawn lie fel acw. Wei," ehra Mari Kobeits, a'r gole'n twnnu'n fwy- fwy disglair yn i hwymad hi. mi leiciwn i weld y mhlant yn llwyddo'n y byd, a mynd yn gwaethog, ond fedrwn i'n y myw wHddio am hynnu, ond rydw i'n medru gweddio am iddyn nhwfod yo blant da, ydwwir." Miawn dagra gloewon y gorileunodd hi i stori, ac roedd hi'n stori dda, achos o galon lawn o garia i santaidd y doth hi allan. Tynnwch chi'ch casgiiada'ch hunain odd- wrth y ddwy stori, achoi rydw i'n cyrnyd yn ganiataol yn y llythyra hyn fod Hawer o narileawrs i'n llawer callaeh na mi fhun,fel tasa. HEN WAS.
Clep y Clawdd Isef Clawdd…
Clep y Clawdd Isef Clawdd Offai [GAN YR HUTYN.] Aelod, Min y Olawcld.-Deellir fod Mr. Ormsby Gore, aelod Seneddol dros FinjY Clawdd yma, wedi cael swydd Seneddol, ond un ddidal, fel ysgrifennycld i Argl. N.I,ID,er.1 Nid ydym wedi clywed enw Mr. Gore ers tro ar dafod neb y ffordd hon. Aeth ar goll wedi priodi, fel ilawer arall o'i flaen. Da clywed ei fod yn fyw. Yr eira gwyn.—Kiel oes. golwg ar Glawdd y dyddiau hyn. Gorchuddir pob peth ag eira gwyn, a hynny yn ddigynnil. Daw tywydd gwell hwyrach ar ol hyn. Angladclau, lawer.—Liu yw y rhai a clorrir i lawr ar Y Clawdd y dyddiau geirwon hyn. Peth cyffredin gweld angladclau clyddiol, Caer llawer o ysgolion dyddiol oherwydd afieehydon. Er gwaethaf pob gofal marw wna llawer o'r plant. Mae'r hen hefyd.,yn methu dal yn hwy y dyddiau hyn. Torrir hwynt i lawr, ac ehedant ymaith. ISalwch y mawrion.—Llawenha y Clawdcl fod Llwyd Bach o Eifion wedi cael gwellhad o'i anhwyldeb diweddar. Mae'n myned drwy lawer. Gwelodd lawer sgwt ar fyd oddiar y mae yn y Cabinet. Cydymdeim- lir yn gyffredinol ag ef yn ei brofedigaeth chwerw trwy golli ei fam-dad tyner. Rhisiart Llwyd.—Gwnoir coffa ym mhob- man, ond nid fyth ormod, am yr hen gy- meriad hofi ac adnabyddus hwn. Gwnaeth ei waith-gwaith mawr ei tywyct, set pregethu Crist a chodi George-yn ardder- chog iawn. Ni wasanaethodd neb ei gonedl a'i wlad yn well ac ni fu neb mwy ffyddlon i'w Dduw. Coder colofn uchel uwch ben man fechan ei fedd" yn ddioedi. Llawn haedda'r cwbl. Deheulaw y Prif.—Mrs. Lloyd George yw honno, Ni fu priod fEyddlonaeh i Weinycldiaeth a, gwlad erioeel na hi. Dy- wedodd bethau da odiaeth y clydcliau diwedd- af hyn am goginio. Dengys lie y curir ni gan geginwyr Ffrainc, a lie y gwastreffir cymaint gennym ni yn ddiangenrhaid, ac mewn anwybodaeth. A ei haddysg gar- tref bob gair. Y fetch fcddiv.Dywedir fod tros tigai-ti mil o wragedd wedi eu cosbi am yfecl i ormodedd y tiwyddyn ddiweddaf-a bonllo'n flwyddyn lawn o ryfel. Sobrwydd anwyl! mae meddwl am y fath beth yn meddwi synnwyr. Hefyd, dywedir ma.i gwella y mae pethau, ond nid ar y Clawdd y gwelir hynny. Ofnaf mai gwaethygu. y mae pethau yn yr ystyr yna y ffordd hon- y fercll a welir yn feddw ym mhobman— ae ami i wraig o ddyn. Rhaid cati, wir Eisteddfodau diddiwedd.—Mae'r Clawdd wedi gwallgofi ar fan Eisteddfodau. Peth eyffredin yw clywed am ddwy neu dair yr un wythnos. Gorlwythir y beirniaid a gwaith a gorlenwir yr ystafelloedd â gwrandawyr ac ymgeiswyr. Rhaid y gwneir peth wmbredd o arian drwyddynt, a chodir hefyd ym mhrisiau y gwobrau. Yr adrodd sydd fwyaf ar i fyny. Da gweled fod cymaint yn ymgynnyg yn yr adran hon. Kid oes dim yn talu'n well am yr amser a roir iddo. Cofier penodi beirniad da ymhob lie— meistri yn y grefft. 'Ste,ddfodGwyl DdewiBwlchGivyit.-Llwydd- iannus iawn fu hon—fel pob peth o'r fath ym Mwlch »(wyn. Da oedel caol yr INSPECT. OR yn y gadair. Gwelwyd hefyd fod y bechgyn llwydwisg--y milwyr—yn dal i garm ac ennill gwobrau er gwaethaf y Caiser a-i belenni tan. Mae gofyn cael diwedd ar fyd cyn y taw can y Cymro. Erddtfr gerddi.-Y.Lu mhentre'r Brytlion caed cyfarfod profiadol iawn i ystyried bethellirwneud at ddefnyddio pob modfedd o dir yn ystod y rhyfel. Dywedwyd y gellid gwneud y lie yn hunan-gynhaliol yn yr ystyr o godi pytatws, etc. Ffurfiwyd pwyllgor cryf a phenodwycl ysgrifennydd frwd ia wn.. Caed anerchiad godidog gan y chwaer Wordsworth, o dref Gwraig Sam. Torchwch eich llewys.—Dyma genadwri Mr. Steel Maitland a Mr. John Rowlands i drigolion Gwraig Sam y nos o'r blaen. Caed dau anerchiad—ynaill gan y Sais a'r llall gan y Cymro gwlatgar. Gwthiwyd y peth i mewn at gydwybod gan eraill hefyd. A wneir chwaneg nag a wneir ? Ceir gweld Darlithwyr Y Clawdd—Rhos Ddu, Pen- hillion Cymreig, gan y Parch. J. Miles Jones, Treucldyn, Glanrafon (C.M.), N erth Gweddi, gan y Parch. W. Roberts Jones, New Broughton. Gwrecsam, 11 on Gymeriad o Clernyw, gan y Parch. Ward Williams. Yn 8wit ar ei gilydd.Syrthiodd y Parch. Pywel Griffiths, gweinidog y Bedyddwyr yn y Rhos, iiiewn serch dwfn a Miss Lillian, geneth fwyndeg Mr. R. R. Jones Y.H., Johnstown, ac ni fu heddwch nes ei chael yn eidclo iddo'i hun. Gwnaed hynny I yr wythnos hon yng Ngwrecsam. Hir oes a hil iddynt ill dau.
I Basgedaid o'r Wlad.
I Basgedaid o'r Wlad. NANTLLE. — Mary Slessor oedd anerchiad y Parch. J. M. Williams, gerbron Cymdeithas Pobl Ieuainc Soar, nos Lun ddiweddaf. Hanes diddorol am un o'r merched goreu a fu ar y Macs Cenhadol. Gwnaeth ddiwrnod o waith da yn Calabar. Cymerwyd y gadair gan Mr. Humphrey Williams, Snowdon Villa.Neuadd Dref Pen y Groes yn llawn nos lau yn gwrando plant Ysgol y Cyngor. Cymerwyd y gadair gan y Parch. D. Davies (B), a,'r Parch. P. J, Parry (W) yn diolch yn ddoniol iawn. Anfonir yr elw i fechgyn yr ardal sydd yn y Fyddin. Mae'r pwyllgor wedi derbyn cyf- ffeiriad 115 o fechgyn eisioes. Am y plant yr oeddynt yn ardderchog, a'r Ten Little Nigger Boys yn gyfartal i fechgyn duon yr Happy Valley, Llandudno, a defnydd comed- ian o'r radd oreu yn rhai" ohonynt. Diolch i Mr. W. Parry a'i gydathrawon am eu gwaith.—Aeth Cwmni Drama Pen y Groes i Glynnog Fawr nos Sadwrn, yr elw at Capel Gym Goch. Cynulleidfa dda, ac argoel na bydd yr elw o'r un lliw a'r Gyrn. --Nos lau. bu farw y cyfaill tawel, Mr. Robert Roberts, County Road, Pen y Groes. Efe'n hannyw o Ddrwd y Coed, a'r ardalwyr yn ei adnabod fel Robert Roberts, Store- house." Er yn cwyno ers tro, sydyn fu ei ymadawiad. Yr oedd yn 60 oed.—Cawn fod amryw o fechgyn y Dyffryn sydd yn y Fyddin mewn ysbytai yn y wlad hon. Mae y Quarter Master Sergt. Hugh H. Roberts, Dolbryn, Llanllyfni, yn Warring- ton, wedi bod yn Ffrainc dclwy flynedd Pte. Isaac G. Jones, Gwyddfor Terrace, Pen y Proes, yn Leeds, yn dioddef oddiwrth effeithiau y Rhew; a'r Pte. H. M. Parry, Clynnog Road, mewn ysbyty yn rhywle yn Lloegr." Dyrchafwyd. y L. Corpl. Robert Jones, Bryn Goleu, Pen y Groes, yn full Corporal," efe yn Ffrainc, ynghyda'i frawd Arthur (ymunodd ef yn Canada) yn ogystal a chefnder iddynt—RobertOwen. —Myn y milwyr amser i briodi. Priodwyd y Pte. Evan J. Rowlands, Penbryn Madog, Tal y Sarn, a Miss A. E. Morris, Water Street, Pen y Groes. Hefyd y Rhingyll Thomas B. Burton, o York draw, yn dewis Miss A. E. Owen, 45 Water Street, Pen y Groes, yn gymar bywyd. GOFAINT GWREGSA.I.I. Yr Efail" yw'r enw ar Gymdeithas Genedlaethol Gwrecsam, a hwy yw'r gofaint sy'n cadw tan iaith a lien Cymru rhag diffodd yn y di-ef. Y rhain fu wrthi yng nghyfarfod Gwyl Ddewi eleni :—Yn annerch Mr, Gwilym Peredur Jones, M.A., a Mr. W. R. Owen, a'r llywydd (y Parch. Lias Davies). Miss Nansi Richards (Pen y Bont Fawr) a'i thelyn yno, a Miss Gwen Richards (y Bala) yn canu gyda'r tannau. Misses Bronwen Griffith ac Annie Parry—dwy o facwyaid Mr. Huw Ellis Hughes o Goed Poeth—yn adrodd, canu penhillion a dawnsio'r llam- ddawns Gymreig nes cael eu hail alw. Caed crynhodeb o waith yr Efail am y flwyddyn gan yr ysgrifennydd (Mr. W. M. Roberts, y cerddor). Adroddiad gan Mr. H. E. Jones Ar amnaid Mri. J. Williams, B.A., Ogwen Jones, a T. O. Jones, penderfynwyd anfon cofion yr Efail i'r llywydd (Dr. T. W. Jones) yn Ffrainc Mr. Tom Roberts, M.A. (York and Lancaster Regt.); a Mr. J. Arllwyd Jones, B.A. (yng Ngwersyll y Swyddogion yn Newmarket, Rhydychen), etc. Cafwyd gair gan Mr. E. J. Williams a'r Parch. Rd. Hopwood. Poethi mwy o hyd y mae tan yr Efail, a pha Gymro na chawsai annwyd yng Ngwrecsam onibai cael troi i ymdwymo a cholli ei grepach Die Shon Dafyddol wrth ei heingion hi ? GWIR GYMRY SHOTTON.— Y mae'r Cymry iawn a gwirioneddol sydd yn Shotton a'r ardal yn gwneud eu heithaf i gadw pethau'r Hen Wlad yn fyw yn y. fan sy mor llawn o Saeson swydd Stafford a manuau eraill, ac sy'n peryglu pethau goreu Cyinru a phethau salaf Lloegr. Chwef. 28, cynhal- iwyd Gwyl Genedlaethol yn Eglwys Dewi Sant, Connah's Quay y Parch. J. Meredith Hughes, F.R.H.S., yn pregethu, a'r rhain yn cymryd rhan y Parchn. E. J. Davies, ficor Connah's Quay O.Rees, ficer Bagillt a R. R. Owen (A), Connah's Quay. Canodd Cor Meibion, dan arweiniad Mr. Nuttall, a chaed pregeth alluog ac oodfa flasus, a Llan a Chapel yn cyd-addoli am awr ddiddig. Nos Sadwrn wedyn, Mawrth, 3, caod cyn- gerdd yn ysgol Cyngor Shotton, dan lywydcl- iaeth ficer Connah's Quay, pryd y caed anerchiad gan Mr. J. H." Jones (Gol. Y Brython) ar Ddewi Sant, a'r rhain yn adrodd a chanu ac yn y blaen :—Seindorf Shotton, Misses Bronwen Thomas, Minnie Jones, Maggie Evans, May Hopkins; Mr. Willie Rees, Vaughan Llew Davies, E. Williams, Cor Philharmonic Shotton a'r ardal, Plant Y sgol yCyngor yn perfforrnio ambell chware bach cloniol Mri. James Williams, Y.H., a H. Williams (Queensferry) yn cyflwyno'r diolchiadau Mr. R. O. Roberts yn cyfeilio a'r rhain yn swyddogion y pwyllgor Cad y Parch. D. E. Roberts trys., 'Mr. Ernest Lloyd, eyf reithiwr ysg.. y Parch. R. R. Owen, Mri. W. Ellis a D. R. Williams. Gwych oedd eu gwaith daliwch ati; daw'r had o'r cldaear ymhell ar ol ichwi fynd dani PONT Y BODCIN.—Treuliwycl Mawrth 4 yn Saboth ymdrech y plant ar ran y Gen- hadaeth Dramor. Llywyddwyd bore, nawn, a hwyr, gan y Mri. R. l'ngman, W. Jones, a David Jones. Arweiniwyd gyda'r canu gan Mr. Thomas Jones, BrynTirion,. a chyf- eiliwyd gan Misses Lottie Davies, Sissie Davies, Doris Edwards, a chaed cynhorthwy String Band tan arweiniad Mr. John Davies, Nant. Datganwyd y prif unawdau gan Mr. Isaac Roberts, Treuddyn; Miss Williams, Pant Miss Annie Nuttall, Miss Vera Hopwood a Miss Lottie Davies. Caed dros 80 o ddarnau mewn canu, adrodd, etc. Acllewyrcha hyn glod nid bychan ar arwein- yddion y plant. Rhannwyd llyfrau i'r plant am gasglu, a darllenwyd brysneges odcli- wrth y Fam Gymdeithas yn llongyfach yr eglwys ar yr ymdrech. O'R HEN SIR-SEF SIR FON. Gwahoddwyd Nurse Ankers, merch ieueng- af Mr. a Mrs. Ankers 0 Gaergybi, i wydd y brenin Sior, dderbyn bathodyn y Groes Goch am ei gwasanaeth i glwyfedigion Rhyfel. Anrhydedd gyffelyb a ddaeth i ran Nurse Hughes o Langefni, hithau'n ennill bathodyn y GroesGoch am wasanaeth a deheurwydd yn ysbyty'r milwyr yn Rhyd- ychen. Y Ficer llydan Cyfeiriwn at lydanrwydd iach y Parch. James Evans, ficer Bododern, yn pregethu pregeth-gofia yn ei eglwys i'r hen dad parchedig John Griffith. 'Rallt, gweinidog gyda'r Bedydd- wyr. Ardderchog Ficer !—Gyda breichiau agored y derbynnir Mr. H. H. Williams a'i briod, o Ros y Bol, lie bu yn ysgolfeistr llwyddiannus, .a swewr da i fywyd yr ardal am flynyddoedd, ar ei waith yn ym- sefydlu'n athro plant ym Mhengarnisiog. Cyflwynwyd roll desk iddo fo ac an- rhegion drud i Mrs. Williams. Llywyddwyd gan Mr. H. Hughes, Bryn Derwen, ac arweinid gan y Parch.W.Mortyn Jones (B). Bu Amlwch a'r cylch dan gwmwl y fynwent —angladd bron bob dydd o'r wythnos., Dau yn filwyr: Pte.R. Jones, Porth Amlwch, a fu farw yng Nghroesoswallt; Mr. Wm. R. Edwards, yn wr ieuanc tair ar hugain oed.. Nid oedd namyn chwech wythnos er pan ymunodd a'r fyddin yn "Preston. Dywedid mai pregeth go if a hodedig o deimlaclwy a gaed gan y Parch. J, S. Evans, Comaes, yn Siloh (A) i Mr. Robert Jones, Ty'r Gwydd, Llanrhwydrus, a fu farw mewn ysbyty yn Ffrainc. Dyna ddwy don ystormus a lifodd tros Mrs. Evans, Ty Gwyn, Cerrig Ceinwen, ger Llangefni claddu ei gftr ddydd Sad- wrn, yn anterth ei ddydd yn ddim ond deugain oed, a,c yn ddyn nodedig o gym- eradwy A chyn cau porth y fynwent o'r bron, dyna u merch fach ddeuddeg oed yn marw. Arwyl y tad ddydd Sadwm-ym. adawiad ei ferch ddydd Sul Gwr sy'n gwneud gwaith glew ynglyn a mudiad y Gwirfoddolwyr yn yr Ynys yw Mr. Hugh Pritchard, Llys Ednyfed, Llangefni, yn mynd o gwmpas ac yn llwyddo'n dda i gael rhai i yniuno.-Llygad A gored. GO (HDLLAI.—Mynd Adre.Dyna hanes Mrs. Gwen Roberts—mam y Parch. G. 0. Roberts (Mor fin), wedi oes o dros bedwar ugain mlynedd. Treuliodd y ddwy flynedd ddiweddaf yn yr ardal hon, gyda'r Morfin a'i deulu; ac llibu neb erioed hoffach o'i fam. Mae profiad Gwilym ab Ieuan Hen am ei fam yn gymwys hefyd am y Morfin- Nid adwaen, iawn ywdywedyd, Weithian i bath yn y byd. Noswyliodd yn dawel nos Lun cyn y diwedd- af, ac hebryngwyd ei gweddillion bore dydd Gwener i Faeutwrog, i orwedd ym medd y teulu. Gwasanaethwyd gan y Parch. W. M. Jones, yr Wyddgrug. Moro Gm ywCymru Nos Fercher,, cynhaliwyd Eisteddfod Gw^r leuaine M.C., tan arweiniad Mr. W. J. Roberts B.A.—gwr sy'n dysgu y Gymraeg i ^raill, ac yn ei siarad ei hun. Nid pawb felly. Mr. D. D. Parry, Llanrwst,a glorian- nai'r caotorion, a beirniad yr Arboliadau oedd Canwy.—Nid mor gibddall.-Mae ein Lly wodraeth heddyw mewn penbleth ynglyn a phrynu ynteu gwahardd y ddiod, ond bydd yn dda gan Hutyn y Clawdd glywed fod byn wedi ei benderfynu mewn rhan yn yr ardal hon. Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd tafarn heb gwrw o'i mewn, nid am fod mwy o yfed ond am fod llai'n cael ei fragu. Yna daeth y tafarnwr a substitute i mewii. sef Oxo, fel yr aeth un, wedi iddo gael dan las- iad allan gan ddweyd ei fodwedi cael digon Son am experiment ( Iarlisle yn wir! dyma i chwi engrailft yn profi mai gwaharddiad yw'r unig feddyginiaeth ar gyfer y mawr ddrwg hwn.
Advertising
PILOTS' CONCERT, PHILHARMONIC HALL. Mr. KINGSTON JONES was responsible for seme of the BEST FEATURES of the entertainment.—Courier. XMAS CONCERT, CEFN MAWR, 1917.—The recitals both Welsh and English, by Prof. Kingston- Jones, were the feature of the evening He is a born entertainer He was enthusiastically recalled after each item.-Cefn Ch'onicle. KINGSTON-JONES Gold Medallist, Professor ofLElocution Concerts.. Entertainer-AdjudicEitor Entertainments given by" self for whose evening (24 hours) in Walsh or English. Wele Raglen y Noson Gymraeg:— Yr adroddiad enwog a hyfforddiadol Ymweliad Ned Ffowc a Llandain (yn para tri chwarter awr); hefyd Ned Ffowc ar Cadi Elaenoria;d." "'Steddfod Fawr Llangollen." "Crist yn gostegu'r Dymestl." Y Milwr." a'r character adroddiad enwog, "Modryb Modlan*' Danfonwc'i am Farn y Wasg a Geirda amryfal Eglwysi ac enghraifft o'i Raglen. Y Rhagfen Saesnog yr wythnos nesaf. Û. W. RUGHESO(L. & L.T.s.c A riestoldd I Oakm got Mfksptl M.O. Pristom gooi)t Arweinydd Cymanfaoedd Canw, Beirniad, ac Arholwr. Parotoir Itmseiswyr at Dyetysgrifau uvehas colef; y Soljfa, Hen Nodiant a 8oltu, 70 KINGSLEY ROAD LERP dNWrD, PESWCfJ,. INFL'UE'NZA-Jl.le j rhain gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidis) fod llawer o ddioddcf oddiwrth Besweh, Bronchitii Pat, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, DiSyg Anadl. Y mae'r hen feddyginiaeth DAVIES'S COUGH MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwertb* favrugj yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cynhesu y frest, ac yn rhyddhau'r pfafry, Bydd dose mewn pryd yn ddigon. is. i a 21. gi (postage, 3i.)-HuGH DAVIIS, Chemist, Machynlleth SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.-Dynayrhys y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhan, a dim arall. Nid. yw yn honni gwella popeth fel Yankee Patent Medicines, ond os bitrir chwi gan groes afiach, ysfa, pimplet, toriad iiian, tcurvy> doluriau pendduynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac amhu'r, mynnwch boteiaid o 5arsine Blood Mixture gan y druffliti nesaf atoch, 21. gd. y bote], neu gyda 3. at y cludiad yn ychwanegol oddiwrth y perchennog- HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth