Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

fflflr GOSTEG.

DYDDIADUR.

Cyh seddwyr y Cymod

Advertising

I Ein fcnadl ym Manceinion.…

Family Notices

Advertising

RHIWMATIC AC ANHWYLDEB IIY…

Advertising

fO Big y 0Big y JLieifiacL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TEML GWALIA, EDGE LANE.—Nos Fercher yr wythnos ddiweddaf cafwyd Teml agored i ddathlu Gwyl Ddewi. Cafwyd papur rhagorol ar Ceiriog gan y P.D., Br. J. M. Evans. Can, Myfl s'yn Magu'r Baban, Chw. Olwen Hughes. Adroddiad, Myfan- wy Fychan, Chw. Nellie Roberts. Can, Hiraeth, Br. Ieuan Roberts. Triawd, Bu- geilioW Gwenith Gwyn, Chwiorydd R. Ed- wards, R. Evans, a J. Jones. Adroddiad, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon, Br. J. E. Davies. Can, Tros y Garreg, Chw. Jenny Jones. Adroddiadau, Lisi Fach ac Alun Mabon, Br. R. O. Williams. Can, Dafydd y Garreg Wen, Chw. Lili Edwards. Parti dan arweiniad Br. G. Davies. Can, Br. David Roberts. Adroddiad, Bugail Aberdyfi, Chw. Nellie Roberts a'r Br. R. O. Williams. Can, Petrisen ar y Pren*Gellyg, Chw. Jenny Jones. Can, Wyt ti'n cofioW lloer, Br. Ieuan Jones. Can, Yr Eneth Ddall, Chw. Lili Edwards. Diolchwyd i'r P.D. am gyfarfod mor ragorol gan y Br. H. Dav- ies. Cyfeiliwyd gan y chwiorydd D. Halton Morris a L. Edwards.-Cymraes. YNG NGWERSYLL KNOWSLEY PARK.— Cynhaliwyd cyngerdd ac Eisteddfod Iau cyn y ddiweddaf. Cymerwyd y gadair gan Capt. R. Rowlands. Beirniadwyd y canu gan Lieut. Marcus a Mr. J. Jones, Thatto Heath, a'r adrodd gan y Parch E. Baguley, Prescot. Arweiniwyd gan y Caplan y Parch. T. Jones-Parry. Cawd unawdau gan Miss Molyneux, Prescot, a gwasanaeth- wyd gan G6r Cymreig y Gwersyll. Mae y canorion hyn wedi bod o wasanaeth amhrisiadwy drwy'r misoedd, a galw mawr amdanynt. Y cyfeilydd oedd Miss Coombe, Prescot. Gwobrwywyd fel y canlyn :— Unawd Baritone, 1, Pte. C. Pierce; 2, Pte. R. J. Holland. Unawd Tenor, 1, Lee. Corpl. Williams. Her Unawd, L; Lee. Corpl. Williams; 2, Pte. R. R. Roberts. Deuawd, 1, Lee. Corpl. Jones a Pte. Evans. Adrodd 1, Pte. Sheridan 2, Corpl. J. Davies. Pleser oedd gweled Maj or Jenkins yn bre- sennol,a chafwyd cyfarfod neill+uol o lwydd- iannus. Bwriedir cynnal Eisteddfod arall yn fuan. Yr ysgrifennydd oedd Preifat J. Bartley (Bangor). Rhoddodd Col. Tay- lor, y commandant, ddiwrnod o wyl i'r Cymry ddydd Gwyl Ddewi, a gwerthfawrog- wyd hyn yn neilltuol. WATERLOO.—Yn y Gymdeithas Lenydd- ol nos Wener, o dan lywyddiaeth Mr. D. R. Hughes, y testyn oedd Atgoflon gan Mr, Hugh Jones. Cafwyd ganddo ar y dechreu grvnhodeb o hanes y Methodistiaid Calfin- aidd yn Lerpwl ac yna adolygiad ar dwf a chynnydd y cyfundeb yn ystod ei arhosiad yn y ddinas-dros hanner can mlynedd bellach. Dilynwyd gan Mr. R. H. Jones ag atgofion am Fitzclarence St. Mr. John Lloyd am gymeriadau bro'i febyd; Mr. J. Thomas am Aberteifi; Mr. Hugh Roberts am e gydnabod; a chan y Parch. W. Henry. CYMDEITHAS LLEN A CHERDD CHATHAM ST.-Noswaith leuan Glan Geirionydd oedd yma Chwef. 27, a Mr. R. E. Jones yn traethu. Adwaenir Glan Geirionydd fel y bardd prudd, yn byw bob amser o fewn golwg yr afon donnog, ond dangosodd Mr. Jones ei ochr arall, a darllenodd ddarnau digrif o'i eiddo. Mae'r dwys a'r ysgafn yn agos iawn at ei gilydd ymhob gwir fardd. Siar- adwyd gan Mri. J. S. Pritchard, John Roberts, T. Lloyd Jones, a Hugh Hughes, a diolchwyd i Mr. Jones am ei ffyddlondeb mawr i'r Gymdeithas ar hyd y blynyddoedd. A chydnabuwyd ffyddlondeb mawr yr Ysgrifennydd Mr. R. E. Roberts. Trwy ei ynni cadwodd y Gymdeithas yn fyw mewn amser anodd, a chaed tymor eithriadol o lewyrchus. Y DIWEDDAR MR. J. R. ROBERTS. BLOOM STREET.—Ychydig wythnosau'n ol, prin y gellsid cwrdd a dyn o ymddangosiad iach- ach a chryfach na Mr. Jones, ond goddiwedd wyd ef gan y gelyn-cyffredin y dyddiau hyn-pneumonia, a chymerwyd ef ymaith yn anterth ei oes. Yr oedd yn ddyn llaw o ynni a chyflawnodd ei ddyletswyddau bydol yn ffyddlon. Nid allai R.J." fod yn segur. Gyda'r un diwydrwydd y gweith- iodd fel aelod o eglwys Annibynnol Kensing. ton. Er fod ei lafur dyddiol yn galed iawn er pan ddechreuodd y rhyfel, ni chai blinder ei atal i fod yn bresennol yn y moddion y Saboth na nosweithiau'r wythnos, a phar- haodd i gymryd rhan yn y cyrddau cyhoedd. Bu'n athro ar ddosbarth o ddynion yn yr Ysgol Sabothol, a gofalai bob amser am baratoi ar gyfer y wers. Yr oedd ei sel yn frwdfrydig yn yr holl waith, a bu'n gefnogwr cryf i gyfarfodydd y bobl ieuanc. Ni fu cartref dedwyddac h na'r eiddo ef a mawr yw'r golled yno i'w weddw a'u, merch fechan. Anodd sylweddoli fod dyn mor fyw wedi marw, ac anodd dygymod a cholli brawd mor wasanaethgar. Cladd- wyd ddydd Mawrth, yng Nghladdfa Smith- down Road, pryd y gweinyddid gan y Parchn. J. O. Williams a D. Adams, B.A Cludid yr arch gan Mri. Richard Griffiths' W. R. Job, W. Tomson Jones, a W H. Jones —o eglwys Kensington. Daeth tyrfa luosog ynghyd. Yr oedd y wreaths yn lluosog, ac yn eu mysg un brydferth oddiwrth ddos- barth eu diweddar athro'n yr Ysgol Sul a chyfeillion ereill. GUILD WEBSTER ROAD.-Cynhaliwyd sos ial dan arweiniad Mr. J. Roberts (Ap Garrog). Heblaw y gwpaned a lonnodd galon pob un cafwyd adroddiad gan Trevor Jones a, chaneuon gan Misses Phyllis a Nellie Davies, Mri. Emlyn Hughes a Glyn Jones.-W.G.J. LAIRD STREET.—Yn y Gymdeithas Lenyddol nos Fawrth, o dan lywyddiaeth Mr. W. Jones, Ald- erley Avenue, caed papurau cynhwysfawr ar Eifion W yn gan Miss M. M. WiJiams; ac ar Words- worth gan Miss Eunice Thomas. Diolchwyd i'r ddwy chwaer gan Mrs. R. J. Griffiths, Mri. W. R. Pritchard, a R. Hughes. Nid yn ami y ceir papur ar fardd byw.-R.Y.G. CYMDEITHAS LENYDDL DOUGLAS ROAD- NosWener cyn y diweddaf,o dan lywyddiaeth Mr. W. O. Hughes dnthlwyd Gwyl Ddewi. Agorwyd a detholiad ar alawon Cymreig ar y piano gan Miss Roberts, Larkfield, sy'n mwynhau saib ar ol bod yn gweinydda ar y milwyr yn Ffrainc. Cafodd Mr. J. Freeman hwyl ar ganu Eto unwaith Nghymru Anwyl a Cymru Fydd. Canwyd Nant y Mymjdd yn bur swynol gan Miss Florrie Jones. Baner ein Gwlad a Givnewch bopeth, yn Gymraeg gafwyd gan Mr. J. Jones, lace Avenue, yr hwn, gyda'r olaf a enwyd a ganodd Rywel a Blodwen. Canwyd Dychweliad y Milwrgan Mr. W. Jones a Pawb a phopeth yn mytid gan Miss MelzJones- Caed cryn ddifyrrwch gan Mr. Morris Ellis yn canu penillion a gyfansoddwyd ganddo, ac yr oedd Mr. J. Edwards yn ddiddorol yn canu Pastai faur Llangollen Adroddwyd Drygedd Meddwdod yn bur effeithiol gan Miss Laura Roberts, ac yr oedd Mr. J. R. Jones yn hwyliog iawn yn adrodd Yn y Mor a'r Rhew. Cafwyd detholiad campus ar y crwth gan Miss A. Roberts, Larkfield. Anerchwyd gan y llywydd ac Arfonog. Cyfeiliwyd gan Miss Florrie Jones a diolchwyd gan Mri.D. Jones (Oban Road) a G. Jones. Casglwyd at gronfa'r milwyr Cymreig.—JR.J.J. -0--