Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

TEIRAWR 0 BUNT Y CiOeWVN A'R…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TEIRAWR 0 BUNT Y CiOeWVN A'R CEUNANT Sef Plant Naattle, wrth gwrs GOFYNNWYD inni lywyddu Ail Noson Nantlle yn Ysgoldy Crosshall St., nos Sadwrn cyn y diweddaf ac er ei bod hi'n hin mor hyllig, fe euthom, petae dim ond er mwyn clywed Cymraeg a digonlo led ynddo a gweldrhaio ddisgynyddion Hen Lanciau Clogwyn y Gwin. a Cwm Silyn a'r Mynyddfawr a chlogwyni ysgythrog Drws y Coed yn pincio mor ddigamsyniol o lygad a bochgern ami un o'r deucant a hanner a ddaeth drwy'r glaw a bistyllai fel o grwc. Wedi cydganu Marchog, Iesu, yn llwyddiannus a chael y cywair iawn i'r cyfarfod, mentrais ddweyd- a hynny am ei fod yn wir ac nid yn wen- iaith-fod plant y mynyddoedd, at ei gilydd, yn llawnach o awen adychymyg na gwyr y gwastadedd, a bod plant y dolydd, er brased eu tir a'u porfa, yn fwy llonydd-a Hoaidd!-na phlant y gelltydd geirwon a thrigolion ffriddoedd y grug a'r eithin. Wythnos i'r noson honno yr oeddwn yn Shotton, yn dweyd tipyn am Ddewi Sant wrth Gymry sir Dafydd ab Edmwnt a Chaerfallwch a Daniel Owen, ac yno gwelwn frithiad o chwarelwyr Nantlle yn gymysg a channoedd o byllwyr swydd Stafford sy'n, dal i ddylifo i'r gweithfau mawrion a godir ar lannau'r Dyfrdwy. A'r gwahaniaeth rhyngddynt yn peri imi dueddu i gredu sylw eithafol Emrys ap Iwan, sef mai gwerin Canolbarth Lloegr yw'r isaf yn Ewrop. 'Dyw pobl Nantlle,mwy na Chymry unman arall, ddim heb eu hie a'u tolc, fel sydd yn eu lleehau; ond 'roedd mwy o sglein yr Ysgol Sul a'r Dosbarth Darllen a'r Gymanfa Ganu a'r Eisteddfod ar lygad y Cymry nag oedd yn llygad y lleill o Loegr. Fel hyn yr aed ymlaen ar ol i'r emyn a'r rhagair wneud eu gwaith paratoawl Mr. J. J. Thomas, L.T.S.C., yn cyfeilio, Miss Jennie Jones yn canu Neges y Blodeuyn. Miss M. A. Roberts yn adrodd Helynt yn Set y Gornel, sef cyfaddasiad Cymraeg da a doniol iawn o Trouble in A men Corner y Saesneg. Wedyn, dyma Mr. R. W. Roberts (Arfonog) yn dod i'r llwyfan ac yn traethu'n ddiddan a blasus iawn am rhyw chwarter awr ar Feirdd a Llenorion y Dyffryn, sef Glasynys, Glan Llyfnwy, Alafon, Eben Fardd, Robt. Ellis o Clochydd, ac yn y blaen. Goddefer enghraifft nen ddwy :— Englyn y Clochydd ar fedd Dr. Dafydd Jones, Mynydd Llanllyfni Er meddu ar y moddion—a weHant Eraill o glefydon, Angau trwch, i'r llwchgell hon, Yma ddwg y meddygon. Dyma ddau englyn a ddyfynnodd o waith Glan Llyfnwy :—I, Set Fawr oer dan bregeth gynnes Er siarad a gwres-eiriau-uwch y sedd, Ni chlywch s teimladau Yr oera o bob, rhyw oer bau Yw mynwent yr amennau. A hwn gampus ei wers a dwys ei rybudd i'r Meddwyn :— Oni newidi d'anian,-yn Ei lid, 0 dy law yn fuan Duw a gipia dy gwpan, A gyr i ti gwrw tan. A phan y'i clywais yn adrodd englyn hysbys Alafon I'r Asyn O archnadwr yr erch nodau-di serch, Dos hwnt o'n gororau, A dilyn dy bedolau Gyda cheg wedi ei chau, fe gofiais i garedigrwydd trwp o gyfeillion fynd a mi i hela iechyd ac ail hoen i'r Can- aries rhyw chwe blynedd yn ol, lie y mae asynod lawer. Nadai un bastardd mul mor uchel ac anynad o flaen fy ystafell yn yr Hotel Metropole nes y codais wedi gwyllt- io, agorais y ffenestr a gwaeddais yr englyn uchod ar ucha'm llais I; ac er mai mul Ysbaenig y fo, fe gaeodd ei safn yn chwap a chefais innau siawns i gysgu a breuddwyd io am Gymru a sir Feirionydd. Ysgrif- ennais wedyn at Alafon am iddo godi'i galon,—fod digon o nerth yng nghic llinell gloi ei englyn i gau genau bastardd mul Ysbaenig bymtheg can' milltir o'r fan y gwnaed yr englyn ar lethrau'r Wyddfa. Dyma loes hiizaeth yn mynd yn don dros fy nghalon y funud yma wrth feddwl am yr Alafon cu, caredig, sydd a rhes o'i lythyrau coeth yn f'ymyl yn un o gilfachau'r gell yma, ac yn union fel fo'i hun. Ond gee, cymoder, wo, ferlyn! a thyr'd yn d'ol o'r Canaries i Crosshall Street:— Canodd Mr. W. J. Jones, Death of Nelson ar y cornet, ac Iorwerth Parry-mebyn Prif Athro Ysgbl y Cyngor Pen y Groes— yn dal y copi Hen Nodiant o'i flaen, ac yn gwenu mor heulog a'i fam ac yn llygadu mor ddireidus a'i dad. Deuawd, Mae Cymru'n barod ar y wys gan E. Walter Williams a Sam W. Jones. Baner ein gwlad gan Ben Morris (gwn na ddigia bechgyn croendew'r wlad ddim wrthyf am ado'r Mistar allan o flaen eu henwau—hen lol gwastraffus a mursenllyd yr ugeinfed ganrif), ac yn canu jieuad dlos wrth ateb yr encor cryf. Dadl, Cystadleuaeth Ganu, y ddwyFiss Jones, • t Powell Jones un ohonynt. Dadl ag am- bell d'rawiad doniol ynddi; ond y mae yna fwlch yn lien Cymru am ddadleuon gwir deilwng. Hoffwn weld rhywun a fedro yn troi ati i wneud dwsin neu ddau o rai da. Y Preifat Walter S. Jones, llanc lalsyth o Lanllyfni sy gyda'r Kings yrig Y .fgwersyll Crosby, yn canu Gymru Lan, mor felys nes y mynnwyd ei gael yn ol jlfganu'r Hen Wr Mwyn, a'i olwg a'i oslef y flasus o Gymreig a mynyddig. Ar ol dj puhwelyc* i'r gwersyll oer o'r Noson\Nant lie \$ynnes dyma filwr Llanllyfni'n gwaeddi Aros;' fimud, estron ar y Sergeant boldr, gwarsyth, ac yn gwrthod ufuddhau i'w FalltJin, nes cael tywallt ei deimlad i'r wyth penrfi illl A ganlyn, Arferiad'r ht ">i Gymry, yr oesau a fu, Oedd cadw "os Lawen a'i gilydd yn gu; Anghofient dras lodion, dirmygent lais brad, Wrth ganu alaw" on a cherddi eu gwlad. j, 'Roedd tannau .1.. delyn yn dynion bob un, A llifai yr alaw ( I mêl troa y fin; O. dryoin A ruth^L'i troo VIOgwYn a. gwaon, Yn fyw yr hen JO(RAU gadwent y gin. I A heddyw, os drycin a'i swn sy'n y Nant, Mae heulwen yn gwenu ar ganu y plant; "Nos Lawen a gadwant tra'u gwybren yn ddu, Daeth ysbryd'r hen Gymry ar Gymry y Sy. Mi glywaf yn swn yr atgofion o'r Nant Fod gobaith fy Nghymru yng nghanu ei phlant Os gelyn a'n treisiodd, nid gwaeth er y graith— Mae eli fy nghalon yn acen ein hiaith. Os hudwr a ddenodd y delyn i'w gell, Mae'r awel yn sibrwd," 'Dyw'r wawr ddim yn bell Cyn gelwir fy enaid i wyddfod fy Rhi, Rhowch dan ar y Delyn sy'n annwyl i mi." Doed meibion Eryri, o ddol ac o nant, I uno i gadw yn dynion ei thant, A'i,cheisio hi eto o ddwylaw y brad, I ganu serchiadol alawon fy ngwlad. A Margiad U ch Han, Brenhines y Gerdd, Plebynnag yr huna,'r dywarchen fo gwerdd I goffa amdani yn dyn byddo'r tant, Ar delyn fu annwyl gan feibion y Nant. Hir oes i'r Nos Lawen," caed englyn a th6n, Boed deuparth o'r ysbryd o Fynwy i F6n Dirmygwn yn wawdus bob gelyn a brad Wrth ganu alawon a cherddi ein gWlad. Ar ol Walter Llanllyfni, dyna T. J. Griffiths yn codiii ddweyd gair trefnus a da iawn am Bregethwyr a Gwyr Lleyg y Dyffryn, sef Robt. Roberts, Seraff Clynnog, awdur y bregeth wreiddiol ar Grist a Satan yn ym- aflyd codwm ar Galfaria, a Satan yn mynd danodd o'r diwedd John Jones, Talsarn, hoff-eilun Mr. Lloyd George yn anad yr un o Hoelion Wyth yr Hen Wlad Robt. J on83, Llanllyfni. un o'r pwythwyr mwyaf gwreiddiol a gododd Cymru; lolo Caer- narfon, bryddestwr meddylbraff; Mr. T. Lloyd Jones, F.R.G.S., a Dr. J. H. Jones, o hil a gwaed Tan y Castell, digon hawdd dweyd ar eu gwedd a'u gosodiad tywysog- aidd. Wedi i S. W. Jones ganu/ Cartref, adroddodd J. H. Griffiths Lladron yr Wyn- wyn-gwaith Robt. Ellis y Clochydd y soniasai'r Arfonog amdano, ac yn blethiad deugainc o wawd a doniolwch cyrhaeddgar. Parodd ei fynych gyfeiriad at wynwyn- nionod," chwedl llafar y wlad-imi gofio'r deffiniad o'r gair hwnnw a ddyry Wm. Salesbury yn y Geiriadur a ysgrifennodd cyn cyfeithu'r Testament Nwydd i'r Gym- raeg er mwyn i'r bobl ddallt y Testament pan y'i caent. Wynwyn llyseun (vegetable) a ddyry'r gwracedd wrth ei llygeit er cympell wylo pan fo meirw ei gwýr." "Y gwalch crafog iddo fo ebe Eluned sew. Gwaeddid am encor gan J.H.G. ond yn hytrach na dod i'r llwyfan ei hun, an- fonodd ei torch dalentog, Annie Wood Griffith, i lenwi ei le. A hi wnaeth hynny'n ag adroddiad campus o Nurse Cavell-dam Saesneg, gwaith chwaer Annie, hyTi na hi, sy'n nyrsio yn Colchester. Encdr byddarol i Annie wedyn, mwyn dn) Ond chware teg iddi gael ei gwynt ar ol darn mor faith, canys y mae hi i lawr ar y rhaglen eto dipyn bach is i lawr. Dyma gael cip o draethiad ar Gerddorion a Chanorion y Dyffryn-y rhai a fu—gan E. Walter Williams, ac wele hwy (1) Marged Uch Ifan—(pa faint na roiswn am gael benthyg yr hen fynyddwraig gorffol, gyhyrog honno, yn enghraifft o nerth corff a meddwl hen Gymraes y Wyddfa, o'i chym- haru a'r merchetos paintiedig sy'n rhygyngu heibioch mor simsan eu sodlau tua Lime St.) -(2) Mair Alaw (sef mam y brodyr Francis, felys eu pill a'u cân), Myfanwy o'r Glyn, Robt. Ellis y Clochydd, Hugh Owen, Griffith Ellis Jones, Ffoulk Williams (Eos Llyfnwy) ac E. W. Thomas. Yna canodd Annie Wood Griffith osteg o benhillion telyn, y mynnwyd ail ddogn ohonynt cyn y cawsai'r eneth dalentog lonydd. Dybiwn i fod y ddau ddawn-canu ac adrodd-mor gryf a'i gilydd yn Annie, a gobeithio y caiff hi chware teg i'w meithrin. Wedi i Jennie Jones a Ben Thomas ganu deuawd Y Llaethferch a'r Bugail, diolchodd W. R. Williams a James Lewis i bawb a gymerodd ran, ac ymwa. ynrwyd yn sn Hen Wlad fy Nhadau. Ond rhaid imi beidio a rhoi 'mhensil yn fy mhoced cyn crybwyll i Mr. R. J. Griffiths ddarllen llythyrau oddiwrth y Caplan W. G. Owen (Llifon, Cinmel), y Parch. W. Elias Williams (Bethel, Penygroes), a Mr. Ellis W. Davies (y Seneddwr dros Eifion), yn dymuno bendith ar y cyfarfyddiad, ac yn eiddigeddu na fuasent yno i gael rhan o ail hwyl ac afiaith Crosshall Street, a drefnasid gan y pwyllgor a ganlyn :—Mri. David Roberts, R. 0. Hughes, W. D. Roberts, J. J. Thomas, E. Walter Williams, R. R. Williams, W. W Roberts, T. J. Griffiths, J, J. Williams (llywydd), Evan Jones (trys.), R. J. Griffiths (ysg-)- Nos da, blant y graig a'r ebill; diolch am eich cwmni; a chan y bydd ugeiniau ohonoch yn anfon Y Brython a hyn o hanes i'ch ceraint yn y rhyfel ar dir a mor, dywed- wch wrthynt fy mod yn cofio atynt,yngwedd- lo drostynt, ac yn edrych ymaen at gael bod yn bresennol yn Noson Fawr y Dewrion Dychweledig ar derfyn y drin i ac os cafodd Noson Nantlle ddwy o'm colofnau cyfyng, y caiff Noson y Dewrion ddeg. Brysiwch wanu'r Caiser dan ei burned ais ebilliwch Brwsiaeth a militariaeth nes eu hollti, a dowch adre i Faladeulyn. Nid oes gennyf ddim yn well a ddymunwn ichwi na, bod sylfaen eich bywyd moesol mor llydan a chadarn a mynyddoedd eich Hen Wlad, a bryd ac osgo cryfa'ch eneidiau, fel eu pigau hwythau, yn pwyntio tua'r Nefoedd. Ond hawyr bu bron imi gau'r mwdwl cyn cyhoeddi'r pwt llythyr a ddaeth yma oddi- wrth Un o Blant Llanuwehllyn yn gofyn imi hel a hysio plant sir Feirionydd i CFosshall Street, i'w Noson hwythau. Ebe'r U.O'B.L# Gwelaf fod pobl Nantlle'n cadw digon o stwr a'u Noaon hwy a phaham, yn enw d, na ohawn ninnau bobl Meirion ein Noaon ninnau ? Dyma'r amser i blannu a phwy a wyr na ddaw'r hedyn a heuir yr un amser a'r tatws eleni yn bren mawr erbyn dechreu'r gaeaf nesaf. 'Rwy'n mawr hyderu y bydd ein bech- gyn annvryl yn ol erbyn hynny, i ehwyddo'r hwyl o.'r .Jam JO Aitsh, i" 1 Wet, rwy'n eithaf bodlon i wneuthur fy rhan i gael plant y Gymreiciaf o'n deu- ddeg sir-sir Feirionydd—at ei gilydd yn Lerpwl yma, ac a deimlwn yn odiaeth o gysurus ynghanol mil a mwy o fynyddwyr Ffestiniog a Thrawsfynydd a Thalsarnau a Harlech a Dyffryn Artro ac Ardudwy a'r Bermo a'r Ganllwyd a Dolgellau a Thowyn a Chorris a'r Bala-ei pharlwr hi a Jerusal- em Cymru. Gofaled Un o Blant Llanuweh- llyn am rai i ganu ac adrodd a thelyna, ac fe ymorolaf innau am frai cymhwysa'r cyleh i draethu ar odidogion fel Morgan Llwyd ac Elis Wyn ac Edmwnt Prys a Dafydd Ionawr a Philipiaid Mochras a Chyrnol John Jones *o Faes y Garnedd a Michael Jones a Lewis Edwards a Williams o'r Wern a Thanymarian a Gwyneth Vaugh- an-ie, a Thom Ellis, pwy bynnag arall a fo allan Diau mai'r diwedd fydd, y rhaid i bobl pob un o'r deuddeg sir gael eu Noson yn ystod y gaeaf nesaf, pwy bynnag fydd byw. I'th stabl, ferlyn canys er mai dim ond un golofn o libart a fwriadwn it' ei gael wrth neidio ar dy gefn i gychwyn tua Noson Nantlle, dyma ti wedi neidio dros y Clawdd a phrancio dwy. Pa beth a wnaf a thi, dywed ? Dy werthu t Byth! er druted yw'th fwyrI J • Llygad y Wawr, J.H.J. I

rSUFELL Y RORRD I

Advertising