Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ASK FOR "SI DCE Delicious and Appetising.
Advertising
To save Sugar for Jam Making use SUBSTITUTE, Many times sweeter than sugar. Many times sweeter than sugar. May be nsed in Tea, May be used in Tea?Coffee, Cocoa, etc. Sole Wholesale Agkntp— MORRIS £ JONES. Limits, Liverpool Manchestez and Newoastle-on- Tyne.
Advertising
■ THE CELEBRATED NAVAL and MILITARY TAILORS, Complete- Outfits at most Reasonable Prices. AN IMMENSE SELECTION OF TRENCH COATS, BRITISH WARMS, BRIDGE COATS. And all other Garments required for immediate Wear. BEATY BROS., Ltd., S T BSHn?L???-? t <LT?C?i!? ■ 28 & 30 CHURCH STREET, Saturdays until 1 p.m P ■ j 37 to 43 LONDO" ROAD Open until 6-30 p.m. I ■ 37 to 43 LONDON ROAD, OWpeedn nesdays until 1 p.rn B Saturdays until 8-30 p.m. J LIVERPOOL Phone 3925 Bank. Phone 580 Bootle Win. GRHTUHS& SONS MAKERS -OF SMART CLOTHES 29 South John St., Liverpool, AND 849 Stanley Road, Bootle, Military Uniforms. Uounge Suits. Naval Uniforms. Overcoats. Costumes. Ladies' Coats ——=ssssss;ssss^ I ) A ywtch Llygaid yn eich blino ? Yw pathau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arinydd a rhybudd nethdod y Ilygad, a dylech ga el eu hedrych. rhag blaen eu gwaethygu wna'u heageulno. Gallwn ni, Syden hoffer gwyddonol, ddweyd wrthych 08 oes arnoch angen gwydrau; ac os felly, eich cyfleawi i'r rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw— ARCHER & SONS Emiiht Specialists, 73 LOIlD ItTR.BIIY. I Sefydlwyà 1848. LIVERPOOL. H fllEllffllBHHHHHiHHBHBMHHHHBHlliroSi # THE New Wales: Some aspects of NATIONAL IDEALISM with a PLEA for Welsh Home Rule. By -• GWILYM O. GRIFFITH. INTRODUCTION BY EDWARD T. JOHN, Esq., M.P. Price, 6d.; By Post, 7d. Published by HUGH EVANS SONS, 356«8 Stanley Road. Liverpool, LIVERPOOL The SHAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, Abooli 4 wills. vail from TAn* 13. A Otntral Stmt no, A tfirat-alsis lesaperAaoo Kotai Sladerata ah Vpoot. Phm* ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER, POTASH WATBa, SELTZER WATER LEMONADE. DRY GINGER ALB, « Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St.* I LIVERPOOL D. GRIFFITHS d SON 221 Breelf Rd. and 9 Mow* 8i L'pesl. Pianos & Organs by all the leading makers, From 81- per month. 7IBUl":IIOJfJll-45Cíx AeHeld A 3772 KOYALl Adroddiadur y Plant argyfer CARTREF, YSGOL; a LLWYFAN, gan LLIFON. • Pris 6ch., trwy y post 7g. Talfyriad o Adolygiaduu- "Gwnâi copi ohoro yn 11aw holl blant Cymru les mawr y dyddiau hy-i.DVfed. "Y mae y testynau yn syml a naturiol, Oyn. hwysa lawer o'r humour sydd mor belaetli yn yr awdur.Pedrog. "Mae'r awgrymiadau ynghylch Adrodd en hun- ain yn werth y pris.Y Pa?,ch, D. Tt$wyri~Evans, B,A. i *■ { Cyhoeddedig i yn Swyddfa'r "Brython." ROBERTS E EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 Kiriidale Rd.. Liverpool TiIIl.p!lhQlle r 2193 Poyal. 11
Trem I-Cyfrol Goffa HeddI…
Trem I-Cyfrol Goffa Hedd Wyn. YN ol ein haddewid i'n Brodyr yn y Rhyfel, cymerwn Drem y tro hwn ar waith uii o'u cymrodyr athrylithgar a gwympodd ar faes cad, ac a gladdwyd yn Rhywle. Bu farw yn Ffrainc, ond bydd fyw yng Nghymru -yn hir, hir. Sylwasom droeon o'r blaen, yn y golofn hon, ar y dadebriad barddonol ymysg y milwyr tI. ddaliwyd yng nghynhyrf- iadau'r Armagedon. Siglwyd llawer ganddi hi ar fywyd amrywiog dynolryw, ac yn yr ysgydwadau mawr fe ddeffrodd awen llawer bachgen i ganu-yn y lIon a'r Heddf. Sylwir ar hyn gan y Wasg yn gyffredinol, ac ni raid ond darllen yr adolygiadau ar gyn- hyrchion barddonol a gyhoeddir yn barhaus na welir pa mor ffrwythl-on yw'r awen fardd- onol yn y rhyfel, a pha mor ragorol o ran ansawdd yw llawer o'r cynnyrch. Dywed rhai beirniaid o awdurdod ei bod yn rhy fuan ar hyn o bryd i benderfynu pa mor uchel y cyfyd rhai o feirdd ieuanc y rhyfel, ond mynnant fod y goreuon eisoes o deilyng- dod uchel, ac yn dangos posibilrwydd llawer mwy. Sylwasom hefyd ar amryw o'r cyn- hyrchion awenyddol a dderbyniasom oddi- wrth rai Cymry awenyddol yn ystod y rhyfel^ ac o wahanol barthau byd. A cheir mewn llythyrau, yn gystal a chaniadau, rhyw ddeffroad meddwl ac ysbryd-rhyw eneiniad newydd-na arferid ei gael o'r blaen. Ond rhaid inni droi at wrthrych neilltuol y Drem-y diweddar HEDD WYN. Prudd, prudd yw meddwl fod awen mor gref a hoyw wedi tewi mor gynnar Yn ddiamheuol, yr oedd Hedd Wyn yn berchen athrylith farddonol uchelryw. Cynhyrch- odd gyfansoddiadau rhagorol, ond teimlir wrth eu darllen nad oeddynt amgen addewid am bethau mwy—coethach ac aeddfetach. Cychwynnodd tan anfanteision mawrion. Ni chafodd fanteision addysg cyfatebol i'w gynheddfau meddwl a'r cyfnod y blodeuodd ynddo, Oherwydd paham, gorfu iddo ym- osod ar dascau celyd iaith ac arddull bardd- onol wrtho'i hun, yn ei ffordd ei hun, ac yn ei rym ei hun. A'r syndod yw ddarfod iddo lwyddo cystal ag y gwnaeth. Ni wyddom ni. am neb o'i oed, a than y cyfryw anfanteision, a Iwyddodd cystal i feistroli'r iaith a'r dull diweddar o gyfansoddi bardd- oniaeth Gymreig. Heblaw y rhaid foci ganddo alluoedd meddwl cryf, rhaid ddar- fod iddo hefyd wrth ymroddiad diwyd a chaled, cyn y cyraeddasai'r fath berffeith- rwydd ag a wnaeth yn y cyfeiriad hwn. Rhaid ddarfod iddo osod ei holl fryd ar hynny. Gellsid tybio wrth ei gynhyrcltion- yn enwedig y rhai pwysicaf a diweddaf o'i eiddo-ei fod yn ffrwyth cwrs o addysg uchraddol. Ni -feddwn duedd, pe meddem gymhwyster, i feirniadu fawr ar ei waith. Ond credwn-fel y crybwyllasom eisoes-, na chafodd fyw'n ddigon hir i gyrraedd cyflav/n gymhwyster ac aeddfedrwydd fel bardd. Hyn hefyd a awgrymir gan y Parch. J. J. Williams, yn ei Ragair i'r Gyfrol Goffa. Sylwasom yn ein hoes ar y ffaith eglur fod dosbarth o ddynion o athrylith gref yn cymryd amser meithach nag ereill i ymberffeithio mewn arddull a mynegiant. Dechfeuaat drwy fwrw allan ddychmygion- gwylltion, lied amrwd; ond mewn amser ymddatblygant i aeddfedrwydd, gloywder, a choethter. Fel rheol, mae'r bardd ieuanc a fynega ddychmygion "hanner gwallgof" yn werth disgwyl wrtho'n hir, canys mae ganddo grebwyll. Credwn nad oedd Hedd Wyn ymhell oddiwrth y dosbarth hwn. Yr oedd yn grewr o'r cychwyn, ac yn raddol yr ymddatblygai mewn barn a chydbwysedd meddyliol. Yn anad dim, trwy amynedd ac ymroddiad y gallsai ymberffeithio mewn iaith ac arddull mor bedodol ac arbennig a'r hyn y mynnodd ef ei fabwysiadu, Dy- wedwn eto mai syndod ydyw ddarfod iddo esgyn mor uchel fel cyfansoddwr. Ond naturiol iddo, fel hunaxiddysgydd, wneuthur rhai camgymeriadau—yn enwedig yn ei ddefnydd o rai hen eiriau anarferedig, ac mewn efelychiad o ddull rhai o'n prif-feirdd ysgolheigaidd diweddar o gyfansoddi. Dyna un rheswm, ni a gredwn, o'r gwyn yn erbyn yr aneglucder a briodolir i'w awdlau. Ofnwn fod rhai beirdd eteílI hefyd. nad ydynt yn deg tuag at eu darllenwyr yn eu cynlluniau a'u golygiadau wrth ganu ar destynau Aeilltuol. Clywsom fwy nag unwaith fod gan feirdd rhyw olygiadau eu hunain a wnai eu gwaith yn eglur iddynt hvjy, ac y buasai felly i'w beirniaid pe gwybuasent hwythau'r gyfrinach. Ond prin y gellir eyfiawnhau cuddio drychfeddwl llywodrfteth- ol cerdd, na'r dolennau cysylltiol a'r rhai yr unir holl rann>-u e,fanooddiad. Teimlwn fod rhai,'wrth osgoi'r eithaf ystryd- ebol gynt o gychwyn agos bob cerdd yn Eden draw," yn mynd i eithaf arall o ddieithrwch ymguddiol. Dylai fod allwedd i bob cyfansoddiad pan na bo'n egluro'i hun. Beth bynnag, amhosibl darllen awdlau Hedd Wyn heb deimlo fod ynddynt grebwyll cryf a chelfyddyd farddonol uchel. Ac nid yn unig grebwyll, eithr gwybodaetheang. Er ei fod yn gynghaneddwr rhagorol, nid ymgeisiai am ormod eywreinrwydd mewn cynghanedd, eithr plygai hi i wasanaethu ei feddwl. Teimlir trwy awdlau'r Gadair Ddu ac Ystrad Fflur mai meddwl barddonol cryf sy'n gwau iddo'i hun wisg fel y mynnai efe.
Advertising
nHHHBBHBHBHBHi ■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■ DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S T A TT All C FOREMOST A IVO. MUa~ i1!ll^C.Y ETiwiAii is the principle on wh'ch we TE"?''BErMS??T have b?Ht up a?d conducted JB" H E——————————? our business. Smart ana Perfectly Tailored Garments Made to Measure and to Fit. I JUDGE FOR YOURSELF how w?! that td?t has If been • maintained, by Bn placing your order with us for that NEW SUIT. I r.?™: 21 LORD ST LIVERPOOL j of.4.Ldcdhreasnsg:e LORD 5?'i III LlYtR, rnuf%o f IU" IUV !?M?@f:JO!-?JO?'ES. A!ao95,!0?165Grange.K.d.B'head I I Cymro am byth. at 226 High Street, R?ngof, ,ymro am y 23 Hope Street, Wrexham, ■ We specialize in Lakes'TaMor-Made 46 Lime Street, Liverpool. Costumes to ardav. &adthfou!:h«ut:hattt<t?do-?. V 1 -'II1II-
Trem II-Golyddan, Ben ..Bowen,…
Trem II-Golyddan, Ben Bowen, Head Wyn.. Rhennir Cei-ddi'r Bii gail-,canys dyna deitl y Gyfrol Goffa—i dair rhan,-Yr EisteddJod, Traiusfynydd, Y Rhyfel. Ceir yma amryw gyfansoddiadau lied feithion yn y mesurau rhydd, ac mae llawer o wreiddioldeb a nerth awen yn y cwbI. Mor annhebyg i'r' hen ddull, yn y ganrif o'r blaen, y dechreu ef ei gerdd Gwladgarwch Ai onid tydi sydd yn glaf o gariad At draddodiadau dy ffin ? Onid yw breuddwyd a hewyd dy henwlad Fyth yn ddigwmwl yng nglesni dy lygad A'i hawliau'n fflam ar dy fin ? Ti yw lladmerydd eu swyn a'u hunaniaeth Yn wyileb y llydan fyd Dy gleddyf a werchyd ei hannibyniaeth A thry dy freuddwydion oil yn arwriaeth Wrth ei hallorau o hyd. Gwelir trwy'r Gyfrol ei fod yn meddu can- fyddiad pur glir a dwfn i ystyr bywyd. Nid geir-arlunydd yn unig oedd ef, heb wneuthur mwy na disgrifio golygfeydd allanol, Ceir enghraifft ddiamheuol o hynny yn y gerdd Crist ar Binacl y Demi. Tceiddiodd i'r frwydr barhaus sy rhwijg Da a Drwg, ac wele un tarawiad deheig iawn Tybed a wylodd rhyw un yn y dref O'i weled Ef, Fab y Dyn, Yn ymliw a gelyn by-vvyd y Nef Ar binacl ei deml ei hun ? Eto Dos hwnt ath reswm materol amhur, Na themtia mo'r'Ysbryd byw Cans enaid di ddichell, a chalon bur Yn unig a ddeall Dduw. Fel y darllQnwn jiyfi Yw, Cyfrinach Duw, -F  il, Fy -Ngwynfa Goll, a Ceisio Gloywach Nen, teimlwn fod ynddynt enaid mawr yn ym- afael o ddifrif a gwirioneddau dyfnaf bod a bywyd dynol, ac yn ddigon beiddgar i adrodd ei' \veledigaethau o fyd ysbryd yn ei ffordd ei hun. Qnd y. mwyaf swynol o'r gwaith yw'r caniadau byrion. Ceir ef yma'n ei symledd naturiol, ysgafned; ag awel y bore ar fannau Trawsfynydd, a chyn loywed a'r ffrwd. Mae dawn y wir deiyneg v yn Givenfron a Mi, a rhaid ei chael i gyd i weld y prydferthwch a theimlo'i grym Cydgerdded wnai Gwenfron a minnau-un tro, f A chwerthin yr awel ym mrigau y fro ? 'R oedd lloer yn yr awyr, a lloer yn y llyn, Ac eos yn canu o laslwyn y glyn; A serch^ar ei oreu ar noson fel hyn. Ac yno yn suon yr awel a'r lli Gwnaed cymod annatod rhwng Gwenfron a mi. Flynyddoedd maith wedyn 'roedd coedydd y glyn Heb ddeilen-, nac awel, dan eira gwyn, gwyn; 'R oedd oriau ieuenctid ers talwm ar ffo. A mil o ofalon yn llanw y fro, A'r corwynt yn ubain o'r coed yn ei dro Ond chwerwed gaeafau, a rhued y Hi, Ni thorrir mo'r cymod rhwng Gwenfron a mi. Mae Gwenfron a minnau yn hen erbyn hyn A'r hwyr ar ein pennau fel eira gwyn, gwyn, Mae'n llygaid yn llwydo fel dydd yn pellhau A nerth ein gewynnau o hyd yn gwanhau; Ond, wele, mae cariad o hyd yn cryfhau. I'r tiroedd di-henaint sy draw tros y lli Rhyw symud yn dawel wna Gwenfron a mi. Mae'r ddwy linell olaf yn derfyniad peni- gamp, o ran symledd a swyn ac ergyd. Fel yr-eir ymlaen drwy'r caneuon a'r darnau amrywiol ereill, ceir ami gyffyrddiad a bair i ddyn deimlo fod ganddo galon, a bod y bardd yn ei tharo'n dr-wm. Anodd darllen ambell ddarn heb ollwng deigryn arno- wrth feddwl arnynt trwy'r Rhywle lie bu'r awdur talentog yn brwydro ac y cwympodd. Ond dyma enghraifft o'i ddawn englynol,. naturiol a gwir Gymreig Y FERCH Anynad. Anian y ferch anynad-yw beio Drwy'i bywyd yn wastad A myn hi, er ei mwynhad, Un ai sorri neu siarad. Tyner iawn yw ei gan Claddu Mam I Nawnddydd Sadwrn trwy Drawsfynydd. Cerddai'r Hydre'n drwm ei droed, Curai'r gwynt ffenestri'r moelydd, Wylai yn y coed.