Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Trem l-Y Bechgyn yn do'd yn…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trem l-Y Bechgyn yn do'd yn ol. AR gynnwrf yr Armagedon Fe dorrodd hyfrytav sain, Distawai'r magnelau duon, A chiliodd y cledd i'r wain Tan ergyd yr HoHaUuog y Fe gwympodd y gelyn yn ol, A chlywir y gari galonnog,— Mae'r Bechgyn yn d'od yn ol." Fe wysiwyd holl wynt y nefoedd Gan Ryfel am amser hir— I gludo griddfannau ingoedd Ein meibion ar for a thir Ond Rhyddid sy'n awr yn gyrru Hyfrydlais o bol i bol, A Heddwch trwy'r byd yn canu,— Mae'r Bechgyn yn d'od yn ol." Bu Pryder mewn llawer cartre', A'i wyneb yn wyn gan fraw 'R oedd Rhywun i ffwrdd yn Rhywle, A'i angau o hyd gerllaw Ond tannau y galon ofnus, Gan dristwch fu mor ddi rol, Rydd eto beroriaeth felys,— Mae'r Bechgyn yn d'od yn ol." Mae llygaid y fam yn pefru, Mae wyneb y tad yn wen, Mae'r wraig wrth ei gwaith yn canu,— Yn canu wrth amser y tren Datseinir y newydd hyfryd Yn llawen dros fryn a dol Anghofir blynyddoedd adfyd,— Mae'r Bechgyn yn d'od yn ol." O.Fechgyn yr Armagedon Hwy wyddant am lawer cur Daliasant wynebau dewrion I stormydd o dan a dur Rhown foliant i'r Hollalluog, Fu'n erbyn y gelyn ffol Yn arwain y "llubanerog, I'r Bechgyn gael d'od yn ol

Advertising

Advertising

Advertising

I Trem II—Rhol Hiraeth.

Trem I JI-LlawenYddj BuMugaliaeth

I Trem IV-At ein Brodyr,

Advertising