Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ASK FOR "SIRDAR" SAUCE Delicious and Appetising.
Advertising
GUARANTEED PURE. (  )?t.h  SUGAR SUBSTITUTE, Many times sweeter than SULara To be used for Sweetening CUS- TARDS, BLANC MANOFS, CREAMS PUDDINGS, SCOPES, OMELETTES, SOUFFLES, PASTRY, TEA, COFFEE, OCOA r; MORRIS & JONES, Limitest, Lhforpoolm Manohaator, mitd EartcastlB-on-Tynem
Advertising
 O s BEATY B? THE TTATT CELESSTHD TAILORS I DEMOBILIZATION CONCESSION To all who have served in HIS MAJESTY'S FORCES I f4 THE Discount on all purchases of Clothing (If made within a period of 4 months from date of discharge). Order your Suit & Overcoat while on leave BEATY BROS., Ltd., 37 to 43 LONDON RD., & 28 & 30 CHURCH ST LIVERPOOL. Phone 3925 Bank. Phone 580 Bootle WM. GRif f ITHS & SONS MAKERS OF SMART CLOTHES 29 South John St., Liverpool, AND 349 Stanley Road, Bootle, Military Uniforms. Lounge Suite. Naval Uniforms. Overcoats. Costumes. Ladies' Coats ■» A yw'ch I Llygaid yii eich bHno ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac analwig ? Dyna arwydd a rhybudd Hethdod y llygad, a dyiech ga el eu hedrych rhag blaan eu gwaathygu wna'u hoagaulso- Gallwn ni, uden hofler gwyddonol, ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflonwi A'r rkai a barai fwyaf o les i ckwi. Galwch heddyw— Archer a Sons EfWslaht SpKiklisU, 73 LORD STRKSYi Oaf ydlwyd 1848. LIVERPOOL HARTLEY & CO.. Liverpool 12 MOSS STREET. B SALES BY AUOTION EVERY FFTFESDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGlifC AT SEVEN VALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NSW AND LARGE VARIETY O. BEDSTEADS BEDDING, Ac. EVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING ATTEND THESE SA?BS AND SAVE AT LEAST BO|PSR OENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF ,? FLOKERIOR IS ALWAYS KEPT IN BTOCFK AND ANYTHING MAY BE PURCHASED ey PIVATE TREATY. GOODS STORED. BY On view 8.30 a.m.to 0,30 p.m.; Saturday 1 p.m. Stele phone 1798 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL) OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR SHB8H SALES. BESr RESULT GAURANTEED. i..i ||" LADIES BLANCH4RD PILLS IrroqalarSllek. Seti, tsie? sptetll? affMd tatlai sai dim tell to allaTlata all and Miay iaparsads yioayroyal, Pll OaefeSa, Bfttat Apple. &c OlAMCJtAlfD'S art the best of all Pili for w.u, are 110M In >av«a. 1414 47 BAOSFL* Srajwhaa. TAYLOR'S smsest, n!i Sfcesdste er psti Sites, st-ma yEitw, from L ULM SSASTYNi Us, Ck»Mm&4 OatatM Liat* Letboa LIVERPOOL* The SHAFTESBURY, MOUNT PLEASANT, 4»aitt i Mint., Mali Mm tl. 4 Ofaval Stcd M> A feapMaaw Hotel Moderate th fhatfewSHity Jlokl, Vpeel." Phoss I ASK FOR IDRIS Table Waters In Sypfeoai and Bottles. «ODA WATER, pOTÀaÐ WATER, SELTZER WATER LEMONADE, DRY 49INGtR ALB, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL D. GRIFFITHS 0 SON 221 Rrec& RA». atnd 9 Mog* 8i> L'pcel. Pianos & Orgfans by all the leading makerr. From 8!* per month. ?m?wM?t -<t6x AAFLCM MM KOYA? Rtiestr Testynau Eisteddtod Gaoedlaethol Corweo, 1919. -1 YN AWR YN BAROD. I Pris)6ch, trwy y post 8g. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r I- Brython,' 358 Stanley Road, Liverpool. EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 KirKdale Rd., Liverpool Telephone 1 2193 Royal.
Trem I-Dvgwyl Ddewi San I
Trem I-Dvgwyl Ddewi San I WELE ni, unwaith eto, yn ceisio sgrifennu tan gyfaredd hyfryd Dygwyl Ddewi Sant, Anfoesgar fai i Gymro fynd heibio'r Wyl heb wneuthur bow i Nawddsant ei genedl. er mai ychydig mewn cymhariaeth a wel fawr fwy ynddo na'i enw, a'i fod yn sefyll dros wladgarwch Cymreig, ond bydd i filoedd ar filoedd deimlo fel petai rhyw ysbryd cyfrin yn llenwi'r Wyl, ac yn casglu eu calonnau ynghyd ar yr un aelwyd genedl- aethol, a wresogir gan y Tan Cymreig:- tan, wrth lwc, nad all y Llywodraeth ei osod tan gyfyngiadau ei "rations." Bu'r Sais am oesoedd yn ceisio atal cynnud i'r tan hwn, ac yn troi dyfroedd ei wawd arno i geisio'i ddiffodd. Waeth yn y byd, dal i gynriu a wnaeth hyd yn hyn, a llosgi ymaith y deddfau traws a fwriwyd arno. Mae'r iaith eto'n fyw, a'r teimlad cenedlaetho] mor angerddol ag erioed. Ac mae ym- weliad blynyddol Dewi'n procio'r Tftn, ac yn pentyrru cynnud arno. Ac nid yng Nghymru'n unig y bydd yr Wyl yn cael ei chynnal, eithr gan Gymry yng ngwledydd estron, hyd i eithafoedd y ddaear. Yn wir, credwn mai'r rhai pellaf o'n Hen Wlad fydd y brwdfrydicaf ar yr Wyl. A naturiol hynny, canys 'Tis distance lends enchantment to the view. Buom ein hun dros ychydig fisoedd yng ngwiad y Gorllev/in, ac oddi yno y cawsom yr olwg anwvlaf ar yr Hen Wlao, a chyd â hi y cysgem ac y breuddwydiem bob nos. Ac er cymaint a ganmolai rhai Cymry a sefydlasai yno ar eu gwlad fabwyfiedig, hawdd oedd deall eu bod hwythau'n mynych edrych drach eu cefn dros y clawdd dwr llydan tua'u hen gynofin, a chroesawent ymwelwr a hwynt fel petai wedi dod a'r Hen Wlad yn faich ar ei gqfn yno. Ond, i ddychwelyd, mae'r holl fyd heddyw'n dra gwahanol i'r hyn ydoedd flwyddvn vn oJ. Ni welodd Dewi ei wlad a'i gen cU trlood fel ymaent yn awr.
Trem IV-Y Sant a Ghymru Unol
Trem IV-Y Sant a Ghymru Unol Ai tybed fod ein Nawddsant yn teimlo ei. ddordeb mewn pethau politicaidd ? A fu i'r Etholiad Cyffredinol diweddar yng Nghymru ei foddhau ? Dychmyger fod gan Ddewi'r galluoedd a feddai'r duw Iau, a warchodai Rufain gynt; a fuasai iddo gyffroi uwchben, goleuo'r wybren a. mellt, a pheri i'r Ryri grynu tan ei daranau Ar ben pwy y toraeai ei dymostl-pasiffistiaid ynteu rhyfelwyr, Cymhleidwyr ynte Gwrth-Gymhleidwyr, Mr. Lloyd George ynteu—wel, gwell peidio g enwi'r Ileill ? Ond efallai mai tebycach yw Dewi i Apollo fab Iau nag i'r tad, a bod ei ddiddordeb pennaf ef mewn celfau cain, Hen a chan, llafur a phroflwydo. Ond, gan gofio, 'r oedd ApoUo'n cymryd diddor- deb mewn dinasoedd hefyd. Beth bynnag. teimlwn yn bur sicr o un peth,—fod Dewi Sant yn dyheu am weld ei hen genedl yn fwy o un yn ei delfrydau uchaf, mewn cariad brawdol, ac mewn cydweithrediad ewyllysgar i dynnu cerbyd Cenedlaetholdeb i fyny'n gUr i fannau heulog, iachus, Cymru Fydd. Credwn fod ei galon fawr yn ymchwydd gan hiraeth am weld Cymru Unol tan yr haul Rhaid mai gofid iddo yw gweld cymaint o ragfarnau'n dallu pleidiau a sectau ae enwadau i ddaioni ei gilydd, a'u bod yn syllu trwy. chwyddwydr ar. ffa^leddau'r naill y llaIl. Onid yw'n ami yn plygu pen yn brudd, ac yn sychu'r deigr o'i lygaid mawr, wrth weld cynifer o'i blant yng Nghymru'n hunangeisiol, yn erlid ei gilydd, 1 ac^yn cynllwyn yn erbyn llwydd a dylan- wad da cymrodyr ? Onid oes ing yn ei
Advertising
I I DONEGAL TWEED CO. .b ovE&podiJs -RS ^OR^MOST t1ati nn Q   is the 'principle .on Iwhlch we U??-U-S??mMSTAV m? I I ■ SX ??? "?' ?P ?"« conducted II ?? ? our business. (Smart ana perfectly Tailored Garments (:1 I: ¡ Made to Measure, and to Fit. JUDGE FOR YOURSELF how well hat.ldeaI5has F' vJUv DwGiE i- a FOviR i YOURSELF £ beoew n maintained, by J placing your order with us for that NEW SUIT.  ef?r? 21 LORD ST? LIVERPOOL Manager JOHN JONES. Also 95.10? 165 Grange M., B hc?d Cymro am byth. at 226 High iISf treett, Ban go?, 23 Hope Street, Wrexham, We specialize in Ladies' Tailor-Made 46 Lime Street, Liverpool. Costumes to order. and throwghont the Kingdom
Train ll-Y Sant a Heddwch.
Train ll-Y Sant a Heddwch. PAN ddaeth ei Wyl y tro hwn, dychmygem glywed llais y Sant yn disgyn o'r uchelder. au, megis taran fawr, acyn gofyn yr hen ofyniad cynefin-cyn y Rhyfel-yng Ngor- sedd Beirdd Ynys Prydain,—" A OES HEDD- WCJI,?" IEIE:IDDWC]a, y Sant mwyn Gall y dygir ni tan ddiegyblaeth yng Ngorsedd y Beirdd am feiddio na gofyn nac ateb yn ei thermau arbennig hi. O'r holl orseddau ar wyneb daear, dyma'r un ryfeddaf ei safle ynglyn a'r Rhyfel. Cyn hynny -Ipferai ofyn ei chwestiwn, a chai ateb pwrpasol. Pan ddaeth rhyfel i fygwth bywyd hyd yn oed y Gorseddogion, penderfynwyd cloi y Cleddyf yn ei wain, a pheidio a gofyn y ewestiwn arferol. Un o'r pethau digrifaf a welsom yng Ngorsedd oedd cyfaill Gor- seddog yn difrifol egluro paham y cedwid y Cleddau yn y wain; ac ym ol y wep a wnai'r Archdderwydd nid hawdd oedd deall prun ai difrif ai digrif oedd y peth yn ei olwg ef-braidd na chredwn mai'r olaf. Rhaid i hen lanciau wrth y mwynhad o weld chwarae plant yn rhywle Petasai bomb y gelyn wedi disgyn ar y Maen L16g, a chwalu'r Orsedd yn ysgyrion, beth fuasai barn y Gorseddogion am gyflwr y rhan honno o'r greadigaeth ? 0 ran dim a wyr y Cledd, druan ni chynhaliwyd Eisteddfod Genedl- aethol er y flwyddyn 1913, ac yn ol yr ystyr yr arferid ei osod i'r hen ofyniad am Heddwch, ni fu angen amdano o gwbl. Wedi i'r Rhyfel fynd heibio, efallai y deffroir y 1 Cledd, o'i drymgwsg hir, ac y gofynnir, unwaith eto, A oes. Heddwch ?" Gobaith- iwn na fydd y torfeydd wedi anghofio'r modd i ateb Beth bynnag am hynny, mae pawb ohonom, yn feirdd a phobl, yn llawenhau am fod Buddugoliaeth a Heddwch—o leiaf ragolygon go ddisglair amdano-yn croes- awu'r Sant i'wWyl eleni. Onid yw ei galon fawr yn chwyddo o edmygedd at yr arwr- iaeth a gyflawnwyd gan feibion a merched ei genedl o blaid Rhyddid y byd ? Oi id yw ei wyneb yn disgleirio wrth edrych ymlaen am ffrwyth yr ebyrth drud, mewn amser gwell i ddyfod ar Gymru a'r byd ? Mae iddo'r cysur na wnaeth yr un genedl, yn ol ei maint, fwy na chenedl y Cymry i ddym- chwel castell Militariaeth yr Almaen ar ben y cyn-Gaiser bostfawr.
Tram IU-Y Sant a Diwyiliant.
Tram IU-Y Sant a Diwyiliant. TAEN y Nawddsant ei adain yn ofalus dros Ddiwylliant ei genedl. A pha beth a feddwl ohoni erbyn hyn ? Onid yw ei wyneb yn wan o foddhad ? Wrth gymryd golwg gyffredinol ar y mater, a chymharu'r hyn yw Cymru a'r hyn a fu, mae iddo ddeunydd gwen bur heulog, dybygem ni. Er nad yw'r ysgolion a'r colegau Cymreig yn hollol wrth fodd y Cymry mwyaf gwlatgar, mae manteision addysg heddyw'n fawr iawn, ac mae'r ffrwyth yn profi hynny. Gobeith- iwn na sefydlir unrhyw reolaeth estronol dros golegau y Brif Ysgol, a thrwy hynny fygu'r ysbryd Cymreig allan ohoni, ac atal datblygiad llawn cenedlaetholdeb y Cymry. Naturiol i estroniaid deimlo awydd i osgoi'r drafferth ynglyn ag iaith a llenyddiaeth Gymreig, a'n gobaith yw'r athrawon sydd wedi eu dwyn i fyny'n Gymry, yn meddu cariad at eu hiaith a'u gwlad, ac yn credu yn hawl eu cenedl i dyfu allan yn dego'r'gnian. awd a'r neilltuolion arbennig a roddes yo Creawdwr yn, gynysgaeth iddi hi. Rhaid- i reolwyr addysg Cymru, ymhob gradd, fod yn Gymroaidd eu cydymdeimlad, neu ni feithrinir ysbryd cenedlaetholdeb yn y cenedlaethau sydd i ddyfod. Ond mae gennym bellach liaws o ysgolheigion diwyll- iedig, ac wedi eu trwytho mewn cenedl. garwch. Braidd yn hyf ydoedd yr archeb Make no more giants, Lord, But elevate the race." Gan nad beth am ran gyntaf y deisyfiad, I fe gaed helaethrwydd o'r rhan olaf yng Nghymru'n ddiweddar. Mae gennym do o lenorion campus. Gwir fod peth rhodres yn arddull rhai ohonynt, yn gosod yr argrafl. amom ou bod yn rhy ymwybodol o newydd- deb a gorchest o ran ou ffurf lenyddol, Ond bydd i amser wella'r bai hwn. Bydd i ymarferiad, profiad, ae aeddfedrwydd goethi a chrisialu arddull ein llenorion, ysgrifennant orchest heb yn, wybod iddynt eu hunain, a chaiff y meddwl Cymreig ei briod wisg. Ac mae gennym yn aros hanesyddion o'r iawn ryw. Bu inni rai awduron yn troi hanea yn chwedl, ac ereill yn troi chwedl yn hanes, y naili yn benthyca oddiar y llall, a neb ohonynt wedi cael at ffynonellau dilys ffeithiau. Mae gennym heddyw hanesydd- ion o awdurdod uwch—yn meddu greddf yr hanesydd, ei ddiwylliant, a chyfleusterau na feddai awduron blaenorol i chwilio a phrofi dofnyddiau hanes. Un o fanteisio. dirfawr colegau'r Brif Ysgol yw'r llyfrgell. oedd a'r amgueddfeydd sydd ynglyn a hwynt, ac ynddynt ddynion cymwys i'w II deall a'u defnyddio i bwrpas hanesyddol. Wrth sôn am Brif Ysgol, nid ydym yn anghofio'r gwasanaeth amhriEiadwy a wnaed i Gymru gan y diweddar Syr John Rhys, Syr O. M. Edwards, ac ereill o Gymry Rhydychen." Mae Cymru 'n ddyledus iddynt hwy, nid yn unig am eu gwasanaeth llenyddol, eithr hefyd am anadlu ysbrydiaeth Cymreig iach a chryf i'n cenedlaetholdeb yn gyffred- inol. Gofod a ballai i sylwi ar gelfyddyd a gwyddor, athroniaeth a diwinyddiaeth Cymru. Sonia rhai'n lied ddiystyrllyd am athronwyr a diwinyddion Cymreig. Ni feddwn gymhwyster i drafod y mater, ond hyd y gallwn weld mae'r achwyn yn rhy ysgubol o lawer, ac yn bradychu llawn mwy o anwybodaeth y beimiaid on cenedl nag o ddiffyg yn y genedl ei hun. Mae cylchred- iad llyfrau Cymreig yn gyfyng ar y goreu, ac nid ydym eto wedi ehangu digon ar ein culni sectol i ymgydnabod fawr a llenydd- iaeth enwadau Cymreig ereill. Beth bynnag, wrth syllu ohono dros Ddiwylliant y genedl a werchyd 'o'i oleugylch nefol, tybiwn weld gwen ddisglair yn tyfu i wyneb eiia Sant.