Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ASK FOR "SIRDAR" SAUCE u Delicious  an d Appetising.
Advertising
BEATY LTD,I CELESITED TAILORS DEMOBILIZATION CONCESSION To all who have served in HIS MAJESTY'S FORCES 2/6 IN THE Discount on all purchases of Clothing (It" made within a period of 4 months from date of discharge). Order your Suit & Overcoat while on leave BEATY BROS., Ltd., 37 to 43 LONDON RD., & 28 & 30 CHURCH ST., lIVERPOOL. Phone 3925 Bank. Phone 580 Bootle Wm,, GRif f ITHS & SONS MAKERS OF SMART CLOTHES 29 South John St., Liverpool, AND 849 Stanley Road, Bootle, Military Uniforms. Lounge Suits. Naval Uniforms. Overcoats. Costumes. Ladies' Coats 1- I I A Y W CH Llygaid yn etch blino ? Yw pothaifn troi'n niwlog ac auelwig ? Dyna arwydd a rhybudd Uethdod y llygad, » dylech ga el eu hodryeh rhag blaon eu gwasthygu wna'u.heogeulso. Gallwn ni, gyda'a hoffer gwyddonol, ddweyd wrthych 08 oes arnoch angen gwydrau; ao 01 i felly, eich cyflenwi 4'r rhai a barai fwyaf o lea i chwi. Galwch heddyw— Archer A SONS EnaUht Specialists, 73 LO". STAEITi I Sefydlwyd 1848. LIVERPOOL I HARTLEY & GO., Liverpool 12 MOSS STREET. CSALES BY AUCTION EVERY TUESDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHT AT SEVEN VALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANOFORTES, LARGE VARIETY OF BEDSTEADS BEDDING, Itc. EVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING ATTEND THESE SALES AND SATE AT LEAST ,"PBt CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF 3%PBu,OR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN STOCK, AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY. GOODS STORED. On yiow 8.30 a.m.to 0.30 p.m.; Saturday 1 p.m. "Stelephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL) OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR THZSB SALES. BEBT REiBULT GAURANTEED ST i& V? 18' ?S? <SSL — LADIES BLANCH4RD PillS (f soiWuUsa lot ait Irro4ular>«i«. &»i, tiloy;iplee fly -alor4 roilal an-1 sstw all raiwstat- and ttor Pi! (13sbts, mitist 4pple. &0 BlAVCBAeD S art the best of all Pill for W- e U' are MM ?ra feaxn, :BOO". 3 *a*hs2. TATLOR'S BtaaahM, as* a'$, a mm from L'i!Sl.Œ K4RIYN, U., Oa'atea UM- Lodo. '4 LIVERPOOL the SHAFIESBURY9" MOUNT PLEASANT, It mm. Yt « Mm M S Qtnsral goal M A tflwt-iUss I's"¡-¡¡¡;H katoi Sod«?at« ah fslhr lhatftesteaty Hoist I,"pool." PtMi ASK FOR IDRIS Table Waters la Sypkoas ui JIottlel. 80D.A WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER LEMONADE. DRY ClINGER ALB, E., etc. lOWS & Co., Ltd., lorfliumbdriand St., LIVERPOOL D. GRIFFITHS ê SON 221 Brack Rd.. and ? Moss St. L'poet. Pianos &1 Organs by all the leading materF, From 81-per month. Igiiraptoirps-4§6x Aafleld ft 3772 RSYALl PIaes lIalul UQtøb Yspllofl IOC. LLAWLYFR CYFLAWN AR LYFR YR ACTAU GAN Y Parch. O. ». OWEN, M.A. (ROOK FERRY). Prifilmewn amlen gref, 9c. Telerau neill- tuol i Ysgolion a gymer ddwain ae uehod Cyhoeddedig gan HUGH EVANS & SONS, 368 Stanley Road, Liverpool. ROBERTS a EDWARDSi ESTATE AGENTS, 64 KirRdale Rd., Liverpool Tolophone 1 2193 Roral.
Ifrem ll-Llafur Meddyliwr
frem ll-Llafur Meddyliwr UN syniad bamol o anghywir ac angharedig am y weinidogaeth yw eiddo'r dosbarth mwyaf arwynebol o'i beimiaid-y rhai a ddywed nad yw'n llafur. Pan eymudai eglwysi bychain yng Nghymru, flynyddoedd yn ol, i godi cyflog y gweinidog o 15/- yr wythnos i 17/ ffromodd uij gwr gan ddy- wedyd, "'Rydw i'n meddwl fod 15/- yn dd;gon iddo fo 18/— yr wythnos ydw i'n gael, a finna'n gweithio'n galed bob dydd Mynegodd y dyn hwnnw syniad sy'n rhy gyffredinol. Pa sawl gwaith y clybuwyd rhai yn dywedyd fod y gweinidog yn braf ei fyd," yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn y ty," "yn mynd o gwmpas yn ei got ddu a'i gadach gwyn," yn pregethu dipyn y Sul, a dyna'r cwbwl drosodd am weddill yr wythnos," yn cael y tamaid goreu ymhob man," etc ? Wrth gwre, sylwadau plentyn- aidd o arwynebol ac annheg yw'r rhain; ond y gresyn yw fod eynifer o blantos mewn oed yn eu hadrodd. Yn sicr, nid oes neb a wyr ddim am y peth a ddywed nad yw meddwl yn llafur. Yn y pulpud, neu allaa ohono, mae'r toeddyliwr yn weithiwr, ya treulio'i nerth, a gwasanaethu cymdeithas. Mawr yw rhwysg a thwrf y byd peiriannol a chelfyddydol ond tu cefn i'r cyfan, JTI. rhy wle o'r golwg, yn syn gan fyfyr angherddol, mae rhywun sy wedi meddwl yn gyntaf oll. Llongau ar f6r, cerbydau ar dir, pellebron a phellseinyddion, a phob ffurf ar gelfyddyd, —daethant allan o feddwl rhvwun neu ryw- rai. Nerthol iawn yw'r darlun sy gan Carlyle o rwysg a thwrf arddangosiadau allanol, gorymdeithiau brenhinol a milwrol, ac y cyfyd y lien yn y diwedd oddiar rhy wu* a ymguddiai mewn unigedd-i feddwl y byd i gynnydd. Ac i'r graddau y mae pre- gethwr yn feddyliwr, y mae'n llafurwr caled. Os ydym yn ceisio'n goreu i bartoi ar gyfer y pulpud-petaj'r gwaith yn ddim ond hynny —yr ydym mor wir a'r gwl' y soniasom am- dano, yn gwaithion galed bob dydd." Ac nid wrth y dydd chwaith. Gwyddona fod rhai pregethwyr a fedd ewyllys gref yn gallu gweithio wrth drefn o ran efrydiau ar bynciau neilltuol. Nid bob amser, er hynny; ac mae'r meddwl byw yn mynnu bod ar waith o hyd. Ei seibiant mwyaf ef yw newid gwaith. Y peth anhawddaf o ddim i'w gyfyngu i amserau a phrydiau yw myfyriwr a gar ei waith ;) a gall ateb ym rhwydd y gofyniad,— Whence is Thy learning ? Hath thy toil O'er books consumed the midnight oil ? Ni fynnai'r un myfyriwr teilwng o'r enw gyfyngu ei oriau. Ei hanes yw,-Ilosgi drwy bob rheolau a chyfyngiadau, ac nid yn anfynych losgi ei fywyd allan yn gyn- amserol. Ac mae pregethwr wedi ei alw i waith sydd yn gofyn hyn ganddo, ac yn meithrin ynddo chwaeth ac awydd aliniwall am wybod a meddwl cyhyd ag y deil ei egni i hynny. A gwaith hawdd i'w rwystro- yw eiddo'r gweinidog, fel pregethwr ae arweinydd. 0 char ei waith a'i bobl, hawdd yw ei glwyfo ef yn anad neb. Gall ereill gael rhyw fwynhad mewn trin ei gilydd, ond bydd i ddyn fel hwn ddioddef. Pregethwr mwyaf yr Eglwys Apostolaidd a ddywedodd, "Pwy sydd wan nad wyf finnau wan T pwy a dramgwyddir nad wyf finnau'n llosgi?" I'r gweinidog a gar ei waith a'i bobl, meddwn eto, llosgfeydd gofid i'w enaid yw tram- gwyddiadau ymysg y rhai y ceisia eu har- wain a'u diogelu i'r Meistr. Ac mae'r rhwystrau a gyfyd o ddiffyg cynhaliaeth iddo'i hun a'i deulu yn rhwym o ddywedyd ar ei allu i feddwl. Gwaedgi yw Pryder, a'i ddannedd miniog yn llarpio'r galon. A gall hyn i gyd ddigwydd heb i fawr y tu allan i'w aelwyd ei hun wybod dim amdano, a llawer ohono nas gwyr neb ond ei hunan a'i Dduw.
Trem lll-Os Codi, cynnal.
Trem lll-Os Codi, cynnal. DYLID cofio fod y cenedlaethau diweddar o weinidogion yn mynd i'w galwedigaeth yn wahanol i fel yr âi'r mwyafrif mawr gynt. Er enghraifft: bu'n heglwys ni'n ddigon ,n syth o'r ystor d .,r caredig i'n derbyn yn syth o'r ystordy (warehouse) i lawr y dref, heb gael ohonom ein cymhwyso gan addysg coleg. Ni chost-
Advertising
DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S T A 11 ?? C FOREMOST TAILORS9 c; J, is the pinciPle on which we Quality__ mtST have built up and conducted  C J ■ our business. Smart ana perfectly Tailored Garments Made to; Measuro and to Fit. JUDGE FOR YOURSELFhow well that Ideal has been maintained, by placing your order with us for that NEW SUIT. of Addreanns:. 21 LORD ST., LIVERPOOL mr uu" w <u»" ur • <u> •' iU' Manager JOHN JONES. Also M .Bhe?d Cymro am byth. at ||« High Street, Bangor, 23 Hope Street, Wrexham, We specialize In Ladiea* TaHor-Mad* 46 Lime Street, Liverpool. Costumes to order. and throughout The Kingdom
Advertising
P4 J GUARANTEED PURE FOOD Ask for" KEENORA" SELF-RAISING FLOUR. CUSTARD POWDER. BAKING POWDER. BLANC-MANGE, etc., etc. Manufacturers- MORRIS & JONES, Limited, Liverpool, Manchester,, and Newcastle-on- Tyne.
Trem l-fiyflogau fiweinidogion
Trem l-fiyflogau fiweini- dogion SYLWODD cyfaill wrthym dro'n ol nad oedd- ym, hyd y gwyddai ef, wedi trafod y mater eiriasboeth o gyflog gweinidogion yn ein DrycIL; ae, yn wir, gadawodd ni mewn amheuaeth prun ai er clod neu anghlod inni y cyfrifai hynny. Mae'n wir, beth bynnag, na feiddiasom drafod y pwnc hwn-dirn ond ei grybwyll wrth sylwi ar fater arall yn ynglyn a'r weinidogaeth Ymneilltuol yng Nghymm. Gwyr pob sylwgar fod y cwes- tiwn yn cerdded yn fynych drwy'r newydd- iaduron, Cymraeg a Saesneg, ac mewn iaith gref. Mwy na hynny, mae'r ffeithiau'n gyffredin cyn gryfed a'r iaith. Prin y gall. wn gredu fod gweinidog o gwbl a ymhyfrydai mewn trafod pwnc o'r fath yma'n gyhoeddus. Gwneuthur hynny yw un o'r ffyrdd mwyaf eff eithiol i godi ysbrydion," a'r rheiny'n anodd iawn eu darostwng. Yr ysbryd a lam ailan gyntaf, fel rheol, yw'r cyhuddiad o fod yn ariangar. Clywdom y cyfryw gy- huddiad—gwelsom y cyfryw ysbryd !—o bryd i bryd. A rhaid inni gydnabod ei ofni ar adegau. Buom ar rai achlysuron yn golledus ar daith. Pell ydym o awgrymu y cawsem fod pe gwybuasai ein gwahodded- igion y sefyllfa; ond dychwelsom heb eu hysbysu ar bob amgylchiad, a hynny am y rhe-.wm syml fod arnom ofn bwgan Ond eithriadau prin fu'r cyfryw, yn codi o ddiffyg gwybod yn hytrach na diffyg ewyllys. Mewn oes go faith, gellir disgwyl ami anffod. Er hynny, gwyddom am rai brodyr dewrach na ni, ac nad ofnasant egluro'u eefyllfa ond clywsom hefyd, weithiau, y sen gas iddynt,— eu bod yn pregethu am arian," gwneuth- ur masnach o air Duw," ac "nad oeddynt yn malio dim am eneidiau dynion—dim ond eu harian." Wel, diau fod cybyddion yn y weinidogaeth fel ymhob cylch. Ond nid hawdd yw dal cybydd-dod. Mae cy- byddion ereill mewn eglwysi, ond pwy a welpdd ddiarddel na, diBgyblu un am gybydd- dod ? Pwy a fedrai ddwyn y cyhuddiad ymlaen a'i brofi ? Mae dau eithaf beius— cybydd-dod a gwastrafi neu ddiofalwch. Yn y canol, rhwng y ddau, mae rhinwedd cynhildeb. Da i rai ohonom fod rhywrai'n cynhilo a rhagddarbod. Gwyddom am rai gweinidogion a gant y gair o fod "am y geiniog," a bod y fath sen yn athrod amynt. ClyWaom yn ddiweddar am lID o'r cyfryw, a'i fod yn yr arfer o gymorth yn anghyhoedd frodyr mewn vyfyngderau, ac a. llaw hael. Ac nid amhosibl, hyd yn oed i bregethwr," ddal peth ar reol ac ysbryd ei Feistr drwy gyflawni ambell weithred yn y dirgel, heb chwythu mewn utgom t Beth bynnag, gyda, golwg arnom ni, gallwn sicrhau'r dar- Uenydd nad oes gennym gwyn personol o gwbl. Buasem yn rhy falch i ddefnyddio'r golofn hon o'r BRYTHON i geisio budd personol o'r weinidogaeth yn y ffurf o gyflog. Eglwys fach sydd gennym ni, ac wedi dangos goddef- garweh mawr yn wyneb ffaeleddau mawrjon. Gwelodd fod amserau diweddar wedi eodi'r dreth yn uchel ar fywyd personol a theulu- aidd, a chododd hithau ei chymorth i bwynt uchaf ei gallu. Rhyngdeti hi a chyfeillion caredig tit allan, daliasom gyfres o dym- hestloedd nad ydynt yn ami yn dyfod i ran dyn mewn cyn lleied o amser. Go. beithiwn yr esgusodir y cyfeiriad personol hvrn, canys teimlwn ei fod yn gyfiawn i'r eghrys yr ydym ynddi, ac ni fynnem i'n cyfeillion dybio'n bod yn anniolchgar. Fe welir, gan hynny, ein bod ein huh yn fodlon ar ein byd, nad er budd personol yr ysgrif- ennwn, a'n bod yn rhydd i grybwyll y fath fater llosgawl a chyflog gweinidogion." Ond amhosibl mewn cyn lleied- o ofod, fydd gwneuthur fawr fwy na chyffwrdd y pwnc. Ac yn y nodiadau a wneir, ni fydd inni ddwyn ymlaen dystiolaethau i brofi fod yn y weinid- ogaeth heddyw ddynion da, teilwng o'u bwydd, tan gyflog sy'n rhwym o fod yn peri gwasgfa arnynt hwy a'u teuluoedd. Mae cymaint o ffeithiau wedi eu dadlennu erbyn hyn, a hynny gan leygwyr yn y gwahanol enwadau, fel nad oes angen ychwan- eg o dystiolaeth i'r neb a feddo ewyllys i wirionedd a thegweh. Gan leygwr parchus, mewn cwrdd cyhoedd, y clywsom y con- demniad cryfaf ar sefyllfa bresennol pethau ar y mater hwn. Mae'r ffeithiau mor eglur, y dystiolaeth mor gref, a'r sefyllfa mor ddif- rifol fel y mae'r holl enwadau wedi symud at ddiwygiad. Yr hyn y mae angen am- dano yw, argyhoeddi dosbarth lluosog o grefyddwyr o'u rhwymedigaeth i fod yn gyfiawn a theg at y rhai sy'n eu gwasan- aethu'n yr Efengyl. Credwn fod y difiyg o hynny'n codi, i raddau helaeth, o ddiffyg syniad cywir am waith gweinidog, a gwerth- fawrogiad o'r weinidogaeth ei hun, yn gystal a th^imlad o rwymedigaeth ac anrhydedd mewn cytundeb rhwng gweinidog ac eglwys. Gogoniant yr eglwysi Ymneilltuol a fu'r egwyddor wirfoddol yngnghynnal y weinidog- aeth, ac mor wir ft hynny, dyma'u perygl hefyd. Perygla weinidog i weniaith, ac aelodau i ormes. Pan dramgwyddo gweinid- og rai aelodau, tybiant, gan mai gwirfodd yw eu cyfraniadau, mai iawn i'w rhoddion godi a gostwng ar donnau nwyd yn hytrach nag egwyddor. Flynyddoedd yn ol, mewn eglwys yng Nghymru, gwelsom ddyn yn codi ar ei draed mewn seiat nos Sul, ac yn dwrdio'r swyddogion am- rywbeth a wnaethid, gan ddywedyd, Gellwch chwi gymryd eich ffordd eich hunain, mi wnaf finnau fel y mynnaf fi ac mae gen i fotiom, hwylus iawn, ar fy mhoced A'r ffaith yw fod y botwm hwn ar boced pob aelod yn yr eglwysi Ymneilltuol, fel rheol, a bod ami un yn tybio mai iawn iddo drin y botwm yn union yn ol ei nwyd a'i fympwy. Mae hanes clodfawr i eglwysi Ymneilltuol Cym- reig, ond mae eithriadau gwahanol. Onid yw'n ffaith ynglyn a rhai eglwysi fod y gweinidogion a alwyd iddynt, o bryd i bryd, wedi eu gosod mewn pulpud fel pe ar ffroen magnel—i gael eu saethu ymaith gan nwyd a mympwy rhywrai ?