Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

I Trem I—Mrs. Robt. Davies…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Trem I—Mrs. Robt. Davies DAT.IASOM ar ein cyfle, o bryd i bryd, i droi'r Drych ar amryw gymeriadau fu'n addurn a bendith amlwg i fywyd goreu Lerpwl a'r cylch, yn enwedig ymhlith y Cymry. Ac un o oreuon y cyfryw oedd y ddiweddar Mrs. Robert Davies, Eversley Street; ac ni allwn ymatal heb dalu teyrnged o barch diffuant i'w choffadwriaeth. Nid am- canwn sgrifennu hanes ei bywyd, a diau y gwneir hynny gan rhywun cymhwysach na ni. Yr oedd, yn ddiamheuol, yn un o'r cymeriaclau prydierthaf a hawddgaraf a rodiodd heolydd Lerpwl erioed. Ei had. nabod oedd ei charu, a pho fwyaf yr adna- byddiaeth, mwyaf yr edmygedd ohoni. Ni fu neb mwy diymhongar na hi, ac yr oedd ei symledd naturiol yn peri swyn i'w geiriau a lledneisrwydd i'w hymddygiad. Breintiwyd hi a chynhysgaeth naturiol dda. Cafodd ddeall bywiog," pwyll di- fltwdan, barn glir, tymer hynaws, ac ewyllys gref i'r hyn oedd iawn. Meddai reddf y ddoethneb sy'n ogoniant merch. Ymddeng- ys rhai pobl o natur mor dda fel y gellid tybio nad oedd ond eisieu i Ras gyffwrdd yn ysgafn a hwy na flodeaent i iywyd Crist- ionogol ilawn a hardd. Un felly oedd y foneddiges hon. Ond anodd gwybod pa bryd y daeth i feddiant o'r bywyd ysbrydol a anadlodd mor gryf ynddi ar hyd ei hoes. Cafodd awyrgylch llawn o ddylanwadau crefyddol pur yn ei phlentyndod, a chadwodd 0 iewn cylch y dylanwadau hynny hyd y diwedd. Mewn dinas lawn o hudoliaethau i bleserau anianol, i ganlyn Ilif y rhai y gvvelai lawer o ieuenctyd yn mynd, meithrin. odd hi'r duwiolfrydedd a wnaeth y Cysegr yn brif atyniad iddi, a chrefydd yn bennaf peth." Yr un peth mawr a welodd hi ar y' ddaear oedd Eglwya y Duw byw am hon y myfyriai, hon oedd cartref ei hysbryd, ar allor hon yr offrymai ei thrysor a'i hegnion, yn hon y bu fyw a marw. Yr oedd yn bersonoliaeth ardderchog, a chafodd crefydd gyfle da i ddatblygu a phrydferthu'r natur fawrfrydig a feddai. Meddai gal on fawr a chydymdeimlad eang. Mae rhai pobl yn dduwiol, ond yn gyfyng eu gwelediad, am hynny'n gyfyng eu cydymdeimiad hefyd, ac nid yn anfynych yn tuedda at ragfam a gormes at y neb fo'n gwahaniaethu oddi wrthynt ar bethau cymharol ddibwys. Caethiwir hwynt gan lythyren credo, gan fan-reolau i fywyd, gan opiniynau ac arfer- ion traddodiadol, a chan ffiniau sect, gan roddi gor-bwys ar bethau damweiniol ynglyn a chrefydd. Ceir ymysg y rhai hyn bobl na wftd neb eu duwioldeb, ond y maent yn gyfyng eu meddwl, tel nad ellir dywedyd amdanynt, yn yr ystyr hwn, fod gan dduwioldeb le i droi "—neu, ynteu, y gall droi mewn cylch cyfyng iawn. Ond un o'r pethau amlycaf yn y foneddiges hon oedd ni heangfrydedd. Yn ddiamheuol, fe gyd- nebydd pawb a'i hadnabu mai cariad Crist" a lywodraethai ei holl fywyd. Calon fawr oedd ganddi hi, a thrwy ei chalon y gwelai Net a daear, Duw a dynion. Gofal- ai am y cylchoedd agosaf iddi'n gyntaf, ond ymehangai ei chydymdeimlad dros bob terfyn. Os gofalai am ddechreu yn Jerusalem," cyrhaeddai ergydion ei chalon Gristionogol hyd eithaf y ddaear." Pwy a ofalodd yn well na hi am ei haelwyd ? Ni chafodd gtfr erioed well gwraig, na diacon erioed well cymar yng ngwasanaoeth- y Meistr. Ond yr oedd yr aelwyd hon yn cynnwys mwy na'r teulu oedd ami. Cafodd ysbryd Teulvi Bethania. ymgnawdoli yma. Gwyr t6 ar ol t6 o weinidogion yr Efengyl mor wir yw hynny. Yr oedd cymwynasgarweh yn athrylith ysbrydol yn y wraig ragorol hon, canys fe'i gwnai mor naturiol, tawel, diffwdan, a llednais, fel pe'n ddiarwybod iddi hi ei hun. Nid nwyddau'n crogi ar Goeden Nadolig oedd ei chymwynasau hi, eithr y ffrwyth a dyfai ar goeden fyw. Yr oedd yn byw caredigrwydd bob amser, tan bob amgj lch- iadau. Cofiwn ein bod yn y ty, wedi oedfa bore Saboth yn Park Road,—fel arferol— yn ciniawa. Yr oedd Eversley Street ar y pryd yn cael ei hadgyweirio, a hen wr, mewn hut, yn gwylio'r heol ar y Saboth. Gofalai Mrs. Davies fod cystal cinio i'r hen wr yn yr hut ag i'r cwmni oedd yn y ty. Nid fel peth eithriadol y nocIwn hyn, eithr fel enghraifft o'r modd yr oedd calon garedig yn ffrwytho'n barhaus mewn cymwynas- garweh. Carai ei heglwys a'i henwad ei hun yn angerddol. Yr oedd yn hoff o ganu'r Cysegr, a'r tro cyntaf erioed i ni ei gweld oedd mewn Cymanfa Ganu, ar oriel capel, ymysg y cantorion. Cymerai ddiddordeb mawr yn holl eglwy&i'r cylch, ac yn ystod ei hoes bu hi a'i phriod yn gynefin a darpar gwleddoedd croeso i weinidogion y Gymanfa Bregethu yn gystal ag achlvsuron ereill. Hyd yn ddiweddar, ni fu neb ffyddlonach i gyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr, yn Ne a Gogledd. Ond fel y dywedwyd eisoes, yr oedd cydymdeimlad Mrs. Davies a chrefydd a daioni'n rhy eang iddi fod yn sectol. Dywedasom fod iddi ewyllys gref. Ond na chamgymered neb ystyr hynny. A chamgymeriad mawr fyddai tybio'i bod yn amlygu grym ewyllys trwy groesi ewyllys- iau pobl ereill. Un o heddychol ffyddlon- iaid Israel ydoedd hi. Mae cryfder ewyllys ambell un yn beth moel a thlawd iawn-yn ami yn ddim ond ystyfnigrwydd. Nid oes angen dim talent na chydwybod, heb son am ras, i fod yn ystyfnig, ac i gnocio'n erbyn barnau a theimladau pobl ereill. Gellir gwneuthur hynny heb feddwl, heb fam, heb argyhoeddiad, heb ddim—ond ystyfnigo. Ond yr oedd cryfder ewyllys y Fam hon yn Israel o rywogaeth gwahanol ac uwch, ac yn codi o'i chymeriad graslon. Ceir ambell un yn pwysleisio'i annibyniaeth bam, ac yn dywedyd, Nid wyf am rwymo fy mam wrth neb, a dyweded ereill a ddywedont, dyma fy mam i, ac mi ddaliaf ati." Cecraeth hunanol yw peth felly, ao nid y cryf o bwyll a chydymdeimlad a'i harfer. Cryfder ewyllys Mrs. Davies oedd yr hyn yr ydym yn ei olygu ar hyd y fiordd- cryfder cariad yn byw ac yn gweithredu yn ei ffordd naturiol ei hun, heb i neb ei ddirgymell, nac i neb chwaith allu ei atal, Ac yr oedd ei gweithredoedd hi mor dda, mor garedig, ac mor rasol, fel nad allai neb deimlo'i bod yn gwneuthur dim oedd yn groesineb. Teimlai pawb ei bod yn dywedyd a gwneuthur yr hyn oedd iawn. Nid ei chryxder hi oedd ei dadl am ryddid bam, ond ei hetiampl o reddf ysbrydol yn byw. Nid rheol a'i harweiniai, ond tueddfryd. Spirit and foot rule have nothing to do with each other," ebe rhywun. A gwir hyn amdani hithau. Ac am iod ei bywyd yn tarddu o gymhellion mewnol, ac nid o reolau allanol, yr oedd newydd-deb yn ei holl waith. Y rhai a waedda uchaf am ryddid allanol, yn bur fynych, yw y rhai mwyaf caeth yn eu hysbrydoedd eu hunain. Ond yr, oedd ei bywyd hi mewn rhyddid, am mai bywyd o gariad ydoedd. Flynyddoedd yn ol, yr oedd gennym yn ein heglwy3 fechan Sale of Work. Wedi hir betrus, eathom i ofyn ffafr Mrs. Davies i ddyfod i'w hagor. Prin y disgwyliem lwydd, canys dywedasid wrth. ym nad oedd hi wedi ymgymryd a gwaith cyhoeddus o'r iath erioed. Erbyn cyrraedd y ty, credasom iod siom sicr yn ein haros, canys yr oedd Mrs. Davies yn rhy gystuddiol inni gael ei gweld. Beth bynnag, bu Mr. Davies garediced a mynd a'r genad- wri iddi, a dychwelodd o'r llofft gyd a'r newydd dymunol fod ei briod-os byddai wedi gwella-yn addo cydsynio. Daeth hi-- gyd a'n cvfaill hoff, Mr. Wm. Jones, West Derby-i gyfiawni'r seremoni. Tystio]aeth pawb proseniiol ar y pryd ydoedd fod yr anerchiad a draddododd Mrs. Davies ar yr achlysur yn un o'r pethau prydferthaf o'r fath a glywsent. Yr oedd hi'n hunan- feddiannol, syml, tawel, ond aphob brawddeg mewn Cymraeg glan, ac yn llawn o swyn a synnwyr. Profodd, mewn ychydig fun- udau, fod ei chof yn mynd ymhell yn ol i hanes eglwysi Annibynnol Cymraeg a Saes- neg Lerpwl, a chyfiyrddodd ag amryw enwau a digwyddiadau nodedig ynglyn a hwy mor ddeheig a thyner ag y cyffwrdd telynor dannau telyn. Teimlai pawb naws hyfryd calon a garai Eglwys Dduw yn ei holl eiriau. Eglur ydoedd, oddiwrth ei hatgofion, ddar- fod iddi fel pendefiges santaidd, ar hyd ei hoes, rodio'r Ffordd Frenhinol, ac mai'r gogoniant pennaf a weleai ar hyd y ffordd oedd Achos yr Arglwydd. Synnem at ei medr i gyfleu ei meddwl mor gry-no ac effeitk- iol, ac awgrymasom hynny i'w hannwyl briod, pryd yr atebodd yn chwap, Mi wyddwn i o'r goreu y medrai hi." Erys y tro hwnnw'n llecyn gwyrdd yn ein hat- gofion o Kensington ar gyfrif y ffaith ddar- fod inni lwyddo i gael gan Mrs. Robert Davies gyflawni gwaith cyhoedd o'r fath, ac iddi ei wneuthur mor rasol; ac heblaw hynny, bydd yr atgof yn felys byth am iddi ddyfod atom, a llefaru'r geiriau caredig & wiiaeth, yn yr amgylchiadau yr oeddj-m ni'n ber&onol ynddynt ar y pryd. Ie, cymer- iad ardderchog oedd y foneddiges hon, a theimla dyn, fel yr edrych ar ei delw o flaeu ei feddwl, nad all ddim llai na gwneuthur bow parchedig iddi, a diolch am gael ei hadnabod. Fel y crefiir ar ei thegweh, hawdd y gellir dywedyd, yng ngeiriau J. R. Lowell Earth's noblest thing, a Woman perfected. Wel, nid yn fynych y cafodd gwr a gwraig bererindod cyn feithed ynghyd ag a gafodd Mr. a Mrs. Robert Davies-ac mor ddedwyddl Mae hi, bellach, wedi mynd i mewn i'r Ddinas Santaidd, a'i hysbryd hawddgar wedi ei goroni.Bydd cydymdeimiad dwysaf ei gyfeillion lluosog a'r gweddw unig a hybarch Ond gwyr ef i ba Wlad yr aeth ei annwyl briod, a gyr hefyd y Ffordd i fynd ati caffed deimlo fod ei law ynghlwm yn llaw'r Ai-weinydd. Dwyfol, nes cyrraedd ohono i'r unrhyw Ddinaa-yr hon a oleuir gan wyneb Duw

Trem ll-Cofio'n Milwyr A ar…

Advertising

Advertising

Advertising

Advertising