Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ASK FOR "SIRDAR" SAUCE Delicious and Appetising.
Advertising
GUARANTEED PURE FOOD Ask for "KEENOfiA" SELF-RAISING FLOUR* CUSTARD ru WDER. lUM BAKING POWDER. BLANC-MANGE, etc., etc. BS Manufacturers- ( MORRIS & JONES, Limitear, 041 LIVOPpooll, Manchomtcff mnd [Noweastio-on- Tyne.
TREM I..-1
TREM I. -1 Y Baril Aur. Dyweder a fynner, rhaid fod rhyw drwm- gwsg bamol ar reswm a chydwybod gwlad pan allai oddef y fasnach mewn diodydd meddwol i broffidio tu hwnt i fesur o olud fel y deil i wneuthur o ddechreu'r rhyfel hyd yr awr hon, a changynhyddu mewn elw o flwydd- yn i flwyddyn. Wele rai enghreifftiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar-yn dangos nad yw unrhyw gyfyngiadau ar y fasnach, nac unrhyw wanhad yn y diodydd, yn atal dim ar elw'r darllawwyr, eithr ynhytrach o lawer i'rgwrthwyneb. Gwerthwyd yn 1913gynifer a 92 miliwn o farilau, am E166,700,000 ac yn 1917, gwerthwyd 37,000,000 o farilau am £ 259,000,000. Am braidd lai o'r drydedd ran yn yr hyn a werthwyd gwnaeth y fasnach agos i £100,000,000 yn rhagor o elw. Wele ddam go ryfedd, ynglyn a chyfran-daliadau (dividends): Perret, na thalodd ddim yn 1914, yn talu 33iy cant yn 1917 Threlfall yn codi o 9 i 30; Whitbread o 2 i 7 Ind, Coope o ddim i 7!, &c. Dengys prisiau y cyfranddaliadau gynnydd dirfawr y Trad. Dyma fel y gosodir y tabl hwn :— 1915 1917 1919 Allsopps 2 251 86 City of London 121 91 185 Guinness 213f 307 £ '391! Watney 10 85 169 Felly y mae y neb a feddai gyfran o £2,000 yn AUsopps yn 1915 yn werth £ 86,000 yn 1919. Yn wyneb hyn, sicrherr ni fod cyf- rannau reilffyrdd wedi cwympo tua 25 y cant o dan yr hyn oeddynt cyn y rhyfel, a bod y rhai a ddalient gyfrannau yn yrhyn a berthyn i fywyd uchaf dynion wedi gostwng yn isel iawn, a llawer wedi methu'n llwyr. Gob- eithiwn fod sail -er darogan. fod Llafur yn dechreu sylweddoli o ddifrif yr enbydrwydd a berthyn i'r Trad, ac yn cynllunio ar gyfer ymgyrch i geisio'i ryddhau o afaelion y budd- iant preifat sy'n ei gwneuthur yn amhosibl i ddwyn ymlaen unrhyw ddiwygiad o bwys yn y Fasnach ei hun, a gellir ychwanegu unrhyw ddiwygiad arall, canys y mae hon yn fagl a malltod ar bob ymgais i waredu'r wlad i bur- deb a diwydrwydd. Dywedir fod Llafur yn trefnu i geisio prynu'r darllawwyr allan ar sail eu gwerth yn ol 1915. Da iawn gweld y gogwydd hwn mewn Llafur, a'r gresyn yw na byddai pob plaid yn y wlad, bellach,yn ddigon aeddfed ei barn a nerthol o gydwybod i ym- uno er carthu'r gwrthuni hwn ymaith o'r ffordd. Ond y ffaith ddifrifolaf o bob peth yw fod y blys am ddiodydd meddwol mor gryf fel nad ellir yn hawdd ei diddyfnu oddi wrth y dafarn. Ofnadwy yw gafaelion y blys hwn Er ei fod yn estronol i gyfansodd- iad naturiol dyn, mae'r neb a barha i yfed gwirodydd poethion yn cynhyrchu ynddo ef ei hun y fath awch amdanynt nes yr a'n brif flys ei gyfansoddiad, ac a bair iddo aberthu hyd. yn oed ei angen am briodol ymborth, gwisg, cysur cartref, iechyd a chymeriad, er ei fwyn ac nid yn unig ef ei hun, eithr hefyd reidiau a chysur y rhai sy'n dibynnu arno. A phan gofir gynifer o'ii cyd-ddynion sy'n y cyflwr hwn, niae'n rhagolygon yn dywyll iawn oni cheir diwygiad ysbrydol nerthol cyn hir. Nid oes ond dwyfol rym a all ddad- wreiddio'r blys am y diodydd meddwol mewn miliynau o'n cyd-ddynion, nac atal meddwdod cyhyd ag y bp'r demtasiwn iddo'n agor ei drysau i'w hwyneb ar gongl pob heol ymron. Gwarthnod ar wlad wareiddiedig yw goruchafiaeth y Trad ar bob awdurdod a gallu o fewn ein tir. Darllenwn am berth yn llosgi, a'r berth heb ei difa." Yr oedd y weledigaeth honno'n ogoneddus, ac mae llewyrch ei fflam yn goleuo'r oesoedd hyd heddyw. Ond mae perth y Trad yn llosgi 'heb ei difa, eithr, er hynny, yn difa popeth da o'i chylch. Mae cymeriadau'n ffaglu hyd yr heolydd drwyddi hi. Mae cysuron cartrefi'n oddaith, a'r gwreichion yn disgyn ar fywyd cymdeithas ymhob cyfeiriad. Nid oes dim yn ddiogel cyhyd ag y caniateir i berthi'r Fasnach hon gynneu ynghanol y bobl, fel y gwneir ym Mhrydain. Perthi ydynt hwy y gall y Wladwriaeth ou diffodd a'u dadwreidd- io—eu difa hwynt yn lie iddynt hwy ddifa'r bobl. Pan gofir y gwasgfeydd ariannol a osodir arnom ynglyn a rheidiau naturiol a hanfodol byw y dyddiau hyn, mae'n amser i ddelio'n fwy llym nag y gwneir a'r Trad melltigaid sy'n tynnu iddo'i hun gymaint o arian y wlad, ac yn dinistrio amgylchiadau a bywydau yn y fargen. Pie bynnag y mae prinder arian, nid yn y Trad y mae mae hwn yn medru troi'r baril cwrw'n faril aur o hyd.
Advertising
BEATY BR:, I n CELEBRATED TAILORS I DEMOBILIZATION [ j CONCESSION I To all who have served in HIS MAJESTY'S FORCES I i. 2/6 IN "rm I- I Discount on all purchases of Clothing I (If made within a period of 4 months from date of discharge). ft ORDER YOUR SUIT WHILE ON LEAVE.' BEATY BROS., Ltd., I 37 to 43 Lon ion Road, 28 & 30 Church Street, I Open until 6 30 p.m., Wednesdays until I 1 p.m., Saturdays until 8-30 p.m. 0?? ???.1 i 6"30-' p.m., Saturdays Ip.m. | LIVERPOOL. I — ■ ■"■"■^hbbbb==!===b= 1 Phone 3925 Bank. Phone 580 gooile Win. GRIFFITHS & SONS MAKERS OF SMART CLOTHES 18 South John St., Liverpool, AND 849 Stanley Road, Bootle, Milita-y Uniforms. Lounge 8uits. Naval Uniforms. Overcoats. Oostumes. Ladies' Coats Aywch Llygaid yn elcti blino ? fw pethaa'K troi'n ni wlog ac anal wig ? ■ Dyna arwydd arhybl.1dd lletMod y llygad, 9 a dylech gael eu hadrycla rhstg blaaa 8U ■ gwaathygu wna'a haagenixe Gallwa ni, B gyda'n hoftsr gwyddo aol, dd wayd wrthyeb. I 03 oes araoch 1\!le\1 gwydrau; ac os I felly, eich cyfleawi i'r rkai a bar&i fwyaf I oleA i chwi. Galwah heddyw— I AØØMER & SON., I Eyesight Spaclallits, I 73 LORD STREET, 5 8cfydlwyd 1848. LIVER.1,IQOL HARTLEY & CO., Liverpool 12 MOSS STREET. CSALES BY AUCTION EVERY TLUESDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHT AT SEVEN ▼ALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND gEOOND-HAND PIANOFORTES, LARGE VARIETY Of BEDSTEADS BEDDINO, &e. BVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING AT TEND THESE SALES AND SAVE AT LEAST *0 SPBR OENT. A MAGNIFICENT 3PLBCTTON OF SUPERIOR FU&NITU?E IS ALWAYS KEPT IN MOOK, AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY. GOODS STORED. On view 8.30 a.m.to 8.30 p.m.; Saturday 1 p.m. telephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL) OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR THBSH DALES. BESr RESULT GAURANTEED. FORD RADIATORS. New pattern Round Brass Fronts, also Silencers for Ford Care and Radiators for Heavy Csmmarcial Vehicies.11 Particulars and Prices apply to JAMES CHEW 6 CO. LTD., 58-SO PARADISESTREET, LIVERPOOL. I LIVERPOOL The SHAFTCSOURY." MOUNT fLBASANT About i mias. walk]from]Ltm3 St. & Central Stat. A First Class Terapsrame Hotel. Moderate.Obarges Tele.ShaftesburyjHotei, Li/arpool." Piiona, ) ASK IDRIS Table Waters Xa SypkMW AIUI 36;>sitaa. .O. :tV A YII. POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY 411NOER ALE, Etc., etc. IORIS & Co., Ltd., (arthamoer!«ad St.. LIVERPOOfc ^s=saaaaca=s=; — D. GRIFFITHS « SON 221 BrecS Rd end 9 Moss St: L"poel« Pianos Organs by all the leading makerti. From 8!- per month. lissipiroffso -4§6x Aatield 3772 ROYAL LLYTHYRAU GORONWY OWEN, dan Olygiaeth yr Athro J. MORRIS JONES. I PRIS SWLLT. Ifc Y Farddoniaeth a'r Llythyrau wedi eu cydrwvmo mewn Llia. HUGH EVANS AND SONS, Swyddfa'r Brython. ROBERTS & TOWARDS ESrATE AGENTS, 64 Kiriidale Rd., Liverpool Telephone 1 2193 Ron1.
TREM II.
TREM II. Y Streic. A ninnau'n meddwl ein bod wedi gosod y wlad yn ei lie am beth amser i ddyfod, dyma ergyd arall o streic wedi taro cymdeithas yn gyrbibion ac anodd i un dewin ddyfalu ymhle y terfyna. Nid mater dibwys yw atal gwaith y rheilffordd hyd yn oed am ych- ydig ddyddiau. Mae llawer iawn o ddefnydd- iau ymborth ar y ffordd nad all oddef ymaros heb fallu a mynd yn ddiwerth. Achosodd y steic fawr flynyddoedd yn ol lawer o ddifrod o't ,fath. Cafodd miloedd o deithwyr eu bwrw i ddyryswch blin ar eu ffordd pan saf- odd y trenau ar hanner nos y Gwener diwedd- af, ac yn eu mysg wragedd a phlant, afiach a gwan. Byr iawn fu'r rhybudd a gafodd cymdeithas o ddyfodiad y streic. Ymddang- osai Mr. J. H. Thomas fel un yn bradychu cyf- rinach pan gyhoeddodd ef—ychydig ddydd- iau cyn y digwydd-fod streic yn ein bygwth. Mae gennym ffydd gref yn y dyn hwn, a bu'n foddion droeon i arafu camre rhuthr cyffelyb i hwn. Llefarai fel un a fuasai mewn ym- drech y-tro hwn hefyd i atal y galanas, ond ei fod yn teimlo'r llanw'n ei erbyn. Hawdd y gallwn gredu ddarfod iddo fwrw ei ddylanwad yng nghynghorau Llafur dros o leiaf oedi'r streic, Ond yr oedd ei gri cyhoedd yn debyg i eiddo dyn a welsai argae Hyn mawr yn ym- agor yn yr ucheldir, ac a redai i rybuddio pres- wylwyr y dyffryn o'u perigl. Deuthai aw- grymiadau allan fore dydd Gwener ffafriol i gytundeb, a bu hynny'n foddion i gynhyrchu hyder mewn llawer, ac felly i wneuthur yr aflwydd yn fwy llym pan ddaeth, canys Ilac- iwyd paratoi ar ei gyfer yn yr amser oedd yn rhy brin ar y goreu. Darllenasom ddatgan- iadau Mr. J. H. Thomas a Mr. Lloyd George, ac ymddengys i ni fod gan Mr. Thomas rai pwyntiau cryfion ynglyn a rhai achosion o anghyfartalrwydd eyflogau. Yr ydym yn credu mewn cyfiawnder i bob gweithiwr, a bod gorelw rhai meistri'n waradwydd i wlad wareiddiedig. Ond nid y pwnc sy gennym ni ar hyn o bryd yw teilyngdod y gofynion a wneir gan y gweithwyr, eithr y dull (method) a ddefnyddir i geisio setlo mater o'r fath. Fel y dywedodd y diweddar Syr Henry Campbell-Bannerman, adeg helynt Merched y F6t, Ni eilw achos da am ddull drwg i'w I amddiffyn." Mae yn y cweryl amryw bart- fon mae yma weithwyr, mae yma feistri, mae yma Lywodraeth. Ond mae yma blaid aarall hefyd, bwysiced a'r eWQl gyda'i gilydd- y boblogaeth gyffredin. Rhwng pawb, mae'r blaid olaf yn cael ei thrin yn erwin er's blyn- yddoedd bellach. Nid cynt nag y tynnir yn ol un corn 1u'n ei thwlcio na chaiff hi fod rhyw gorn arall o tani, ac yn ei bwrw i'r ddaear tan ei chlwyfau. Ni fedrwn gredu fod rhuthro ar gymdeithas fel tarw gwyllt yn deilwng o ddinesydd mewn rhydded gwlad a hon-er ei holl ffaeleddau. Yn wir, daw i'n cof feirniadaeth dyn cyfarwydd ag anifeiliaid ar anrhydedd cymharoltarw a buwch mewn ymosod ar ddyn. Dadleuai dros degwch y tarw rhagor y fuwch. Dywedai mai arfer y tarw oedd rhuo'n fawreddog yn gyntaf oil, yna rhuthro 'mlaen ond hyd yn oed wedi dyfod ohono i ymyl dyn, dywedai'r beirniad dysgedig hwn fod y tarw'n cymryd hamdden i edrych ar y dyn, yn rhoi tro neu ddau o'i gwmpas, ac yn gyffredin yn comio daear cyn cornio dyn. Ond dywedai ef nad oedd y fuwch anrhydeddused a hyn, ac mai ei harfer hi oedd rhuthro'n ddisyfyd ar ddyn a'i godi ar ei chyrn yn ddiseremoni, gan ei fwrw i'r llawra'idrin yn hollol ddi urddas a chreulon, Ac, yn sicr ddigon, mae streic fel hon yn deb- ycach i ruthr buwoh nag i ruthr tarw. Ni chymerir cymdeithas yn gyffredinol i gyfrif o gwbl, eithr cynllunir pa fodd ac ymha le i'w thwlcio'n fwyaf niweidiol. 0 ran egwyddor, ni welwn ni fod dim gwahaniaeth rhwng streic fel hon ag athrawiaeth yr Ellmyn-might irr right. Nid yw fod y streic yn cael ei dwyn ymlaen gan werin rydd yn gwella dim ar waith y filitariaeth oedd yn yr Almaen. Ni welwn ni ragoriaeth anarchiaeth ar filitar- iaeth-penrhyddid ar drefnyddiaeth filwrol. O'r ddau, diogelach militariaeth nag anarch- iaeth ac nid yw'r math yma ar streic amgen anarchiaeth. Mae hi'n ymafael am lywodr- aeth a chrafangau haeam anllywodraeth, ae yn defnyddio gallu dosbarth i samu ar hawliau'r boblogaeth. Cyn y gellir cym- deithas ddiogel a chadarn, rhaid wrth awdur- dod ganolog a chydnabyddedig gan bawb. Mae gallu llywodraethol y wlad hon yn cael ei ethol, erbyn hyn, gan y bobl. Ni fu'r ethol- fraint erioed mor werinol ag ydyw yn awr. deddfwrfa'r deyrnas yn nwylaw'r werin. Ond ymddengys i ni fod ymgais ar waith i ddym- chwelyd y Wladwriaeth, a gosod gallu streie yn ei lie—gallu nad yw'n caniatau i'r rhelyw o'r boblogaeth lais arno o gwbl. Gormes yw gormes gan nad prun ai gan aristocratiaid ai ynteu gan werin yr arferir ef. Pa faint gwell orthrwm fel gorthrwm yn y ffurf o streic nag yn Nhy'r Arglwyddi gynt mewn Senedd ? Ofnwn fod gormod o wir yn y gred fod dos- barth o ddynion yn ein teyrnas sy a'u bryd ar ddymchwelyd pob awdurdod a threfu, a throi cymdeithas yn ganddryll ac yn sathrfa i bob anrhefn a rhysedd.' Dywedwn eto ein bod yn gwybod yn dda fod ymysg gweithwyr y rheilffyrdd liaws mawr o ddynion ardderch- og, a chredwn fod y mwyafrif ohonynt yn ddynion teg—ond eu bod, rywsut, tan arwein- iad dynion gwahanol yn ami. Mae llu mawr o weithwyr allan ynglyn a'r streic hon na wyddant paham—dim ond ddarfod iddynt gael gorchymyn i hynny, a'u bod yn ufudd- hau i'w swyddogion. Bu llawer o ymosod ar grefyddwyr am nad oeddynt yn meddwl drostynt eu hunain, eithr yn cymryd eu har-
Advertising
DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S T A IT OU Q FOREMOST ?Ar ?A TLiriJLr ????tA???QJ< Q.'I"a 18. t Y  is the principle on which we Q lit First have built up and conducted eF our business.. ismart aAa perfectly Tailored Garments* Made; to Measure and to Fit. JUDGE FO YOURSELF how well hat.ldeal has ¡ been maintained, by ¡ placing your order with us for that NEW SUIT.  21 LORD &T., UVERPOOL of Add"ss:. Manager JOHN JONES. Air:|6,^6rslG/erranKgor, Oymo am byth.. at 226 High Street, Bangor, Oymro am byth. 23 Hope Street. Wrexha?, We specialize In Ladies' Tailor-Made 46 Lime Street, Liverpool. "ostumes to order and thronabout the Kingdom