Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
GUARANTEED PURE FOOD Ask for "KEENOfiA" | SELF-RAISING FLOUR* ? CUSTARD roWDER. BAKING POWDER. ? BLANOMANGE. etc., etc. I Manufacturers- MORRIS & JONES, Limited. J ?Yyc?j?ooF, Ma?citcete? and I [Newcastle-on- Tyne.
Advertising
I BEATY BROset I THE CELEBRATED TAILORS I DEMOBILIZATION I CONCESSION To all who have served in HIS MAJESTY'S FORCES 2/6 IN THF- S Discount on all purchases of Clothing (If made within a period of 4 months from date of discharge). ORDER YOUR SUIT WHILE ON LEAVE. BEATY BROS., Ltd., 37 to.43 London Road, 28 & 30 Church Street, Open until 6 30 p.m., Weclnesda*vs ?Open til ,r m S.turday. lp.m. 1 p.m., Saturdays until 8-30 unti' 28 & 30 Church Street, LIVERPOOL. I Phone 3925 Bank. Phone 580 Bootle Wm. üRlfflTUS « SONS MAKERS jOF SMART CLOTHES 29 South John St., Liverpool, AND 849 Stanley Road, Bootle, Military Uniforms. Lounge Suits. 1 Naval Uniforms. Overcoats. Oostumes. Ladies' Coats IA ywc Llygaid yn efcfe blino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac aaaiwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech ga el au hedrych rhag blaen eu gwaathygu wna'u hesgeulso. Gallwn ni, gyda'n hoffar gwyddoaol, dd weyd wrthych as oes arnoch angea g wydrau ac os felly, eich cyfleawi t'r rkai a barai fwyaf I o leis i ckwi. Galwch heddyw— ARCHER. SONS Eyesight Specialists, 73 LORD STRBBTi Befydlwyd 1848. LIVERPOOL ■ HARTLEY & CO., Liverpool 12 MOSS STREET. BSALES BY AUCTION EVERY ■BBSN DAAT X AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHT AT SEVEN VALUABLE HOUSBHOLD FURNITURE OF ALL DBSCRIPTIONS. MAGNIIIOBNT NEW AND SECOND-HAND PI AN OFORTFISV LARGE VARIETY Of BEDSTEADS BEDDING, &e. EVERY NECESSITY FOR HOUwSEKEEPING ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAST SOFTPBR CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN STOCK, AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY. GOODS STORED. On Tlew 8.30 &.m.tO e.30 p.m.; Saturday 1 p.m. telephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL) OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR THE SB SALES. BEsr RESULT GAURANTEED. FORD RADIATORS. New pattern Round Brass Fronts, also Silencers for Ford Cars and Radiators for Heavy Commercial Vehicles.j v Particulars and Prices apply to JAMES CHEW CO. LTD., 5a 68-80 PARADISE STREET,ILIVER POOL. LIVERPOOL The SHAF TESBURY, MOUNT PLEASANT, About 4 mlu3. walkjfromjLxma St. & Central Stat. A First Class Tamparaucia Hotel. Moderate jOhargeg Tele.Shaftesbury JHotel, Lirsrpool." Paune, j J ASK ro& IDRIS Table Waters It SypJaouucl Bottles, SIOBA WATER. POTASH WATER, SELTZER WATEB, LEMONADE. DRY GINGER ALB. 1 Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., M oirtliaiaEiberiimd St.* LIVERPOOL D. GRIFFITHS D SON 221 arealk Rd and 9 Moss St., L'pssl. Pianos & Organs by all the leading makers, Wnm 8 1  month. 'ZBMMSMtM-?Mx A?MeM mi MYAL LLYTHYRAU GORONWY OWEN, dan Olygiaeth yr Athro J. MORRIS JONES. PRIS SWLLT. 1* fe Y Farddoniaeth a'r Llythyrau wedi eu cydrwymo mewn LliaÐ HUGH EVANS AND SONS, Swyddfar Brython. ROBERTS EDWARDS. ESTATE AGENTS, 64 KirRdale Rd., Liverpool Telephone i 2193,Royal.
Advertising
ASK FOR "SIRDAR" SAUCE Delicious and Appetising.
ITREM I.
TREM I. Y Streic. Pan ysgrifennem ein sylwadau ar y streic yr wythnos ddiweddaf ymddangosai'r sefyll- fa'n fygythiol, ac ni wyddai neb i ba drychin- ob yr oeddym yn cychwyn. Safasai'r trenau trwy'r holl wlad ar banner nos, a thaflesid trafael pobl a chlud nwyddau i ddyryswch sydyn. Daeth yn amlwg fod y Llywodraeth yn bur benderfynol ar ei safle, ac yn teimlo'i bod wyneb yn wyneb a mudiad oedd yn her i'w hawdurdod hi, ac yn ddibris o fuddiant a chysur y boblogaeth yn gyffredinol. Fel y crybwyllasom ar y cyntaf, ni chredem fod holl arwoinwyr y gweithwyr ar y reilffyrdd o blaid sireicio, ac mae'n dra sicr fod llawer o'r gweithwyr nad oedd yn fodlon i hynny. Eithr wedi i'r streic gael ei chychwyn, fe deimlodd yr arweinwyr y dylasent roi ffordd i'r penderfyniad y daethpwyd iddo,a gwneutb- ur y goreu o'r aehos. Teimlai'r Llywodraeth, o'r tu arall, ei rhwymedigaeth i sefyll dros oi safle ar ran y wlad yn gyffredinol. Dydd Sadwrn, ymddangosai pethau'n byr anadd- awol, a gellsid meddwl y caem ein hunain yr wythnos hon ynghanol daeargryn streic gyffredinol, a threfniadau arferol cymdeithas yn bentyrrau cymysglyd. Yr oedd undebau o bob math, o angenrheidrwydd, yn teimlo fod o bwys iddynt hwythau pa fodd yr ym- darawai eu cymrodyr yn yr ymgyrch hon, ac yn benderfynol o wneuthur rhywbeth i'w cynorthwyo—streicio gyda hwynt, yn ol pob tehig, pe daliasai'r frwydr ymlaen. Modd bynnag, newydd a dderbyniwyd yn Ilawen gan y wlad yn gyffredinol oedd ddarfod i'r Armagedon ddiwydiannol a chymdeithasol hon gael ei setlo ddydd Saboth—am ryw hyd o leiaf. Ni fu oedfa fwy ymarferol ac eff- eithiol trwy'r holl deyrnas na'r un a gynhal- iwyd yn 10 Downing Street y Saboth hwnnw. A chredwn na fuasai mor Ilwyddiannus oni- bai fod cryn lawer o ysbryd crefydd y Saboth yn gweithio ar feddyliau'r nail] blaid a'r llall yn y cydymgyngor. Cynnwys y cytundeb fod y gweithwyr i ddychwelyd i'w lleoedd ar unwaith. Bydd i drafodaeth ynghylch cyf- logau gychwyn ar unwaith i ddilyn hynny, ar y dealltwriaeth o orffen erbyn Rhag. 31, 1919. Sefydlir cyflogau yn y Deyrnas Gyfunol fel y maent yn awr hyd Awst 1, 1920, pryd y bydd- ant yn agored i ad-drefniad yn al yr amgylch- iadau ar y pryd. Nid oes un dyn mewn oed ar y rheilffyrdd i fod dan 51s. yr wythnos o gyflog cyhyd ag y bo treuliau byw ddim llai na 110 y cant uwchlaw yr hyn ydyedd cyn y rhyfel. Cytunid o'r ddeutu-ar y naill law fod y streicwyr i gydweithio'n heddychol a'r dynion a safodd wrth eu pyst, neu a ddych- welodd yn ystod y streic ac, ar y llaw arall, nad oedd y streicwyr i fod o dan anfantais ar eu dychweliad i'w lleoedd. Y cyflogau a ataliesid i gael eu talu i'r streiewyr wedi y dychwelont i'w gwaith. Oddi wrth hyn, ymddengys i ni mai'r hyn a enillodd y streic- wyr yw estyniad o chwe' mis yn yr amser yr oedd eu war bonus i aros heb ei gyffwrdd, ac addewid am i'r drafodaeth ary eyflog safonol gael ei chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Dyna fel yr ymddengys y telerau yn yr ad- roddiad swyddogol.
I -,-.,.TREM .li.,I
I TREM li., Cymod. Hyfryd iawn yw edrych i wyneb y streic fel y gwelir hi heddyw rhagor fel yr ydoedd wythnos yn ol. Yr oedd y pleidiau'r pryd hynny'n bur guchiog eu gwedd, a'u dyrnau ynghau. Erbyn heddyw maent yn gwenu ar ei gilydd, ac yn plethu dwylo mewn cyt- undeb. Ac fe all dyn fforddio sugno peth difyrrwch wrth sylwi ar y modd y mae'r ddwy ochr yn fodlon ar eu buddugoliaeth." Mae cynrychiolwyr y gweithwyr yn cyhoeddi eu bodlonrwydd a'u bod wedi ennill gor- uchafiaeth fawr. Dywedant ddarfod iddynt waredu Trade Unionism rhag dinistr, canys, meddent, amcan y Llywodraeth oedd torri i fyny'r undebau llafur. O'r tu arall, myn y Llywodraeth a'u cefnogwyr fod y wlad wedi ei gwaredu o afaelion dosbarth o an- archiaid fu ar waith ers llawer o amser bellach i geisio dymchwelyd pob awdurdod a threfn, a gosod eu hewyllys eu hunain yn- oruchaf. Dyna'r golygiad a fynegir gan y wasg yn bur gyffredinol. Ac un o'r arWyddion goreu am heddwch yw'r bodlonrwydd hwn o'r ddeutu. Mae'n eglur, beth bynnag, fod y ddwy ochr wedi sylweddoli difrifwCh y sefyllfa. Mae talm o amser er pan gyhoeddodd Mr. Lloyd George fod yn y wlad hon ddosbarth o an- archiaid oedd a'u holl fryd ar ddinistr, ac y byddai i'r Llywodraeth ddefnyddio pob I adnoddau oedd yn ei meddiant at eu goreh- fygu hwy. Yn ystod y rhyfel, ac wedi'r rhyfel, fe gafwyd digon o brofion o fodolaeth I y dosbarth anwlatgar hwn. Ac mae arwein- wyr mwyaf cyfrifol a phrofedig y gweithwyr I eu hunain yn cydnabod hynny. Rhaid credu geiriau Mr. J. H. Thomas ei hun ddarfod iddo wneuthur a allai yn erbyn y streic hon. A chan nad faint a enillodd y gweithwyr trwy'r streic, credwn yn sicr tod y canlyniad fu iddi'n profi mai Mr. Thomas oedd y cynghor- wr doethaf, pe gwrandewsid arno. Buasai'n ddrwg gennym i weithwyr ein gwlad golli gwasanaeth yr arweinwyr galluog a doeth a fu'n dadleu eu hachos a chynrychiolwyr y Llywodraeth. Mae dinistrio Undeb Llafur allan o'r cwestiwn, a rhaid a fydd wrtho'n y dyfodol fel yn y gorffennol. "Mewn undeb y mae nerth." Am y rheswm hwnnw y mae ei eisieu ac am yr un rheswm y mae'n ber- yglus, oni cheir doethineb i'w arwain. Y perigl o hyd yw i bobl drawsgyweirio o allu i ormes, yn lie o allu i fudd a thegwch cyff- redinol. Y trawsgywair hwn a fwriodd ei felltith ar Ewrop mewn rhyfel, ac fe bair yr unrhyw gyfeiliornad felltithio diogelwch a Hwyddiant y Deyrnas Gyfunol. Nid ydym o gwbl yn cyfyngu'r duedd beryglus hon i'r streic bresennol. Fe'i ceir ymhob cylch o fywyd a dosbarth o ddynion. Gwelir hi mewn ambell ddyn personol. Gwell a fai gennym wasanaethu ambell ddyn mawr- frydig tan y gyfundrefn gaethaf nag ambell berson gormesol tan y rheolau rhyddaf. Mae gennym achos diolch i Dduw fod gallu ambell ormeswr cyn lleied ag ydyw, mewn byd ac eglwys. Fe geir enghreifftiau isel- wael o might is right hyd yn oed ynglyn ag enwadau ac eglwysi He digwyddont fod yn gryfion. A'r prawf goreu ar eangfrydedd a brawdgarwch crefyddwyr ydyw, nid areithio ar undeb yma ac acw hyd y wlad, a cheisio saernio rhyw ffram undebol mewn cyn- adleddau i'w gosod ar enwadau a sectau,'eithr drwy weithredu ysbryd brawdol yn eu cylch- oedd cartrefol ac uniongyrchol. Fe aiff y clebran hyodl am undeb, a'r dramodau cyn- adleddol ac arddangosiadol ohonon, yn fwrn ar y wlad oni welir fod ei ysbryd ar waith yng nghysylltiadau personol ac agosaf dynion. Mae cynnydd mawr yn y dduwioldeb hon yn ddiweddar, ond mae eto lawer o le i wella. Nid ydym yn anwybyddu'r drwg mewn cylch- oedd ereill wrth son amdano ynglyn a streic, ond fod y streic yn enghraifft neilltuol o'r egwyddor ar hyn o bryd. Ardderchog meddu gallu cawr, ond gorthrwm yw ei gam- arfer," ebe hen ddihareb. Ac wrth son am y gweithwyr yn y streic, nid ydym-fel y dangosasom yn ein sylwadau'r wythnos ddi- weddaf-yn diystyru eu cwynion, nac yn cyfiawnhau proffidiaeth anghyfiawn ar lafur. Un o'r pethau erchyllaf a ddatguddiwyd yn y drafodaeth i gyd oedd y ffaith fod rhai gweithwyr ar y rheilffyrdd yn gorfod byw ar o 18s. i bunt o gyflog cyn y rhyfel. Pa fodd yr oedd yn ddichonadwy i neb-o leiaf y neb a feddai wraig a phlant—fyw'n agos i gy. surus ar hynny bach ? Ond mae poblogaeth y wlad yn gyffredinol yn fwy na meistri a gweithwyr na llywodraeth,. ac mae i'r naill neu'r llall droi eu nerth i ormesu ar genedl yn gamwri pendant. Ac fe barhawn ni i gredu fod bwrw cymdeithas yn gyffredinol i drallod ac aflwydd yn ol dull y direct action yn hollol anghyfiawn fel ffordd i setlo anghyd- welediadau neilltuol. Y mae'n euog o droi cytundeb yn scrap o bapur," o ddal yn gymharol ddirybudd ar gyfle i ddyrysu am- gylchiadau'r cyhoedd, a pheri i'r diniwed ddioddef.
TREM III.
TREM III. Y Sylfeini. Fel yn gyffredin ynglyn a digwyddiadau o'r fath, parodd y streic hon eto i amryw ffeithiau gael eu hamlygu a'u pwysleisio. Yn un peth, a than bopeth, rhaid i gymdeithas wrth gynhyrchiad parhaus o adnoddau cyn- haliaeth a chysur. Mae'r fam natur tu cefn i'w theulu dynol i gyd, a chanddi gyf- lawnder o adnoddau ar yr amod o ryddid atynt, llafur i'w dwyn allan, yn gystal a thegwch yn eu cyfrannu. Rhaid i ffynon- ellau cynhaliaeth gael eu rhyddhau o afaelion gorthrwm, ac i lafur gael a chymryd ei gyfle teg i'w datblygu. Haearn a dynnir allan o'r pridd ac o'r graig y torrir pres." Ac yn y tynnu allan a'r toddi cawn weledig- aeth o'r gwr a'r gaib a'r rhaw a'r ordd, a gwelwn lewyrch y fflara ar wyneb chw s y llafurwr. Ni ddaw adnoddau natur allan o'r graig na'r pwll glo drwy gyffyrddiad bys a botwm trydanol, ac ni thyf cnydau cynhaeaf ar feysydd drwy ysgwyd swynffon (magic wand) hyd-ddynt. Rhaid wrth lafur, a- rhaid i'r llafurwr gael ei gyfran deg. Trais erchyll ar wlad yw'r gallu a ganiateir i rai perchenogion tiroedd atal ffordd diwydiant at ffynonellau adnoddau naturiol gwlad, a thrais ar gymdeithas yw i lafur gyfyngu ar dynnu allan yr adnoddau hynny er mwyn cadw prisiau i fyny. Yr un mor eglur yr amlygir y ffaith o gyd-ddibyniad holl rannau cymdeithas ar ei gilydd. Ni ddylai fod arnom angen streic i'n dysgu mewn gwers sy bellach mor eglur i'r neb a fynno ystyried o gwbl. Mae cymdeithas yn un corff, a'i gwa- hanol rannau'n perthyni'w gilydd mor wir- ioneddol ag y gwna gwahanol aelodau corS dyn. Ni all y meistr wneuthur heb y gwas, na'r gwas heb y meistr-o leiaf heb ryw feistr. Yr ydym, fel cymdeithas, yn gyd- weuedig a'n gilydd. Ac yn yr ystyr hwnnw, mae cload-allan ar y naill law, neu streic y direct action ar y Haw arall, y naill fel y llall, fel petai dyn yn taro'i lygad a'i ddwrn ei hun. Ac mor eglur a dim yw fod yn rhaid
Advertising
DONEGAL TWEED CO. Li TY f?ttL? LIVERPOOL'S TAILORS FOREMOST 1 Qa uality First i is the principle on which we ail  's *?c principle on which we Quality First hae built up &nd; conducted 1,JY,n Smart ana perfectly Tailored Garmentsf Made to Measure and to Fit. JUDGE FOR YOURSELF how well that ldeallhas I been maintained, by placing your order with us for that NEW SUIT. rrr 21 LORD ST., LIVERPOOL lanager • JIUOnHN NJ(UOWNELJS A.lso'95, I OS, 165 Grange Kd> B'head Oymro am byth. at 226 High Street, Bangor, Cymro am byth. 23 Hope Street, Wrexham, Ve specialize In Ladles' Tailor-Mads 46 Lime Street, Liverpool. j -ostumes to Qrder. end fhrnughout the Kingdom