Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

TREM IV.-I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREM IV. Mr. Lloyd George ar y top. Wrth gwrs, nid oes dim helynt o'r fath yma nad yw Mr. Lloyd George ynddo. Hyd yn oed pan oedd y rhyfel yn ei hangerdd, ac astrusi Cynhadledd Heddwch ar ei chanol, rhaid oedd ei alw ef i fewn i geisio setlo cwerylon o bob math. Ac ef yw'r pennaf o bawb i'r gwaith. Y gofid mwyaf i rai corgwn sy'n cyfarth arno ar hyd y blynyddoedd fydd y ffaith gydnabyddedig mai ef, yn anad neb, a lwyddodd i adfer heddwch y tro hwn eto. Tybiasant iddynt weld arwyddion o'i gwymp yn yr etholiadau seneddol diweddar, ac y cleddid ef a'i Lywodraeth tanynt cyn hir. Gwelsom rai'n grwgnach am ei fod mewn cwmni mor ddrwg. Ond ymddengys i ni ei fod yn ei le. Yr hyn a gymerir yn ganiataol gan y beirniaid hyn yw fod Mr. Lloyd George yn cael ei bobi gan y gweinidogion sy gydag ef. Yn awr, yn ol tystiolaeth y rhai oedd yn y drafodaeth, fe welir mai ef oedd yn eu pobi hwy, ac iddo ef, yn anad neb, y rhoir y clod uchaf am heddychu'r pleidiau. Mae pob plaid yn ei ganmol, y cynrychiolwyr Llafur yn gymaint a neb. Yn diiameu, dyma un o'i fuddugoliaethau cartrefol mwyaf. Mawr yw dyled ei wlad iddo. Pan ymdrinid Sr pwae O betb oedd y rhinwedd mwyaf angenrheidiol mewn Prif Weinidog yng ngwydd Pitt, dywedodd un o'r llefairwyr mal hyodledd un arall mai gwybodaeth ac 1ii: arall mai llafur. Nage," ebe Pitt, nid yr tin ohonynt, eithr amynedd." Mae Mr. Lloyd George yn gyfuniad o'r rhinweddau hyn. Mae ei aatur dda 'n ddihareb, a'i fedr i ennill dynion. t>yWedodd Mr. J. H. Thomas am- dano'rk y drafodaeth bresennol, U was due to the Prime Minister's efforts, and not to his colleagues." Drachefn, Yr oedd yr arwein- wyr Llafur yn unol o'r farn fod y cytundeb yn ddyledus i ymdrechion Mr. Lloyd George." W el,-y fath lwc ydoedd fod Mr. Lloyd George yn lle'r oedd Trwyddo ef, yn anad neb, cafodd y gweithwyr chwarae teg, a ehymdeithas ei hamddiffyn. --0-

I ¡Bore Heddyw

YN SYTH O'R SENEDD

Basgedaid o'r Wlad. I

I Ein Genedl ym Manceinion.

Advertising

Advertising