Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
BARCLAYS BANK iL Li PRIF SWYDDFA- 54 LOMBARD STREET, LLUNDAIN, E.C.3. CYFALAF AWDURDODEDIG £ 20,000,000 CYFALAF WEDI El ROI ALLAN A1492109356 CYFALAF WED I El OALU I FYNY iC81820,356 CRONFA WRTH GEFN 27,0009000 CYFANSWM WEDS El DALU I MEWN zC281,944,000 Mae i'r Ariandy 1.400 o ganhennau o ba rai mae agos i 200 yn Nghymru. Mae iddo Oruchwylwyr a Gohebwyr yn mhob prif I dref trwy y byd. GWNEIR POB MATH 0 FUSNES BANCIO PRYDElftllG A THRAMOR. Agorir CYFRIFON CYDREDOL ar y telerau cyfredin gan Ariandai. ARIAN CADW Derbynir arian cadw gan gwsmeriaid ac eraill, a chaniateir lIog arnynt yn ol y radd ac am yr amser y cytunir. Rhoddir Llyfrau Cyfrif (Deposit Books) pan yn angenrheidiol. YMGYMERIR AG YSGUTORIAETH AC YMDDIRIEDOi-AETH. Agorir cangherinau yn fuan yn y lleoedd canlynol: Bala. Bangor. Caernarfon. Corwen. Dinbych. Dolgellau. Caergybi. Llanrwst. Llangefni. Wyddgrug.
UwchbenEsboniadI I
UwchbenEsboniad I I ar 1 Corinthiaid, Pennod vii-xvi, cyf. ii. gan I y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. Y mae'n dda iawn gennyf gael y cyfle 1 alw sylw darllenwyr Cymreig at y gyfrol hon- Flwyddyn yn ol cefais y fraint o roddi gair o groeso i'r gyfrol gyntaf, ac yn awr y mae'n llawen iawn gennyf gael llongyfarch yr awdur hynaws ar orffeniad y gwaith hwn o'i eiddo ar yr Epistol. Dilynir yr un cynllun yn hollol yn y gyfrol hon. a'r un gyntaf, ac i ddibenion ymarferol yr Ysgolion Sabothol nid hawdd a fyddai gwella arno. Ni theimla neb a gaffo'r gyfrol hon i'w law mai un sych a diflas i'w ddarllen ydyw esboniad. Dywed- asom weithiau, wrth inni geisio dangos mor annarllenadwy oedd ambell lyfr, ei fod mor sych ag esboniad ac yn'wir ni byddai'n gam a llawer esboniad ei ddefnyddio'n gyffelyb- rwydd o'r diflas a'r sych. Pe na bai un rhinwedd arall ar yr Esboniad hwn, ned bach o glod ydyw gallu dwyn tystiolaeth iddo ei fod yn ddarllenadwy a diddorol bob tudalen ohono. Anodd meddwl am neb sydd a rhyw hoffter ynddo at ddarllen na chaffai flas ar ddarllen y gyfrol hon, a'i darllen drwyddi, ac nid rhyw dameidiau rhwng cwsg ac effro ar 01 cinio'r Sul, er mwyn cael crap ar rywbeth i'w holi a'i ateb yn y dosbarth y prynhawn. Diau y darllenir esboniadau yn y dull egni'ol hwnnw'n ami ond tybiaf petai un yn gafael yri yr Esboniad hwn, ac ef yn lledfyw felly, na byddai'n hir cyn deffro ac ymysgwyd, canys llwydda'r awdur rywsut i daflu'r egni a'r bywyd sydd mor nodweddiadol o'i air Ilafaredig i'w air ysgrifenedig hefyd. Eeb- law hynny, nid oes ganddo ddim o'r gorfanyl- ion hynny sy'n ami yn gwneuthyr tudalen o Esboniad mor ddigroeso a digymell i'w ddarllen. Nid y mynnem ddywedyd fod y manylion hynny'n ddibwys,—nid ydynt felly mewn un modd, ac y mae'n rhaid i'r es- boniwr ei hun dalu sylw manwl i bob un ohon- ynt, onite ni bydd ei waith yn un i ddibynnu arno. Ac fe wel y cyfarwydd fod llygad awdur yr Esboniad hwn bob amser ar y man- ylion i gyd oil, ond ni ddwg Irwynt i'w nod- iadau. Ei ddull ef ydyw bodloni ei feddwl ei hun am ystyr geiriau'r Apostol, ac yna traethu ei f arn yn glir ac yn groyw, heb ym- rwystro gyda thybiaethau'r sawl a ddichon fod yn barnu'n wahanol. Efallai y gellid yn awr ac eilwaith anghytuno a'r awdur ynghylch ystyr geiriau Paul, ond ni all bod amheuaeth un amser am syniad yr esboniwr. Ac y mae hyn yn beth gwir werthfawr, canys pan fyddo meddwl adnod yn ansicr ac yn dywyll, a meddwl yr esboniwr yn fwy ansicr ac yn dywyllach, onid mawr yw'r tywyll- wch Ni all neb ddwyn cwyn felly yn erbyn Mr. Tecwyn Evans, Y mae ei eiriau ef bob amser fel y grisial, a'i feddwl yn oleu ac yn eglur. Bydd gan y neb a ddarlleno'r cyf- rolau hyn yn ofalus syniad go glir a chywir am gynnwys yr Epistol gwerthfawr hwn. Yn sicr y mae i'r dull hwn o esbonio ei fan- teision i ddeiliaid yr Ysgol Sul canys nid bychan o gymorth ydyw cael traethiad clir gan ftr o fedr a dysg ar gynnwys Epistol, a'i farn groyw am ystyr pob cymal ac adnod. Er hynny, gall fod i'r dull hwn beth anfantais yn ogystal tuedda efallai i wneuthur y sawl a'i darlleno, heb ymgynghori a'r un esboniad arall, dibyn yn ddogmatig mewn dosbarth. Yma a thraw y mae ochr arall i'r pwnc, ac ochr go gref weithiau, a da o beth a fyddai i'r efrydydd gael ei ddwyn wyneb yn wyneb a'r ffordd honno, er i hynny fod yn achos o ddyryswch iddo ambell dro deuai allan o'r dyryswch yn gryfach ei feddwl ac yn ehangach ei ddeall. Eithr, er dywedyd fel hyn, nid wyf heb wybod fod yr esboniwr mewn llyfr fel hwn yn gyfyngedig i derfynau gosodedig, ac anodd dwyn popeth i mewn a than yr amgylchiadau y dull hwn ynddiau ydyw'r goreu, ond petai y terfynnau yn lletach, gwell a fuasai'n Hall. Y mae llawer i'w ddweyd am rinweddau'r esboniad, ond rhaid bodloni'n awr ar sylw neu ddau yn unig. A'r peth cyntaf ydyw'r cyfieithiad rhagorol a geir yma o'r Epistol ao nid gormod dweyd ei fod yn rhagorol. Nid yn unig y mae Cymraeg y cyfieithiad yn odidog, ond gvrnair meddwl y gwreiddiol yn: eglurach o lawer drwyddo. Daw llawer ad- I nod oedd yn dywyll ac yn aneglur yn yr hen 5] gyfieithiad, yn oleu clir o'i darllen yn y cyf- ieithad newydd. Dichon, er hynny, y j newidir ychydig ambell dro lie na bo dim neilltuol yn galw am hynny. Ac fe fydd dyn 1 yn cael ei demtio i anghytuno yma a thraw, ond mater o chwaeth ydyw hynny'n bennaf, yn ol yr hen air a ddywed bod opiniwn ymhob pen. Er enghraifft, ix. 2; da oedd newid, ond gwell fai cadw at drefn y geiriau fel y maent yn y gwreiddiol Os i eraill nid wyf yn Apostol, eto i chwi o leiaf yr wyf," aC nid, Os nad wyf i eraill yn Apostol, eto o. leiaf i chwi yr wyf." A dyma xv. 1-2: y mae yr hon yn fwy persain o lawer na y sawl." Wrth reswm, y mae sawl yn air da, ond lie y digwydd, fel y gwna yma, yn agos i'w gilydd, ceir gormod braidd o'r sain awl," ac nid yw'n sain hapus iawn. Meth- af hefyd ddygymod a newid dros" i oblegid yn xv. 3. Nid yw'r naill air na'r Hall yn egluro'r dirgelwch ond rywsut teimlaf fod dros yn ei ddangos yn well. Credaf mai gwagedd a osodwn i yn xv. 14, ac nid diystyr byddai gwagedd neu gwegi yn cyfleu ystyr y gair yn well. Temtir dyn fel hyn yma a thraw i anghytuno a'r cyfieithydd ynghylch rhyw fan bethau, j ond y mae'r cyfieithiad yn waith gwir fedrus, ac yn gymwynas fawr i ddarllenwyr Cym- il reig. Am y nodiadau esboniadol, y maent, fel y dywedwyd, bob amser yn glir ac i'r pwynt. Mantais fawr ydyw rhannu'r Epistol yn ad- rannau fel y gwneir saif cynnwys yr Epistol a,llan yn glir yn y meddwl wrth edrych ar yr adrannau hyn,a daw perthynas y naill adran a'r Hall i amlygrwydd. Ac y mae'r crynhod- eb ar ddechreu pob adran yn gynorthwyol iawn. Gallaf ddweyd fy mod wedi mwyn- hau darllen yr Esboniad drwyddo, ac wedi cael llawer o flas arno. Hoffaf yn fawr y modd y mae'r awdur wedi cadw un nod yn sicr a diymod o flaen ei feddwl yn barhaus o'r dechreu i'r diwedd, sef peidio a gofalu am ddim ond am geisio gwneuthur meddwl a dysgeidiaeth Paul yn yr Epistol hwn yn eglur i'w ddarllenwyr. Yn awr a phryd arall, daw sylw a bair i ddyn osod y llyfr i lawr a meddwl. Felly ar tud. 61, He y,sonnir am israddoldeb y Mab. Credaf fod Tecwyn yn iawn wrth ddywedyd nad cywir son am Israddoldeb y Mab fel y gwneir gan ddiwin- yddion Cymreig. Er hynny, nid hawdd cael gair da i gymryd ei le fel cyfieithiad o subor- dination. Rywsut, nid ydyw darostyngiad y peth yn hollol ac eto anodd meddwl am ei well. Ond diau ei fod yn fwy priodol dweyd fod y Mab yn ddarostyngol i'r Tad na dweyd ei fod yn israddol iddo. Y mae'n ddarostyngol i'r Tad fel y mae'n Fab, ac am ei fod yn Fab. Pennod fawr yn Epistol ydyw y xv. Ni ellir yn awr son dim am ymdriniaeth yr awdur ar y bennod honno,—cymerai hynny ormod o le. Rhaid bodloni ar ddweyd fod yr ymdriniaeth yn alluog ac yn deg, ac yn barchus pan fyddo gwybodaeth yn pallu yn wyneb dirgelwch. Dymunaf gyflwyno'r gyf- rol yn gynnes iawn i sylw deiliaid yr Ysgol Sul a charedigion y Gymraeg. Buasai'n dda iawn gennym weled llu mawr o ieuenctyd Cymru'n darllen ac yn meistroli cyfrolaufe hon a'i%chyff'elyb,—pethau a sylwedd yn-' ddynt, pethau sy'n lleshau. Bootle. WILLIAM DAVIES. Cyfrifir y cludwyd cryn chwe mil o bobl i'w cartrefi o drefi glannau mor Gogledd Cymru'r wythnos ddiweddaf mewn modurau char-a-banc ac yn y blaen.
IAR GIP.I
I AR GIP. I Y mae Elfed newydd golli ei dad drwy farwolaeth. Nid oes fawr, fel y cofir, er pan gladdodd y Prifardd ei annwyl briod. n Y mae H. Russell Jones (17) wedi ei fwrw isefyll eibrawf ynyfrawdlys ynglyn a marw- olaeth Richie Gray Jones, hogyn pump oed W, Jones, Holly Cottage, Llandegai, Bangor, a fu farw ymhen ychydig ar ol dod i wrthdarawiad a modur a yrrid gan y diff- ynnydd, sy'n rhydd ar feichiau o £ 150 a £ 50 yr un gan ddau arall. Dywedir fod un o bobl Glannau Menai wedi prynu'r Clio gan y Llywodraeth. Nid oes bellach ond 68 o fechgyn ar ei bwrdd lie byddai 250. Y mae'r 68 i'w hanfon i sef- ydliadau diwygiadol yn Lloegr. Cynhebrwng Iluosog a dwys iawn oedd cynhebrwng Daniel Evans yn Llandudno ddydd Sadwrn diweddaf. Dihoenodd yn hir yn ysbyty'r dre o aflechyd a gawsai yn Ypres. Yr oedd wedi bod yn y llynges cyn hynny. Yr oedd Iluaws o filwyr a llongwyr yn yr angladd, ac yn cerdded o'r ysbyty i eglwys Llanrhos. Un o blant yr ardal oedd Daniel, druan. Y mae Gwarcheidwaid a Chyngor Gwledig Treffynnon eisiau clerc, y cyflog i gychwyn yn ol 9400 yn y flwyddyn.
Advertising
Prynir Dodrefn Outright for Caah, Distance no object. GREETHAM & SON (Est. 1848). Probate Court Valuers Marlowe Road, 18 Rydal. JBank. Liscard, ;utd^27 Newinfttcn, Livorpool, Tel., 640 Royal,
Cynhadledd yr "Inglis C"s."…
Cynhadledd yr "Inglis C"s." j (Parhad o'r rhifyn diweddaf). I Fore Mercher, am 11, caed trafodaeth a. Undeb Cristionogol "-y prif siaradvvyr oedd y Parch. T. A. Hutton, M.A., D.D.. yr Esgob Mercer, D.D., a'r Parch. J. Puleston Jones, M.A. Wedi gweddi gan y Parch J. D. Evans, M.A., Pontypridd, a gair byr gan y llywydd-y Parch. W. Mendus, Hwlffordd-- galwyd ar Dr. Hutton, gan fod yn rhaid iddo ymadael cyn terfyn y cyfarfod. Caed anerch- iad meddylgar a chryno ganddo-yn dangos nad oedd reswm dros beidio ag uno a'n gilydd fel Cristionogion. Mae Dr. Hutton wedi ennill serch cyffredinol drwy ei ymweliad a ni -ac nid ar fyrder yr anghofir ef. Ar ei ol daeth yr Esgob-a gwen ar ei wyneb, er fod min ar ei eiriau. Siaradodd yn blaen a diofn, gan ddangos yn eglur ei safbwynt. Cym- hellai ni i gyd at undeb, gan ddangos nad oedd reswm tros beidio, ac er mwyn undeb argymhellai arnom groesi, fel Ymneill- tuwyr, atynt hwy'r Eglwyswyr, gan nad oedd y bont ond cul a bychan. Ond fel y dywed- odd y llywydd-yr oedd y bont yn I] awn mor gul iddynt hwy i ddyfod atom ni, a'r ffordd lawn mor fyr. J Yna daeth Puleston. Siaradodd ef yn fwy uniongyrch ar y pwnc na'r un o'r ddau o'i flaen. Nid oedd mor ddifyr ag arfer, ond yn wir ailuog. Ni chaed amser i drafodaeth bellach, a gresyn hynny,— yr oedd llawer yn bresennol yn llawn o fater a charasent gael cyfleustra i ymryddhau. Wedivcinio, caed trafodaeth yn y City Road ar Foliant Eglwysig," dan arweiniad Dr. Walford Davies-proffeswrCerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a rheolwr Cerddoriaeth Cymru. Yr oedd y Dr. wrth ei hoff waith yn hyn ac wrth ei fodd yn ei gyf- lawni. Ni ddisgwyliai neb ddim mor ddif- yr, ac ar yr un pryd mor addysgiadol. GWr llithrig ei iaith yw'r Dr., ac eglur ei bar- abl. Canodd ei hun droeon yn ystod yr an- erchiad, a gwnaeth i bawb oedd yn bresennol ganu gyda'i gilydd hefyd. Mawr ganmolid y cyfarfod hwn, a chaed cwrdd hefyd ar ol, i arweinwyr canu'r gwahanol gynulleidfaoedd, holi'r Proff. ar wahanol faterion. Yr oedd llawer o ddisgwyl wrth y cyfarfod nos Fercher, sef y cyfarfod mawr ynghapel eang Wesleaid Saesneg, City Road-ond ow trodd allan yn siomiant i bawb bron. Cychwynnodd y Cadeirydd drwy siarad yn feius o faith-heb ddim byd neilltuol i'w ddweyd—a'r hyn a ddywedodd yn rhy eithafol. Dilynwyd ef gan y Gwir Anrhyd. Herbert Lewis, a siaradodd ef yn dda nes iddo droi at y Mesur Addysg-am yr hwnygwyddai pawb yr hyn oil addywed- wyd. Ar ei ol cododd y Parch. Richard Jones, M.A., Llandinam, a siaradodd ar y mater o'r cychwyn, ond a fu'n anffortunus yn ei lais gan gychwyn yn llawer rhy uchel, a dal ati'n afresymol o faith, gan ysbeilio y siaradwr olaf o'i holl amser, am yr hwn y disgwyliai y rhan fwyaf o'r gynulleidfa. Ond fe arhosodd pawb bron i'r diwedd-a chaed gair gan y siaradwyr olaf, y Parch. R. R. Roberts, B.A.,LI.B., Caerdydd. Enillodd eerch a chlust y gynulleidfa ar unwaith, a chafwyd cryn hwyl. Dug y cyfarfod, er gwaethaf popeth, i orffeniad hapus, mewn ysbryd dwys. Hwn oedd y cyfarfod meithaf i gyd, ac yr oedd cryn ddisgwyliad wrtho ond drwy lawer o annoethineb, aeth y cyfan yn hynod o ddieffaith, a chwynai llawer o'r rhai oedd yno yn bresennol. Hyderir na chyhoeddir dim o'r anerchiadau hyn ond yr hyn oedd yn dal cysylltiad a'r pwnc. Ofnir hefyd na fedrir reportio y siaradwr olaf- dywedodd lawer-awgrymodd fwy. Y dydd olaf, dydd Iau, dechreuwyd y cyf- arfodydd gan ail bregeth y Gynhadledd, a draddodid gan y Proff. D. Williams, B.A., Aberystwyth. Oedfa gyffredin, fel cannoedd o'i thebyg o Sul i Sul ym mhulpudau Cymru. Yr oedd y pregethwr yn dda, ond nid yn dda iawn, eto yr oedd pawb yn mwynhau. Ar yr un pryd fe ddisgwylid mwy mewn Cynhad- ledd flynyddol fel hon. Nid oedd dim newydd na dim yn neilltuol fawr; ac nid oedd y pregethwr yn ceisio ymgyrraedd at ddim yn neilltuol iawn. Eto, meddyliem fod y gwasanaeth yn un priodol iawn fel par- toad i'r Cymundeb i'w ddilyn. f'Gormod o wneuthur ar y pryd oedd yn y Cymundeb wrth fwrdd yr Arglwydd, ac am hynny nid oedd pawb mor gartrefol ag y disgwylid. Er hynny aeth pethau trwodd yn hynod ddi- brofedigaeth. Y cyfarfod olaf—sef Cyfarfod y Cenhadon; mae hwn yn dda bob amser, ac y mae gweld y cenhadon yn gryn dipyn o beth. Siarad- wyd gan y Parch. T.W. Reese a Dr. Gordon Griffiths yn rhagorol iawn. Yr oedd y Gyn- hadledd eleni yn un dda, ond gallasai fod yn well. Cofier erbyn y tro nesaf. --0-
Ystafell y Beirdd.
Ystafell y Beirdd. Y cynhyrchion gogyfer a'r golofn hen i'w cyfeirio-PEDROG. 217 Pmcct rd., Liverpool Marwnadau.-Fel y sylwyd lawer gwaith o'r blaen, mae yma bentwr o farwnadau- rhai ohonynt yn hollol ddiddim. Ceir amryw i bersonau teilwng iawn, ond y llin- ellau ddim yn deilwng ohonynt hwy. Ceir yma amryw gyfansoddiadau cyffredin i bersonau da, ond anadnabyddus y tu allan i gylch cyfyng. Awgrymwn yn garedig am i'r awduron gofio y byddai eyhoeddi darnau meithion-a rhy feithion yw'r rhain fel rheol—yn gam a. mwyafrif ein darllenwyr. Nid oes gennym ddim i'w wneuthur ond dethol y rhai mwyaf pwrpasol—byr a thar- awiadol. Cywydd i'r Caiser.-Llawn o bob math ar wallau. Da chwi, mynnwch ddeall y gyng- hanedd yn weddol cyn cynnyg cyfansoddiad i'r wasg. Mae graddau o'r ddawn duchanol yn y llinellau. Os mynnech weld y cyfan- soddiad duchanol goreu mewn cynghanedd —o leiaf mewn barddoniaeth ddiweddar- darllenwch Salm i Famon, gan Syr John Morris 6ones—sylwch ar y deheurwydd i ffug-foii, ac yn arbennig ar ddeheurwydd yr ergyd yn yr englyn olaf. Gwnaiff yr englyn hwnnw Mamon fel y gwnaeth y gareg a dorrwyd o'r mynydd nid a lIaw" a'r ddelw a welsai brenin Babilon gynt; ergyd ydyw heb le i ergyd ar ei hoi. Diogel fyddi, &c.—Dim ond y cyrch yn gywir,— i lechu, I loches. I Ond nid cyrch yw englyn, mwy nag y mae [Hawes yn gôt. William Amerongen.-Yr ydych yn gyng" haneddwr rhy wych i ymgais—fel y gwnewch yn yr ail englyn-am orgywreinrwydd. YmbwyIIwch neu fe ewch i drap nad ellwch ddyfod allan ohono. CYMERADWY.-Y Llwfr, Y Twyllwr, Arwyddair i'r Ifanc, Cyngor, &c., Cadben E, Y Llyffant, Robyn Goch, Betsan Williams, Bore ym Medi, le8u ar y Lan, Y Wawr. "ESTYN BYS." I Annifyr anian afiach-biau'r hwn I Boer wawd ar ei wannach Nid yw cawr onid corrach 0 estyn bys at un bach. PEDROG. ARWYDDAIR I'R IFANC. flwnt i glod, er gwynt a glaw,—a'r faner I fynny yn chwifiaw Duw'n nodded, nid wy'n addaw Bod yn y byd yn y baw. CYNGOR I ATHRAW IFANC. (Cwynai fod un o'r plant yn ddi-fywyd). Difywyd paid a'i feio,—anoga'r Un egwan i deimlo Swyn gras ein gwers yn ei go',—- Daw'n hawddach wedyn iddo. TYDFILFAB I BEDDARGRAFF CAPT. EDWARDS, CEMAES, MON. Hwn ddewr hwyliodd yr heli,—y fynwent Yw'r fan gwnaeth angor Ei ddwyn gai yn ddigyni-i hafan Y der nef wiwlan i dirion foli. MECHELLYDD MON. I Y LLYFFANT WRTH Y GOG. Mewn coeden yn nen dan nawdd-y duwiau Daw y mawl di-wahawdd Ond, myn enaid Mae'n anhawdd Ennill clod yn nhwll y clawdd. I ROBYN GOCH. Robyn, o'r brigyn brau,—yn *r llawen Er lleied ei freintiau. Ledaena glod Duw yn glau, &'i bib arian bob borau. WIL IFAN 0 FON. I BORE YM MEDI. Ymddeffry'r haul o'i gwsg, a gwen ar hud Ei wyneb, dros y mynydd grugog prudd, Gan ysgwyd oddiwrtho iasoedd cudd Holl niwloedd tywyll yr hen gysglyd fyd. Plyg yr ysgubau melyn, ami, mud Eu pennau tua goleu'r newydd ddydd. Ysgydwa'r coed eu tresi aur yn rhydd 0 frodwaith gwawn a'r gweau man i gyd. Fe eilia'r 'hedydd fry yn wyneb haul Ei felodi i Dduw am fore glan A'r coed, a'r gweunydd—clywch eu peraidd gan, A'r yd, a'r nant sy'n llifo dan y dail, Mae heulwen Medi dros y byd yn Hi' Daeth hyd yn oed i gaer fy nghalon i. Llanbrynmair. IORWERTH C. PEATE. IL Y WAWR. Teg ydyw'r Wawr Fendigaid Awr Daw inni o'r Nef i lawr Fendithion newydd ddydd. Mae cor y wig yn taro tant- Caroli'n fwyn gerllaw y nant Sy'n murmur ar ei ffordd i'r pant- Ac nid oes neb yn brudd. 0 mor hyfryd yw Y bore gwyn a'r heulwen wiw Mae'n paentio blodau o bob lliw, Mae'n lliwio'r cwmwl cudd. I'w orsedd Teym y Dydd a ddaeth, A thrwy ei rym 'nawr torri wnaeth Gadwynau'r Nos a Natur gaeth O'i rhwymau ddaeth yn rhydd AI/CJST PULESTON JONES. Llanfair Caereinion.
[No title]
o Si sydd fod Mr. E. T. John i ddod allan fel ymgeisydd Llafur yn sir Gaernarfon pan fo'r etholiad nesaf.
Advertising
EVERY WOMAN Should send 2 stamps for our 32 page Illustrated Book containing valuable information how all Irregularities and Suppressions may be entirely avoided or removed by simple means. Recommended by eminent Physicians as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never fails. Thousands of Testimonials. Established 1862. Mr. PAUL BLANCHARD, Belmont House, Oalitoa Laue, LONDON w. & J. VENMORL, Estate Agents \ofuers, 200 SCOTLAND RD., Liverpoo I IrnnHONJIINo. 4216 Royal (2 lines). I P. Lloyd Jones I I WEDD'ING 6 FUNERAL DIRECTOR. CARRIAGES 6C. to be seen at A-b4 Moniey Hood, L'poot '.110115-261 BOOTLB. I* ^TELEPHONE—S75 ANFIELD. J. T. JONES, Funeral Undertaker, EVERTON 40 Aubrey Str ot,L EVERTONI and 55 &rect e Road. LIVERPOOL Funerals personally arranged to all parts J. PRYSE HUGHES, F.I.S.C. (Cyn-arweinydd Cymdesaas Otrddorol C'.ed poeth. ac awdur Arglwydd arwain drwy t anialweh," Ddymuna wneud yn hysbys y bwriada roddi ei boll amser i wasanaeth cerddoriaetb. ac felly bydd yn rhydd i dderbyn rhagor o waith fel BEIRNIAD, ARWFINYDD, ARBOL. YDD, etc. Rboddir gwersi ar Gynghanedd etc., drwy'r post. Am delerau a rhestr o gyfansoddiadau, cyfeirier—Lily House, Coedpoeth, Wrexham: G, W. BlGHES,u- & L.T.,S.L AmHmwii o 0. Ing gibspol MX. h'un Arweinydd Cymanfaoedd Canu. fieirniad, ac Arhoiwr. farotoir JFmgeiawyr at DVatvsgrilas UKtkKi Voleg II Solffa. Hen 2Vodiant a solffa, 70 KINGSLET ROAD LERPWL KL ngston-Jones Gold Medallist, Professor of Elocution ENTERTAINER-ADJUDICATOR,, ,Whole Evening given by Seit (21 hours). Welsh or English. Write for Testimonials, Press Opinions and BpeeiaiM Programme. PUYlL. TAKE* Tnn MODUAVX, 27 Clifton Rd. E., Tuebrook. Lpoell II latm Gpiaeg: El HORQRAFF AM CHYSTRAWEN. Gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. Ar werth gan yr hon Lyfrwerthwy* PRIS 2/ trwy'r post, 2/3. Nis gellir ei gael oddiwrtb yr Awdwl Lie nad oes Uyfrwerthwyr anfonei at 4'j Cyhoeddwyr- HUGH EVANS A'I FEIBION. 356-8 Stanley Road L'pool. LADIES BLANCHARD PILLS. are unrivelled for all irregularities, &c., they speedily afford relief and never fail to alleviate all suffering and they supersede Pennyroyal, Pil Coshia, Bitter Apple, &c. BLANCHAkD'* are the best of all Pills for Women, are sold in boxes, 1 /li by BooTS' Branches, TATLOE'B Branches, and all Chemists, or post free same price, from LESLIE MARTIN, Ltd., Chemists,34 Dalston Lane.London ANYTHIJNG TO SELL? Now Is your opportunity. W. H. Butterfield a Co, 76 & 78 STANLEY RD., BOOTLE Will give yon HIGHWT CASH PRICKS for furnltnre of every description. Complete Households or single ar tloles purchased outright. CALL OR WRIT* 76 & 78 STANLEY ROAD, BOOTLE. WML. BooTLa 1209. LLYFR Y TRI ADERYN GAN FORGAN LLWYD 0 WVNEDD. Argraphiad Newyd4 yn cynnwys ysgrif ar draa a gwaith Llenyddol Morgan Llwyd, gan Mr. J. H. JONES, Golygydd y "Brython." Llian hardd, Pris Is. Cy hoe fid edif gan HUGH EVANS A'I FEIBION1 SWYDDFA'R "BRYTHON" Liverpool Guardian Trade Protection Society. 'Phone 4865 Bank. Wires, "Precaution." IThe Oldest Provincial' TRADE PROTECTION SOCIETY. A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board Honorary Directors. or terms write-F. MEATHER, Secretary, 41 North John Street, Liverpool.