Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

&, -., Yr Adrodd a'r Eisteddfodau.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

&, Yr Adrodd a'r Eisteddfodau. I Mr. Gol,—Yn fy llythyr diweddaf, gan arncanu defnyddio y term a arferir fynychaf gan y cystadleuwyr, ysgrifenais,—" Yn y cyffredin ni chaniateir i neb ondy cystadl- euwyr ddod i ystafell y prelim." Ond ys- tafell y chwyrnu" ddaeth allan. Diau mai un o gastiau d—1 y wasg oedd gwneuthur y cyf- newidiad. Dywed un doethach na mi, Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo medd- yginiaeth." Gan mai diwygio ac nid niweid- io y beirniaid y cyfeiriais atynt yw fy amcan, gadawaf^ lonydd iddynt^hwy. yn bresennol, gan droi at yr adroddwyr. Mae eisieu gair o gyngor ar amryw ohonynt hwythau. Mae'n debyg gen' i fod rhyw le mawr yn Llundain y gall adroddwyr gael ynddo res o lythrennau i'w rhoi ar ol eu henwau, ond iddynt fynd am dro yno, a sefyll arholiad nad yw'n anodd mewn un modd i fynd drwy- ddo. Erbyn heddyw ceir amryw yn ein gwlad sydd wedi gwneuthur hynny, ac ym- ddengys y llythyrennau a gawsant yn bryd- ferth dros ben. Ond y gofid yw fod rhai o'r graddedigion hyn, pan ddeuant i lwyfan yr Eisteddfod, yn gwneuthur gwaith mor afres- ymol o wael, a hwnnw'n adlewyrchu mor anffafriol ar y sefydliad a geisiodd eu han- rhydeddu. Gofynnodd hen fardd i un a wisgai dlws, Bathodyn am beth ydyw ?" A chyfyd gofyniad cyffelyb ym meddyliau rhai pan mae peth fel hyn yn digwydd. Mae cael y llawryf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn brofedigaeth enbyd i eraill. Bu'r ym- geisydd am flynyddoedd hwyrach a'i lygad ar y nbd. Treuliai'r blynyddoedd hynny nid yn gymaint i lafurio, ond i ddisgwyl yn amyneddgar am wawr y dydd gwynfydedig. O'r diwedd y mae wedi dod. Yn awr rhaid ymchwyddo fel y llyffant hwnnw yn chwedl iEsop, troi allan i fod yn athro mewn Eloc- ution, a chyhoeddi fel cymhwyster—" Win- ner in the National Eisteddfod." Ond ni cheir nemor fwy na dall yn tywys deillion." Nid yw fod y dyn wedi cael y wobr yn yr Eistedd- fod Genedlaethol yn brawf digonol o'i allu. Nid y goreu a wobrwyir yno bob amser. Gwyddom am fechgyn a merched sydd wedi darllen amryw lyfrau da ar y gangen hon, ac wedi ymgeisio dro ar ol tro,ond wedi eu cadw yn ol ar hyd y blynyddoedd. a gwyddom am eraill, na ddeellant ond y peth nesaf i ddim am adrodd, yn cael y wobr y tro cyntaf y buont ar fanlawr cenedlaethol yn eu bywyd. Ac un rheswm am hyn ydyw mai chware damwain (lottery) a wneir ynrhy ami yno. A bydd yn rha,id i bwyllgoran drefnu i'r adrodd- wyr gael chware teg f el rhy w ddosbarth arall- cael amser priodol i gyflawni eu gwaith, a dynion fyddo'n deall eu gwaith i'w cloriannu cyn y daw pethau fel y dylent fod. Ar ol darllen y tri llythyr hyn o'm heiddo, di- ameu fod rhai yn barod i dybio mai rhyw greadur siomedig a chrintachlyd a'u hysgrif- ennodd, ac yn synnu fod amynedd y Golyg- ydd wedi dal cyhyd ond sicrhaf chwi fod fy ysbryd yn hollol ddiwenwyn ae mewn dau neu dri o nodiadau byrion eto ceisiaf awgrymu rhyw bethau a all fod yn gymorth i rai o'r adrpddwyr ieuainc. Celfyddyd rag- orol ydyw adrodd, ac y mae eisieu i fechgyn a merched Cymru ddod yn fwy meistrolgar ynddi. SHON CHWARE TEG. [" Ystafell y chwynnu" a ysgrifennwyd.— GOL.]

Ffetan y Gol.

Advertising

SIACED FRAITH.

I Clep y Clawdd.

Advertising

[No title]

Treiwn Weddi. I

" Pedrlyn sefyll gyda'r un…

[No title]

Advertising