Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Deddf Cynyrchu -Yd, 1917.
Deddf Cynyrchu Yd, 1917. Bwrdd Cyflogau Amaethyddol (Lloegr a Chymru). Gorchyrnyn yn amrywio'r Lleiafdal i weith- wyr sydd mewn grym ar hyn o bryd mewn rhyw diriogaethau yn Lloegr a Chymru, i ddyfod i rym ar y 6fed o fis Hydref, 1919. Fel y mae'n ofynol iddynt yn ol y Ddeddf uchod, gwna y bwrdd Gyflogau Amaethyddol (Lloegr a Chymru) yn hysbys drwy hyn iddynt orchymyn a ganlyn I 1. Rhaid i'r cyfiog am wiutn mewn amaethyddiaeth ymhob tiriogaeth ddes- grifir yn ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gor- chymyn hwn i weithwyr o'r gwahanol ddosbarthiadau ac oed ddesgrifiryn ngbol- oinau 2 a 3 O'r un Atodlen beidio bod yn llai na'r huriau ddangosir yn Ngholofn 4 o'r Atodlen am yr oriau ddangosir yn Ngholofn 5 o'r un Atodlen. 2. Ond os y cyflogir gweithiwr am ei holl amser wrth yr wythnos neu gyfnod hwy, rhaid i'w gyflog am yr oriau gwaith y cytunir arnynt rhyngddo a'i gyflogwr am unrhyw wythnos (gan adael allan oriau gwaith goramser) beidio bod yn llai na'r swm ddangosir yn ngholofn 4 o'r Atodlen y cyfeiriwyd ati ac yn gymhwysiadol at y gweithiwr hwnnw, hyd yn oed os yw'r oriau hynny yn llai na'r oriau ddangosir yn ngholofn 5 ac yn gymhwysiadol iddo. 3. Ac os yw gweithiwr a ddaw o dan y Gorchymyn hwn heb gyrhaedd deunaw oed, bydd i'r lleiafdal. a'r chwanegdal yn ystod y ddau fis cyntaf iddo weithio mewn amaeth- yddiaeth yn llai o 20 y cant fy burned ran) na'r huriau a fyddai yn gymhwysiadol iddo onibae am y ddarpariaeth hyn. 4. Yn y diriogaeth ddesgrifir yn nghol- ofn 1 o'r Atodlen y tal gwahaniaethol am waith goramser i weithwyr o'r gwahanol ddosbarthiadau ac oed a ddangosir yn ngholofnau 2 a 3 o'r Atodlen fydd yr huriau ddangosir yn ngholofn 6.. 5. At bwrpas yr huriau uchod golyga gwaith goramser (a) Ymhob un o'r tir- iogaethau dywededig ac i weithwyr o'r dosbarthiadau a'r oed dywededig y gwaith a ddesgrifiryn ngholofn 7 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn (b) yn yr oil o'r tiriog- aethau dywededig a'r gweithwyr o'r dos- barthiadau o'r oed dywededig (ag eithrio unrhyw achos a gauir allan yn benodol yn ngholofn 7 dywededig) pob gwaith dros ben 61 awr ar ddydd Sadwrn neu ddiwrnod arall (ag eithrio'r Sul) ymhob wythnos fel ag y cytunir rhwng y gweithiwr a'i gyflogwr. Yn yr Atodlen ddywededig golyga'r ym&drodd gwaith yn yr haf waith yn ystod y cyfnod yn dechreu ar y fJun cyntaf yn mis Mawrth ac yn gorphen ar y Sul olaf ynmis Hydref a golyga'r ymadrodd "gwaith yn y gaeaf" waith am y gweddill o'r flwyddyn. 7. At bwrpas yr huriau uchod ni ohynwys yr oriau gwaith amser at f wyd, ond cynwysant unrhyw amser pa bryd, oher- wydd y tywydd, y rhwystrodd meistr weithiwr i weithio ac yntau'n bresennol yn y lie ac yn barod i weithio. 8. Mae a fynno'r Gorehymyn hwn a phob gweithiwr a weithia ei holl amser neu ran o'i amser mewn amasthyddiaeth yn ystyr Adran 17 (1) o Ddeddf Cynyrchu Yd 1917, yn unrhyw diriogaeth a ddesgrifir yn yr Atodlen i'r Gorehymyn hwn yn ystod yr amser a weithia felly. 9. Bydd y Gorehymyn hwn mewn grym ar y 6ed dydd o fis Hydref, 1919. 10. O'r dydd y daw'r Gorehymyn hwn i rym, amrywir neu dirymir y Gorchymynion a wnaed gan y Bwrdd Cyflogau Amaethydd- yddol yn penderfynu Ileiafdal a chwanegdal ac yn deffinio gwaith goramser mor bell ag y mae yn angenrheidiol i roddi grym i'r Gorehymyn hwn. DYFYNIAD O'R ATODLEN. Yn cyxinwys yr HURIAU i WEITHWYR a fyddant mewn grym ar y 6ed o Hydref, 1919. 2 ( 3 4 5 6 f 7 Desgrifiad Dosbarth o Oed Y Llei- Oriau Chwanegdal Gwaith am yr hwn y telir o'r Tiriog- Weithwyr afdal Gwaith chwanegdal yn ychwaneg- aethau am —————— ————————— ol at yr amser mewn un wyth- Yn Yn Ar Ar diwrnod ymhob wythnos nos yr y ddyddddydd am yr hwn y telir chwan- Haf Gae- gwaith Sul dal yn ol adran 5 (b) uchod af (oddigerth mewn achosion a gauir allan yn benodol isod). Siroedd Gweithwyr 21ifyny 43 6 10c. 1 j- Pob gwaith dros ben 61 awr gweinyddol a weithiant 21 a than 20 42 0 61 58 91-c. 1 -1,-c yn unrhyw wythnos (yn cyn- Dinbyeh a ynhollol 19 a than 20 41 0 9Jc. llc nwys y Sul) yn yr "haf." Pflinta neu'n benn- 18athanl9 39 6 9c. He Pob gwaith dros ben 58 awr phlwyf af yn diIyn yn. unrhyw wythnos (yn Llysfaen ceffylau, cynnwysySul) yn y" Goo- yn Arfon. gyda'r da, af." neu fel bug- ailiaid neu feiliod gwaith. 21 iiyny 36 6 50 48 10c 1/- Pob gwaith ar y Sul 20athan21 35 0 9ic Ille Pob gwaith dros ben 50 Gweithwyr 19 „ 20 34 0 9!c llie awr yn unrhyw wythnos ere ill. 18H 19 33 0 9c lie (gan adaelallan ySul) yn 17 „ 18 26 0 7c 8!c yr Haf." 16 „ 17 22 0 6c 7ie Pob gwaith dros ben 48 15 „ 16 180 5c 6c awr yn unrhyw wythnos 14 15 14 0 4c 4ic (gan adael allan y Sul) yn o dan 14 1010 3c 3ie y" Gaeaf." Ni bydd a fynno adran 5 (b) o'r gcrchymyn uchod a gweithiwr (pa un a yd- yw yn y dosbarth arben- ig ddisgrifir uchod ai peid- io) sydd drwy gytundeb a'i gyflogwr a hawl i wythnos o wyliau ynghyd a thai cyflawn neu wyth- nos o waith a thai dwbl ymhob hanner blwyddyn. Dyddiedig 25ain dydd o Fedi, 1919. Arwyddwyd dros y Bwrdd Cyflogau Amaethyjidol, E. W. MOSS-BLUNDELL, Y sgrifennydd. Bwrdd Cyflogau Amaethyddol, 80 Pall Mall, Llundain, S.W. L DALIER SYLW.—Cyhoeddir y cyfieithiad uchod o Orchymyn gan Fwrdd Cyflogau Am- aethyddol er mwyn hwylusdod i'r rhai siaradant Gymraeg Nid oes grym eyfreithiol ond gan y Rhybudd Seisnig.
Goreu Cymro: y Cymro Oddicartref.
Goreu Cymro: y Cymro Oddicartref. PRESCOT. Hyd. 9 cynhaliodd Cymdeithas Ddiwylliadol Ebenezer (A.) gyfarfod amrywiaethol cyntaf y tymor. Cyfarfod hwyliog, yr ysgoldy'n llavra. Mr. T. J. Foulkes yn llywyddu Mr. John Williams, yn ysgrifennydd; Mr. D. J. Foulkes yn drysozydd. Canodd Miss Annie Evans, Blodwen Treherne a Mr. D. J. Foulkes. Adroddodd Isaac Williams, T. E. Whitley, T. H. Williams. Caed detholiad ar y piano gan Phillys Jones. Cyfeilydd, Mr. J. W. Whitley. Tryphena Williams yn oreu yn y ddwy gystadleuaeth i'r plant, a Miss Marion Black- well i'r rhai mewn oed. Mr. William Whitley a Mr. Henry Williams, yn diolch i bawb am eu gwasan- aeth. Terfynwyd trwy ganu Hen Wladfy Nhadau, Mr. D. J. Foulkes yn canu'r unawd.-E.W. WIDNES, MILTON ST. (M.C.).—Gwasanaethwyd ya yr wyl bregethu flynyddol Medi 20 a'r 21, nos Sadwrn gan y Parch. Daniel Davies, Liverpool, a'r Saboth, y Parch. Caleb Williams, B.A., Bwlan. Pasntiwyd y capel cyn yr wyl, ac'er drudaniaeth liafur a defnyddiau, casglwyd digon a gweddill at y costau. Diolch igaredigion yn Liverpool a lleocdd eraill am gyfraniadau hael a gafwyd drwy law y Parch. G. Gwynant Owen. CREWE.-Hyd. 3, cynhaliwyd y cyntaf o gyfres cyfarfodyddadloniadolsyddwedieutrefnu argyfer tymor gaeat y Capel Annibynnol Cymraeg. Llywydd- wyd gan Mr. R. Williams, a chymerwyd rhan mewn canu ac adrodd gan Madam Mollie Williams, Miss Chalmers, Mr. Trevor Owen (Llangollen), Mr. Jones a'i barti. Enillwyd y wobr am ddarllen darn heb atalnodau. gan Miss Menai Williams, ac ar y ddwyawd gan Miss Francis Jones a Menai Williams. Beirniad y darllen, Mr. P. A. Davies, a'r ddwyawd, Mr. Jones, Ffestiniog, a R. Llovd. Cafwyd hefyd nirer o straeon cartrefol gan Mr. Pierce. Gwasan- aethwyd wrth yr offeryn gan Miss Mena Pierce. Cafwyd cwpaned o de a chacen gartref gan y chwior- yddar y diwedd. Cynulliad lluosog, brwdfrydedd uohel, ac argoeldda am y dyfodol. LLANFTNTDD.—Cynhaiiwyd cwrdd cystadlu jaewm canu ac adrodd, perthynol i'r Wesleaid, yng f Nghapel Penuel nos Fercher, Hyd. i. Y Capel dan sang; a gresyn na fyddai yn y He adeilad helaethach i gynnal cyfarfodydd o'r fath. Ymgeisiai dau barti ar ganu Blodeuyn bach wyf fi mckn gardd; goreu, Parti Llanarmon, dan arweiniad R. Jones. Enillwyd y brif unawd a'r unawd soprano gan Mrs. Gwladys Johnson, Coedpoeth unawd tenor, Jabez Trevor. Coedllai; unawd baritone, J. Arthur Jones, Tryddyn, deuawd, Mrs. Gwiadys Joh nson a J. Francis Jones, Gwrecsam; unawd contralto, Miss G. Simons; Gwrecsam am gyfansoddi ton gynulleidfaol, W. R; Hayes, Llanfynydd; prif adroddiad, W. G. Roberts, Coedpoeth. Tafolid y canu gan J. Pryce Hughes F.T.S.C., Coedpoeth, a T. E. Williams (Ccedfardd), Coedllai, a dafolai'r adrodd. Cyfeiliwyd gan Alys Gordon, Tryddyn. Y Bonwr Aspinall (masnachwr llwyddianus o ddinas T Brython) a gadeiriai, a'r awenau yn Haw y Parch. R. M. Jones. Cyfarfod llwyddiannus ymhob ystyr. RHOSLLANNERCHRUGOG.—Nos Wener ddi weddaf yr oedd y Ford Gron-mam Cymdeithasau Llemyddol yr ardal-yn dechreu ar ei deuddegfed tymor ar hugain ag anerchiad gan Mr. J. H. Jones, Gol. r Brython, ar T Gadatr Wichlyd. Cynulliad rhagorol, a'r darlithydd yn ei hwyliau goreu. Ar. frwyd y doethineb mwyaf gan Lywydd y Gym. deithas-y Parch. Wynn Davies—trwy'n unig gyflwyno'r Gol. i'r gynulleidfa, heb gymeryd dim o amser y siaradwr, megis y mae arfer rhai. Cafodd Mr. Jones y croeso mwyaf gwresog, a'r gwrando astud yn dangos yn eglur fod pawb yn mwynhau'r ddarlith drwyddi draw. Nid wyf am ddyfynu dim ond yn unig erfyn arnoch, Mr. Gol., garlamu'r Merlyn i bob plwyf yng Nghymru i gyflwyno neges y Gadair iddynt. Credaf na fydd i chwi glvwed v Gadair yn gwichio cymaint ar ol bod yn y Rhos. Mae amryw wedi penderfynu ceisio cael ei choesau'n fwy cyfartal Brysiwch yma eto.-Ap Rhys
YN EtSIEU.
YN EtSIEU. I YN EISIEU-Bachgen wedi cael addysg dda, mewn cyfrifdy (Counting House), Ymofynner trwy lythyr a W. H. Watts & Co., Ltd., Compton House, Liverpool-
Annibynwyr Glannau Mersey.
Annibynwyr Glannau Mersey. Eu Cymanfa a u Cyfeiilach. I Y Deng Utgorn Arian. DYMA'r gwyr a ddaeth i gadw Cymanfa Bregethu flynyddol Annibynwyr Cymraeg Glannau Mersey elcpi :-y Prifa-thro T. Rees, M.A., Bala-Bangor y Parchn. J. Rhydderch, Pwllheli Edw. Jones, M.A., B.D., y Rhyl; D. J. Davies, B.A., Llanelli H. T. Jacob, Abergwaun O. Jones, Nant Ffrancon J. L. Williams, M.A., B.Sc., Caerdvdd R. Gwylfa Roberts, D.Litt., Llanelli Gwilym Rees, M.A., Pont y Pwl W. J. Nicholson, Porthmadog. I Cyfeillach y Tywalltiad. Cynhaliwyd y Seiat Fawr yng nghapel Grove St. nos Sadwrn, dan lywyddiad Mr. RD. WILLIAMS, y Tabernacl, a'r Parch. J. RHYDDERCH yn dechreu a darUen a gweddio. Ebe'r cadeirydd, wrth fwrw oras olwg dros hanes yr eglwysi yn ystod y flwyddyn :—Y mae' tair o eglwysi c)-frifol heb weinidogion i ofalu amdanynt er y Gymanfa o'r blaen dau weinidog wedi ymddiswyddo'r Rwyddyn hon. Nid wyf wedi cael manylion Hawn am yr holl gyfeill- ion sydd wedi ymado drwy angaai. Y llynedd rhai o'r addoldy hwn oedd wedi eu colli, ond eleni y lleoedd gweigion sydd yn Park Road a'r Ta,bernaci sydd yn peri y bydd y Gymanfa yn brudd i lawer ohonom. Y ddolen bellaf yn ol yn hanes cymanfa ein heglwvsi yma oedd y fam yn Israel, Mrs. Robert Davies, Park Rd., a'r agosaf ati oedd y brawd Mr. Wm. Jones, y Tabernacl. Cymanfa bregethu, y Ty a'i waith, oedd pethau rnawr y ddau. Y gair olaf glywais i gan Mr. Jones oedd yn y gyfeillach yn y Tabernacl, yn adrodd ei brofiad o'r nerth a'r byfrydwch yr oedd wedi ei fwynhau y Sul cynt wrth wrando pregeth ar yr addewid fawr, Wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd diwedd y byd." Yr ydym yn teimlo'n hiraethus a chwith ar eu hoi, ae ar ol llawer eraill. Y Gwr a addawodd Ei bresenoldeb i'w bob) hyd ddiwedd y byd, fyddo'n gysgod i'r teuluoedd. 'D oes dim ond yr Ysbryd I Glan am,dani Esaia xxxii 15-18 oedd testun y Gyfeillach TYWALLTIAD YR YSBRYD A HEDDWCH oedd y gainc gyntaf ac ebe'r Parch. H. T. JACOB, wrth agor :— Y mae Esaiahy ma'n tynnu dtWi. ddarlun, er mwyn dangos eyflwr cymdeithas yn ei ddydd.. Yr ydych fel pe buasech yn sefyll ar dir uchel ac yn edrych dros y wlad, wedi tymestl fawr. Pob pren yn grin, pob llwyn yn wyw dim ffrwyth yn unman. Y bwthyn a'r plas yn cael eu gwagu. Yr ydych wedyn megis yn cau eichllygaid, yn eu hail agor ac yn edrych i'r un cyfeiriad. Mae'r olwg wedi newid. Pob llwyn yn hawddgar, awel ber a miwsig yn tonni drwyddi, a'r meysydd yd fel fforestydd aur. Ac yr ydych yn gofyn, Sut y bu ? Mae'r proffwyd yn cyfrif amdano-tywalltiad o'r Ysbryd. Busnes proffwyd ydyw dweyd y gwir am bechod, a dweyd y gwir am santeidd- rwydd. Dweyd hefyd fod pob difrod a ddaeth i ddyn erioed wedi dilyn pechod, a bod pob trefn a hawddfyd a ddaeth yma erioed wedi dilyn santeiddrwydd. Geilw rhai pobl am direct action, ac yr wyf fi yn cydweld a hwy ond cael direct action yr Ysbryd ac nid eiddo Mr. Smillie. Mae'r gwirionedd yma cyn hyned a'r ddaear-mai Ysbryd Duw sydd i wneuthur trefn ar y byd. Buom yn llefain fellIef unig yn yr anialwch, ond erbyn hyn y mae hi'n dechreu newid, ac vn v He mwvaf annhebyg-ymhlith seneddwyr. Yn v y cynghrair a fu yn Llundain dro'n ol, dywed- odd Argl. Robert Cecil "that there was only one means of ensuring peace-that was spirit- ual." Yr un wythnos, mewn ysgrif yn un o bapurau y dydd, y mae Seneddwr arall yn dweyd No form of human society can have within itself the qualities of permanency unless it is founded upon a sound ethical basis." Mae'n dda gweld seneddwyr yn dilyn pregethwyr. Ddaw gymdeithas byth yn gymdeithas iach hyd nes y ceir y pethau yna, a cheir mor pethau hyd oni thywallter yr Ysbryd. Ni fedr cymdeithas ddim ei hachub ei hun, mwy na'r unigolyn. Y mae'n rhaid wrth help rhywun o'r tuallan iddi. Y mae gobaith pechadur o'r afael sicraf fry." Mae'r byd fel pe buasai'n eistedd ar fynydd tanllyd. Ffrwydro y mae bob dydd streic bob yn eilddydd. Beth sydd yn mynd i ddiffodd angerdd y tAn ? A oes gobaith ? Oes Bau gyda'r prydferthaf yn y byd ydyw y Bay of Naples. Ond safn Ilosgfynydd oedd o yn y dechreu, a phan welodd y Mediterranean gyfle, fe lifodd i. fewn ac fe lanwodd yr hen safn. Dyna sydd eisiau yma. Wedi i for yr Ysbryd lifo i fewn i hacrwch cymdeithas bydd ambell hen was yn barod i ddweyd Yr awr hen, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth.
[ 3 -" Fw du mewn mae Duw'n…
3 Fw du mewn mae Duw'n myne d -TreborMai. "A GWAITH CYFIAWNDER FYDD HEDD- WCH —dyna r ail game ac ebe r Prifathro REES:-Nid pregethu cyfiawnder i Asyria y mae'r proffwyd, yr ymerodraeth fawr oedd a swn grymus yn ei cherddediad. Pregethu cyfiawnder i Juda y mae, am mai yn Juda y mae'n preswylio Sut y mae cymhwyso'r genadwri hon er arweiniad a benditth i ni, eglwysi a phobl yr Arglwydd lesu Grist, ynghanol y cyfnod anodd a thrafferthus, ac eto y cyfnod mawr, addawol o heddwch yr ydym yn ei ganol ? Y mae un peth yn debyg iawn yn ein hanes ni ag oedd yn hanes y bob! y traethir amdanynt Y mae arnom eisiau heddweh, a choeliaf bod pawb ohonom yn awyddu am beddweli i gyniweirio trwy gyfansoddiad y byd. Y mae'n rhaid dechreu gwneuthur cyfiawnder gartref, gosod ein ty ein hunain mewn trefn, cyn y gallwn drefnu y byd o'n cylch, ym Mhrydain yn gyntaf, nid yn Germani na Japan Y mae peryglon pob gwlad oddi- fewn iddi ei hun, ac nid oddiallan. Caw. som enghraifft nodedig o hyn yn y streic yr wythnos ddiweddaf, a'n dug yn agosach i'r dibyn mewn wythnos na phum mlvnedd o ryfel oddiallan. Y mae Rwsia'n esiampl o ddrwg yn berwi trosodd, ac yn y diwedd yn troi'n ddinistr iddi hi ei hun. Beth y mae y cyfiawnder yma yn ei olygu ? Bywyd iach mewn dyn, rhwng dyn a dyn, rhwng dosbarth a dosbarth a rhwng dyn a Duw. Y mae y gair cyfiawnder" yn air mawr gan y proffwyd. Mae'n fwy o lawer na chyfiawnder clorian, yn helaethach na chyfiawnder yr ysgritenyddion a'r Phariseaid. Mae'n sicr y golyga fywyd moesol. Ym- olchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiweh a gwneuthur drwg," etc. Y mae cyfiawnder Esaia'n cyynwys tost ri. "Am hynny yr ymddyrchaif i dosturi." Y mae Esaia yn condemnio trachwant. Gwae y rhai sydd yn cysylltu ty at dy, ac yn cydio maes wrth faes hyd oni byddo eisiau lie, ac y trigoch chwi yn unig ynghanol y tir." Balchter ydyw un peth arall yn groes i gyfiawnder. A moethusrwydd. Gofyn am fwy o gynnyrch bywyd nag a fedr bywyd roi i bawb. Anghymedrolder: Gwae goron balchter, meddwon Ephraim." Y gwastraff-,y trachwant,yr anghymedrolder mewn boddio holl nwydau bywyd Y mae y rhai hyn yn achosion rhyfel,oherwydd y maent yn torri dros y terfynau. Pa sicrwydd fedri di roi inni y bydd i'r cyfiawn- der a'r bywyd ysbrydol yma sicrhau ein diogelwch 1 Nid oedd atebiad y proffwyd wrth fodd pawb. Gwae y rhai a ddis- gynnant i'r Aifft am gynhorthwy ac a ymddiriedant mewn meirch," etc Ym ddiried yn yr Arglwydd—dyna mae'r I proffwyd yn ei gynnyg fel yr unig ?Mara??.c y bydd i gyfiawnder gynhyrchu a sicrhau heddwch A dyna sydd gen innau i'w gynnyg ichwi, Oes yr LOU. I Cainc III GWEITHRED CYFIAWNDER FYDD IXONYDDWCH A DIOGELWCH," ac ebe DR. GW)' LFA I{OBEltTS :Ðyna'1' ddau beth sydd ar goil yn y wlad yma hedd- yw, llonyddwch ac ymdciiriedaeth. Yr ydym wedi caei heddwch, mown enw o 1ciaf,ond rhaid inni gaei mwy na'r heddweh allanol' yma. Rhaid inni gael llonyddwcii ac yrn- ddiriedaeth eto. Heddweh yn ei ochr esmwythaf ydyw llonyddwch. Diogelwch yn ei gadernid ydyw ymddiriedaeth. Nid yw'r heddweh a gawsom ni fis Tachwedd diweddaf ddim wedi cyrraedd y fiuri es- mwythaf yma eto. Nid ydyw wedi troi'n llonyddwch. Nid yw wedi dod yn dawelwch tirion, yn hamdden ac yn orffwystra ac yn sefydlowgrwydd. Dyna ydyw heddweh, medd Cicero, rhyddid tawel rhyddid a rhyw ymorffwys ynddo. Trwst wedi peidio ac anesmwythyd peryglus wedi difiannu, a rhyw orfiwys wedi dod. Ac nid ydym weai caei nwnnw yn y wiart yma eto. iNicl llonyddwch marw yr wyf yn ei olygu. Nid ydyw hwnnw i'w chwennych, ond y llonydd- weh sydd yn ffafriol i bobpeth o werth i ymgryfbau. Y mae adegau i gynhyrfu gwlad. Y mae eisiau ysgwyd teyrnas fel hon weithiau, er mwyn dangos ei bod yn fyw, oblegid aflonydd ydyw pob bywyd iach. Nid oes raid inni ofni pob afionydd- wch. Nid ydyw pob anniddigrwydd mewn gwlad i'w ofni. Yr oedd yma dynnu i lawr yn y wlad yma cyn y rbyfel. Yroedd siglo ar hen draddodiadau a syniadau. Yr oedd symud ar arferion gormesol a'r anghyfiawnder mewn llawer cylch. Yr oedd pobl yn teimlo fod <jyd gorthrwm ac un- bennaeth wedi mynd heibio. Ond yr oedd cael gwared ohonynt yn golygu tipyn o wrench yma ac aew, ac yn galw am ddaear- gryn. Yr oedd yn bosibl gwneuthur ffyrdd newyddion i fywyd drwy greigiau a moroedd, ond ni wneid heb rwygo a chloddio, a defnyddio dynamite weithiau. Felly yeidiwn a chondemnio'r cynhyrfu yma i gyd Mae'n werth ei oddef i gyd, os cawn iachawdwriaeth i rywrai yn ei sgil. Ar ol dweyd hyn yr wyf yn credu y cytunwn fod dipyn o lonyddwch yn beth i'w ddymuno, Y mae eisiau tiriondeb yr haf'yn gystal a stormydd y gaeaf i wneud blwyddyn doreith- iog, 'Fedrwn ni ddimsetlo i lawr ynghanol daeargrynfau. Nid ydyw y ffermwr yn aredig drwy'r flwyddyn. Y mae amser i hynny, ond y mae amser i gynhaeafu hefyd. Nid ydyw y meddyg yn cadw'r claf yn yr operating theatre yn barhaus. Y mae eisiau gwely. Y mae eisiau rhywbeth yn y wlad heblaw ymrafael a streicio o hyd. Y mae arnom eisiau y llonyddwcii hwnnw sy'n gyfle i feddwl a meithrin myfyrdod dyfnach. Y mae meddylgarwch ar goll yn y wlad yma. Mae anesmwythyd y wlad wedi diwreiddio'r meddylgarwch. Y mae popeth wedi mynd yn fas ac yn arwynebol. Un o'r anhawsterau mwyaf heddyw ydyw cael gan bawb eistedd i lawr a meddwl tipyn,yn lie byw ar dameid- iau. 'Fedrwch chwi ddim wynebu cwest- iwn mawr ynghanol trybestod. 'Fedrwn ni ddim cael y cymeriadau cryfaf heb inni feddwl. "Character is concentrated thought." Yr ydym yn cwyno fod addolgarwch yn darfod, bod pob ysbryd ond ysbryd cymuno a Duw. Y mae y gallu i amgyffred y presenoldeb dwyfol fel pe buasai'n mynd, a'r ysbryd fel pe buasai'n colli ei afael ar fywyd y wlad. Rhaid inni gael tawelwch i fagu ysbryd addoli. Yn y distawrwydd llonydd ar lan afoli. Chebar y daeth Duw wyneb yn wyneb ag Ezeciel. Yn nistawrwydd Arabia y cafodd cymeriad Paul ei ddyfnhau. "Getting quiet does one good," meddai General Gordon, "■ it is impossible to hear God's voice otherwise. You must be in the desert to see and weigh the true value of things." Nid ydyw hyn yn dweyd na fedrwn wasanaethu Duw ynghanol berw'r byd. Nid oes angen inni fod yn feudwyaid ac yn fyneich, ond y mae lesu Grist ei hun yn awgrymu fod mynd i neilltuaeth rhyw ystafell a chau y drws yn help i gymundeb a Duw. Y mae arnom eisiau y llonyddwch hwnnw sy'n helpu dyn i setlo i lawr i'w waith hefyd. Y maent yn dweyd ein bod wedi cael hawl i fyd newydd, ac y mae ei eisiau, ond nid ynghanol cythrwfl a rhuthr am ysbail y deil at ei gilydd. Yr ydym ynghanol clwyfau ar ol pum mlynedd o waedu. Tybed nad oes arnom eisiau dipyn o lonyddwch i'r briwiau fendio ? Rhwygo'r hen friwiau y mae cyffro. Byd dolurus iawn yw hwn, ac y mae angen heddwch ac es- mwythyd. 'D oes dim ymddiriedaeth rhwng gwlad a'r llywodraeth, ddim rhwng gweithiwr a meistr, ddim rhwng prynwr a gwerthwr. i Byddai gan yr hen bobl ymddiried go fawr yn ei gilydd. Trystient eu bywyd y naill i'r HalJ. Ond yn awr, 'thrystiant mo'i gilydd led y stryt. Rydd dyn ddim benthyg dernyn tair i'w gymydog heb gael I.O.U.; ac os bydd ar ddyn eisiau swydd, rhaid iddo gael hanner dwsin o destimonials i ddweyd ei fod yn onest. Pobl yn drwg dybio'i gilydd, fel pe buasai pawb yn lladron. Duw helpo gwlad sydd fel yna Fedrwn ni byth fynd ymlaen fel hyn. Y mae yn rhaid deffro ymddiriedaeth i bob Cylch. Llonyddwch ac ymddiriedaeth. 'Cheir dim o werth heb y rhain. Y maent ar goll i raddau heddyw. Sut y gellir eu cael yn ol ? Yn sgil cyfiawnder, medd y frawddeg yma. Dyma i chwi rywbeth y medrwn ei alw'n dragwyddol. "Hyd byth." Nid effaith compromise" ydyw. 'Fedr hwnnw mo'i sicrhau hyd byth. Nid eHaith rhyw fath o awdurdod unbenaethol ydynt. Effeithiau cyfiawnder ydynt hwy: Nid ant i'r bywyd personol nac i'r bywyd teulu- aidd, nac i'r bywyd gwleidvddol, ond yn sgil cyfiawnder. Dyma egwyddor dragwydd- ol, ar hyd llwybrau cyfiawnder. Y mae yma ryw lun o grefydd, ond y mae eisiau ei thrydrnvi, ei liange-i-ddoli a'i gwneuthur yn fwy real. Beth fedr wneud ? Dim ond yr Ysbryd o'r uchelder. Byddwch yn Ilonydd, da chwi! Caine IV A'M POEL A DRAG M KV. N PRE- SW YLFA HEDDYCHLAWN, AC MEWN ANEDDATT DIOGEL, AC MEWN CORFFWYSFAOEDD LLON. YDu." Y Parch. W. J. NICHOLSON Y mae yma rhyw dangnefedd dwyfol dim cyffro dim byd tehyg i banic. Y trigolion yn ddiwyd. Mae yna. fywyd, ond dim excitement afiach.. Pob nnpedd yn ddiogel. Gwelwch y plant yn .a wrth y drws acw., Pan fydd pob mynd i'w orweddfa, y mae yn cael llonydu i ddad- luddedu. Rhyw olygfa fel yna y rnae'r proffwyd yn ei gael. Leiciwn weld peth fel yna yn y wlad yma. Mae'n ddarlun mor dhvs. Nid vw'r brwydrau gwaedlyd ddim i gyd drosodd. Ond wvddoch chwi, y mae un peth wedi digwydd. Y mae'r rhyfel mawr rhyngom ni a Germani wedi gorffen, ac y mae mamau a phlant bach ar yr East Coast yn mynd i gysgu ->"B dawel ac yn ddibryder bob nos. Y mae hynnv'u beautiful. Ac y mae swn prysurdeb feverish y munition factcrics ar ben. Gwaith araf iawn ydyw crefydda, yn debyg iawn < ddringo mynydd. A rhaid inni orfiwvs yn ami er mwyn adnewyddu'r enaid sydd yn dringo tua'r nef. Y mae yn dda fod y Guide mawr yn mynd yn araf deg, a'i fod wedi trefnu gorffwysfaoedd inni ar y ffordd. Yr oedd awdur Salm xxiii yn gwybod am hyn drwy brofiad. Ef a wna imi or- wedd mewn porfeydd gwelltog, Ef a'm tywys gerllaw y dyfroedd tawel." I beth ? Ef a ddychwel fy enaid." Gwna hynny er mwyn inni ymadnewyddu gyda'r gwaith. Y mae llawer ohonom yn torri i lawr ar yr yrfa grefyddol, am nad ydym yn troi i'r gorffwysfaoedd llonydd. Y mae y Saboth wedi ei fwriadu i'r enaid orffwYE-gorffwys mewn gweddi a maw). Gorffwys tra bydd Ileferydd y Nef yn dod i lawr. Dylai medd. ion gras fed yn orffwysfaoedd llonydd. Nid lie i orwedeian ac i hepian yw'r capel. Y mae ambell un yn meddwl hynny hefyd, o leiaf pan fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal. Yr wyf yn credu y dylem wneuthur popeth a fedrwn i gadw pobl yn effro yn y gwasanaeth, a pheth anodd iawn ydyw gwneuthur hynny bob amser. Dylem ni y pregethwyr ofalu nachaiff eu meddylieu fynd i gysgu. Yr wyf yn credu y dylem weinyddu rhyw orffwysdra i'r enaid. Yr wyf yn credu fod gennym ni y pregethwyr lawer i ddysgu i wneuthur y moddion yn orffwysfeoedd llonydd. Onid ydycb yn meddwlfod gormod lawer o aflonyddweh yn yr addoldai ? Y bobl yn rhutliro i'w seti, ae wedi cyrraedd yno yn sisial a'i gilydd. Ac yr wyf yn meddw] y gallasem wneud mwy o ddefnydd o'r organ i ddwyn hyn o gwmpas, fel y sonnir yn ngeiriau Adelaide Procter yn y Lost Chord. A ydym ni, y pregethwyr, yn pregethu fel y byddo i enaid y bobl gael gorffwys ? Y mae eisiau cynhyrfu ambell i dro, ond cofiwn y mae eisiau tywys y bobl weithiau gerHaw y dyfroedd tawel. Y mae eu hysbryd wedi ei gynhyrfu amoell dro ac y mae eisiau iddynt glywed llais yr Iesu yn dweyd, Deuwch o'r neilltu, a gorffwys- weh encyd." Onid ydych yn meddwl fod arnom eisiau ychwaneg o oriau hamddenol gyda'n. Beiblau ? Y mae dyfroedd tawel yn hwnnw i'n henaid orffwys. Nid oes help i fod yn dawel yn y papur newydd. Dowch ambell i awr i'r Hen Lyfr. Chwi synnech mor dawel yr ai eich hysbryd chwi Paham na allasai y weddi ddirgel fod yn orffwysfa lon- ydd ? Mor hyfryd mynd o'r dyrfa i adrodd fy holl gwyn, heb neb ond Duw a mi. Onid oes rhyw bennill yn son am i'r enaid lludded- ig gael gorffwys ar fynwes fy Nhad ? Y mae ar enaid weithiau eisiau pwyso ar fyn- wes ei Waredwr mewn ffydd a chariad. A dyma'r orffwysfa lonvddafy gwni amdani. Y mae crefydd llawer ohonom yn bur ddi- raen a'n cymeriad yn bur ddirym a'n gwaith yn bur ddiganlyniadau, am ein bod yn esgeuluso'r gorffwysfaoedd a drefnodd y Brenin Mawr ar ein cyfer. Fedrwn ni ddim gorffwys yn iawn os na weithiwn yn iawn, "Mely", yw hun y gweithiwr." Gwaith fydd yn rhoi bias ar orffwys. Cym- orth i weithio'n well ydyw gorffwys yn wastad. Os nad ydyw cwrdd gweddi, neu foddion gras, neu ddarllen y Beibl yn foddion i chwi orffwys, nid ydynt yn cyrraedd diben. Moddion i'n helpu i fod yn loewach Cristnogion ydyw y gorffwysfaoedd. Pan fyddwch wedi bod mewn cwrdd gweddi yn gorffwys, bydd eich wyneb fel y bore, ac mi ewch allan i wneuthur mwy nag eiioed o'r blaen dros y Duw sydd yn rhoi y gorffwys a'r gwaith. Terfynwyd drwy weddi gan y Parch. D. J. Davies, B.A. Un o'r seiadau goreu a'i chenadwri'n ddibetrus i'r amseroedd. Yr addoldy eang' dan sang, a'r gynulleidfa'n gwrando'n astud a llawn mwynhad. f: ,r
[No title]
o 1" TYL WYTHTEG CAERG YBI.—Sef yw'r rheini Y Cor Plant Pais a Becwn a Het Gorun Hir a drechodd pob c6r plant aral yn Eisteddfod Corwen y mis o'r blaen, ac sydd i gadw cyngerdd yn y Linacre Mission Hall nos Fercher nesaf er budd eglwys Saesneg M.C. Orrell. Croten naw oed yw eu harweinydd, a bydd eu gweled a'u clywed yn cwafrio'n hen alawon gwerin y lwledd yn siwr ichwi.