Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Clep y ClawddI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Clep y Clawdd I [GAN TB HUTYN.] I Ofn Pussyfoot.—Gwelir fod pryder wed meddiannu'r Fasnach. Heidia'r bragwyr vnghyd, ac ysgyrnygant ddannedd ar y rhai a wnant bob ymdrech i gael y pechod hwn alian o'r tir. Y mae ofn yr Americanwr sydd vn y wlad hon arnynt. Dyma arwyddi da iawn fod y drwg hwn wedi ei glwyfo. Ni fu fawr o ofu neb ar Bacchus o'r blaen. Credir fod mwv o ofn y Pussyfoot arnynt nag y sydd o ofn y Prif Weinidog. Ofnant fod yna Pussy Cat tu cefn i'r Pussy Foot, ac y bydd yn gwneuthur byr waith ar y llygod dinistriol hyn. Rhyfedd iawn hefyd mae'r tafarnwyr a'r bragwyr yn awr eu hunain yn condenmio'r hen amseroodd djrwg cyn y Rhyfel, sef diota a meddwdod. Daliwch ati, ddirwestwyr penboeth, yr ydych yn ennill tir. Mae'r gelyn yn crynu ac yn ofnt. Yr ydych eisoes wedi ennill banner y frwydr. Ardal iawn i fyw ynddi fydd y Clawdd wedi cael gwared o hwn. Oi mewn Khaki.-—Da oedd cosbi'r milwr ffvrnig a fu mor greulon wrth heddgeidwad yng Ngwrecsam y dydd o'r blaen. Bu'n i waeth nag Ellmyn tuag at ei frawd, ac nid oes air da i'w ddweyd am y cyhoedd yn peidio ag amddiffyn yr heddgeidwad, ond yn ei rwystro i wneuthur ei ddyletswydd. Gwarth yw peth fel hyn hyd yn oed i Wrec- i sum. Heddgeidwaidj! codwch fel un gwr, a mynnweh gael allan pwy oedd y rhai hyn. Dyma uno'rpethau mwyaf ysgeler a fu yng Nghyximi ers canrif. Ymhle mae'r ynadon ? Llwyddiavt i Wat-kins.—Dyma efengylydd vrall wedi ymsefydlu yng Ngwrecsam—y Parch. W. R. Watkins, yn weinidog gyda'r Bedvddwvr. Daeth yma o Lanfair Cacr- einion, ag enw da iddo. Disgwylir llawer oddiwrtho. Rhoddwyd cynghorion gworth- fawr iddo gan y Parch. W. B. Jones, Pen- ycae. Encil y da.—Bu Mr. Charles Dodd, -Cwrecsam, yn yr un ysgol am banner canrif. Ar ei ymneilltuaed, rhoddwyd iddo gadair gymfforddus a chloc hardd. Fe fyddai'n iawn o beth pe bai y fo, a Mr. Davies, Bwlchgwyn, a Mr. G. J. Jones,—yr 'hen ddwylo sy wedi gwneuthur cystal gwaith,— yn ffurfio matho dreibiwnal i ddadleu hawl- iau'r holl athrawon am well cyflog, a wir liaeddant. Dyma'r dynion i ennill clust y wlad ac i agor llogellau'r pwyllgorau. Hwi ati. Hwdiwch, Wilfred.—Mae y Rhosiaid wedi cymryd at dystebu Mr. Wilfred Jones, ac wedi cynnal cyngerdd i'r perwyl hynny. Llywyddwyd gan Dr. Caradoc Roberts. Dywedoddyiiaillgerddor bethau gwych iawn am y llall, a hynny'n frawdol a charedig. Mae Mr. Jones wedi gwneuthur gwaith odiaeth o dda yn y cyleh hwn am chwarter canrif. Cafodd pob achos elusengar gym- wynaswr pur ynddo bob amser, a rhyfedd gymaint fedr cerddor wneuthur yn y cylch hwn. Mae'r Rhos yn hoff o gerddoriaeth, ae yn magu cerddorion gwych o genhedlaeth i genhedlaeth. Beibl i'r byd.-Cynhaliwyd cyfarfod blyn- yddol Cymdeithas y Beiblau yng Ngwercsam yr wythnos ddiweddaf. Cynulliad da, ac anerchiacl rhagorol gan y Parch. Wellesley Jones. Da gweled fod y Gymdeithas Gym- raeg mor lewyrehus yn y y dref. Anwylddyn Bwlch Gwyn.Does neb mor annwyl ym Mwlch Gwyn a'r cyffiniau a Mr. W. Davies, yr ysgolfeistr, sy'n athro medrus, ac wedi ennill serch a chalon y gymdogaeth. Gwnaeth bopeth a fedrai er budd ei ardal, ac nid rhyfedd felly, ar e ymddiswyddiad, fod yr ardalwyr fel un gwr wedi ei anrhydeddu 3, chodaid drom o aur- a'r swm yn cyrraedd yn agos i dri ffigiwr. Rhoddwyd iddo hefyd album prydferth. Hyderir y gellir cadw Mr. Davies yn yr ardal yn ystod blynyddoedd ei seibiant. Mae ei blant hefyd wedi ennill gair da a lleoedd uchel. Dadsefydlu' r Fasnach.—Dyna yw barn y Meddyg Llwyd Owen, Cricieth, Cadeir- ydd y pwyllgor lleol. Gwr pybyr dros ddirwest yw'r meddyg, a'does fawrawr wna fwy nag ef i'w hyrwyddo. Cred y dylid ar hyn o bryd gael ymgyrch i ddadsefydlu y fasnach yn llwyr yng Nghymru. Da iawn, Llwyd ab Llugwy. Bachgen y Clawdd yw ef.

Beirniadaethau Corwen.

Advertising

Basgedaid o'r Wlad. I

Advertising