Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Syr Henry Jones ar y Glannau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Syr Henry Jones ar y Glannau. 1—Mewn Seiat Groeso. I Ymae CymdeithaS Genedlaethol Gymreig Lerpwl yn bymtheng mh,ydd. ar -hng8:m oed, ac wedi mwynhau ami I wledd feddyliol gan brif broffwydi'r genedl yn ystod y tymor hwnnw ond prin y cafodd hi enoed fwynach a brasach gwledd nag a gafodd nos Wener ddiweddaf, wrth groesawu Syr Henry Jones, D.Lit., Glasgow, ar ei haelwyd yn y Royal Institution, Colquitt Street. Er eymaint y galw sydd arno, ac er pelled y daith o'r Alban, cynsyniodd a ehais taer swyddogion y Gymdeithas i roddi un cyfle arall i Gymry Glannau Mersi roddi am- lygiad digamsyniol o'u hedmygedd o'i athrylith a'i yrfa fyd-enwog ac o'u serch dwfn tuag ato, oblegid ei anwyldeb a'i gar- edigrwydd di ben draw at ei gydwladwyr lie bynnag eu cwrddo. Treuliwyd yr awr gyntaf —o saith tan wyth-yn ymgomio, straeo tan fwynhau'r byrddaid brith o ddanteithion a baratoisid ar draul Mr. David Jones, llvwydd y Gymdeithas, ac wedyn ymneill- tuwyd i'r ystafell fwyaf, lle'r oedd rhai can- noedd wedi ymgynnull, a lle'r aed ymlaen fel y canlyn :—Mr. David Jones yn dwedyd gair byr o groeso i Syr Henry, ac yna'n trosglwyddo'r awenau i ddwylo'r Parch. J. O. Williams, M.A. (Pedrog), yr hwn a hwyliodd y Seiat Groeso mewn ffordd hynod o hawddgar a deheuig. Dyma'i gyfarchiad barddonol i'r gwron a groesewid Gwalia oedd yn hyglyw waeddi-am wawl Ym myd philosoffi A Ffawd wen i'w hangen hi Roi gun'anrheg yn HENRI. Ni chai coleg nychu calon—Gymreig Y mawr wr oedd Frython Trwy addysg y ter wyddon Mwyhau a^wnai fflamau hon. "¡¡- -Si!r;;¥a,¡'i" G di 101 geir hyd ei wlad-i gara fttR Gwerin a'i dyrchafiad Ceir o'i ol, lIe 0gwasgar had, Gnwd o egin diwygiad. Dysgedig d'wysog ydyw,-ond ni wad Ei hen iaith ddiledryw Lion gyweirnod Llangernyw Yw'r dine lan a red i'n clyw. IIAC wele ddau bennill a gafwyd i Syr Henry gan Pedr Hir, fy mrawd mawr," chwedl Pedrog amdano wrth alw ar y Gwr Hir ymlaen Wrth feddwl am Syr Henry 'Rwy'n cofio am ei fam, Ac am ei dad, wr glandeg A gwisgi iawn ei gam, A'r aelwyd lan lie rhoddwyd Y bachgen yn ddi-sen Ar f6n yr ysgol uchel Y dringodd ef i'w phen. E fam, fe gydnabyddid Brenhines ydoedd hi. Ei synnwyr a'i challineb Enillodd iddi'r bri. Nid wyf yn synnu mymryn (A dwedaf ichwi pam) I'w mab ragori 'cymaint 1 A chanddo gystal mam. Caed gair gan Mr. J. H. Jones, yn llawen- hau gweld hufen Cymreig y Glannau wedi dod i weld a mwynhau Syr Henry, y Cymro galluoca sy'n fyw, nad oedd dim ond ei galon yn fwy nag athrylith ei ben, ac oedd mor ddifalch a hawdd nesu ato rhagor rhai anhraethol islaw iddo mewn dysg a chyr- aeddiadau. Dyma un stori fach a ddwedodid am Syr Henry, i ddangos fel y medrai, pan fyddai eisiau hynny, blanu ei fyniawyd yn swigen wynt; ambell Mr. Rhy Hy a syn- hw.yrai aroglheresi ar ddaliadauy gwron yn nyddiau'r culni diwinyddol ddeng mlynedd ar hugain yn ol. 'Dydech chi ddim yn credu mewn tra- gwyddol gosb, yn nag ydych ?" ebe'r pilw orthodocsyn wrtho mewn tdn go geiliogaidd, a dyma fel y torrwyd ei grib yn y b6n, Doeddwn i ddim cyn dy weld di yr ydw i rwan Pan alwodd Pedrog ar Syr Henry, cododd yr holl dyrfa, gan guro traed a dwylo am yn hir, hir. Awgrymodd fod swyddogion y Gymdeithas wedi ei ryddhau rhag traddodi araith ar bwnc yn y byd, ond gadael iddo gymryd unrhyw lwybr a fynnai, gan ledu ei hedion megis o flaen y tan, a mwynhau ei hun yn eu canol ar yr aelwyd. A hynny a wnaeth, mewn ffordd gartrefol, agos atoch, a fwynhawyd i'r eithaf gan bawb ac a gofir am byth gan bob un a'i gweloddaca'iclyw- odd. Dirwynodd bellen o atgofion am ei rieni a hen gymeriadau bro'i febyd ar ffriddoedd Hiraethog. Cododd y bleind ar rai o wasgfeuon bore oes ar aelwyd ei dad a'i fam wrth ymladd i ddiwallu'i syched anaiwall ef a'i frodyr am wybodaeth, a hynny, nid er Jllwyn galw sylw ato'i hun, eithr er dangos fel yr oedd hi ar blant teulu di-foddion yng N ghymru'r adeg honno, a rhoddi min a grym ar y mudiad a hyrwyddir ganddo a.'rfath egni eirias ar hyn o bryd dros gael y Brifysgol a'r Eglwysi i gydweithredu nes bod addysg oreu'r dydd yn gyson yng nghyrraedd holl blant Cymrut rhag bod yr un copa ohonynt yn gofod dioddef dim o'r glem a ddioddefodd ef a miloedd eraill yn y dyddiau gynt a fu. Brithwyd yr atgofion persohol a theulu- aidd ag ambell stori a barai wen a chlec o chwerthin dros y lie. yn enwedig stori ddiang- of yr ham wrth gloi. Cymerwyd rhan mewncanu neu adrodd yn ystod y cyfar- fod gan Mr. J. T. Jones (Cor y Cymric), Miss Gwen Taylor. Miss Shioned Roberts, Miss Nellie Roberts, Mr. 0. W. Francis, Miss Enid Parry (ar y delyn), a Miss Edith Darbyshire yn eyfeilio. Diolchodd Mr. R. Roberts, Y.H., a'r Parch. D. Powell i bawb a gymerodd ran, dibennwyd a, Hen Wlad fy Nhadait, a dyma fel y terfynodd un o'r nosweithiau mwyaf melys a chofiad- wy a gafwyd erioed hyd yn oed yn Colquitt Street freision ei gwleddoedd, canys y mae gyrfaSyrHenryJones yn un o'r rhai disgleiriaf ac anrhydeddusaf yn holl hanes y genedl. Cyn dibennu'r Seiat Groeso, englynodd Pedrog fel hyn i lywydd y Gymdeithas (Mr. David Jones) H Gwyl lawen ga'i goleuo—gan" Lywydd A gwen lawen arno Ac yn ei swyn cynnes lieno-annwyd A danbelennwyd rhag dod i'n blino. "? Ac yn ddoniol ddireidus fel hyn i Mr. R. Vaughan Jones, ysgrifennydd diflino'r Gym- deithas Vaughan hynawsni fyn ei uno—a bÚn. Dyna'r bai sy arno Ei getyn tuag ato Sy'n fwy'i swyn i'w wefus o Yr oedd Dewi Mai o Feirion yn y cyfarfod, er iddo fod yn rhy swil i godi ac adrodd ei englynion i bedwar y cyfarfod :— Doethawr fedd ddisglair deithi-o gomel Llangernyw roed inni Cadw'n gwlad rhag brad na bri Sur anrhaith fyn Syr Henry. Car lien a'r awen rywiog—dyn brofwyd Y Brifardd godidog Lienor iach, nis gall un rog, Ddwyn pydredd i ddawn Pedrog. Hawddgar lywydd gwir loew—Yswain hael Sy'n hawlio clod croew I'r gadair bri a geidw Naturiol wen Waterlw." Ysgrifennydd rydd arwyddion-o sel A swyn mewn egnion; Cyngor y Cymrodorion- Ni wel fab yn ail i Vaughan." 2.—Mewn Gymanfa Ganu. [Gan CEPHAS]. Syniad hapus oedd rhoddi cyfle i Gymry Lerpwl a'r cyleh ddathlu heddweh- mewn gwasanaeth mawl. Prin y gellsid meddwl am ddim a apeliai'n gryfach atom fel cenedl ar wasgar mewn "estron wlad. na'n casglu at ein gilydd i ganu mawl a phrin y gellsid cael o blith yr un genedl ar wyneb daear tua chwech neu saith mil i gyfarfod, ar nos Sadwrn, mewn Neuadd, ac yna i ganu-i ganu mor ardderchog—amtuathair awr o amser Ond gwnaed hynny nos Sadwrn ddiweddaf yn y Sun Hall. Ar ol pum mlynedd o ofwy digyffelyb teimlai Cymry'r cylch eu bod o'r diwedd wedi dyfod allan o'r cystudd mawr, o dy eu caeth- iwed, a thynasant eu telynau oddiar yr helyg, a chanasant ganiadau Seion hyd oni theimlai llawer ei bod yn nefoedd ar y ddaear yr ochr hyn i'r bedd." Yr oedd gweled y neuadd eang yn orlawn o Gymry o bob enwad, o bob oed, o bob dosbarth, a'r rhai hynny'n canu a'u holl galon,— mewn cydgord llawn,—yr oedd hon, medd- af, yn olygfa ac yn brofiad a edy argraff annileadwy ar feddwl pawb oedd yno. Y llywydd oedd Syr Henry Jones, D.Litt., F.B.A., a'r arweinydd Dr. Car- adog Roberts. Ar ol canu 0 Dduw, ein nerth mewn oesoedd gynt," ar y don St. Ann, darllenwyd mewn llais soniarus y Salm Duw sydd noddfa," &c., gan y Parch. E. Williams. Eglwys St. Mary, Bootle. Yna canwyd Boed fy mywyd oil yn ddiolch," ar y don Dwyfor, ac offrym- wyd gweddi ddwys, afaelgar, gan y Parch. H. H. Hughes, B.A., B.D., Darllenwyd pennill o'r emynau uchod, ac eraill ymhellach ymlaen, mewn llais clir a hyglyw, gan y Parch. Evan Roberts, Birkenhead. Yna canwyd Wyddgrug, Blaendina, Dolfor, St. Elizabeth, Arglwydd dyma fl. Darllenwyd yr emynau i'r tonau hyn yn araf, gan ail ddarllen rhai llinellau, gan Dr. Moelwyn Hughes. Yn anffodus ni chyrhaeddai Ilais y doethawr ar y cyntaf i eithafion y neuadd, a chollwyd cryn dipyn o amser gwerthfawr i aros am ddistawrwydd hollol. Canwyd Te Deum Laudamus, Builth, Nicea, a'r anthem Teyrnasoedd y ddaear, ac yna cododd y Parch. W. O. Jones, B.A., Canning Street, yng nghanol cymeradwyaeth galon- nog y gynulleidfa, i roddi croeso i'r llywydd, a gwnaeth hynny mewn ychydig o sylwadau chwaethus a gwresog. Tybiai ef 1'od Syr Henry yn un o feddylwyr cryfaf yr oes ac yn un o athronwyr penna'r gwledydd. Ychydig feddylid, tua thrigain mlynedd yn ol, y buasai un a weithiai mewn siop esgidiau yn Llangernyw, yn eistedd heddyw yn un o gadeiriau colegol uchaf y deyrnas, os nad y byd, yn ddilynydd i'r anfarwol Athro Caird. Tua'r un adeg hefyd, mewn Han arall—Llanystumdwy—ac yn awyrgylch siop esgidiau fyth, megid un sydd heddyw yn Brif Weinidog yr Ymer- odraeth Brydeinig. Dug y gwroniaid hyn anrhydedd i'r genedl a'u magodd. Gall- wn fel gwlad ymffrostio yn rhifedi ein beirdd a'n cerddorion, ond yn Syr Henry gallwn ymffrostio ynddo fel athronydd o Gymro, a hwnnw ar dan. Teimlai'r siaradwr hwn fraint o gael croesawu'r llywydd, ar ran Cymry'r cylch, a hynny'n arbennig am iddo fod yn un o'i ddisgyblion cyntaf yng Ngholeg Bangor. Pan gododd Syr Henry, cododd y gyn- ulleidfa anferth hefyd ar eu traed, a chan guro dwylo'n frwd am amryw eiliadau, rhoddwyd croeso gwir Gymreig i'r gwron hyglod. Er yn ddrylliog ei deimladau gan wres y croeso, daeth ei hiwmor chwar- eus i'w gynorthwyo. Gan gyfeirio at sylwadau y Parch. W. O. Jones am y ddau lane, mewn dau lan, ac mewn dwy siop esgidiau, parodd i'r gynulleidfa chwerthin yn galonnog pan grybwyllodd y rhaid fod rhyw gymaint o wir weii'rcwbl, yn yr hen air Saesneg—" There's nothing like leather/" Wrth glywed yl fath ganu fardderchog, aeth i feddwl, meddai ef, am gan budd- ugoliaeth y bechgyn a gollodd eu bywyd er mwyn cyfiawnder a rhyddicf, ac yn eu plith ei fab ef ei hun. Ar hyn gorchfyg- wyd y llywydd drachefn gan ei deimladau, ac ymsaethodd i feddwl dyn y darlun tyner hwnnw o Dafydd yn wylo am Absalom ei fab. Modd bynnag, ymaflodd y llywydd- eto yn ei anerchiad, a chrybwyllodd, rhwng difrif a digrif, pan ai ef at ddrws y nefoedd, a Phedr, ynte, sy'n cadw'r drws hwnnw ?" meddai, gan droi'n gellweirus at glwstwr o bregethwyr ar y llwyfan. Pan ai ef at y drws hwnnw, ni ofynnai am drwydded i mewn ar ei deilyngdod ei hun, ond apeliai am fynediad, yn hytrach, ar bwys teil- yngdod ei ddisgyblion lu. Dywedodd mai'r tro diweddaf y buyn Lerpwl, siaredai am ei ymweliad a moysydd y gyflafan yn Ffrainc -y dinistr ofnadwy a ddigwyddodd yno. Heddyw, o drugaredd, yr ydym yn dathlu heddweh. Ond pa beth ydyw Heddwch ?" Heddweh," atebai, ydyw cyfle i symud y rhwystrau sydd ar y ffordd i gyfiawni gwaith." Wrth gro esi mynydd, rhaid edrych i'r pellter, ac nid wrth y traed, os am weld y Ilwybr. Ac os am weld cynnydd dynol- ryw, rhaid edrych ar lwybrau'r gorffennol pell, i'r cyfnod pan oedd dyn yn frawd i'r epa—y creadur creulonaf, cyfrwysaf, o'r holl anifeiliaid. Wrth sylwi ar gynnydd dyn o'r cyfnod hwnnw, gellir gwaeddi'n obeithiol, Humanity is homeward bound I Ond beth a barodd i ddyn guro'r epa ar I ymdaith bywyd ? Yr oedd dau allu- dau wirionedd mawr-yr awydd am wybod a'r awydd am wneuthur yr hyn sydd yn j iawn. Rhaid cyplu'r ddau allu yna a'i gilydd. Mae awydd am wybodaeth yn unig, heb yr awydd i wneuthur yr hyn sydd yn iawn, bob amser yn arwain i ddinystr. Yn awr, wele Heddweh wedi ei sefydlu Beth yw ein dyletswydd ni fel cenedl heddyw ? Yr oedd ef yn dra awyddus i wneuthur un stroke i'w genedl cyn ei fedd, a dyna ydyw—cael addysg a chrefydd yn nes at ei gilydd-i gydweithio a chynorth- wyo'i gilydd. Trefner i athrawon y Brif- ysgol draddodi darlithiau buddiol i ieu- enctyd ein gwlad,. a hynny dan nawdd yr eglwysi, ymhob tref a phentref poblog yng Nghymru. "Byddai gwaitb fel hyn ar eich rhan chwi yr eglwysi," ebe'r march- og, yn ganmil gwell na chweryla a'ch gilydd fel ffyliaid." Pe byddai addysg y dyfodol dan nawdd yr eglwysi, gwelid ieu- enctyd gwerin Cymru'n codi i safleoedd o gyfrifoldeb a defnyddioldeb, a gallent briodoli eu llwyddiant yn gymaint i'r eglwysi ag i'r colegau. Atgof yn unig yw'r uchod o rai o bwyntiau anerchiad galluog a gwir hyawdl Syr Henry a phan eisteddodd ar y terfyn yr oedd ban- llefau'r dyrfa'n hir a gwresog. Canwyd ar ol hyn Penlan, Rhad Ras, yr anthem Pwy yw y rhai hyn 1 Sanctus, a'r Hen Ganfed. Ymfodlonodd y Parch. J. 0. Williams, M.A. (Pedrog), ar ddarllen y llinell gyntaf o'r emynau yn unig. 0 ddiffyg amser, bu raid gadael pedair ton heb eu canu, am na chynhilwyd yng ngenau'r sach." Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. D. Powell. Cafwyd canu bendigedig ar hyd y gwas- anaeth, yn enwedig ar yr anthemau. Can- wyd yr anthem Pwy yw y rhai hyn ? er cof am y tri chant a mwy o fechgyn eglwysi'r cylch a gwympodd yn y rhyfel. Prof odd Dr. Caradog Roberts ei hun yn arweinydd dan gamp-enillodd ufudd-dod parod i'w gyfarwyddiadau, a thaflai wefr i'r cantorion. Hwyluswyd ei waith yn fawr gan yr hy- fforddiant blaenorol a gafodd y'(cantorion gan Mri. J. T. Jones a G. W. Hughes, ein harweinyddion Ileol medrus a diwyd. Haedda pwyllgor y Gymanfa longyfarchiad calonnog am ei llwydd digamsyniol, ac yn enwedig Mri. C. W. Hughes, cadeirydd R. Roberts, trysorydd; R. Vaughan Jones, ae E. H. Edwards, ysgrifenyddion. Yr un pwyllgor a'r un swyddogion a drefnodd y Gymanfa lwyddiannus a gynhaliwyd er budd St. Dunstan's Hostel a chan fod y fath lewyrch ar eu hymdrechion gwlatgar, ai gormod awgrymu ar iddynt drefnu Cym- anfa flynyddol, gyda llyfrau'r Eisteddfod Genedlaethol ? Trwy hyn, gwnant was- anaeth nid yn unig i'w gwlad, ond i grefydd hefyd.

?? 0 Big y  ?????p??? ??…

Family Notices

Advertising