Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

I YM SYTH O'R SENEDD

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YM SYTH O'R SENEDD Ac i ddod Bob Wythnos. lGAN EIN GOHEBYDD ARBENNIGJ. Llundain, Nos Lun, 27 x 1919. Mr. Parod ei Brep. Ailgynhullodd y Senedd ddydd Mercher diweddaf, ac yr oedd yn amlwg i'r cyfarwydd nad oedd y gwyliau wedi tymheru ond ychydig ar yr aelodau. Teimlid fod yr atmosphere, fel y dywedir, yn llawn o anes- mwythyd-arwydd ddiffael nad oedd pethau fel y dylent fod. Deuai'r teimlad i'r wyneb yn ffurf a chynnwys y cwestiynau a hyrddid at y Weinyddiaeth o bob cyfeiriad. Ar y cyntaf, nid oedd y Prif Weinidog yn bre- sennol, a chododd Mr. Locker Lampson, parod ei brep, i wrthdystio oblegid ei ab- senoldeb. Y tro hwn yr oedd Mr. Lampson yn rhy barod daeth y Prif Weinidog i fewn pan oedd ei eisieu. Hyderwn fod ei bresenoldeb ddydd Mercher yn rhagarwydd y ceir ef yn y Ty mor ami fyth ag y bo'i ddyletswyddau yn caniatau. 0 ftr- pob un rheaymol na all dyn, mwy na 'deryn (ac eithrio'r deryn hwnnvv o eiddo Syr Boyle .Roche), fod mewn dau le ar unwaith, a bod y mil a mwy o bethau a hawliai sylw dyddiol yn Downing Street yn gwneuthur yn anodd i Mr. Lloyd George dreulio oriau ar Fainc y Weinyddiaeth yn gwrando bwg- anod anymarferol cyffredinolion y naili blaid a'r flail. O'r ochr arall, mae'n anodd iawn i'r Prif Weinidog deimlo pulse Ty'r Cyffredin trwy wythiennau pobl eraill a gwell o lawer, os yn bosibl, ydyw iddo ef glywed curiadau calon y Senedd a'i glust ei hun. Naid Stont i'r Ffos yn lie cymryd gwib. Mae'n fwy na thebyg pe buasai Mr. Lloyd George yn y Ty nos lau, na ddigwyddasai'r anffawd a roddodd gyfle i'r Wasg Wrth- wynebol gyhoeddi mewn llythrennau breis ion y bore wedyn--The Defeat of the Govern- ment. Mesur y Tramoriaid oedd dan ystyr- iaeth, a Mr. Shortt, yr Ysgrifennydd Cartref- ol, a Mr. Auckland Geddes, oedd yn cymryd gofal ohono. Seneddwyr ienanc, a dibrofiad i fesur, fel seneddwyr, yw'r naill a'r Ilall ac yn y ddadl ar un o drefniadau'r Mesur dangosasant anwybodaeth o deimlad ac anystyriaeth o dymer eu cydaelodau a gost- iodd gryn lawer iddynt hwy ac i'r Wein- yddiaeth a gynrychiolent. Pwynt cym- harol ddibwys a achosodd yr holl helynt. Pe buasai gan Mr. Shortt neu Mr. Geddes yr ystwythder meddwl a'r cydymdeimlad sy'n anghenrheidiol mewn lleoedd geirwon fe allasent yn ddigon hawdd esbonio i'r Ty paham yr oedd yn rhaid sefyll at y trefniad, dan yr hwn y rhoddir hawl i nifer o pilots tramor weithio, llongau i mewn ac allan o borthladdoedd Prydeinig, ond yr oedd yr ystwythder a'r cydymdeimlad yn absenndt a'r esboniad yn annigonol, a'r caI}iyriad I oedd ymraniad gyda mwyafrif o 72 yn erbyn J Weinyddiaeth, -? ? < d. I Delffaidd, ac heb neb yn I gwybod pam. Hawdd i ni ddeall y niwl yr oedd y Ty ynddo gyda golwg ar y mater gerbron, ond inni edrych dros restr yr Ymraniad a gweled out yr ymdarodd yr Aelodau Cymreig. 0 blaid cynhygiad y Weinyddiaeth fe bleid- leiaiodd Syr D. S. Davies (G. Dinbych) Syr Evan D. Jones (Penfro) Mr. J. Towyn Jones (Llanelli) Mr. J. Herbert Lewis (Prifysgol Cymru) Yn erbyn, fe bleidleisiodd Mr. Wm. Brace (Abertileri) Major C. E. Breese (Arfon) "Major Cope (Morgannwg, Barri) Syr J. Herbert Cory (Caerdydd) Mr. Charles Edwards (Bedwellty) 'Mr. J. C. Gould (Caerdydd) -4 Mr. T. Griffiths (Pont y pwl) Mr. V. Hartshorn (Ogmore) Mr. John Hinds (Caerfyrddin) Syr Edgar Jones (Merthyr) Mr. David Matthews (Abertawe) Syr William Seager (Caerdydd) Mr. C. B. Stanton (Merthyr) Syr Robert Thomas (D. Dinbych) Mr. John Williams (GWyr) Fe! y gwelir, aeth pedwar Rhyddfrydwr gyda'r Weinyddiaeth a phymtheg, cymysg o Ryddfrydwyr, Torlaid ac aelodau, yn ei herbyn. Mae'n anodd dweyd beth oedd yr egwyddor gyffredinol a unai ygwahanol bleidiau a ffurfiai y mwyafrif. Digon tebyg fod rhyw gamddealltwriaeth neu anghyd- welediad y dylesid eu symud ymlaen llaw wrth wraidd y cyfan. Fel mae pethau'n sefyll, gwelir Dinbych a Chaerfyrddin wedi ymrannu'n eu herbyn eu hunain, Llafur a Thoriaeth yn cyd-gerdded i'r un Lobby, a Rhyddfrydwyr yn ymado a'u brodyr heb neb yn gwybod paham Cau'r dibyn-ar' ol y Codwm. Fel y sylwyd, nid oedd Mr. Lloyd George oyn bresennol pan ddigwyddodd yr anffawd, ac yr oedd ef a lliaws o'r Gweinidogion- yn gystal ag oddeutu pymtheg o'r aelodau Cymreig-yn absennol o'r Ymraniad; ond pan ddeellodd beth oedd wedi digwydd, ni ohollodd foment cyn cymryd yr awenau i'w ddwylaw. Galwodd yr anfoddogion 7 i Downing Street, eglurodd iddynt y sef- yllfa, derbyniasant hwythau ei resymau, ac y mae'r Argyfwng drosodd. Heddyw, bydd y Mesur eto gerbron y Ty, a thrwy'r moddion arferol o welliant ych- wanegol, neu ategiad i un '"o'r penderfyn- iadau, fe ddadwneir dyfarniad y mwyafrif y nos o'r blaen. "All's ivell that ends well -ie, ond y wers yw mai4 nid doeth chware a pherygl. J pherygl. # 4< Dyma fi ar yclwt I" ebe'r v ferch. Pair dyfodol y rhyw fenywaidd gryn lawer o bryder i'r Weinyddiaeth yn gystal ag i ddinaswyr. Yn ystod y rhyfel Uan. wodd y merched lawer o fylchau, ond y mae amheuaeth yn awr gyda golwg ar yr hyn sydd ymlafen. Gollyngir hwy'n rhydd wrth y cannoedd o'r swyddfeydd lie telid iddynt symiau mawrion am waith digon amher- ffaith. Nid ydynt yn fodlon i'r rhagolygon sydd o'u blaen, a diau y clywir llawer o gwynion .oddiwrthynt yn y dyfodol agos. Maent hwythau ynghanol anesmwythyd ac aflonyddwc-h, a 'does neb fedr ddweyd beth ddigwydd. Un o arwyddion yr am- serau yw dewisiad Lady Astor fel ymgeisydd am gynrychiolaeth Plymouth yn lie 'i gwr, yr hwn sy'n mynd i Dy'r Arglwyddi. Os dychwelir hi i'r Senedd fe droir dalen newydd yn hanes y rhyw ——aidd.

Ein Cenedl ym KEanoeinion.

AR GIP

.- :; - . _TOC-.. I Ystafell…

Advertising