Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I GUARANTEED PURE FOOD Ask for "KEENORA" SELF-RA151KG FLóUll. CUSTARD roffDER; BAKING POWDER, BLANC-MANGE, etc., etc. Manufacturers- MORRIS & JONES, Llmitet&t, "• Liverpool, Manchester, and Newcastle-on- Tyne.
Advertising
ASK FOR "SIRD SAUCE Delicious and Appetising. David Jones and Co. Ltd. LIVERPOOL, MANCHESTER and SWANSEA. Wholesale Agents.
Advertising
BEATY BRLOs THE CELEBRATED TAILORS I ARE SHOWING A Fine Selection of OVERCOATS Excellent in Every Particular AT MOST MODERATE PRICES Concession to Ex-Service Men. I 2/6 in the £ discount Allowed on all purchases to men demobilised during last 4 months — — I 37 to 43 London Road, I I Open until 6 30 p.m., Wednesdays until I 1 p.m., Saturdays until 8 p.m. 28 & 30 Church Street, | Open until 6-30., p.m., Saturdays 1p.m. I J LIVERPOOL. I Phone 3925 Bank. Phone 580 Bootie Wm. GRIFFITHS & SONS MAKERS OF SMART CLOTHES 29 South John St., Liverpool, AND 849 Stanley Road, Bootle, Military Uniforms. Lounge Suits. Naval Uniforms. Overcoats. Costumes. Ladies, Coats A yw'ch Llygafdynetch blino ? ■ fw pathau'a troi'n niwlog ac anal wig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael au hedrych rhag blaen an gpraathygu wna'u haageulso- Gallwa ni, ¡Iyda'n hoffer g wyddonol, ddweyd vnrthyoh as oes arnoch angea gwydrau; ac oa felly, eich cyfleawi i'r rhai a barai fwyaf i tea i ckwi. Galwch heddyw— ARCHER A SONS Emlihl Spaclallstt, 73 LORD STRBBTi Sefydlwyd 1848. LIVERPOOL. 1 HARTLEY & CO., Liverpool 12 MOSS STREET. CSALES BY AUCTION EVERY 4UESDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHT AT SRYBN FALUABLH HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DESORIPTIONS. MAGNItlOENT NEW AND ØOOND-HAND PIANOFORTES, LARGJ: VARIETY Olf BEDSTEADS BEDDIN(L, etc. EVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAST 'M?PM CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPPBIOR FURNITURE M ALWAYS KEPT IN STOCK, AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY. GOODS STORED. On view 8.30 a.m.to 0.30 p.m.; Saturday 1 pm telephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL) OF ANY DESCRIPTION INVITED p0R JHB8B BALES. BEsr RESULT GAURANTEED. FORD RAPI4TQRS. New pattern Round Brass Fronts, also Silencers for Ford Cars and Radiators for Heavy Commercial Vehicles. Particulars and Prices apply to JAMES CHEW 6 CO. LTD., 6S-S04PARAOISE ST l(F.ET,,LIVER POOL. LIVERPOOL fhe SHAfTESBURY," MOUNT PLEASANT Abaat t mini. walk. frotniLtma St. sc Central Stat. A First Class Ternpara 138 Hotel. Moderate Charge Tele. Shaftesbury Hotel, Liverpool." Phoao, ASK rOftLn IDRIS fTable Waters | III Sjphoat and Sattkm6 SODA WATER, M poor Aau WATER, SELTZER WATBAs LEMONADE. DRY AINdER ALE, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., *forth utraberiand St.. LIVERPOOL D. GRIFFITHS 6 SON 221 Brack 1\4 and, 9 Moss St., I Pianos & Organs by all the leading makers, Wrmm 8J» p«r month• IninoiB-tfil AideM 3772 gSYAL LLYTHYRAU GORONWY OWEN, dan Olygiaeth yr Athro J. MORRIS JONES. 'i. PRIS1SWLLTJ& Y Farddoniaeth a'r Llythyrau wedi eu cvdrwvmo", mewn Lliac HUGH EVANS AND SONS, Swyddfalr,, "Brytboa. ROBERTS E EDWARDS. ESTATE AGENTS, 64 KirKdale Rd., Liverpool Tslspheas i 2193 Royal.
TREM Ij
TREM I Y Cymdeithasau Diwyll- iadol. MAE tymor y gaeaf arnom, ac mae gwan- wyn y cymdeithasau diwylliadol yr un pryd. Ac yr ydym yn camgymryd yn fawr iawn onid oes arwyddion ar bob Haw fod y cym- deithasau hyn yn dangos mwy o fywyd nag arfer. Gresyn fai iddi fod yn wahanol. Yr ydym mewn byd ag y mae ei amgylch- iadau'n parhau yn dra aflonydd ac ansicr, ac mae arnom angen rhyw ddisgyblaeth ar y meddwl fydd yn gymorth iddo ymlon- yddu. Ofnwn fod llawer yn ceisio meddyg- iniaeth i'w pryderon a'u blinderau o bob math drwy foddion sy'n angerddoli'r an- fodlonrwydd yn hytrach na'i iachau. Rhuthrir i wyneb darluniau byw a phleserau nad ydynt ond yn eyffroi'r nerfau a'r nwydau a'r dychymyg, heb ddeffroi fawr ar reswm a natur foesol ac ysbrydol dyn. Nid ydym yn golygu fod y cymdeithasau diwylliadol cyffredin yn gyfyngedig i faterion moesol ac ysbrydol fel y cyfryw, nac y dylent fod. Nid ydynt yn debig o fod yn ddiddorol a llwyddiannus oni fydd ynddynt hwythau hefyd gryn lawer o'r difyr a'r adloniadol. Ond mae ynddynt hwy, fel rheol, faterion sy'n tynnu'r meddwl allan, ac yn peri i'w mynyehwyr ystyried y pynciau sy o bwys i bob dyn yn bersonol ac fel aelod o gym- deithas. Mae'r byd fel y mae heddyw yn gofyn mwy nag erioed o feddwl, ac mae meddwl ar faterion mawrion yn gyrkorth i hogi'r deall ac i grynhoi a chadarnhau'r meddylfryd gwi-biog. Xid rhagien wag sy gennym i fyfyr heddyw, canys mae'r Ar- magedon wedi gosod Byd Newydd ami. Gwir ein bod rtiegis rhai yn cerdded hyd garneddau a malurion byd a chwalwyd ond mae sylfeini bywyd cymdeithas yh amlycach heddyw nag erioed, ac nid teil- wng mo agwedd neb tuag at y sefyllfa bresennol ar bethau onid yw'n meddwl am gynllun yr adeiladwaith sydd i'w godi o'r malurion. Credwn fod yma gyfle nodedig i bobl ieuanc ein heglwysi'n arbennig i ymarfer deall a barn ar y pynciau mawrion ac amryfal sydd i benderfynu eu hystad yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn enwedig yn gymdeithasol a chrefyddol. Ac mae diwyllio eu hunain, ddeall ac ysbryd, ben a chalon, yn anhebgor i'w Uwydd uchaf gan nad beth a fo'r amgylchiadau. Cwynir llawer yn erbyn yr eglwysi, a'u diffyg dar- pariaeth ar gyfer eu pobl ieuanc. Ond mae agos yr holl eglwysi ag y gwyddom ni amdanynt, o leiaf yn ystod tymor y gaeaf, yn gwneuthur cynnyg go deg at ddiddori ac adeiladu y neb sy'n awyddus am ddi- wyllio eu hunain ac ymarfer eu hamrywiol ddoniau. Wrth gwrs, nid yw diwylliant yn bosibl ineb oni phlygir i'w amodau. Mae cynnydd gwir ddynol yn golygu llafur yn gystal a mwynhad. Tan wraidd pob gwir ddiwylliant mae'r amod o feddwl a myfyrio.
I TREM II.
TREM II. Diwyllio Dawn. Byddwn yn ofni fod rhai pobl, iouan c a hen, yn bodloni gormod' ar ddawn naturiol, a rhy yehydig ar y llafur gofynnol i'w diwyllio. Nid oes ddawn heddyw1 na chaiff ei pherchen, os Ihyn, gyfle i'w meithrin. Ni raid i'r un bardd ienauc bellach fod yn anghyfarwydd ryn ei gelfyddyd,—-o ran iaith, arddull, myd- yddiaeth, na mynegiant. Bu rhai ohonom dan yr anfantais o geisio prydyddu heb yr un athro, a hynny yn yr adeg pwysicaf yng nghyflwr ein meddwl a'n harferion. Bu Galedfryn yn llym iawn ei gyllell feirniadol, ac ysgythrodd yn ddidrugaredd yr arddull amleiriog ac areithyddol mewn barddon- iaeth. Gwnaeth Syr Meurig Grynswth waith pur dda'n yr un cyfeiriad, drwy ei wawdiaith ddigyffelyb. Ond, er hynny, hyd ymhell i hanner olaf y ganrif ddiweddaf, yr oedd y beirdd amleiriog ac areithyddol eu harddull yn boblogaidd, a'u beirniaid yn gyffredin yn eu canmol ar eu cyfer. Cyfrifid Caledfryn yn ddyn gerwin, ac edrychid ar duchaniaith Ceiriog fel digrifwch diystyr. Tueddai beirdd ieuanc i efelychu'r beirdd oedd yn taro eu ffansi hwy oreu, ac aent, drwy hynny, yn bur fynych, i ddilyn gwendidau dynion nad oeddynt ar y goreu —fel y dengys eu gwaith heddyw-yn drwy- adl ddysgedig yn y gelfyddyd. Ond nid felly y mae erbyn hyn. Mae gennym yng Nghymru gyflawnder o athrawon sy'n aw- durdod ar bynciau'r iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth. Cawsant y manteision mwyaf i hynny. Mae'n wir nad ydynt hwy eu hunain yn cytuno ar bob peth, a hawdd gennym gredu nad oes neb ohonynt yn an- ffaeledig ar fater mor fawr a chymhleth ag orgraff yr iaith Gymraeg. Nid ydym yn deall fod yr un ohonynt yn honni'r fath beth. Ond, yn ddiau, maent wedi profi tu hwnt i bob amheuaeth eu bod ar y trac iawn, a bod swm dirfawr o'n llenyddiaeth ryddieithol a barddonol yn ystod y ganrif o'r blaen yn bentyrrau o anghysondeb. Ac mae'n llenorion goreu'n cydnabod hynny, a'r ysgolheigion ieuanc yn dilyn yr orgraff newydd." Mae'r athrawon diweddar wedi sicrhau eu safle, ac mae eu syniadau wedi eu cyhoeddi trwy'r wasg fel y gall y neb a fynno eu gweld. Y gresyn yw fod hyd yn oed heddyw gryn lawer o gystadleuwyr eisteddfodol yn glynu wrth yr hen arfer, ac yn sillafu fel petai llenyddiaeth Gymraeg yn awr yr un peth yn union ag ydoedd hanner canrif yn ol. Nid ydym o gwbl yn honni peth mor ynfyd a'n bod yn awdur- dod ar ddim yn yr iaith Gymraeg ond ein hamcan yw eymell ein llenorion a'n beirdd i ddal ar eu mantaision, a dilyn y goleuni diweddar. Gallwn o leiaf osod ein hunain ar ffordd diwygiad.
TREM III. I
TREM III. A Dawn Can. Os nad ydym yn awdurdod ar len a barddoni, llawer llai yr ydym ar gerddor- iaeth. Ac eto, mae egwyddor sy gyffredin i'r naill a'r llall ac yn eglur i bawb. Rhaid i bob dawn wrth lafur i'w datblygu a'i pher- ffeithio. Nid oes le i ddadl ynghylch cyf- lawnder ac ansawdd doniau can ac adrodd ymysg y Cymry. Addefir hynny gan bawb a roes dro trwy Wlad y Bryniau. Nid yw'r beirniad eerddorol estronol yn gwarafun hyn i'n clod. Y ddau fwgan mawr y cwyn- ant rhagddynt yn ein canu yw "force" a tremolo." Ond ofnwn fod cryn lawer o'n datganwyr seinber eu llais yn esgeuluso diwyllio'r ddawn sy ganddynt. Byddwn- fel y crybwyllasom dro'n ol o'r blaen-yn mwynhau beirniadaeth ein hathrawon cerdd- orol diwylliedig mewn eisteddfodau,— dynion- sy'n meddu enaid a cholfvddyd cerdd. Ac mae gennym fel cenedl gyflawn- der o'r cyfryw erbyn hyn. Er hynny, byddwn yn fynych tan yr argraff nad yw'r mwyafrif o gantorion yn manteisio fel y dylent ar yr hyfforddiant a gynhygir iddynt. Addefwn fod seiniau cerdd yn fwy anodd i'w dal na geiriau lien, a bod mwy o le i amrywiaeth a ffansi ynglyn a chanu nag ag ysgrifennu. Er hynny, byddwn yn sylwi ar hyd y blynyddoedd fod beirniaid cerdd yn nodi allan lawer o'r un diffygion mwyaf elfennol mewn datganwyr, ac yn gwneuthur beiau a rhagoriaethau mor eglur fel y mae'n syndod bod neb sy'n meddwl o gwbl heb ddal arnynt. Ymddengys i ni y rhaid fod lliaws o'n datganwyr beb deimlo fel y dylent fod canu da'n gofyn astudiaeth ddofn o'r darnau a genir. Ac hyd y gallwn ni weld, nid yw'r beirniaid yn gyffredin yn gosod gormod o bwys ar bethau elfennol mewn canu. Er enghraifft, nid ydynt yn orfanwl ar gywirdeb sain oni fydd pethau ereill yn cyfateb. Soniant am "fynd i fewn i ysbryd y darn ac mae hynny'n rhywbeth dyfnach na seinio'n gywir a pher. Da y dywedodd ein cyfaill cerddgar Mr. T. R. Williams, Trefriw, am ganwr a fethodd beth mewn sain, ond a anadlodd allan enaid y gan Gwell mynd i fewn i'r bywyd wedi colli aelod na bod yn gyfan heb fynd i fewn o gwbl." Mae'n wir fod amser yn brin yn ami mewn,eisteddfodau, a chan- toribn o bell mewn trafferth i sicrhau cyf- leustra tren a cherbyd. Ond, er hynny, hyd yn oed pan na bo dim neilltuol yn galw, mae gormod o ddiffyg amynedd mewn llawer i wrando beirniadaethafo'nwiraddysg mewn cerddoriaeth. Ceir aelodau o gorau mor ddiamynedd a neb. Deuant ynghyd i fwynhau ymdrech rhwng corau, a'r prif beth ganddynt yw gwybod pwy fydd wedi ennill y wobr. Er enghraifft, cawsom yn ddiweddar y fraint o wrando amryw feirn- iadaethau mewn eisteddfod gan Dr. V aughan Thomas, Abertawe. Y mae ef, yn ddi- amheuol, yn un o'r dynion sy'n deall phil- "offi cerddoriaeth yn gystal a'i chelfyddyd, ac yr oedd ei feirniadaethau'n agorfeydd i ystyr bywyd yn gystal ag yn gyfarwyddyd i geinder lleisio. Dyry dynion fel hyn i'r werin wersi na cheir mo'u gwell yn y colegau, ac mewn dull mor syml a tharawiadol fel y gall unrhyw un a wrandawo o gwbl eu deall. Mae llawer yn dal ar eu cyfleus- terau, ac mae'r ganmoliaeth uchel a roddir yn fynych i unawdwyr a chorau'n brawf o hynny. Ond ofnwn nad yw caniadaeth yn gyffredinol yn cyfateb mewn diwylliant i'r manteision sy yng nghyrraedd y werin ar hyn o bryd. Mae'r hyn sy'n peryglu pob cynnydd gwir ddynol yn peryglu'r cerddor i bleser, a diffyg ymlon- yddiad i astudiaeth. I feithrin enaid cerdd, yn gystal a'r gelfyddyd i'w fynegi, nid oes ond un amod-meddwl a diwydrwydd.
TREM IV.
TREM IV. Dawn Adrodd. Cyfeiriasom at hyn hefyd dro o'r blaen, ond nid gwaeth yw gwneuthur hynny eto. Ac fe red yr egwyddor y sylwasom ami ynglyn a'r doniau ereill trwy'r ddawn hon hefyd. Ofnwn fod y safon i'r ddawn yhiysg y Cymry'n fwy ansicr nag y dylai fod,—yn enwedig gyda golwg ar y gwa- haniaeth a wna rhai rhwng adrodd ac actio." Mae angen gwell cytundeb rhwng beimiaid ar y peth hwn. Clywsom rai'n beio adroddwyr am wneuthur ohonynt ystumiau o gwbl. Rhaid inni addef nad ydym yn deall paham. Mae'r llawlyfrau Saesneg ar Elocution yn cyfarwyddo mewn ystumiau yn gystal a llais. Pan yn ddyn ieuanc, cof gennym glywed campwr enwog yn y gelfyddyd, mewn neuadd i lawr y dref, yn adrodd The Dream of Eugene Aram. Mae'r adroddiad hwnnw'n fyw'n ein oof hyd heddyw. Ac yr oedd ystumiau'n rhan arbennig ohono, Yr oedd y disgrifiad- au'n ofnadwy, a'r gynulleidfa'n hollol tan gyfaredd yr adroddwr. Gwelwn ef a llygf d ein meddwl yn awr—ei drem fynegiadol, nyddiad eigorff tan wewyr euogrw-yddi a thyniad ei ddwylo trwy ei wallt-yn mynegi profiad llofrudd a erlynid gan ei weithred erchyll. Wrth gwrs, gallwn ddeall paham y condemnir gormodedd o ystum, neu ystum anaddas ond ni allwn ddeall paham y gwaherddir ystum a fo'n gymorth i fynegi meddwl a theimlad, neu i ddisgrifio golygfa. Mae cam-ystum, fel cam-acen, yn beth i'w feio. Credwn fod ein cyfaill J.H." yn haeddu clod uchel am ei ran ragorol tuag at godi'r adroddwr Cymreig i'r safle y mae ynddo'n awr. Ac yn y beirniadaethau a glywsom ganddo ef, lawer gwaith bellach, yr oedd yn cydnabod lle'r ystumiau, ac yn dwrdio am i adroddwr sefyll fel pren." Wrth gwrs, meddwn eto, bydd y neb a wnelo ystumiau'n gyfrifol amdanynt. Nid oes dim gwrthunach na'r rhai diystyr neu anaddas i'r adroddiad. Yma eto, fel mewn dawn barddoni a chanu, mae'n rhaid wrth ddiwylliant. Mynych y dysgir plant bychain i adrodd yn hollol annaturiol-mewn acen ac ystum. Fe dyb llawer fod plentyn bach, tlws, wrth orbwysleisio a chamystumio ,yn cyflawni gorchest, pryd, mewn gwirionedd, na fydd y cyfan ond perfformiad hollol beir- iannol ac annaturiol. A gwelsom liaws mewn cynulleidfa'n rhoi cymeradwyaeth fyddarol i adroddwyr am ystwythter aelodau, nerth llais, ac ymddangosiad hy- derus,pan nad oedd ystyr y damau a adroddid yn cael ei fynegi'n agos i ddeallus. Ni ellir adroddiad effeithiol oni fydd cytundeb naturiol rhwng deall, dychymyg, nwyd, llafar, ac ystum. Hynny yw, rhaid i'r adroddwr astudio'r hyn a edrydd nes y bo'n ddarn byw ohono ef ei hun cyn y gall ei fynegi i ereill. Y gwir amdano yntau yw A'r hyn a wyr, hwn a all Ei fwrw'n fyw i arall. Ac fe gyfeiriodd Dr. Vaughan Thomas at un peth ynglyn â. cherdd ystum ag y mae iddo gymhwysiad at adr'oddiadau'n gyffredinol. Beiai'r arfer rhy gyffredin i osod darnau milwrol a disgrifiadau o olyg- feydd erchyll i blant. Mynasai i'r plant gael pethau mwy cariadlon a swynol. Buom yn teimlo'r un peth gyda golwg ar adroddiadau, Mae gennym ormod o ddarn- au'n disgriflo erchyllderau llofruddiol gwaedlyd, rhy erchyll i bobl mewn oed heb s6n am blant. Mae dysgu darnau fel hyn i'r ieuanc yn euog a blannu dychrynfeydd yn eu calonnau tyner. Cant ormod o waith y twca a'r pistol mewn darluniau byw." Cynhygier rhywbeth mwy caredig iddynt; mewn capeli ac eisteddfodau t