Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ASK FOR ■I SIRDftT 1 SAUCE I -Delicious and Appetising. David Jones and Co. Ltd. ilVERPOOL, MA E and SWANSEA. Wholesale Agents.
Advertising
I j GUARANTEED PURE FOOD Ask for "KEENORA" SEI F-F AISING FLOUR. CUSTARD ru iVDER. BAKING POWDER. BLANC-MANGE, etc., etc. Manufacturers- MORRIll & JONES, Limited; v Liverpool, Mamahemtor, mmtt | N0w&astl&~cttii~T¥ne»
Advertising
Br??aM A"JBL ? 1N ???ii???f????? ??? 1a?' JRUPJF LL&JA 3L\   CELEBRATED TAILORS ARE SHOWING j A Fine Selection of j 0VR A T Excellent in Every Particular M v AT most moderate prices i Concession to Ex-Service Men. v 2/6 in the £ discount Allowed on all purchases to men j j demobilised during last 4 months 37 to 43 London Iload, I 28 « 30 Church Street, I ■ Open until ?-3„0n -» p.m., Saaturdays 1p.m. HH p.i-a., Saturdays until 8 p.m. until -30., p.tn., Saturdays Ip.m. ILIVERPOOL. 1 1 1IirllDllt .t,¡- 1 t I rheac 3925 Bank. Phone 580 Bootle J Wai. GRirriTHS & SONS MKERS Of SMART CLOTHES As South John St., Livarpool, AND I 849 Stanley Road, Bootie, Military Uniforms. Lounge Suits. ] ncxval Uniforms. Overcoats. I Gestumes. Ladies' Coats "JSUJUiUJ. UUIULJl»OLjaLJiUJL -.aBBBBMBXaSSBS A yw ch ??_ ?ygaSd jn eich bMno ? ?H??BS????M????mammH ?'? P*T.aan:a tr'?a niw'? M aaelwig ? M Djm arwfid & rhybafldllatbio I j lly§ad, ? jDY,(Ia arw7?,ii a i 7 iiylad, 9 gwasthygu wna'n teflfeabo Ga?hvaai, 9Jyd;:n hoi!? gwydtbaol, ddweyd wrihyoh ? ??t w» arMoh M?e's ?wydrM a? 03 ? t"?y, *ich oy9eawi *'r rhai a ?)R i fwj&f 8 .? <3x i chwi. G&l'?b heddjw— .ARCMER & SOd.a i B Syeslaht Spso?Hatts, s y3?0SLBST?m?? 1 S?ydlwyd 1848. iLXV??????. HARTLEY 4 GO., lirarpool 13 MOSS STREET. BSALEa BY AUCTION EVERY ffjSSDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHT AT SEVEN valuable household FURNITURE OF ALL DBSORIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SBOOND-HAND PIANOFORTES, LARGE VARISTT OW BEDSTEADS BEDDING, eke" SVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING AltlffD THESE SALES AND SAVE AT LEAST NO WEB OKNT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPERIOR FURNITURE 18 ALWAYS KEPS IN ROOK, AND ANYTHING MAY BE PURCHASED MOOPER, IVATE TREATY. GOODS STORED. BY Oa Tie* 8.30 a.m.to 0.30 p.m.; Saturday 1 p m Selupuoae 1793 Royal. f-r>TJ3IGNMENTS { EITHER LARGE OR SMALL) OF ANY DESCRIPTION INVfl'ED FOR T5HBSB 1AI<E». BESP RESULT GAIJRANTEED. JFOUP RADIATORS. New pattern Round Brass Fronts, also Silencers for Ford Cars arid Radiators for Heavy Commercial Vehicles, Particulars and Prices apply to JAMES CHEW êd CO. LTD., SS-SO^PARADISE STREET, LIVERPOOL.. LIVERPOOL the SHAf TESBU.RY" MOUNT PfJB&SANT About 4 mina. walk froiritLima St. & Central Stat A First Olass Temperance Hotel. Moderate Charges Tele. Shaftesbury Elotel, Liverpool." Phone, ASH iTOi* IdrislTable Waters n Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE, etc., etc. IDRIS & CO., Ltd.. Northumberland St., LIVERPOO L vigg LLYTHYRAU G0R0NWY OWEN, dan Olygiaefch yr Athro J. MORRIS JONES. i'jPRI83SWLLT.b Y Farddoniaeth a'r Llythyr3u wedi pu cydrwvmo mewn Llias. HUGH EVANS AND SONS, I Swvddfa'r Brython. ARGRAFFU r Ar fjyfir I Pawb a Phopeth. Hugh Evans a'i Feibion, SWYDDFA'R "BRYTHON," 356-358 STANLEY RD., LERPWL.
I TREM I. I! i
I TREM I. i Yr Uchddyn. LLA WER o son a glywyd yn ysbod y blyxi- yddoedd diweddaf am yr ITchddyn (Super- man). Dyma'r hwn a ddelid i fyny gan lawer o athronwyr Ewrop fel gobaith y dyfodol, fel y datblygiad uchaf o ddyn. Ni fu gennyni o gwbl fawr o S'ansi ynddo, ac ni theimlem Juarhyw awydd !i fyw'n yr un heol ag ef, heb son am yr un ty. Gall mae ein llwfrdra ni a barai hynny. Addefwn fod arnom ei ojn. Ymddangosai i ni fod ei tminers" yn dvsgu pethau gerwin iawn iddo, ac yn dwedyd wrtho am ddiystyru Cristionogaeth. Yr oedd Cristionogaeth yn gosod gormod o fri ftr rinweddau goddefol, tyner, addfwyn, llednais, ac yn parlysu gwroldeb dyn. Dysgid yr Uchddyn i heidio ag ymdoddi i feddalwch tan gyfaredd mwynder merch, eithr i ymweld ft, hi a chwip yn ei law. Dysgai ef i gredu fod rhyfel yn hanfodol fel disgybblaeth a diwylliant dynol- iaeth. Fe gafodd yr Uchddyn hwn ei gyfle i ddangos pa fath ar graadur ydoedd, a pha fath ar weithredoedd y medrai eu cyflawni. Bu llawer yn Ewrop yn sefyIl ar flaenau eu traed gan ddvfal ddisgwyl am ymddangosiad yr U endayn. Betti y maent yn ei feddwl ohono erbyn heddyw ? Sarhad ar y deyriias anifeilaidd fai ei alw'n Uchfwystfil, canys cvflawnodd weithred- oedd nad allsai hwnnw eu, gwneuthur. Yn ol ei Weithredoedd, yr oedd yn gyfuniad fwystfil a chythraul. Nid greddf fwyst- filaidd i ddifetha a feddai, eithr hefyd ddeall a medr i droi ei'reddf yn gelfyddyd y Uofrudd a'r dinistrydd. Mae gwledydd mewn an- nhrefn, cenhedloedd mewn caledi, dinasoedd yn garneddau, erwau afrifed o diroedd cyn- Kyrchiol yn fynwentau, ysbytai'n llawn o glwyfedigion, a chartrefi mewn colledion diadfer a galar chwerw,-mae byd yn Hawn o wae yn adrodd stori greulon yr hwn a elwid yn Uchddyn. Druan o'r isaf os hwn yw'r uchaf Ond fe fethodd yr Uchddyn yn ei orchest, ac yn lie esgyn i binacl concwest disgynnodd i bwll dwfn a dirmygedig dymehweliad. Ymgais fawr y byd gwar- eiddiedig yn awr yw cadw'r Uchddyn yn y pydew, a'i atal mwyach i godi ei ben anghenfilaidd yn Ewrop. Ac er mwyn popeth sy'n iawn a da, gobeithiwn y llwyddir yn yr ymgais. Nid yw'r Uchddyn hwn yn addas i'w ollwng yn rhydd ymysg plant dynion.
TREM U. I
TREM U. Uchddyn y Cymro. OFNWN fod math ar Uchelddyn tan training yng Nghymru na fydd o fawr o werth iddi. Bwli yw hwnnw. Yr ydym yn credu mewn ymarferiadau corfforol, a da fod iddynt le ynglyn a'n sefydliadau addysg. Saf ar dy draed, a mi a lefaraf wrthyt," ebe'r Hen Lyfr. Ac mae eisieu dysgu dyn i sefyll ar ei draed, i gerdded yn hoyw, ac i feithrin nerth anianyddol. Ond credwn befyd fod tuedd gref yn y dyddiau hyn i osod gormod o bwys ar ymarferiad meddwl ac ysbryd. Mae ymarferiad yn amod datblygiad y dyn i gyd, meddwl yn gystal a chorff, ac ysbryd yn gystal a. deall. Ofnwn fod mwy o fri'n cael ei osod ar ddatblygu corff i fod yn fwli nag ar ddatblygu'r deall i fod yn athro, neu'r ysbryd i fod yn sant. Onid yw'n ffaith fod y BwH'n prysur ddyfod yn arwr mewn rhai parthau o Gymru ? Gwyddom mai nid Cymro yw pob ymladdwr enwog sy yng Nghymru ond y mae llawer o'r gornest- wyr proffesodig yn Gymry, ac mae eu pobl ogrwydd mewn rhannau o'n gwlad yn brr-,wf o'r edmygedd ohonynt. Lle'r ymddengys gornestwyr ar lwyfan, fe lenwir y neuaddau gan y miloedd, a thelir prisiau uchel am fynd i fewn. 'MaA'I' ysfa ddyrnu ar gynnydd mawr yn ein cenedl. Prudd fydd gennym weld cynifer o'r gornestwyr yn dyfod o Gymru i Lerpwl. Synasom yn ddiweddar o ddarllen mewn newyddiadur fod Pwyllgor Rheolaeth yng Nghaerdydd yn tueddu i sefydlu cangen i ddysgu dyrnodio ynglyn a'r ysgolion, a'u bod yn barod i awdurdodi Cymdeithas yr A mateur Boxing i ymgynghori a phrif athrawon yr ysgolion i'r amcan o gynllunio'r fath beth. Da gennym. er hynny, ddarfod i'r amcan gael ei atal gan y Pwyllgor t Addysg, er mai drwy fwyafrif o ddau y l- gwnaed hynny. Y mae i glod y ddirprwy- aeth oddi wrth Gyngor yr Eglwysi Rhyddion i'r aflwydd gael ei atal. Wedi'r cyfan, mae peth dylanwad a bywyd yn aros yn yr eglwysi, ac ar yr amod iddynt gydsynio a, chrynhoi eu nerth at yr un peth bydd raid i lawer gallu wrando'u hapel. Gan nad faint o resymau y gellid eu dwj n ymlaen dros yr ymarferiad o ornestu ei hun. mae'n syn fod unrhyw gorff o ddynion oyf- rifol am ei gwthio i ganol cyfundrefn addysg. Dyry peth fel hyn yn sicr ormod o fii ar grefft y Bwli, a rhy ddrwg ei orchuddio a mantell deg diwylliant. Byddai dwyn y fath ymarfer i gysylltiad mor uniongyrch ag addysg yn wasgariad mawr ar ddiddor- deb yr ysgolorion, ae yn peryglu symud canolbwnp ein bryd o'r pen i'r dwrn. Haws o lawer cynneu brwdfrydedd mewn ymladdfa nag mewn efryd. Un o beryglon mwyaf yr oes bresennol yw gorwneuthur yr hyn sydd ynddo'i hun yn gyfreithlon, a gadáel i'r anianyddol lywodraethu'r deall a'r ysbryd. Dylai'r eglwysi'n anad neb fod yn effro i'r perigl hwn, canys iddynt hwy y pennaf peth yw buddianiiau ysbrydol y bobl. Un o'r anghenion pennaf i ddyn ieuanc ar hyn o bryd yw cydwybod foesol fyw. Mae'r hen ffiniau rhwng y da a'r drwg wedi eu symud. Diau mai camgymeriad mawr fu Ilawer o'r ffiniau hynny, ac y cyhoeddid yn bechod yr hyn nad oedd yn bechod ond bu llawer ohonynt o fwy o dda nag o ddrwg fel yr oeddynt yn foddion i warchod ieuenctid rhag mynd i ormod rhysedd ynglyn hyd yn oed a phethau cyfreithlon ynddynt eu hunain. Ac er mai iawn yw i ddyn gael ymryddhau o bob caethiwed sy'n ormes, a chael adnabod y pethau sydd a gwahan- iaeth rhyngddynt" mewn gwirionedd ac nid mewn ffansi na mympwy, eto, er hynny, eto, er liynny, mae'n gofyn canfyddiad craff a gofal mawr i ddethol y goreu-i wahaniaethu rhwng y cyfreithlon a'r goreu yn gystal a rhwng y drwg a'r da. Yn y fan hon y mae perigl y dyn ieuanc heddyw. Ymddengys rhai fel pe'n tybio, oni byddo peth yn ddrwg, nad yw o bwys iddo pa mor bell yr ymroddo i'r peth hwnnw. Wedi credu nad yw'n bechod mynd i chwaraedy er enghraifft, ni theimla rhai pobl ieuanc fod niwed o gwbl iddynt fynd yno bob nos os gallant, gan nad beth arall y byddont yn ei esgeul- uso. Ac, yn ddiau, yn ol hynny o oleu sy gennym ni ar natur a gogwydd y peth, byddai i sefydliadau addysg gefnogi'r gelf- yddyd o ddyrnodio'n bur sicr o fagu'r Bwli yng Nghymru, a chynhyrchu math ar Uchafddyn na byddai ddiogel i heddweh y wlad.
TREMtH.I | TREM III. !
TREMtH. | TREM III. Breuddwyd. Meddyltrm am duedd ymr6ad gormodol i gelfyddyd y dyrnau. Deddf edmygedd yw cynhyrchu tebygrwydd. Un o'r pethau difrifol ynglyn a'r rhyfel diweddar oedd gweld y plant yn efelychu'r grefft yn eu chwarae. Aeth yr ias ryfelgar i'w hysbryd, a thorrodd allan yn eu chware. Ac mae'r un peth yn wir ynglyn ag edmygedd o'r Bwli. Mae' ysfa'n ymdaenu fel twymyn, a'r boxer yn arwr gan filoedd. Daw y pla yn eglur yn iaith ac arferion lliaws o'r ieu- enctid. Caiff yr arfer hon, fel llawer arall, lawer o'i grym drwy ei himpio ar yr hyn sydd ynddo'i hun yn dda-iechyd corff a chymhwyster i hunanamddiffyn. Tebig yw'r modd y datblyg gornestwr dyrnau'n fwli i'r modd y datblyg cynhildeb yn gyb- ydd-dod. Tyf y drwg yng nghysgod y da, ac ymddengys fel rhinwedd wedi ei wthio i eithafion nes mynd yn fai. Ac wrth feddwl am y duedd hon, breuddwydiasom freu- ddwyd o'r hyn a welid ymhob cylch o gym- deithas ped ymgymerid & training o'r fath a gynhygiwyd yng Nghaerdydd i genhedl- aeth ar ol cenhedlaeth o ysgolorion. Wrth gwrs, byddai'r ddawn hon, fel pob dawn arall, yn debig o wneuthur ei ffordd i'r eisteddfodau o bob math. Ac mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi arfer achlesu pob ffurf ar dalent ac athrylith Cymreig. Mae hi, erbyn hyn, yn ryw. ffair fawr, ag ynddi stondingau i bob math ar nwyddau mewn celf, lien, a chan. Ac a feiddiasai hi omedd cyfle i'r gelfyddyd ddyrnu-wedi i'r ysgolion dyddiol trwy'r wlad ei meithrin ? Gall y buasai rhai o'r saint piwritanaidd yn cilwgu ar yr arfer dros amser; ond mentr- wn gredu y deuai cyn hir yn un o'r pethau mwyaf atyniadol ar brogram yr Eistedd- fod. Fel y byddwn yn awr yn gweld rhieni'n dilyn eu plant talentog i'w cefnogi mewn cystadleuaeth adrodd ( neu ganu, ceid eu gweled yr un modd yn dilyn eu bechgyn i gystadlu bocsio ar Iwyfan yr Eistedd- fod. Nid annhebig y gwelid tad a mam i gampwr yn gwylio'n awyddus ger llaw, ac y clywid gwraig yn cefnogi ei gwr gaa ddywedyd, Hit arall iddo fo, Dai!" Yn wir, y perigl a welwn ni yw yr âi'r orchest hon yn rhy boblogaidd, ac y enociai hi allan lawer iawn o bethau ereill er mwya cael digon o le iddi hi ei hun. Deuai cyn pen hir yn grefft bur gyffredin-mor gyff- redin a chanu, ond mwy peryglus. Gwell gennym ni, o'r ddau, fai'r swn mwyaf I aflafar ar ein clust na chael clewtan & dwrn ami. Ond fe ddeuai'r gelfyddyd yn gyfleua iawn mewn Eisteddfod. Er enghraifft, pan fai bwlch yn y gweithrediadau, gallai dam o'r arweinwyr gael round o focsio a'i gilydd. Ac yn He sgrifennu i'r wasg am wythnosau, a ffraeo ar bapur, gallsai cystadleuwyr coll- edig a'u beimiaid setlo'r mater ar faes yr Eisteddfod, a darfod a'r cweryl, gan gadw'r Ysgrythur a wahardd i'r haul fachludo ar ddigofaint. Ac yn lle'r chware damwaia. rhwng arweinwyr corau, drwy" dynnu byrra' docyn," caent gyfle i benderfynu pwy a ganai gyntaf drwy ffordd fwy arwrol. Ae mae peth dadleu ynghylch prun ai i'r gadair ynteu i'r goron y perthyn yr urddas mwyaf. Wal, gellsid penderfynu'r mater hwnnw hefyd drwy osod y ddau fardd ar gyfer ei gilydd, ar y llwyfan, a gadael i'r dyrfa famu drosti hi ei hun. Ond dylai fod cyf- yngiadau anrhydeddus a theg i hyn oil. Prin y bai'n deg gosod y bardd, y lienor, neu'r cerddor buddugol i ymladd a phob un a fo siomedig am wobr neilltuol. Mae'. bur debig mai'r hyn a wneid fai gadael i'r siomedigion bigo un o'u plithi'w cyn- rychioli'n erbyn yr enillwr.—os ceid hw-nnwil ddigon o ddyn a boneddwr i sefyll gomes. Gall mai haws a fii cael dewrion felly ymysg y colledigion. Ac nid yw'n debyg y diengai Gorsedd y Beirdd rhag y newydd. beth disglair hwn-y Boxer! Pwy sy'zL malio dim yn ei Chleddyf ? Mae pawb wedi dyfod i hen ddeall nad oes berigl yn y byd ynddo,—yn enwedig wedi cysgu ohono ar hyd yr Armagedon. Yma, eto, tybiem weld y gelfyddyd ddymodio wedi dyfod i fri. Yn lle'r teithio a'r pwyllgora ynglyn ag 6thol archdderwydd ac amryfal orsedd- ogion ereill, breuddwydiem weld pob swydd yn cael ei phenodi, a phob cweryl o bwys ei setlo-drwy omest a dymau ar y lawnt lie y digwyddai'r Orsedd gael ei chynnal. Mewn gwirionedd, mae ei Chylch Cyfrin y peth tebycaf ary ddaearigylch gornestwyr y gwyddc-Ti ni amdano. Brudiwn y gwnai'r bethma newydd hwnnw hi mor ddiddorol fel na cheid bryn rhy uchel i'w ddringo, na glaw rhy wlyb i'w ddal gan y miloedd. At. gofir ni o hen gydnabod go ddiniwed a ddywedodd wrth un a'i heriai i ymladd ag ef, 'Dydw i ddim am faeddu nillad efo dy fath di." Wel, nid yw'n debig yr ymladd- ai'r Gorseddogion yn eu hurddwisgoedd Ond, ymledodd ein breuddwyd i bob cyf- eiriad, ac, o'r diwedd, caem gipdrem ar bwyllgorau a chynadleddau eglwysig ae enwadol Ymddangosai'r syniad o weinidog neu flaenor yn bocsio, ar y cyntaf, yn rhyw- beth anhygoel i ni. Ond, yn wir, fel y myfyriem ar y mater, dechreusom ofr.Í'r posibilrwydd ohono! Nid anfynych iawn y ceir yr anian ymladdgar hyd yn oed mewa cylchoedd crefyddol, a buom yn ofni weithiau i'r gelfyddyd gael ei threio- pe beiddid y canlyniadau. Ond medd- yliwch am ddau flaenor, neu ddau weinidog, neu weinidog a .blaenor, yn bocsio'i gilydd- Dywedid fod rhai blaenoriaid yn cyfarck ei gilydd yn y capeli wedi'r rhyfel yn ol dull y salute a arferid gan filwyr. Ae ofnwn yn fawr pe deuai bocsio'n arferiad gyffredinol y clywid termau fel knock- out blow "-os nad y cnoc ei hun-mewn capel. A pha effaith a gai'r ymarferiad ar areithwyr a phregethwyr ? Byddai'* sicr o ddyfod yn amlwg yn eu hystumiaw, ac fe gyflawnid y cwpled And pulpit, drum ecclesiastic, Was beat with fist instead of a stick. Ond wrth i'n dychymyg gerdded y ffordd hon yr ydym yn deffroi o'n breuddwyd, ac yn meddwl mor wrthun yw cynnyg y Bwfi'n eilun i Wlad y Diwygiadau
Advertising
Athrofo Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM Meeifysgol Cykbu) Prifathraw-Gw AG. DECHREUA'R Tymor DeBaf ym mie L? Hvdref PPratoir jt efrydwyr ar gyfer Arholiadaa Prifosgol Cymrn Cynygir amryw o ysgoloriaethau famryv< o honynt yn gvfynge^igi Grmry) y flwydayn hcji, Cymer yr arbeliad le yn Aberystwyth ar y ISfed o fig Mcdi 1919. Am fartylion pellaeh, yTcofyner & J. fL DA VIES, M.A C-ofrettrydd