Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

I YM SYTH O'R SENEOD; Ac i…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I YM SYTH O'R SENEOD; Ac i ddod Bob Wythnos. I i-AN EIN GOHEBYDD ARBENNIG). I Llundain, Nos Lun, & jaei J1919 j Pan belydro'r Haul trwy i Gwmwl du. Cymylog iawn a thrymaidd oedd yr awyrgylch yn Nhy'r Cyfiredin ddechreu'r wythnos diweddaf. Cryn lawer o godi 'egwyddau, o ysgwyd pen, ac o ddarogan pob drwg posibl. Ond ddydd Mercher fe ddaeth cyfnewidiad er gwell. Trwy ryVf oruchwyliaeth ryfedd—na pherthyn i ni geisio ei dehongl-fe dr6dd Mr. Austen Chamberlain o fod yn broffwyd galarnad i fod yn gyhoeddwr llawenydd. Ym mis A wet yr oaddym ar ein ffordd i ddinistr yn niwedd Hydref y mae pob argoel, os daliwn ati, y deuwn trwyddi'n fuddugol- iaethus! Nid ydym yn barod i ddweyd fod seiliau gobaith fod seiliau gobaith y Canghellor yn hollol ddiogel—rhaid am rywbeth mwy sylweddol aa geiriau i symud ymaith y National Debt; ond yr ydym yn sicr ddigon am effaith ei araith ar ei gyd-aelodau. Nid yn unig fe'i canmolwyd gan y Prif Weinidog,— yr oedd hynny yn naturiol yn yr amgylch- iadau, ond addefid bron yn gyffredinol fod Austen ar ei uchelfannau. Y canlyniad oedd ysgafnhau ysbryd y Tt a phartoi'r ffordd i ddatganiad ysgubol Mr. Lloyd George y diwrnod dilynol. Os cododd y Oanghellor yn uchel, fe esgynnodd y Prif Weinidog i'r goruchafion. Aeth llawer o amser heibio er pan roddwyd cyffelyb dder- byniad i unrhyw areithydd ag a roddwyd i'r Arweinydd Cymreig nos Iau. Gwelwyd yr effaith yn yr ymraniad. Cadwodd Mr. Maclean ei hun, a'r rhan fwyaf o'r Rhydd- frydwyr Annibynnol, allan ohoni, er dirfawr siom i Mr. Hogge, a'r cyfan a bleidiodd welliant Plaid Llafur oedd hanner cant, yn erbyn pedwar cant a phump. Er mwyn deall y sefyllfa gwell inni ddweyd fod y eynhygiad gerbron yn datgan parodrwydd y Ty i gefnogi pob mesur rhesymol (gan nad pa mor lym) i ostwng y treuliau cyhoeddus ac i leihau'r ddyled wladol, tra'r oedd y gwelliant yn gofyn am ddatganiad fod yn amhosibl cyfiawnhau'r treuliau presennol y dylid eu gostwng ar unwaith a chymryd mesurau i leihau'r ddyled; ac ymhlith y |»33arau hynny nodid treth ar gyfalaf a dychweliad i'r Trysorlys y fortunes a gasglwyd yn ystod yr argyfwng gwladol. Fe wel y darllenydd yn awr ystyr yr ymraniad a'i werth. Dewinio -2wb A'i hudlath I ddigymaf. | Fel y sylwyd, effaith ysgafnh&ol a gafodd y ddadl a'r ymraniad ar Dy'r Cyffredin. Nid mor ysgafn yr effaith ar y Wasg elyn- iaethol. Yr oedd y Times a'r Morning Post yn darogan pob math o drybini ers dyddiau, a'r Westminster Gazette, yn ol ei arfer yr wythnosau hyn, yn proffwydo pethau trist i ddyfod i'r Prif Weinidog. Yr oedd yn galed iawn arnynt ddydd Gwener yn ceisio esbonio'r digwyddiad. Y Welsh Wizard," chwedl John Hodge, a wnaeth ydrwg gyda'r ddewiniaeth areith- yddol sy'n eiddo iddo. Gwir fod arddull a sylwedd yr araith yn haeddu pob con- demniad,—ond fe gyrhaeddodd y nod. By a stroke of geniu8," ebe'r W.G., Mr. I Lloyd George had once more demolished his critics." Anwiredd bopeth a ddywedwyd, medde'r Times, fallacy y methodd yr ael- odau ei ddarganfod gan fel yr hud-ddenwyd hwynt gan oratorical wizardry" y Prif Weinidog. Ie, ebe gohebydd seneddol yr un newyddiadur, araith lawn o driciau, but the genius of the speech was unmis- takable." Ac fel yna. y mae pob un o'r mewyddiaduron gwrthwynebol, y naill ar ol y llall, yn cwyno ac yn condemnio, yn bygwth ac yn dwrdio-ao ar yr un pryd yn plygu glin I ni ymddengys dau beth yn amlwg yn eu hymddyiziad,-eu hanym- kdiriodaeth, gan nad beth a draetho, yn y g>r sy'n dal awenau'r Llywodraeth, a'u dibristod o farn y mwyafrif maw.r seneddol øy'n credu ynddo ac yn cymryd eu har- gyhoeddi ganddo. Gnawd i Gi gyfarth. Rhydd i bob gohebydd ei farn, mwyn 4ja, a rhyddid gyda hynny i'w datgan, end fe ddisgwylir iddo sefyll yn rhywle'n agos at y ffeithiau. Yn un o newyddiaduron Lerpwl yna, ceir ysgrifennydd newydd (?) yn soisio dringo i sylw ar hyd hen hen lwybr, sof y llwybr o ddifrlo'r Aelodau, Seneddol Oymreig. Wel, y mae'n rhaid Addef fod llawer i'w ddweyd yn eu herbyn, a bod yn demtasiwn yn ami i ysgrifenwyr wneuthur yn ysgafn ohonynt. Ond ni ddylid gwneuth- ur cam hyd yn oed ag Aelod Seneddol Cam,yn ein barn ni, a wneir a Major Breese. yn yr awgrym ei fod uwchlaw pawb eraill yn pleidleisio byth a hefyd yn erbyn Gwein- yddiaeth Mr. Lloyd George. Nid yw Mr. Breese, fel mae'n digwydd, yn coleddu'r un golygiadau a nyni ar lawer o faterion, end mae'n deg iddo gael y gwir. Ceir cyn- rychiolydd Arfon ar brydiau yn pleidleisio yn erbyn Gweinyddiaeth ei gyd-aelod dros y Bwrdeisdrefi, ond pleidleisia'n llawer amlach o'i phlaid. Gwendid Mr. Breese, ( os gwendid hefyd, ydyw ei fod yn rhy gyd- wybodol. Arweinia hyn ef weithiau, tra'n derbyn egwyddor mesur penodol, i bleid- leisio yn erbyn rhai o'i drefniadau. Fe waa hyn y rhan amlaf i gyfarfod amgylch- iadau arbennig dosbarthiadau o'i etholwyr er enghraifft, yn y bleidlais a roddodd wyth- itos neu ddwy yn ol i gau allan pilots tramor 0 longau Prydeinig. 'Rydym yn weddol sicr na chondemnid ef am hynny gan y Prif Weinidog, a mentrwn ddweyd maiei etholwyr sydd a hawl i'w alw i fam. Rhaid bod gwynt lie cyrno'r dail. Bu'r ddwyblaid Gymreig yn y Senedd, set y Genedlaethol a'r Ryddfrydol,yn cynnal cyfarfodydd ynvythnos ddiweddaf, athrefn- wyd nifer o ddirprwyaethau a phwyllgorau i drin gwahanol faterion. Y cwestiwn pwysicaf sy'n awr gerbron yw Devolution. Penodwyd nifer o'r aelodau i ddewis tystion i ymddangos o flaen Pwyllgor y Llefarydd ae i egluro hawliau Cymru yn hyn o beth. Cynrychiolir ni ar y Pwyllgor hwnnw gan Arglwydd Aberdar, Mr. Charles Edwards, Mr. John Hugh Edwards a Mr. Forrestier Walker. Cymeradwyaeth brin a roddir iddynt yn y Welsh Outlook. Mwy o angen felly cael tystion a thystiolaeth teilwng o'r achos. Drwg gennym fod Cadeirydd y Blaid Ryddfrydol-Mr. Vaughan Davies -yn analluog i fod yn breSènnol oherwydd gwaeledd. Dywedir-ar ba sail nid ydym yn gwybod-ei fod ar ei ffordd i Dy'r Arg- iwyddi. Dywedir hofyd fod Mr. Asquith yn dod yn ol i Dy'r Cyffredin cyn diwedd y tymor, ac yr oedd Mr. Asquith yng Nghered- igion ychydig ddyddiau'n ol. A oes cysyllt- iad o gwbl rhwng y naill ddywediad a'r llall, myneged y neb sy'n gwybod. ib Hwi'r Esgob a'i droedig- aeth. Nid yw oes y gwyrthiau ar ben. Heddyw hysbysir fod Esgob Tyddewi'n galw am Hunan-Lywodraeth i Gymru, a Mr. Walter Long yr un mar groew'n pleidio Devolution. Rhyw dipyn o helynt rhwng yr Order of St. John of Jerusalem a'r Red Gross, a'r Welsh Priory a sefydlwyd yng Nghaerdydd dro'nol, oedd achlysur datganiad Dr. Owen i'r perigl (yn ol y Times) that Wales would never consent to being controlled by any organ- ization or body of mew not in touch with the conditions prevailing in Wales." Well done yr Esgob fe wna Archesgob Cenedlaethol Cymreig o'r iawn ryw pan ddel ei dro. Gweld perigl i'r Cyfansoddiad Prydeinig fynd yn ddrylliau yw'r achos o droedigaeth Mr. Walter Long-mae ei gyffes yn werth ei darllen.

!Goreu Cymro: y CymroI Oddicartref.

I Galwadi" Frwydr. |

...... i! ; i J e;¡ I On fiened!…

DAU TU'R AFON.

I BOB YN BWT.

Advertising