Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

immodan y Gawod Geellysg yn…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

immodan y Gawod Geellysg yn lal. Treuliais bythefnos bron ar ffriddoedd sir Ddinbych—yr wythnos gyntaf o'r ddwy ar ucheldir ial, sy'n gu gennyf er pan euthum a 'mhriod yno ddeuddeng mlynedd yn ol, er y methodd hyd ynoedawelon mor bur a'r rhai hynny ladd yr anhwyldeb aeth a hi oddiarnom ynghanol ei dyddiau. Sgriblais ddigon am fro Ehedydd ial a John Parry a Dr. John Davies a Cyrus o Ial mewn llith- oedd blaenorol nes na chwanegaf ddim mwy na hyn y tro hwn Fod yr ucheldir yma'n cadw'n wlad hollol amaethyddol ac heb yr un Achos Saesneg ynddo heb yr un simnai gwaith na phwll i boeri ei baw ar ei meysydd sweet eu sawr Yr un sinema ychwaith i ferfeiddio chwaeth y bob! na'u sugno o'u harian dan oglais eu nwydau Dim swn yn y byd ond s-frn pistyll bach Tai Newyddion wrth lifo tua'r m6r, gydag Afonig Roger Edwards. Swn y fronfraith yn canu salm ei diolch- garwch ar y brigyn am gael ohoni bry' genwair mor braff i frecwest Stfm tyhw'r ddyllhuan yng ngwinllan yr Hafod a Gwern y Brain, yn argoeli tro yn y tywydd, ebe Elin Jones (ac fe ddaeth y tro hefyd !) Svfrn cyn ac ebill ac ambell ergyd gan y dymaid gweithwyr sy'n codi llechi yn chwarel Bwlch y Rhiw Felen S$n ambell oen yn brefu am ei famog, a'i I ref cyn brudded ag ochenaid bardd wrth J golli'r gadair am y trydydd tro O33. y mas yma un swn nrall a mwynach i'r Nef na'r un ohonynt-—s^n John Jones- yr hen. naenor tlws ei rudd a glan ei galon yn gofyn bendith ar ei fwyd ac wrth ddi- bennu yn goaleiu. "TRWY hsu GRIST" yn dlysach a mwy diolchus na dim a glywais i yn fy oos. Yr unig beth arswydus yr olwg a welir I ffordd yma ydyw'r llyn glas ac angeuol ei liw—lliw'r llechi—sydd yng ngwaelod y chwarel ond daow hesbwrn yn pori ac estyn am ei flewyn glas o fewn y fodfedd bron i ymyl y dibyn, a hwnnw'n ddibyn mor erchyll y buasai'r dyn cryfa'f aerf yn delwi a chwympo'n swp i'r ceubwll enbyd. Ond ni fynnwn fod yn hesbwrn serch hynny, oanys y mae o yn colli peth mwy os yw'n cael peth llai. 'Does ganddo fawr o nerfau i gludo poen ac ofn iddo nac felly fawr o'r pethau cyfrin hyny i gludo hyfrydwch meddwl a llawenydd enaid. Peidiwn ag eiddigeddu wrth yr hesbwrn a'i flewyn glas y mae gan Dduw flewyn glasach i'w blant a godwyd o Chwarel y Codwm. Beth a fVyr yr hesbwrn am yr ias hyfryd a gerdd drwy braidd yr lor wrth ddarllen yr adnod honno yn y Salmau "Ef a wna imi orwedd mewn porfeydd gwelltog ef a'm tywys gerllaw y dyfr- oedd tawel ?" A gwrando, hesbwrn, gael iti glywed beth a ddwedodd yr Arglwydd wrthym drwy enau Eseciel yn xxxiv, 14, 15 :—- "Yewn porfa dda y porthaf hwynt, ac ar uchel fvnyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt; yno y gorweddant mewn corlan dda, ie, mewn .porfa fras v y porant ar fynyddoedd Israel. Myfi- a'i gorwerthfaf hwynt, medd yr Arg glwydd Dduw." Onid yw'r gorweddfaf" yna'n fendig- edig o air ? Ymhle y mae dyflewyn glas di yn ymyl hwnyna. hesbwrn, heb son fod yn rhaid cael ci'r Hafod Ucha i'th gyfarth S a'th gorlannu di, bob nos ? la, ond y mae I Satan—ci'r Hafod Isa-yn dy gyfarth dithau hefyd ebe'r gwalch, nes imi swatio drwyddof. Gwneir, fe glywir weithiau sw-n tarw Cae; Madog Ucha yn rhuo ar bwy bynnag a groeso'r cae rhyngddo a'i fuchod. Yr oedd Brenin y Borfaii eiddigus ryfeddol o'i wragedd a dyna lie bum un diwrnod yn syllu—o'r tu arall i'r gwrych !—ar ei gyrn i main a'i fwng trwchus, ac yn ceisio dallt psychology 'r creadur, a dilyn yr amrywiol arwyddion o lidiowgrwydd a'm drwgdybio a welid yn ei lygaid, yn yr ewyn, a lafoerai, ac yn y tro awgrymiadol o'i angerdd oedd ym mlaen ei gynffon. Pan godais bore dydd Sadwrn, ahai! ¡ traohen o eira dros v meysydd a'r bryn. I iau—y gaenen gynharaf a welsid yn IA61 o fewn cof pawb y bum i yn ymddiddan & hwy, canys nid oedd hi ond canol mis Medi ar y pryd. EngJyn Gethin Jones neidiodd gyntaf i'r meddwl wrth syllu ar y gynfas wen:— Anian, heb arian o bwrs,—ry wenwisg Yn rhan i bregethwrs; Ac eira'r gaea, wrth gwrs, Yw t'wysog y whitewashiwrs. • Ond buan y meiriolodd, a ffwrdd a mi i ben c Moel Acra, i weld Dyffryn Clwyd wedi cael golchi ei wyneb ac ymwisgo yn ei grys main." Ac wrth edrych tua sir Gaemarfon a sir Feirionydd, gwelwn gawod ar ol cawod o genllysg yn mynd megis duwiesau llaes eu gwisgoedd rhwng hafnau dyfnion y myn- yddoedd, a'r olwg ar y cwbl mor arddunol nes y tybiwn mai edrych ar beth tebyg yr i; oedd Job pan sgrifennodd yr. adnod honno yn xxxviii. 22:- A aethost ti i drysorau'r eira ? neu a welaist ti drysorau'r cenllysg ?" Diolch am dipyn o storm a chledi ac oerfel, ac mor ddoeth yw Rhagluniaeth Fawr y Nef yn rhoi hindda a drycin inni. Ebe'r Parch. John Owen, Cricieth, yn ei ddarlith ar Swyddogaeth Y storm :—- Diolch am ystormydd. Cododd storm hyd yn oed yn y nefoedd un tro bwr- iwyd Satan a'i gyd-gythreuliaid ben- dramwnwgl allan ohoni i'rAffwys eithaf "ac y mae'r Nefoedd yn fwy sweet nag ydoedd byth ar ol y storm honno." A dyna hi: yr oedd John Owen, Cricieth, a dyjlhuan uwern y tlrain yn dallt athron- iaeth a greddf y Cread dyrus yma yn llawer gwell nag awdur geiriau 01 na byddai'n haf 0 hyd, canys dyna blant bach mwythus, babiaidd, a chroendenau a fuasem onibai ein p'ledru ag ambell gawod genllysg fel hon a'm gwlychodd i heddyw, a roes fywyd newydd yn fy ngwaed, ac a barodd imi frysio mor gyflym am. y Tai Newyddion, i brofi'r bias bendigedig oedd ar frechtan fenyn Elin Jones ac ar ymgom ysbrydol John Jones, yr hwn a glodd y cwbl a'r sylw hwnnw a ddwedodd dyn Bwlch yr Oernant. Yr oedd hwnnw'n baffiwr pennaf Bro 13.1 yn ei ddydd, ond wedi dod at grefydd. Eithr pan feiddiodd rhai o grymffastiaid yr ardal ei herian, dyma fo'n crensian ei ddannedd a chau ei ddyrnau, a Gwell ichi beidio a thrystio gormod i'r garpen o grefydd yma sy gen i wir hogia bach, neu- ebe'r hen baffiwr, nes oedd y lleill yn gwybod ei bod hi'r hen bryd iddynt dewi a swatio. Nid annhebyg stori" garpen grefydd John Jones i'r llall am hen baffiwr y Bala, oedd yntau wedi cael y tro." chwedl yr hen saint mor dlws am yr ail eni ac wedi tyfu'n arolygwr yr Ysgol Sul; ond pan boenwyd o gan yscogyn balch a llawn o gynset yn "cynnyg gwelliant ar bob peth y ceisid ei basio yn y Cyfarfod Athrawon, dyma'r hen ddyn yn cael y goreu am funud ar y dyn newydd yn yr hen baffiwr, ac ebe fo a'i wrychyn i fyny Os rhois i'r trad i fyny,cofia di,Ned Siam- bar Sorri, ni a werthis i mo'r twls." sef y dwrn mawr a chaled ei figyrnau oedd bellach ymron a chael yr hyfrydwch o sodro pen y dywededig Ned yn sitrach (ar gerrig beddi'r ardal y cefais yr erthylair dywed- edig yna). Y mae rhywbeth yn human ryfeddol mewn dyn, er yr ail eni a phopeth, ac nid oes dim a ddengys hynny'n fwy na, rhai o'r Salmau, He y mae'r sgrifennwr yn galw ar Dduw i felltithio'i elyn,taro pennau ei rai bach yn y cerrig, ac yn y blaen ac yna'n troi y mwyaf naturiol a weleoch erioed i ofyn am bob eybur a bendith idJo'i hun oherwydd ei fod-yn Iddew, os gv/olwch yn dda A diau mai rhywun llawn o anian hen baffiwr y Bala a sgrifennodd yr adnod honno yn Salm cxliv. I Bendigedig fyddo Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylaw i ymladd, a'm bysedd i ryfela." « Oes, John Jones, y mae yna lawer iawn I o athroniaeth a naturioldeb yn llechu jrrig ngair hen baffiwr yr Oernant—" y garpeii o grefydd yma;" a pheidiwn & rhutliro i farnu a phwyso camp a rhemp y naill a'r llall. Ef a roddes bob barn i'r Mab," a phwy nyni i fynd a'i waith 0 oddiarno ? Un o'r dynion duwiolaf a adnabvim erioed ydyw John Jones, Tai Newyddion ond ni welais i erioed glorian yn y ty, er fod yno lawer iawn o ffiolan-a" ffiollachawdwr. iaeth bob amser yn colli trosoddo'r unpeth ag a gollodd drosodd i'r ddaear pan ddis- gynnodd y Mab yma o'r Nef, Yr ydwyf yn yrnyl Tafarn y Gath Ehedydd Ial nid ymhell o Lanferres, lie megid Dr. John Davies, Mallwyd,a cher Foel Gamelyd, lie myn traddodiad fod bedd a llwch Owen Glyn Dwr ond er cryfed y demtasiwn, rhaid peidio ag ymoHwng i aros efo Emynydd na. Dr. Davies, na mynd i chwilio am fedd Glyn Dwr, onite dyna lie byddaf, canys Duw a guddiodd fedd ein Glyn Dwr annwyl ni fel y cuddiodd gorff a bedd Moses or ys talm. Dyna debyg ydyw'r ddau hanes a dyna Guddiwr ydyw Duw! Yr unig beth a ddwedaf cyn gado litl ydyw hyn y carwn weld Mr. A. Parry Morgan, Llangollen, neu ynteu'r Parch. E. Tegta. Davies, Tregarth, neu ynteu Mr. Rd. Morgan, Llanarmon, yn sgrifennu llyfryn o hynafiaethau a thraddodiadau llenvddol ac arall yr ucheldir hwn, dan yr enw Maton JAI neu rhyw deitl o'i debyg. Ydych ehwi'n clywed, A.P.M. ?

II-Yn y wlad lie1I i. ganed…

Advertising