Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Cannnwydfliant i^manta Beayddwyr…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cannnwydfliant i^manta Beayddwyr Lerpwi. Dathlwyd yr uchod mewn cyfarfod yn B-rerton Village nos Lun, Hyd. 27, o dan lywyddiaeth y Parch. D. Powell. Wedi i'r Parch. D. W. Bassett arwain mewn gweddi cafwyd ychydig eiriau gan y cadeirydd. Sylwodd fod cryn wahaniaeth rhwng yr amseroedd hyn a'r rhai gan mlynedd yn ol. Yr oedd y gweithwyr o dan draed y pryd Jnmnw, ond y mae'n wahanol heddyw. Mae'r gweithwyr mown safle heddyw na fuont erioed ynddi o'r blaen ond y rnae eisiau llawer o ddoethineb a phwyll i lywio'r llestr heibio'r creigiau peryglus rhag colli ohonynt yr hyn a enillwyd. Yna galwodd ar y Parch. J. Davies i roddi Hanes y Gymanfa." Dywedodd na ellid llai na sylwi fod cysylltiad lied agos rhwng Oymanfa Lerpwi a Chymanfaoedd y Gogledd. Daw hyn i'r golwg yng nghychwyniad y Gy- manfa. Y n olllanes y Cymanfaoedd gan W. Jones, cynhaliwyd Cymanfa'r Gogledd yng Nglyn Ceiriog, Meh. 21-22, 1819. Yn y eofnodion ceir y nodiad a ganlyn "Fod Cymanfa i'w chynhal yn Lerpwi y Sul olaf o fie Medi." Dyma'r crybwylliad cyntaf, hyd y gwelsom, am Gymanfa Lerpwi. Yn Serin Gamer am yr un flwyddyn ceir y nodiad kwn: "Cynhaliwyd Cyfarfod Cenhadol yn Rhuthyn, ac oddiyno aeth y rhan fwyaf o'r gweinidogion i Lerpwl i'r Cyfarfod Mawr," yr hwn a elwir mewn lie arall yn Gymanfa. Daw hyn a ni at hanes y Gy- manfa gyntaf, a gynhaliwyd y Sul olaf o Fedi, 1819,—can mlynedd i'r mis diweddaf. Dyma restr o'r pregethwyr: Christmas Evans John Herring, Aberteifi Ellis Evans, Cefnmawr; John Jones, Dref- newydd D. D. Evans, Pontrhydyrun John Edwards, Rhuthyn Wm. Tyrer ac ereill. Cynhaliwyd yr ail Gymanfa y Sul olaf o Fedi 1820. Yng Nghymanfa Dinbych y flwyddyn honno,cyhoeddwyd Cymanfa yn Lerpwl Gwener y Groglith a Sul y Pasg y flwyddyn nesaf,—1821. Hon oedd y drydedd Gymanfa, ond y gyntaf a gynhaliwyd ar y Pasg. Hyn, hwyrach, a barodd i Spinther ddweyd mai yn 1821 y dechreuwyd y Gymanfa. Gwelir ei chynnal am ddwy flynedd ar y Sul olaf ym Medi. Wedi hyn aeth ymlaenyn ddifwlch ar yPasc oI821 hyd 1912, pryd y trefnwyd i'w chynnal y Sul olaf e Hydref. Pregethwyd yn y drydedd Gymanfa gan Christmas Evans, Daniel Davies (y dyn dall), a Dr. Pritchard, Llan- gollen. Yng Nghymanfa 1823 gwelir enwau Dr. Jenkins, Hengoed; Thomas Morris, Casnewydd, gydag ereill, a rhai a enwyd yn barod. Mewn cyfeiriad at y Gymanfa hon, ysgrifenna Rhywun" i Sereln Cymru yn 1879: Y mae Ilawer tro ar fyd er Cym- anfa 1823. Llawer seren ddisglaer yn y flurfafen fedyddiedig sydd wedi ei symud. Bu y balch a'r ffroenuchel yn ajiterth ei anwybodaeth yn poeni'r eglwysi o eisieu esel bod yn ben ar bawb a phob peth. Poenwyd hwy gan y penboeth, dinystriwyd eu cysur gan y rhagfamllyd a'r cul feddyllol. Mewn gair, dododd y diafol ei holl gyn- llwynion ar waith i ddifetha Bedyddwyr Larpwl.-Ond i Dduw y bo'r diolch, y maent mor fyw heddyw ag erioed. Pa le gan hynny y mae y rhai sydd yn dweyd nad oes dim sefydlog mewn crefydd,-a pha le y mae y Die Shon Dafydd, a phob un o'i ryw- ogaeth felldigaid sydd yn wastad yn pro- phwydo marwolaeth hen iaith anwyl Gwalia, a byth a hefyd yn caau cnul ei hangladd? Mae'r hen iaith yn fyw, a phregethir hi yng Nghymanfa Lerpwi heddyw gyda chym- maint o hwyl ag erioed." Yng Nghymanfa 1827, ceir enw John Kelly am y tro cyntaf yn y Gymanfa, ac enw John Herring am y tro olaf,—bu ef farw yn 1832 ynghanol ei ddyddiau. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes i wasanaethu eglwysi by chain y Gogledd, a hynny'n rhad ac am ddim, ac yn fynych talai o'i boced ei hun am y fraint. Mor bell yn ol a Chymanfa 1844, oawn weinidogion y Gymanfa yn eistedd mewn Cynhadledd ar gwestiynau'r dydd. Trafodwyd Dad- gysylltiad yr Eglwys Sefydledig, a phasiwyd penderfyniad cryf o'i blaid. Ond druain ohonynt, claddwyd hwy oil ugeiniau o flyn yddoedd yn ol cyn gweled gwawr y dydd gwyn y breuddwydient amdano. A dyma ninnau, ymhen 80 mlynedd, heb sylweddoli ein delfrydau. Rhaid fod rhywbeth o'i le ,eyn fod yn rhaid i genedl aros am gymaint o amser cyn sylweddoli ei dyheadau ar faterion fel hyn. Diddorol ydyw sylwi ar Gymanfa 1849,—yn hon yr ordeiniwyd Benjamin Thomas. Rhoddwyd y gofyn- iadau arferol iddo gan ei frawd Timothy Thomas, Bassaleg, ac ordeiniwyd ef trwy weddi ac arddodiad dwylaw gan D. Price, Crosshall Street. Datganwyd dymuniad y diwrnod hwnnw am i'w ordeiniad fod yn fendith i laweroedd." Atebwyd y dy- muniad,-ni fu neb yn fwy o fendith i eg- lwysi'r cylch,-yn neilltuot yn eu gwendid,- na'r hyfwyn Benjamin Thomas. Bu'n gen- hadwr cartrefol yn y ddinas am 50 mlynedd. Oroniclir Cymanfa 1892 yn ddoniol fel y oanIyn Cafwyd pregethau da, a digon o amrywiaeth ynddynt. Cawsom yr ath- ponyddol a'r barddonol, yr ymresymiadol a'1' darluniadol, yr athrawiaethol a'r ymar- ferol, yr esboniadol a'r cymhwysiadol. Beth bynag am ddiffygion pulpud y Bed- yddwyr Cymreig ni chyll mewn amrywiaeth dymunol,-na wawried byth mo'r dydd pan ddirywia i unffurfiaeth yn ei ddull o feddwl a thraddodi. Mae unffurfiaeth vn groes i drefn Duw, ac yn llethu ysbryd dyn. Wel, pwy oedd y pregethwyr a baratodd y fath arlwy gyfoethog o ddanteithion amrywiol ? Dyma nhw,—Pedr Hir, Tre- degar R. Roberts, Treforris T. Jones, Middlesbro' J. Gomer Lewis, Abertawe, ac ereill." Nid yw hyn ond darn bychan o o'r hanes diddorol sydd am y Gymanfa, yn ystod y ganrif. O'r dechreu bu yma rhwng tri a phedwar cant o weinidogion yn pregethu,ond ni allwn ychwanegu,— o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yr awrhon," oblegyd y mae dros ddau cant wedi huno.' US Y nesaf oedd Pedr Hir, ar Rhai o'r gwein- idogion fu'n gwasanaethu yn y Oymanfa yn ystod y ganrif. Dechreuodd gyda Christmas Bvans, yr hen Gris," chwedl ei nain. Pregethai yn y Gymanfa gyntaf, ac yn lied fynych ar ol hynny am flynyddoedd. Rhoddodd sylw neilltuol i Dr. Jenkins, Hengoed, Shon Siencyn," fel y gelwid ef, nid o amharch ond wrth arfer gwlad. Dyma ddyn mawr, un o'r rhai mwyaf a fagodd Cymru erioed. Yn un o saith o blant, a'i dad ond gweithiwr cyffredin, ni chafodd ysgol o gwbl pan yn blentyn. Pan yn 14 oed meddyliodd am ddysgu darllen, ac yr oedd yn 20 oed pan yn dysgu ysgrif- < ennu. Daeth yri ddiwinydd mawr. Ys- s grifennodd gorff o Ddiwinyddiaeth o dan yr enw, Oivelediad y Palas Arian. Wedi hynny ymosododd ar y gwaith o esbonio'r holl Feibl. Ar ol ei gwblhau, yr anhawster oedd ei argraffu. Trwy gymorth cyfaill, pwr- casodd argraffwasg, gosododd hi i fyny, a rhyngddo ef a'i feibion argraffwyd yr esbon- iad. Ond rhaid gadael gorchestion ereill ei fywyd i fynd at John Roberts, Tredegar. Am ei fod yn gloff o'i glun gelwid ef yn Roberts gloff," a llysenw ar ei gloffni ydoedd yr hen draed." Ond enw mwy parehus ydoedd John Rooerts Fawr." Yr oedd yn fawr mewn llawer ystyr, yn rymus o feddwl, cryf o gorff, a nerthol ei ddawn. Pe'n fwy gwyliadwrus ei rodiad, buasai'n un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei oes. Dyma gamre'i yrfa:—sefydlodd yn Llanrwst yn 1829. Wedi hynny ceir ef ym Mhenygelli ac Acstyu, Llanidloes, Tre- degar, Rhos, Athol St. (Lerpwl), Llangefni, Merthyr, Pil, Brynmawr, Miners Ville (U.D.A.), lie y bu farwMawrth3,1863,yn56 mlwydd oed. Bu D. Rhys Stephen yma hefyd, gwr galluog a thalentog. Pan yn Nhredegar hoffwn fynd i weld ei chwaer, Mrs. Holmes. Hoffwn ei chlywed yn siarad. Yr oedd ei brawddegau'n gywir, gramadegol a phert, a dychmygwn bob amser fy mod yn clywed ei brawd talentog yn siarad. 'Does dim amser i sdn am John Herring fawr o Aberteifi, gyda'i ddoniau rhyfedd. Bu farw yn 1832, yn 40ain oed. Dyma un arall rhagorol rhagorol fu yma o leiaf 15 o weithiau: Ellis Evans, Cefnmawr. Dyma ddiwinydd mawr, a phregethwr mawr,—ie, dyn mawr a phersonoliaeth gref. Diau fod gormod o bwys wedi ei roddi ar yr amgylchiad hwnnw pryd y ceryddodd Cynddelw'n gyhoeddus am wadu'r ddeddf ar draul diystyru y 8cene olaf yn y ddrama hon. Ymwelodd Cynddelw a'r hen wron pan ar ei weiy angeu dywedodd ei fod yn mynd i'r farn, a gofynnodd iddo a oedd yn maddeu iddo am y tro ? A dyma eiriau Cynddelw Buasai'n well gennyf gymryd yr holl fai arnaf fy hun ganwaith drosodd na gweled Ellis Evans yn y Ilwoh yn ymbil am fy hedd- vv.i-,h." Ac mi allwn ddweyd llawer am Cynddelw fu yma yn y Gymanfa lawer gwaith. Ond pe bawn yn dechreu, 'does wybod pa bryd y terfynwn. A dyna Nef- ydd-y gwr pwyllog a deallgar, yr hanes ydd craff a manwl, a'r pregethwr pur a sylweddol. Hefyd, Thomas Rhys Davies, ei ragflaenydd, ond hollol annhebyg iddo. Cyfeiriwyd at ereill fu yma, ac yn boblog- iadd iawn yn y Gymanfa, megis Dr. Prich- ard, a Dr. Jones (Llangollen); Iorwerth Glan Aled, Dr. Daniel Davies (y dyn dall), Hugh Williams (Amlwch), Dr. Morgan (Caergybi), John Williams (Drefnewydd), &c. Wel, dyma ni'n dechreu ail ganrif, ac yn ei dechreu, fel yr hen frawd hwnnw, yn gryfach nag oedd yn dechreu gyntaf. Y mae gennym bob peth i'n calonogi. Beth a wnawn ni ? Llaesu dwylaw ? Nage, ond yng ngeiriau 'r hen Gristmas wrth farw, Drive on." Yna cafwyd anerchiad y Parch. Charles Davies, Caerdydd, ar Rai o weinidogion y cylch yn ystod y ganrif :-Deuaf ar un- waith at y gwr a wnaeth fwyaf o bawb i godi achos y Bedyddwyr Cymreig yn y ddinas hon, a grybwyllwyd yn barod—Daniel Jones. Daeth yma o Gwmsarnddu, lle'r oedd yn weinidog, a'r lie y magwyd ef. Nid oedd yma ond 28 o aelodau pan ddaeth i'r dref yn 1818. Erbyn 1838 yr oedd yma 450 rhwng y ddwy eglwys. Bu'n hynod lafurus. Pregethai dair ac weithiau bedair gwaith y Sul, a dwy a thair gwaith yr wyth- nos. Cerddai y dref yn ben bwy gilydd i ymweled a'r cleifion ac esgeuluswyr. Dywedai Dr. Prichard, Llangollen, am daho —" Yr oedd ei fwyneidd-dra a'i gydym. deimlad at enethod ieuanc a adawsai ael- wydydd eu mamau i geisio'i bywioliaeth yn y dref faWr, yn eu rhwymo wrth ei wein- idogaeth, ac yn eu rhwymo idderbyn/eigyng- horion, a'i garu a'i barchtt fel tad yn yr efengyl." Bu ei ddoniau toddedig a'i ym. drech diflino yn foddion i godi achos Crist o'i iselder mawr yn Lerpwi. Dyma dyst- iolaeth cydoeswr amdano, un a wyddai'r amgylchiadau'n dda:—"Bryd bynnag y cymerir ef i dy ei hir gartef, teimlir ei golli, nid yn unig gan Fedyddwyr Lerpwi, ond gan yr holl eglwysi Cymreig yn gyffredinol, —a bydd eglwysi y dref hon yn gofgolofnau iddo a bery'n hwy na chofadeiladau Nelson, Huskisson a Sior y Trydydd." Amser a balla imi fynegi am y bardd bregechwr Iorwerth Glaa Aled, a fu yma am ychydig David Price, Blaenffos, wedi hynny. Pregethai'n fyr ae yn flasus, a gadawai ei wrandawyr mewn awydd mawr am ei glywed drachefn. Wm. Thomas, bu yma ddwy- waith, ym Mt. Vernon y tro diweddaf. Gorffennodd ei yrfa yn Rhydwyn a Soar, Sir F6n. Thos. Rhys Davies, cydoeswr a Christmas Evans, ac sy'n gorwedd yn yr un bedd ag ef yn Abertawe. James Davies, a fu farw yn America yn 1859. Wm. Roberts (Nefydd), B. Williams, a wnaeth waith mawr yn Llundain a lleoedd ereill. Bu farw yn Membre yn 1872. H. W. Hughes (Arwystl). Bu- yn Stanhope St. am tua 9 mlynedd. Treuliodd weddill ei oes yn Soar, Dinas, Cwm Rhondda, a bu farw yn 1904, yn 91 mlwydd oed. Dyn hynod yn ei ffordd, ond tra galluog, yn fardd a Ilenor gwych. Rees Evans, a fu yma ddwy- waith. D. R. Jones, John Roberts fawr, heb s6n am Dr. A. J. Parry, J. J. Williams, J. R. Jones, W. Williams, John Davies, D. Howells, Walter Samuel, Samuel -loyd-- Jones, W. Roberts, B. Davies, Isaac Thomas. Ac heb s6n hefyd am y brodyr sy'n llafurio mewn meysydd ereill, a'r brodyr da sydd ym mhulpudau'r dref heddyw. Disglair fyddo'u gyrfa, effeithiol fyddo'u gweinidogaeth. Y doethion a ddisgleir- iant fel disgleirdeb y ffurfafen, a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel ser byth yn dragywydd." Wedi canti Anthem, Wele mor ddaionus, o dan arweiniad Mr. J. T. Jones, terfynwyd cyfarfod cofiadwj* trwy weddi gan y Parch. Myles Griffiths. I -:0:- 11 J.D. I

[No title]

Chwith Atgof am y diweddar…

[No title]

-a Ito%;AN§un)N IA H, II ag…

Advertising