Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
J?. ??  ^IrfiUARANTEEO^ X"? a ?? B" S** ?"" & ?'? '!r? PURE FOOD Ask for "KEENOKA" SE1- F-K AISING FLOUR. CUSTARD ru 1VDER. B AKINGiPOW DER. BLANC-MANGE, etc.. etc. Manufacturers- MORHiS & JONES. Limited, tlwpoel, ftfaMGhtamtePf and NOWOaStlG-ftn- T.VffG*
I ) 1,1 TREM t
I ) 1,1 TREM t f Buddugoliaethau Llafur. Enillodd cynrychiolwyr Llafur y fath fuddugoliaethau yn yr Etholiadau Trefol diweddar trwy'r wlad yn gyffrediuol- er enghraifft, yn Lerpwl, Manchester, ac yn enwedig Llundain,-fel nad oes le i ameu dyfnder a nerth polifcicaidd y symudiad Llafurol ar hyn o bryd. Gan nad beth alUod ein barn am rai erthyglau o'u credo cymdeithasol a gwleidiadol, rhai o'u cyf- lawniadau diweddar ynglyn a'r hyn a elwir yn "direct actiQn," ac am y perigl a gyfyd oddi wrth lwydd y dosbarth mwyaf dibria ohonynt, rhaid cydnabod eu bod wrth fotio dros eu cynrychiolwyr yn gweithredu o fawn eu hawliau teg, ac ar linellau cyfan- soddiadol. Yn wir, ymddengys i ni fod eu llwydd yn yr Etholiad yn gondemniad ar y modd y ceisient gyrraedd eiu hamcan- ion drwy streiciau dirybydd a dibris o fuddiannau cymdeithas yn gyffredinol. Mae llywodraeth y wlad hon bellach yn Haw y bob!, canys mae ganddynt yr hawl a'r gallu i ethol y neb a fynnont hwy. Dywed y Times fod Llafur wedi cymryd y pyst allanol i'r Llywodraeth, ond eu bod eto ymhell oddi wrth y gadarnfa fewnol. Ond os yw'r etholiadau diweddar yn arwydd gweddol gywir o'u gallu mewn f6t, ni raid iddynt ond parhau ymlaen yn eu hymdrech na welir hwynt, cyn hir iawn, wedi cymryd Westminster ei hun. Ond mae un ffaith yn yr Etholiad yn ei gwneuthur yn anodd i neb fod yn sicr gyda golwg ar y dyfodol. Y ffaith honno yw bychander cymharol nifer y pleidleiswyr mewn Jlawer iawn o'r etholaethau. Prin y gwelwyd erioed gy- aint o ddifrawder ymysg yr etholwyr. Dengys hyn fodolaeth difaterwch barnol ar ran lliaws mawr o boblogaeth y wlad, a hynny yn wyneb amgylchiadau eithriadol o bwysig. Mae sail, rhy dda i gredu nad oes ond cymharol ychydig o'r rhai sy gan- ddynt f6t yn ei hystyried yn werth ei defn- yddio o gwbl. Os eir ymlaen fel hyn, nid rhyfedd os deffroir ynghanol annrhefn ac aflwy.dd—yn rhy ddiweddar. Pa blaid neu ddosbarth bynnag fo'n llywodraethu arnom ni fyddant yn ddiogel onid ant i'r Senedd trwy argyhooddiad goleu a phwyllog yr efchotwyr. Y tro hwn, fe fu hyd yn 6ed i'r Torfaii-canys y maent yn bod eto-ddiofalu, a cholli llawer sedd a dybid ganddynt yn ddiogel fel cynt. Ac yr oedd yn hen bryd i'r Toriaid cyfrwys a gormesol gael eu hys- gytio allan o'u b6st mown llawer man. Da genriyrn i grib y blaid hon gael oi dorri yn Larpwl. Llawer hen dric iselwael a i gyflawnwyd ganddynt hwy o bryd i bryd, lawnwyd ganddynt hwy o bryd i bryd a phan wnelont osgo at gyfaddod byddant yn bur fedrus i lithro allan ohono nan welont unrhyw fantais iddynt eu hunain. Anodd ganddynt ymado a'u hen gred fod Neuadd y Dref hon wedi ei bwriadu i fod o dra- gwyddoldeb i dragivyddoldeb tan lywodr- aeth y Toriaid a'r Baril Cwrw.
ITREM] II.
I TREM] II. Rhai o Gymry'r Glannao. Llawen iawn gennym ddarfod i'n cyd- drefwr parchus Mr. J. Harrison .Jones weld ei ffordd yn ol i'r Cyngor y tro hwn etc. Ni fuasai ond ysbryd plaid ar ei eithaf wedi meddwl am geisio'i gau allan. Un yw ef sydd wedi tyfu'n rhan fyw, iraidd, o fywyd goreu'r ddinas. Ni chafodd ein oenedl well eynrychiolydd iddi ymysg y Saeson, na'r dinasyddion yn gyffredinol well gwasanaethwr. Cred fwy mewn gwaith r nag mewn siarad, er y gall wneuthur yr olaf cystal a neb pan fo angen. Bu'n arweinydd y Rhyddfrydwyr yn y Cyngor am flynvdd- oedd, a medrai droi goleu pwyll clir a barn aeddfed ar bob pwnc a ddigwyddai godi. Prin y gallsai neb ddychmygu am Mr. Harrison Jones yn edrych mellt, yn clebran taranau, ac yn dyrnu bwrdd mewn tra- fodaeth na dadl gwr yn canfod a meddwl yn bwyllog ydyw, ac yn dywedyd synnwyr a bair i bawb wrando arnO a'i bsrchi. Nid bychan fu'r devrnged a gafodd fel dyn o allu, doethineb, a thegwch drwy ei bsnodi i lywyddu'r Fainc Drwyddedu. Mae ei gydgenedl, yn anad neb, yn falch ddarfod iddo gael ei ddychwelyd unwaith eto. Ac am Mr. Henry Jones, gwir ofidus gan bawb a'i hedwyn ddarfod i gystudd beri iddo ymneilltuo o'r Etholiad diweddaf. Fel Mr. Harrison Jones, un o'r dynion a dyfodd i fyny'n Gymro crefyddol ac Ymneiiituol yn Lerpwl, er pan yn bur ieuanc, yw yntau. Cafodd delfrydau cenedlaetholdeb a chrefydd Cymru eu lie yn ei feddwl a'i fywyd. Bu'n fedrus* ei wasanaeth a selog ynglyn a phob symudiad dyrchafol. Llafuriodd yn ffydd- Ion dros ddirwest, Rhyddfrydiaeth, ac YmneiJltuaeth. Tywalltodd ei fywyd allan mewn gwasanaeth ynglyn a phob achos da. Cymerodd ddiddordeb yn y bywyd dinesig, ac yn ystod y lliaws blynyddoedd y bu'n aelod o'r Cyngor, gwnaeth eiran yn ddeheig ac effeithiol. Ac wrth edrych yn ol dros y blynyddoedd hynny, atgofiwn y cym- wynasau Uuosog a gyflawnodd yn ewyllysgar i ami un. Nid yn y Cyngor, nac yn y golwg, y gwna'r dynion da hyn lawer iawn o waith. Cant eu trafferthu byth a hefyd gan rywrai—fel ninnau—fydd, ar ran rhywun, yn gofyn cyngor a chymorth ganddynt. :r\1 fu erioed ddyn parotach i gymwynas na Mr. Henry Jones. Rhaid i ni adder ddarfod inni ei drafferthu weithiau b'n hanfodd. ond nid euthom erioed ato heb weld ei wen, nac oddi wrtho heb addewid. Ni chlywsom ef erioed yn grwgnach, eithr yn addo mwy nag y gallasem ei ddisgwyl gan neb. Pan gofiwn am ofynion ei alwed igaeth yn ystod y blynyddoedd diweddaf, y gwaith ynglyn a'rCyngor, a'r man alwadau dibaid arno gan lawer ohonom yn ystod ei oriau hamdden,—yn wir, nid rhyfedd i natur waeddi Halt arno. Mawr ob- eithiwn—gyda holl Gymry'r Glannau yma -y bydd i ychydig seibiant ei gyflawn adfer i'w gynefin iechyd. Yr ydym ni yn hyn 11a Mr. Jones, ond yn teimlo wrth sgrif- ennu'r nodiadau hyn yn reit ifanc," a gallwn ddisgwyl yn hyderus am iddo weld eto flynyddoedd dedwydd. Mae'n eglur, ped ymgeisiasai ef, y cawsai ei ethol i'r Cyngor drachefn. Gwnaeth Mr. W. 0. Thom- as yn rhagoroI, ar ei gynnyg cyntaf, ac mae iddo addewid dda ar gyfer y dyfodo!. Mae arnom M Cymry eisieu nifer o ddynion da o'n heglwysi ar y Cynghorau Trefol ac arall ar y Glannau hyn. A rhaid peidio ag anghofio'r ochr araH i'r Afon. Gwnaeth ein cydwladwr Mr. Rowlands ei waith fel Maer Birkenhead yn ardderchog, a hynny yn ystod blwyddyn lawn o helyntion tra- fferthus. Y dystiolaeth gyffredinol yw ddarfod iddo osod anrhydedd ar ei swydd. Ond pallai gofod inni sylwi ar yr holl Gymry teilwng fu'n yr ymdrech ddiweddar. Llawen hawn, modd bynnag, wrth weld fod cynifer o ddynion sy'n flaenllaw mewn eglwysi Cymreig yn cymryd diddordeb ym mywyd cyhoeddus y ddinas, ac yn ym- gyfaddasu ar gyfer swyddau a safleoedd a ddyry iddynt gyfle- i ddefnyddioldeb.
I TREM 111.
I TREM 111. I Cystudd Mr.Evan Morgan Nid allemfeddwl am gystudd Mr. Henry Jones heb gofio am gystudd maith ei g.Y"d_11 ddiacon. Bu Mr. Morgan am lawer o flyn- yddoedd yn bur amlwg yn ei gylch ei hun, ac maa'r cylch hwnnw'n llawer ehangach na'i gapel a'i enwad yn y dref. Yn ei 'I eglwys, heblaw bod yn ddiacon, fe fu ar hyd y blynyddoedd yn un o golofnau cadamaf yr Ysgol Sabothol. Anodd iawn fuasai cael gwell athro nag ef. Bu'n eistwd ynghanol dosbarth o ddynion ieuanc, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth, a phob amser yn partoi ar eu cyfer. Gwydd- om ddarfod iddo dderbyn mawr gysur o bryd i bryd oddi wrth air diolchgar a anfonid iddo gan rai o'i ddisgyblion wedi eu hvm- adawiad i leoedd eraill,ac weithiau obellter- au'r byd. Ac mae cael athro da mewn Ysgol Sabothol yn gael go fawr. Ac fe fu ei wasanaeth ynglyn a'r Ysgolion Sabothol yn y cylch o fawr werth, canys bu'n wasan- aeth meddylgar, cyson, a charedig. Ac er na chynhygiodd Mr. Evan Morgan am sedd iddo ef ei hun ar gyngor, bu'n weithiwr ymroddgar a medrus i gyrorthwyo ereill i gyrraedd cynghorau a Senedd. Gwyr ei tryfeillion lluosog mai Rhyddfrydwr trwy- adl yw ef, a bu'n 0 ysgrifennydd cymdeithas berthynol i'r blaid honno'n ei ddosharth ei hun am flynyddoedd. Chwith gennym ei weld yntau wedi gorfod arafu ar ei ffordd, a chymryd saib i orffwys. A gobeithiwn v caiff yntau hefvd adferiad buan o'i le^cedd blin a maith. Nid hawdd cael darlun mwy Orydforth nag un o ddosbarth mewn Y sgol Sabothol, a'r athro'n eu canol. Diolch i Syr Owen M. Edwards am gyhoeddi cyn- ifer o bethau felly yn y Cymru, a Chymru'r Plant,
I REM IV.
I REM IV. j Y Perigl Mawr. Yn sior ddigon, mae mawr angen y dydd- iau hyn am arweinwyr crefyddol ar bob dos- barth a phlaid yn ein gwlad. Mae angea hynny ar werin y deyrnas. Fel y crybwyll- asom, dro ar ol tro, credwn fod ymysg ar- weinwyr Llafur ddynion gwir grefyddol. a'u bod yn cydwybodol ceisio arwain ou cyd-ddynion ar y ffordd iawn. Ond mas' mor wir a hynny fod yn eu plith hefyd nifer o ddynion dibris o gyfiawnder a thegwch, a dosbarth yn gymaint o anarchiaid ya erbyn crefydd ag ydynt yn erbyn y Wlad- wriaeth. Y dosbarth hwn yw ffynhonnell perigl cymdeithas yn gyffredinol, a'r perigl i'r gweithwyr yn gymaint ag i neb. Yr ydj B2 yn sgrifennu o safle un yn proffesu- a gobeithiwn fwy na hynny—cred yn y Crist a'i ddysgeidiaeth ar y mater hwn. Nid oes ddiwedd ar gri rhai dynion a dybir eu bod yn arweinwyr meddwl Cymru fod y bobl yn gadael yr eglwysi, a bod dyddiaa crefydd drefnyddol wedi eu rhifo. Gyda Ilaw, mae braidd yn syn fod y dynion sy'n ymosod ar drefnyddiaeth eglwysig, ac ynglýB a chrefydd, yn credu mewn trefnvddiaeth ynglyn a phob mudiad arall yn y wlad, ac ynglyn a llafur yn anad dim. Credir yn y peth yn y cylch hwnnw hyd at fod yn barod i ruthro ar gymdeithas yn ddiar- wybod iddi, ar hanner nos, mewn "direct action." Ac eto, ymddengys fod llawer o'r rhai a gred mewn peth felly ynglrn S mudiadau ereill yn gwahardd i grefydd gyfundrefn cred nac eglwys o gwbl. Yn ddi- amheuol, mae dyletswydd yr Eglwys Grist- ionogol heddyw'n gofyn ei holl nerth i'w chyflawni. Dylai, ar bob cyfrif, fod naewa cydymdeimlad a'r bobl yn eu holl hawliau teg. Ond yr ydym yn credu hefyd y dylai fod uwchlaw pob dosbarth a phlaid, ac mewn cydymdeimlad ag iawnderau pob dyn, gan nad i ba ddosbarth neu blaid y perthyno. Mae'r Eglwys uwchlaw pcb gallu ac awdurdod daearol cyn belled ag yr a hawliau ei Phen. Mae y Weddi a ddysgwyd iddi hi yn codi achos yr holl fyd dros bennau cynghorau, senedda., a holl orseddau daear, ac mae hi i weithio ar gyfer sylweddoli ewyllys Duw ar y ddaear "—ac ar bob rhan ohoni. Amcan mawr yr Eglwys, a phob Cristion, a ddylai fod—gwneuthur a allo i dreiddio pob mudiad yn y. wlad ag ysbryd ac egwyddorion Crist- nogol. A gwae ni o'r mudiad mawr, nerthol, a chynhyddol sydd ar hyn o bryd ym mysg y werin oni fydd yn ei ganol ddigon o ddynion a fedd ofn Duw a pharch i egwyddorion moesol fel ag i wrthweithio'r dosbarth nad oes ganddynt ofn Duw na pharch i ddyn. Ar wahan i hyn, fe geir yn ein plith yr athrawiaeth fod gallu'n iawnder cyn wired ag y caed hi yn yr Al- maen, ac nid all y canlynxadau loa on a yn drychinebus. Ceisir gan yr eglwysi wneuthur llawer o bethau go ryfedd y dyddiau hyn, gan dybio, yn ddiau, y byddai hynny'n ga,n dybio, y? il wrth ei gllydd. C?we?tw gymorth i'w dal wrth ei gilydd. Gwelwa fod rhai'n ddiweddar yn cynnyg dwyn i mewn ddosbarthiadau i ddysgu dawnsio. Gellid tvbio wrth rywrai fod y Milflwyddiant i ddyfod i fewn rhwng dymau dynion ieuanc yn bocsio mewn ysgolion dyddiol a thraed ieuenctid yn dawnsio mewn capeli! Ond rhag y fath bethau a hyn,Gwared ni, Arglwydd daionus Daw in cof y darlun nerthol a welsom gvnt,—He was Despised elai'r balch. yr ofer, y cnawdol, y bydol, a'r hunanolion heibio'r Croeshoeliedig heb ei weld, ac yn ysgafn eu camau. Gwein yddes (nurse) oedd yr unig un a edrychodd arno. Ac mae miliynau yn y wlad hon heddyw yn rhy lawn o afiaith anianol a hunanol i weld y Gwr Gofidus a'i Groes! A pha beth a ddaw o'r byd, ac o'r Eglwys ei hun, os collir golwg ar wyneb y Croes. hoeliedig ? -0: Wvthnos i'r Sadwrn dtweddaf yr oedd Deiniol Fychan, Bangor, yn snnerch Cym- deithaa Lenvddol y Cymry yn Wheeler Street, Birmingham, ac yn pregethu drwy gydol y Sul. D.chwelodd oddi yno oriau cvnnar bore dydd Llun mewn pryd i gyrraedd ei ddyletswyddau ym Marsgor yr un dydd. Nos Sul, drachefn, anerchodd y Frawdoliaeth ar y Ferch a Geln Ydfa yn Ebenezer (A.), Bangor.
Advertising
"The Cook's Best Friend. I POWDER.
Advertising
ASK tok i "SIRDAl" I Delicious and Appetising. David Jones and Co. Ltd J LIVERPOOL, MANCHESTER and SWANSEA. Wholesale Agents.
Advertising
"'r" BEATY k   ??????3?? -i!rL?Jm PiNL? ??jJT'aIL A JaL .iLJy. '-LTD,: THE 'TrA If IT CELEÄTED TAILORS I ARE SHOWING A Fine Selection of OVERCOATS Excellent in Every Particular AT MOST MODERATE. PRICES Concession to Ex-Service Men. I 2/6 in the £ discount 1 Allowed, on all purchases to men §I demobilised during last 4 months 137 to 43 Lon ion Road, Open unt il 6 30 p.m., Wednesdays until g 1 p.m., Saturdays until 8 p.m. 128 & 30 Church Street, I Open until 6-30., pan., SaCurdays lp.rn. I ) • LIVERPOOL. I ph"e 3925 Bank. Phone 580 BootIe Wm. GRif f ITHS & SOIS MAKERS OF SMART CLOTHES 29 South John St., Liverpool, AND 849 Stanley Road, Bootie, Military Uniforms. Lounge Suits. Maval Uniforms. Overcoats. Costumes. Ladies' Coats I A ywch Llygald ya eicis ? rW pathaa'n t am aiwlog ac Anal wig ? Dyaa arwydd a rhybudd llethdod y llygad, i dfiech gael eu nedrych rhag blaaa ou iwasthygu ?raa u Swsgealso Gallwa ni, hollar gwyddoaol, dd veyd wrthych >« 088 araooh im.?ea$wyrlrau ac os felly, eich cySeavri a'r rhai a barai fwyaf » lee i cluvi. heddyw — AftCHCR 4k SOWS Specialists., 73LORD I Sefydlwyd 1848. LfVE'^f^OL HARTLEY & CO., Liverpool 12 MOSS STREET. fJSALES BY AUCTION EVERY ItrBSDAYAND FRIDAY A'I' ONE. SATURDAY NIGHT AT SEVfeN VALTJABLB HOUSEHOLD. FURNTTURR OF ALL SUBSCRIPTIONS. MAG V 1*10 li XT NEW AND a.NOf'N't)-HAND PlANOFOR'f MS. LARG N VARIETY Of BSDSTBADS BEDDINO, -Ac. EVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING Af TBS ND THESE SALES AND 13AVE AT LEAST llliPBS OB NT. A MAGNIFICENT SELECTION' OF flUPlunOR FURNlTfJRE IS ALWAYS KEPT IN MOOR:, AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE rltFATY. GOODS STORED. Oa view 3.30 a;in.r,o ».30 p.m.; Saturday 1 p.rn W* phone 1793 Soval. OONMGNMENrS(EITHER LARGE OR SMALL i m ANY DE80RI PTIO INVITED FOR 'BQB? UUj8 BKSP RESULT OAFRANTRKD FQHP i<-VPI \rrO• J New pattern Round Brass Fronts, also | Silencers for Ford Cars and Radiators for Heavy Commercial Vehicles Particulars and Prices applv to JAM dS CflEW e CO. I TD., SS-80 PA3ADIS8 STREET, LIVERPOOL. Ll v P()UL file 4s SHAf [ESBURY," MOUN ?Li%SANT About 4 rnins. walk fromXtma St. & Central Stat. A First Glass Pa nparaiieo Hotel. Moderate Charges Tele. Shafte»bury fbtal, Liverpool." Phone, ASK POR > Idris TaMe Waters fn Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE, etc., etc. IDRIS & CO., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL LLYTHYRAU GORONWY OWEN, dan Olygiaeth yr Athro I J. MORRIS JONES. PRISM SWLLT.lb «* ,s Y Fafdcfordaeth aV LIythyrau wedi 'eu cydrwvmo, mewn Llian HUGH EVANS AND SONS, I twyddla'r M Brvtbon. .11 ill i I ini in .lii.iiiliP.il Pl|JPJJWjJ»iiliii ■JMii.l ii mil ■in in .I —— IARGRAFFU ¡ Ar Pa Phog-ethe v I Hugh Evans a'i I Maa, SVV/ODFVR BRYTHO i,» 356-358 STANLEY RD., LERPWL.