Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y PRIFATHRO i J. H. DAVIES.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PRIFATHRO i J. H. DAVIES. Mwy o arogl y Grug bellach,a llai o j ddfygsawr y Twrch Trwyth. Mr. J. H. Davies, M.A., sydd wedi ei ddewis yn brifathro Coleg Aberystwyth ac wele fraslun o'i yrfa a'i gyraeddiadau Fe'i ganed ynLlangeitho-ac y mae rhyw- beth eu iawn yn enw'r lie byth er pan anfarwolwyd ef gan Daniel Rowlands a phererindodau crefyddwyr moliannus y dydd- iau gynt. M1", Robt. J. Davies, Y.H., y Cwrt Mawr—a brawd i'r diweddar D.Chas. Davies, M.A.,—oedd ei dad, ac yn nhy ei daid-Robt. Davies, Aberystwyth-yr ysgrif- enwyd Cyffes Ffydd y Methodistiaid Caltinaidd, Mawrth 1823. Aeth Mr. J. H. Davies o Goleg Aberystwyth i Goleg Lincoln, Rhydychen, gan raddio'n M.A. ag anrhyd- edd mewn Jurisprudence. Aeth wedyn i Lundain i ddarllen gogyfer a'r Bar, a bod dan gyfarwyddyd y Barnwr Bryn Roberts. Ymgydiodd a Chylchdaith Fargyfreithiol Deheudir Cymru, ond heb bracteisio nemor ddim, eanys yr oedd iasau mwy cydnaws yn dechreu eripio drosto—ias durio llen- yddiaeth a llyfryddiaeth Cymru, yn hen a diweddar. Y fo yw un o'r awdurdodau uchaf a fagodd y genedl erioed ar ein llyfr- yddiaeth, ac nid oes fesur byth ar fawredd ei lafur yn achub hen gyfrolau a hen law- ysgrifau anhraethol eu pwys rhag difancoll. Cafodd gydweithiwr a chynorthwywr tan gamp gyda hyn o waith da yn Syr John Williams, a ffrwyth ymroddiad a galluoedd unedig y ddau wladgarwr diledryw hyn ydyw Llyfrgell y Genedl yn Aberystwyth. Mr. Davies oedd un o hyrwyddwr gwres- ocaf Urdd Graddedigion Cymru, a fo olyg- odd amryw o gyhoeddiadau'r Urdd honno —Gweithiau Morgan Llwyd yn eu mysg, ac y mae ei Ragdraeth i'r gyfrol honno yn enghraifft o Iwyredd ymchwiliadol yn gystal ag o swyn wrth gydio'r ffeitliiau yn ei gilydd. Gwnaeth ei ran yn helaeth iawn gydag addysg Cymru fel is-gadeirydd Bwrdd Canol Cymru, fel aelod o'r Pwyllgor Adrannol penodedig gan Lywydd y Bwrdd Addysg i chwilio i fewn i addysg eilradd Cymru. Y fo ydyw Cofrestydd Coleg Aber- ystwyth er 1905, ac y mae iddo enw da rhagorol am ei waith pwysig yn y cyswllt hwnnw, fel trefnydd a meistr ar bob man- ylion, allanol ar arall. Yn ystod cystudd y diweddar Brifathro T. F. Roberts, ar ysgwyddau Mr. Davies y disgynnai toreth y gwaith, ac ni fydd ei benodiad llawn i'r swydd ond helaethiad a chadarnhad ar y cymhwyster a ddangosodd eisoes i'w Ilenwi. Gwyr bopeth am amaethyddiaeth ymar- ferol, a dyna'r pam fod y ddysg bwysig honno'n cael sylw mor ddyladwy yn y Coleg. At hyn oil, y mae Mr., Davies yn Gymro eiddgar wedi cydweithio'n glos ei gyswllt a'r Prif Weinidog, a'r diweddar Tom Ellis, A.S. (ei frawd yng nghyfraith) ac a phob apostol gwir anfonedig sy'n pregethu cenedlaetholdeb a chrefydd Cymru. Y fo yw trysorydd Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd nid yw'n briod ac o ran hoen ac oedran, y mae yn ei anterth-hanner cant. Caffed iechyd i len- wi'r swydd bwysig am fiynyddoedd lawer. ac i gadw'r Brifysgol ag arogl grug yr Hen Wlad ar ei beehgyn ac nid drygsawr atgas y Twrch Trwyth oddi tros y Clawdd. -:0:-

BOB YN BWT I

Advertising

Beirniadaethau Corwen.

Advertising