Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

j yvmdaiiiiasfa -Gaersws.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

j yvmdaiiiiasfa Gaersws. • Cynhalwyd Cymdeithasfa Chwarterol M.C. y Gogledd yr wythnos ddiweddaf yng Nghaer- I sws, dan lywyddiaeth Mr. J. Owens, Y.H., Caer, a'r Parch. R. R. Williams, M.A., y Bala, yn ysgiifennydd. Cymysg o Gym-' raeg a Saesneg oedd y gweithrediadau, gan fod y Cymraeg ynhercian ar ei ffon tua'r ardaloedd hvn. I U Dydd Mawrth. I Croesawyd a gwleddwyd yr holl gyn" rychiolwyr am bumparygloch y prynhawn gan Mrs. Edward Davies, Plas Dinam. Dechreuodd cyfarfod yn hwyr am saith; a phrudd-hyfryd oedd clywed fod pedwar milwr, a gwympasai yn y rhyfel, wedi gado bob un ei gymunrodd i'r eglwys y magesid ef ynddi. Dirwest oedd prif fater y cyfarfod; a sylwodd Dr. John Williams, Brynsiencyn, na wnelent fawr o'u hoi at y Fasnach mewn diodydd meddwol hyd nes y byddai gan- ddynt gronfa gref o arian wrth. gefn. Yr oedd pethau'n digwydd mewn rhai ardal- oedd—oedd, pethau rhy ofnadwy ac erchyll iddo fo n a* neb arall feiddio'u dwedyd ar goedd a chyn y gellid rhoddi pen ar y drygau enbyd hyn, rhaid i'r eglwys ddangos Ilawer mwy o haelioni at Achos Dirwest. Wedi plaidlais ac ail bleialais, y Parch. John Owen, M.A., Caernarfon, a ddewiswyd yn llywydd y, Gymanfa gogyfer a'r flwyddyn nesaf y Parch. J. Pritchard, M.A., B.D., Llanberis, yn ysgrifennydd, am y tair blyn odd nesaf; a'r Parch. W. R. Gwen, B.A., Abergele, yn arholydd ymgeiswyr am y weinidogaeth. Cyfeiriwyd at y gwaith rhagorol a wnaethai y Parch. J. H. Davies, Ewloe Green, fel ysgrifennydd yr Army and Navy Board perthvnol i'r Cyfundeb, a chredai y Bwrdd y dylid cydnabod y gwasanaeth hwhnw. Yr oedd nifer o gyfeillion wedi tanysgrifio i'w gyflwyno iddo, a gwnaed hynny gan y Llywydd. S Cyflwynwyd rhodd gyffelyb i'r cyn-Iywydd y Parch. T. C. Williams, M.A., a ymwelodd ag amryw eglwysi gweiniaid yng Ngbgledd Cymru, yn ystodftymor ei lywyddiaeth, er colled ariannol, ac ni chai hyd yn oed ei dreuliau teithio. Djobhodd Mr. Davies a Mr. Williams'am y rhoddion. L Dydd Mcrcher. Yr oedd y Parch. John Williams, B.A.' Camo, 'wedi nyddu Hanes yr Achos o fewn cylchf Cyfarfod Misol Trefaldwvn Uchaf, ac wele -ddyfyniad neu ddau o'rR pamffledyn oryno'i gyflead :— Rrys preswylwyr y sir yn debyg mewn rhif ers rhai blynyddoedd, ni pherthyn inni ganolfannau gweithfaol, un diwydiant geir yn y cylch, a hwnnw'n un na ofyn am lawer o lafurwyr. Cyfienwi siroedd eraiH & phobl wnawn, a rhaid i lawer ohonynt droi'n hiraethus oddicartref a'ti mad anwyl-wlad ar ol." Croniclir yn ystadegau blynyddol ein Cyfarfod Misol olaf y rhai erys gyda ni am achos yr Arglwydd yn ein plith, gwnawn fwy na dal ein tir mewn rhai cyfeiriadau, a lie y ceir lleihad, yn yr un colofnau y maent, ac y gwelir hwy yn ystadegau pob Cyfarfod TWicinl arall 1910 1914 1918 Gweinidogiori a Phre. gethwyr 20 20 25 Blaenoriaid 150 154 160 Cymunwyr 3518 3414 3410 Plant 1561 1436 1270 Gwrandawyr 5859 6665 5348 Yr Ysgol Sul (cvfanrif). 4284 4017 3460 „ (cyfartaledd) 2418 2293 1860 Un o blaiit M-alduvn oedd cychwynnydd y Symudiad Ymosodol, ac mae llygad y sir er hynny wedi bod yn sefydlog arno. Gwelwn fod i'r agwedd genhadol swyn i bres- wylwyr ein gwlad, nad oes dim yn blwyfol na sirol oddeutu ein crefydd, a chredwn fod yma un o'r prawfion cryfaf fod eglwys i'r Arglwydd lesu Grist cydrhwng y bryniau hyn. Perthyn inni fel Cyfarfod Misol Gron- fa Fugeiliol Leol a gyfnertha'r Drysorfa Gynorthwyol mown saith o deithiau Sabothol, a Chronfa y Weinidogaeth Sabothol, sicrha 35 o leiafswm cydnabyddiaeth Sabothol yn holl deithiau y Cyfarfod Misol. "Perthyn inni 37 o Eglwysi, a wna i fyny 22 o deithiau Sabothol. Mae y gwasanaeth yn Saesneg mown pedair o'n Heglwysi, yn rhanol yn y ddwy iaith mown tair, ac yn Gymraeg mewn deg ar hugain. Bycham yw y diadelloedd-ll o Eglwysi dan 50; 13 rhwng 50 a 100; 11 rhwng 100 a 200 dwy yn dri chant a drosodd. Ceir pregethu cyson yn y teithiau. Yn herwydd fod dau gapel ac weithiau dri yn y daith rhaid i lawer o'n cynnulleidfaoedd wneud ar un bregeth, diau fod i hyn ei anfanteision, ond gwyddom am nifer o achosion, ae y bu baich cyfrifoldeb dygiad achos ymlaen yn foddion i bery ami un tawel a gwylaidd dorri trwodd i gymeryd rhan gyhoeddus yn y moddion. Perthyn i holl deithiau y Cyfarfod Misol, ond un, fugeiliaid i ofalu drostynt. Anghyflawn yw y golofn ddirwestol yn yr ystadegau, yn ol honno nid oes dirwestwyr ond mewn pedair eglwys ar ddeg perthynol inni. Gwyddom fod llawer ychwaneg, ac mai cryfhau y mae synnwyr moesol y rhan yma o'r wlad yn erbyn y pechod o yfed nid oes o'i ddeutu y parchusrwydd fu diau fod dal drwg hyn yn gyson o flaen ein pobl trwy bregethu ac anerchiadau, yn gystal a chan Gymdeithasau Dirwestol y Chwiorydd, yn peri fod llwyr ymwrthod a'r diodydd meddwol yn dod i gael ei ystyried, yn raddol, yn un anhebgor i aelodaeth eglwysig." Am y tair blynedd diweddaf bu raid, yn herwydd anhawsterau teithio, roddi o'r neilltu Gymanfa Gerddorol ein Cyfarfod Misol, ond cynhaliwyd Cymanfaoedd dos- barthiadol. Y flwyddyn nesaf caiff y Gym- anfa ar Cyfarfod Misol ei hail gychwyn." Dyma'r rhai bregethai ddydd 1 odfeuon y Gymdeithasfa :-Yn Saesneg, y Parchn. T. Charles Williams, M.A., T. W. Rees, (Silcar), J. D. Evans, M.A. (Pont- y pridd), A. Wynne Thomas (Abertawe), ac S. O. Morgan, B.A. (Hoylake). Yn Gym- raeg, Parchn. Dr. John Williams, Wm. Thomas (Llanrwst), Griffi-th Hughes, M.A. (Caer), T. Hughes, B.A. (Bl. Ffestiniog), ac R. H. Watkins (Dinorwig). I Cydsyniodd Arglwydd Clwyd i fod yn drysorydd Athrofa'r Bala, fel dilynydd i Mr. J. R. Davies, Y.H., Creis, a ymddis- wyddoid, Hysbysodd yr ysgrifennydd fod yr efryd- -wyr a ganlyn wedi pasio'r arholiad am or- deiniad :-Mri. Ffoulkes Evans (Cynwyd), John Hughes (Tregarth), O. Jones (Towyn), D. O. Lewis (Pentredwr), E. H. Morris (Bettws y Coed(, W. M. Tudur, B.A. (Tre- garth), Caradoc P. Williams (Llangefni), Robert Williams (Tydweiliog), a T. Jones Williams (Edeyrn). Yr oedd pump arall wedi eu cymell cyn myned i'r Fyddin, a'r rhai a gyflwynid i'w hordeinio, sef Mri. Jestyn Davies, R. Lloyd (Pentredwr), D. Morgan, (Abercynon), R. R. Roberts (Am- lwch(, a John Williams (Edeyrn). Dwedodd y Llywydd fod dau gant o eg- lwysi y Cyfundeb yng Ngogledd Cymru heb weinidogion, a hyderai ef y telid sylw i'r awgrymiad wnaed i'r eglwysi gofio am hawl- iau yr efrydwyr sydd yn gwasanaethu eu gwlad. Cyfeiriodd Dr. John Williams a Mr. T' D. Jones (Rhyl(, a siaradwyr eraill al y di- weddar Barch. Ellis James Jones. Talwyd Iteyriaged uehel i'w wasanaeth. Agorwyd trafodaeth gan y Parch. Cad- waladr Jones, Salem, ar Undeb Eglwysig," a siaradwyd gan amryw. Galwyd sylw at fudiad Cyfnod y Plant (" Childrens' Era ") gan y Parch. John Williams, Deganwy. Penodwyd y Parch. W. S. Jones, Amwyth- g, a'r Parch. Robert Jones, Aberdyfi, y naill i draddodi yr araeth ar Natur Eglwys a'r Hall i roddi'r Cyngor i weinidogion ieuaine ar eu hordeinio.

I Basgedaid o r Wlad. I

,;: ''\ B,'''' g... , l, '…

-:0:- I DAlJ H'K AF0N

jMAB MAIR ALAW.

Advertising